Os na allwch weithio neu’n gweithio oriau gostyngol oherwydd salwch neu anabledd - mae cymorth ariannol ar gael. Efallai y gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol (SSP), a delir gan eich cyflogwr. Os yw hyn wedi dod i ben, neu os nad ydych yn gallu ei hawlio, efallai gallwch hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a budd-daliadau anabledd eraill
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Gweini
- Cymorth gyda chostau tai
- Budd-daliadau eraill y gallwch fod â hawl iddynt
- Os oes gennych incwm neu gynilion
- Budd-daliadau i ofalwyr
- Cymorth gyda symud o gwmpas – Cynlluniau Motability a Bathodyn Glas
- Cymorth a chyngor am fudd-daliadau salwch ac anabledd
- Penodi rhywun i ymdrin â’ch cais budd-dal salwch ac anabledd ar eich rhan
- Help gyda chostau iechyd GIG
Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?
Tâl Salwch Statudol
Efallai y gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol o £99.35 yr wythnos (2022-23) am hyd at 28 wythnos os:
- rydych yn gyflogedig ond ddim yn gallu gweithio.
- roedd eich enillion cyfartalog am y ddau fis cyn i chi roi’r gorau i weithio o leiaf £123 yr wythnos.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer tâl salwch statudol a sut i wneud hynny yn GOV.UK (Opens in a new window)
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd
Os yw’ch Tâl Salwch Statudol wedi dod i ben, neu os nad ydych yn gymwys ar ei gyfer, (er enghraifft, oherwydd eich bod yn hunangyflogedig) efallai y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd (ESA).
Telir hyn os na allwch weithio neu ond yn gallu gweithio ychydig o oriau yn unig oherwydd salwch neu anabledd. I fod yn gymwys mae’n rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am y dwy i dair blynedd diwethaf.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys, a sut i wneud cais ESA Dull Newydd yn ein canllaw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Credyd Cynhwysol
Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol ochr yn ochr â Thâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd. Efallai y byddwch yn cael mwy o arian os ydych yn gwneud cais am y ddau, yn enwedig os ydych yn talu rhent neu os oes gennych blant i’w cynnal.
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli budd-daliadau fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a chredydau treth. Ni allwch bellach wneud cais newydd amdanynt .
Os ydych eisoes yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn ac angen gwneud cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd salwch neu anabledd, bydd y budd-daliadau hyn yn dod i ben a bydd unrhyw gefnogaeth rydych ei angen am gostau ychwanegol, fel tai neu fagu plant yn cael ei dalu fel rhan o Gredyd Cynhwysol yn lle hynny.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a budd-daliadau anabledd eraill
Telir Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) os cewch anhawster wrth gwblhau tasgau dyddiol neu symud o gwmpas.
Nid yw’n destun prawf modd, sy'n golygu gallech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych chi.
Er mwyn bod yn gymwys mae’n rhaid eich bod:
- rhwng 16 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth
- wedi cael yr anawsterau hyn am dri mis ac yn disgwyl iddynt barhau am o leiaf naw mis arall (oni bai bod gennych gyflwr terfynol).
Mae PIP yn disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion. Os ydych yn gwneud cais newydd fe ofynnir i chi wneud cais am PIP. Yn Yr Alban mae PIP wedi cael ei disodli gan y Taliad Anabledd Oedolion (ADP).
Os ydych eisoes yn hawlio PIP neu DLA yn Yr Alban, bydd Social Security Scotland yn cysylltu â chi am symud i ADP o haf 2022. Ni allwch hawlio ADP a PIP neu DLA ar yr un pryd. Gallwch wirio eich cymhwysedd am ADP ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes angen i chi wneud cais newydd am ADP, gallwch ddarganfod sut i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Faint yw PIP ac ADP?
Gallech gael rhwng £24.45 a £156.90 yr wythnos (2022-23), yn ddibynnol ar ba mor ddifrifol mae’r cyflwr yn effeithio arnoch chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad Annibyniaeth Personol – cyflwyniad
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
Dim ond ar gyfer plant o dan 16 oed y gallwch wneud cais newydd am Lwfans Byw i’r Anabl (DLA).
Nid yw’n destun prawf modd sy’n golygu gallech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych.
Faint yw DLA?
Gallai’ch plentyn gael rhwng £24.45 a £156.90 yr wythnos (2022-23), yn ddibynnol ar ba mor ddifrifol mae’r cyflwr yn effeithio arnynt.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
Darganfyddwch fwy am y DLA i blant yn GOV.UK (Opens in a new window)
Darganfyddwch fwy am geisiadau presennol am DLA i oedolion yn GOV.UK (Opens in a new window)
Darganfyddwch fwy am hawlio DLA yng Ngogledd Iwerddon yn nidirect (Opens in a new window)
Lwfans Gweini
Gallech fod yn gymwys am Lwfans Gweini os:
- rydych angen cymorth gyda gofal personol
- rydych angen goruchwyliaeth i’ch cadw’n ddiogel
- rydych yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn ac
nad ydych wedi hawlio DLA/PIP yn flaenorol.
Darganfyddwch fwy am Lwfans Gweini yn ein canllaw Budd-daliadau i helpu gyda’ch anabledd neu anghenion gofal
Cymorth gyda chostau tai
Os ydych yn rhentu
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn methu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai mwyach a bydd rhaid iddynt hawlio elfen costau tai Credyd Cynhwysol yn lle hynny.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol a thalu rhent
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu os ydych yn cael y premiwm anabledd difrifol, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai.
Darganfyddwch fwy am Fudd-dal Tai yn GOV.UK (Opens in a new window)
Os ydych yn berchennog cartref
Efallai y gallech gael help tuag at daliadau llog ar eich morgais. Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).
Telir SMI yn uniongyrchol i’r darparwr benthyciadau 39 wythnos wedi i chi wneud cais am y tro cyntaf am y budd-dal hwn. Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn gallwch fod yn gymwys am SMI yn syth.
Mae’n cael ei dalu fel benthyciad. Bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl un ai pan werthwch eich tŷ, neu’n wirfoddol pan fyddwch yn gallu - er enghraifft, pan ddychwelwch i’r gwaith.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
Help gyda’r Dreth Cyngor
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallech gael cymorth gyda thaliadau Treth Gyngor neu Ardrethi.
Mae gan bob cyngor lleol ei gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ei hun, felly mae’r help a gewch yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Cymru a Lloegr
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddod o hyd i fwy am ei gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Darganfyddwch eich cyngor lleol yn GOV.UK (Opens in a new window)
Yr Alban
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ddod o hyd i fwy am ei gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Darganfyddwch eich cyngor lleol yn mygov.scot (Opens in a new window)
Gogledd Iwerddon
Bydd angen i chi wneud cais am Rhyddhad Ardrethi yn lle.
Darganfyddwch fwy o help am dalu ardrethi ar wefan nidirect (Opens in a new window)
Budd-daliadau eraill y gallwch fod â hawl iddynt
Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Os achoswyd eich anabledd neu’ch salwch yn y gwaith, efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
Mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gweithio i gyflogwr neu’n cymryd rhan mewn hyfforddiant cymeradwy. Ni fyddwch yn gallu gwneud cais amdano os oeddech yn hunangyflogedig.
Mae’r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar ba mor ddifrifol y mae eich cyflwr yn effeithio arnoch.
Nid yw’n destun prawf modd felly fe allech ei gael waeth faint o incwm neu gynilion sydd gennych.
Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth byddwch yn gallu gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych ar incwm isel efallai y byddwch yn gallu ychwanegu ato gyda Chredyd Pensiwn.
Fodd bynnag, os ydych mewn cwpl a dim ond un ohonoch sydd dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yn rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle Credyd Pensiwn nes i'r ddau ohonoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os oes gennych incwm neu gynilion
Nid yw budd-daliadau sy’n eich helpu gyda’r gofal ychwanegol o fod yn sâl neu’n anabl yn destun prawf modd. Mae’r rhain yn cynnwys Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Lwfans Gweini. Mae hyn yn golygu na chânt eu heffeithio gan eich incwm a chynilion.
Mae budd-daliadau eraill fel Credyd Cynhwysol a Chredyd Pensiwn yn cael eu heffeithio gan eich incwm a chynilion – a rhai eich partner neu briod hefyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae cynilion a chyfandaliadau’n effeithio ar fudd-daliadau
Hyd yn oed os oes gennych incwm a/neu gynilion, mae’n werth gwirio’r budd-daliadau i weld beth allech fod â hawl iddo.
Budd-daliadau i ofalwyr
Os bydd ffrind neu aelod o’r teulu yn gofalu amdanoch mae cymorth ar gael iddo ef neu hi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a chredydau treth y gallwch eu hawlio fel gofalwr
Cymorth gyda symud o gwmpas – Cynlluniau Motability a Bathodyn Glas
Cynllun Motability
Ar gyfer pwy mae e?
Pobl sy’n cael elfen symudedd gyfradd uwch o Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol. Gall y cynllun ddarparu car, cadair olwyn fodur neu sgwter.
Mwy o wybodaeth
Darganfyddwch fwy am y cynllun motability ar wefan Motability (Opens in a new window)
Sut i wneud cais
Ffoniwch Motability ar 0300 456 4566
Y Cynllun Bathodyn Glas
Ar gyfer pwy mae e?
Mae’r cynllun Bathodyn Glas yn helpu’r rhai sydd ag anawsterau symudedd difrifol, sydd yn ei chael hi’n anodd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i barcio’n agos i’w cyrchfan. Mae taliadau a rheolau hawl ar gyfer y cynllun Bathodyn Glas yn amrywio ledled y DU.
Sut i wneud cais
Gwnewch gais ar-lein am y bathodyn glas ar GOV.UK (Opens in a new window) neu cysylltwch â’ch cyngor lleol.
Cymorth a chyngor am fudd-daliadau salwch ac anabledd
Mae llawer iawn o help am ddim ar gael os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w cael neu os ydych angen help i wneud cais.
Os ydych yn hawlio budd-daliadau rhaid i chi egluro eich cyflwr. Fel arall, efallai na fyddwch yn cael yr holl help y mae gennych hawl iddo.
Penodi rhywun i ymdrin â’ch cais budd-dal salwch ac anabledd ar eich rhan
Os na allwch reoli eich budd-daliadau eich hun, gall unigolyn neu sefydliad wneud hyn ar eich rhan.
Yr enw a roddir ar hyn yw penodai. Maent yn dod yn gyfrifol am ddelio â’ch budd-daliadau o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Os oes gennych anabledd dysgu gallwch ofyn i ‘Dosh Financial Advocacy’ am gymorth gyda’ch budd-daliadau fel eich eiriolwr a phenodai.
Mae’n sefydliad di-elw, a hefyd yn cynnig cyfres o ffeithlenni ar gyfer gofalwyr teuluol ar reoli arian.
Help gyda chostau iechyd GIG
Mae presgripsiynau am ddim yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, waeth beth yw’ch oed ac amgylchiadau.
Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael rhai budd-daliadau penodol neu rydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau iechyd.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- costau deintyddol
- cost gofal llygaid
- presgripsiynau’r GIG
- cael cymorth gyda chostau teithio i apwyntiadau
ysbyty.