Dyma sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, pa waith papur y byddwch ei angen a chael help os ydych yn cael anhawster mynd ar-lein. Mae'r canllaw hefyd yn cynnwys ble i gael cymorth am ddim cyn i chi wneud cais i sicrhau bod Credyd Cynhwysol yn iawn i chi.
Cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Cyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, mae’n bwysig gwirio sut y gall effeithio ar fudd-daliadau eraill rydych eisoes yn eu cael neu y gallai fod gennych hawl iddynt.
Mewn rhai achosion, gallai wneud synnwyr i wneud cais am fudd-dal gwahanol yn lle neu ochr yn ochr â Chredyd Cynhwysol.
Ac os ydych chi - a’ch partner os ydych mewn cwpl - eisoes yn cael rhai budd-daliadau neu gredydau treth efallai na fydd bob amser yn gwneud synnwyr symud i Gredyd Cynhwysol. Mewn rhai achosion fe allech waethygu pethau a methu â mynd yn ôl.
Darganfyddwch fwy am sut mae'n gweithio yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Os ydych chi eisoes yn hawlio ‘budd-dal presennol’, ac nid oes dim yn newid yn eich bywyd byddwch yn y pen draw, yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol. Bydd y DWP yn dweud wrthych pan mae'n amser.
Fodd bynnag, os ydych yn cael newid mewn amgylchiadau, fel colli eich swydd, cael babi neu bod eich partner yn symud i mewn neu allan o'r cartref, gallai hyn olygu bod rhaid i chi nawr wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Mae budd-daliadau presennol yn cynnwys:
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Budd-dal Tai.
Darganfyddwch fwy am sut a phryd y bydd hyn yn digwydd yn ein canllaw Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?
Cais sengl neu ar y cyd – sut mae’n gweithio
Mae dyfarniadau Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm a chynilion eich cartref:
- Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu’n rhannu fflat neu dŷ ond nad ydych yn rhan o gwpl, byddwch yn gwneud cais sengl ar-lein.
- Os ydych yn byw gyda rhywun neu’n symud i fyw fel cwpl bydd angen i chi wneud cais ar-lein ar y cyd. Bydd yn rhaid chi wneud hyn hyd yn oed os nad yw’ch partner eisoes yn cael Credyd Cynhwysol. Dim ond un ohonoch fydd angen llenwi’r ffurflen gais ar-lein - ond bydd angen i bwy bynnag sy’n ei gwneud rhoi manylion i’r ddau ohonoch.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Gwaith papur cais Credyd Cynhwysol
Bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol fel rhan o’ch cais:
- manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
- cyfeiriad e-bost
- costau tai, fel rhent neu daliadau morgais, taliadau gwasanaeth, ac ati
- incwm cyflogedig neu hunangyflogedig
- manylion cynilion a buddsoddiadau - er enghraifft cyfranddaliadau neu eiddo rydych yn ei rentu
- unrhyw gostau gofal plant cyfredol
- eich ffurflen P45 os ydych wedi colli eich swydd.
Os nad oes gennych gyfrif banc, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis cyfrif banc ar gyfer eich taliadau budd-daliadau
I wirio’ch hunaniaeth ar-lein, byddwch hefyd angen prawf adnabod. Gallai hyn fod yn:
- pasbort
- cerdyn debyd neu gredyd
- trwydded yrru.
Darganfyddwch fwy am beth rydych ei angen cyn i chi ddechrau’ch cais ar GOV.UK
Os na allwch ddod o hyd i unrhyw ran o’r gwaith papur hwn, neu os nad oes gennych ID â llun, peidiwch â gadael i hyn oedi’ch cais. Gallwch gael cefnogaeth gan gynghorydd Help i Hawlio a all eich helpu i ddod o hyd i’r hyn sydd angen arnoch i wneud cais.
Pryd ddylwn i wneud cais am Gredyd Cynhwysol?
Dim ond am fis y gellir ôl-ddyddio ceisiadau am Gredyd Cynhwysol. Felly os nad ydych yn disgwyl unrhyw incwm pellach, mae’n syniad da gwneud cais cyn gynted ag y gallwch.
Fodd bynnag, os ydych yn symud o fudd-daliadau presennol ac nad ydych chi'n siŵr beth fydd yr effaith arnoch, gwiriwch gydag ymgynghorydd Help i Hawlio ei fod yn iawn i chi oherwydd ar ôl i chi symud i Gredyd Cynhwysol, ni allwch fel arfer symud yn ôl i'r budd-daliadau presennol.
Mae’r dyddiad rydych yn cyflwyno’ch cais yn nodi dechrau 'cyfnod asesu' un mis calendr. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, mae’n rhaid i chi aros hyd at saith diwrnod i’r taliad gyrraedd eich cyfrif banc.
Mae hyn yn golygu y gall gymryd hyd at bum wythnos cyn i chi gael eich taliad cyntaf.
Enghraifft o'r amser y mae'n ei gymryd rhwng gwneud cais a chael eich taliad cyntaf
- Mae Ben wedi colli ei swydd ac mae’n gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar 22 Gorffennaf.
- Mae angen iddo aros un cyfnod asesu – hynny yw mis calendr – i 21 Awst. Mae hyn oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol mewn ôl-ddyledion.
- Mae angen iddo hefyd ganiatáu hyd at saith diwrnod i’r arian gyrraedd ei gyfrif.
- Dylai ddisgwyl ei daliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol erbyn 28 Awst fan bellaf. Bydd yn cael ei dalu ar yr 28ain o bob mis.
- Os yw 28 Awst yn ddydd Llun gŵyl y banc, dylai gael taliad ar y diwrnod gwaith olaf (dydd Gwener) cyn yr ŵyl.
Os ydych yn poeni am sut y byddwch yn ymdopi am arian nes i chi gael eich taliad cyntaf, darllenwch ein canllaw Cymorth wrth aros am daliadau budd-dal.
Fodd bynnag, os cawsoch eich diswyddo neu os ydych yn disgwyl i gwsmeriaid eich talu, gall fod yn well aros nes eich bod wedi cael eich arian terfynol cyn i chi wneud cais.
Mae hyn oherwydd y gallai unrhyw incwm a gewch yn ystod y cyfnod asesu ar ôl i chi wneud eich cais effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol. Efallai y bydd yn golygu nad oes gennych hawl i daliad hyd yn oed.
Efallai y bydd eich siec gyflog derfynol hefyd yn uwch na’r arfer oherwydd bod ganddo dâl diswyddo, tâl gwyliau neu dâl yn lle rhybudd wedi’i ychwanegu ato.
Enghraifft o sut y gall amrywiadau yn eich incwm effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol
- Mae Ben yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar 22 Gorffennaf ac yna’n cael ei siec gyflog derfynol ar 31 Gorffennaf. Bydd hyn yn cael ei gynnwys fel incwm yn y cyfnod asesu rhwng 22 Gorffennaf a 21 Awst.
- Mae ei daliad Credyd Cynhwysol cyntaf sy’n ddyledus ar 28 Awst yn sero. Mae hyn oherwydd bod ei incwm yn rhy uchel i fod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol y mis hwn.
- Rhaid iddo fyw oddi ar ei siec gyflog olaf tan 28 Medi, pan fydd yn cael ei daliad Credyd Cynhwysol llawn nesaf. Mae’r taliad hwn yn seiliedig ar incwm sero yn y cyfnod asesu rhwng 22 Awst a 21 Medi.
- Os bydd yn aros tan 1 Awst i wneud y cais, bydd ei incwm yn cael ei asesu fel sero yn ystod y cyfnod asesu rhwng 1 a 31 Awst. Felly dylai gael ei daliad Credyd Cynhwysol llawn cyntaf bum wythnos yn ddiweddarach - ar 7 Medi.
Gall gweithio allan pryd i wneud cais pan fyddwch yn disgwyl incwm ychwanegol fod yn gymhleth. Felly os nad ydych yn siŵr sut y bydd yn effeithio arnoch, cysylltwch ag ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth i wirio yn gyntaf.
Cymru a Lloegr
Am fwy o fanylion, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
Neu, yn Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444. Yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220
Yr Alban
Ewch i Citizens Advice Scotland neu ffoniwch 0800 023 2581
Gogledd Iwerddon
Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio'n wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirect
Darganfyddwch fwy am adael gwaith ac angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar y Grŵp Diwygio Treth Incwm Isel (LITRG)
Os oes angen help arnoch i fynd ar-lein i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Gwneud cais
Os ydych yn poeni am ddefnyddio cyfrifiadur i wneud eich cais Credyd Cynhwysol, mae’n bwysig eich bod yn cael help.
Mae hyn oherwydd na fydd eich cais yn dechrau nes eich bod wedi anfon eich ffurflen ar-lein. Yna bydd yn rhaid aros am bum wythnos am eich taliad cyntaf. Gall unrhyw oedi golygu bod yn rhaid i chi aros yn hwy na hyn.
Os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur gartref, efallai y gallwch ddefnyddio un am ddim yn eich Canolfan Gwaith, llyfrgell, Cyngor ar Bopeth neu gyngor lleol.
Mae llawer o Ganolfannau Gwaith bellach yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i bobl sy’n ei chael hi’n anodd gwneud cais ar-lein. Gallant hefyd eich helpu i ddod â’r holl waith papur sydd ei angen arnoch at ei gilydd.
Dewch o hyd i'ch cyngor lleol yng Nghymru a Lloegr ar GOV.UK
Dewch o hyd i'ch cyngor lleol yn yr Alban ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Dewch o hyd i'ch cyngor lleol yng Ngogledd Iwerddon ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn newydd i gyfrifiaduron neu os nad ydych wedi teimlo’n hyderus am eu defnyddio yn y gorffennol, mae’n amser da iawn nawr i adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch hyder wrth eu defnyddio.
Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth sgiliau digidol am ddim yn eich ardal chi gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol ar 0800 100 900
Ewch i’r Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein i ddod o hyd i’ch canolfan hyfforddi agosaf ac mae LearnMyWay.com yn cynnig cwrs ar-lein am ddim i helpu dechreuwyr i ddatblygu sgiliau digidol.
Os na allwch wneud cais ar-lein oherwydd salwch neu anabledd
Efallai y bydd gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein yn anoddach os oes gennych salwch neu anabledd sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd neu reoli pethau eich hun.
Os ydych angen help , gallwch ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol i drefnu apwyntiad i rywun eich ffonio yn ôl i wneud y cais dros y ffôn.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) hefyd yn gweithredu gwasanaeth ymweld os na allwch adael eich cartref neu os ydych yn yr ysbyty.
Darganfyddwch fwy am wasanaeth Ymweliadau Cartref DWP ar wefan GOV.UK
Gall ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth hefyd eich cefnogi trwy gydol eich cais am Gredyd Cynhwysol. Gallant hefyd eich helpu i drefnu ymweliad cartref gan DWP.
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Os ydych angen help gyda’ch cais, gallwch ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim.
Mae’r llinell gymorth yn brysur iawn oherwydd yr argyfwng presennol. Mae’n well defnyddio’ch cyfrif ar-lein os gallwch. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK