Gall edrych ar ôl aelod o’ch teulu gydag anabledd, salwch, cyflwr iechyd meddwl, neu broblem â chyffuriau neu alcohol fod yn ymrwymiad anferthol. Yn ffodus mae cefnogaeth ariannol ar gael, a gwasanaethau cefnogol i roi cymorth i ysgwyddo’r baich.
Pa dasgau mae gofalwyr ifanc yn ei wneud?
Fe allech weld eich hun yn helpu aelod o’r teulu drwy:
- wneud gwaith o amgylch y cartref, fel glanhau
- coginio prydau bwyd
- helpu gyda thasgau ymarferol, fel symud o un lle i’r llall, ymolchi neu wisgo yn y boreau.
Gall hyn fod yn hen ddigon anodd. Ond beth petaech hefyd mewn sefyllfa o fod yn rheoli arian y teulu, neu orfod gadael coleg neu brifysgol er mwyn talu am y gofal maent ei angen.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Pa fath o gefnogaeth ariannol sydd ar gael i ofalwyr ifanc?
Mae’r llywodraeth yn cynnig dau fath o gefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc.
Awgrym da
Cyn gwneud cais am Lwfans Gofalwr, mae’n syniad da cael gair gyda’r person rydych yn gofalu amdanynt, oherwydd gall effeithio ar eu taliadau budd-daliadau.
Caiff Lwfans Gofalwr ei dalu ar gyfradd safonol o £69.70 (2022-23) yr wythnos.
Rydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os:
- ydych yn 16 oed neu drosodd
- ydych yn bodloni’r rheolau preswylio a phresenoldeb y DU
- ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun
- nad ydych mewn un ai addysg amser llawn neu yn ennill mwy na £132 (2022-23) yr wythnos net. Mae hyn yn golygu £132 ar ôl i chi dalu treth, Yswiriant Gwladol a rhai didyniadau penodol.
Darganfyddwch fwy, gan gynnwys rheolau presenoldeb a phreswylio'r DU, cymhwyster a sut i wneud cais am Lwfans Gofalwr, ar wefan GOV.UK
Yr Alban
Os ydych yn byw yn yr Alban, bydd gofalwyr hefyd yn cael dau daliad atodol o £237.90 y flwyddyn (2022-23).
Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar wefan mygov.scot
Premiwm gofalwr
Mae’r premiwm gofalwr yn daliad ychwanegol o hyd at £38.85 (2022-23) yr wythnos.
Gellir weithiau ei ychwanegu at gyfrifiad o rai budd-daliadau eraill a dderbyniwch ar ben eich Lwfans Gofalwr. Gall y rhain gynnwys:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Budd-dal Tai
- Gostyngiad Treth Cyngor (Rhyddhad o Dreth yng Ngogledd Iwerddon).
Mae’r ychwanegiad gofalwr yn swm cyfatebol a delir gyda Chredyd Cynhwysol.
Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau hyn yn barod, dylech roi gwybod i’r swyddfa budd-daliadau berthnasol eich bod wedi cael dyfarniad o Lwfans Gofalwr. Mae hyn er mwyn iddynt ychwanegu’r premiwm gofalwr i’ch taliad.
Cewch eu manylion cyswllt ar unrhyw lythyr maent wedi ei anfon atoch.
Os mai ond newydd glywed am y premiwm gofalwr ydych ac yn cael y Lwfans Gofalwr yn barod, gall taliadau budd-daliadau weithiau gael eu hôl-ddyddio.
Mae’r budd-daliadau hyn yn destun prawf modd, felly bydd eich cymhwyster yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau gallwch eu hawlio fel gofalwr
Grant Gofalwr Ifanc (yr Alban yn unig)
Os ydych yn byw yn yr Alban, efallai y byddwch yn gallu cael taliad blynyddol ychwanegol o £317.70 os:
- ydych rhwng 16 a 18 oed
- rydych chi’n gofalu am rhwng un a thri o bobl am gyfartaledd o 16 awr yr wythnos, ac wedi bod yn gwneud am o leiaf y tri mis diwethaf.
Darganfyddwch fwy am y Grant Gofalwr Ifanc ar wefan mygov.scot
Mathau eraill o gefnogaeth i ofalwyr ifanc
Oeddech chi’n gwybod?
Mae’r grŵp ymgyrchu Carers Trust, yn credu bod hyd at 700,000 o blant a phobl ifanc yn gofalu am aelodau o’r teulu yn y DU.
Mae nifer o fathau eraill o gefnogaeth ariannol ac ymarferol ar gael i ofalwyr ifanc. Ond yn gyntaf bydd angen i chi gael asesiad gofalwr.
Dyma gyfle i chi gael sgwrs gyda gweithiwr cymdeithasol a dweud wrthynt pa fath o gymorth rydych ei angen gyda’ch gwaith gofalu.
Os ydych yn llai na 16 oed gallwch ofyn am asesiad gofalwr y tro nesaf y bydd y person rydych yn gofalu amdanynt yn cael eu hasesiad hwy.
Os ydych dros 16 oed cewch ofyn i’ch awdurdod lleol gwblhau asesiad ar unrhyw adeg.
Darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Sut i wneud cais am asesiad gofalwr
Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, bydd angen i chi siarad gydag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol sy’n gyfrifol am y person rydych yn gofalu amdanynt.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi siarad gydag Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol y person rydych yn gofalu amdanynt.
Pwy arall all roi cymorth?
Oeddech chi’n gwybod?
Am help i ddod o hyd i gymorth lleol gallwch siarad gyda chynghorydd llinell gymorth Carers Direct ar 0300 123 1053, neu ofyn cwestiwn drwy ddefnyddio sgwrs gwe
Nid yw’n hawdd bod yn ofalwr ifanc - a dim ond un o’r heriau yw arian. Mae’n bosibl y bydd ffynonellau eraill o help ariannol ar gael o gronfeydd elusennol.
Efallai bydd y Carers Trust yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag un o’r sefydliadau hyn.
Darganfyddwch fwy ar wefan Carers Trust
Os ydych yn teimlo bod eich rôl fel gofalwr yn cael effaith ar eich addysg a’ch gwaith ysgol neu os yw’n gwneud i chi deimlo’n bryderus neu’n anhapus, mae’n bwysig siarad â rhywun am hyn.
Mae llawer iawn o bobl fyddai’n fwy na pharod i wrando ac i roi cymorth i chi ysgwyddo’r cyfrifoldebau o fod yn ofalwr ifanc.
Gallwch ddechrau yn agos at eich cartref, gydag aelod o’r teulu neu ffrind sydd eisoes yn ymwybodol o’r sefyllfa, neu hyd yn oed eich meddyg lleol.
Yna mae yna sefydliadau sydd wedi cael eu sefydlu’n benodol i gynnig cyngor a chefnogaeth i bobl ifanc, megis:
Darganfyddwch fwy am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal ar wefan NHS Choices
Mwy o wybodaeth
Mae llawer o sefydliadau yn cynnig cymorth a chyngor i ofalwyr ifanc ar bob agwedd o ofalu: