Mae ISAs Gydol Oes (a elwir hefyd yn LISAs) yn fath o ISA wedi’i greu i helpu pobl i gynilo ar gyfer eu cartref cyntaf, neu ar gyfer ymddeoliad. Os cymerwch ISA Gydol Oes, cewch fonws gan y Llywodraeth sydd yn werth 25% o’r hyn a dalwch i mewn, hyd at uchafswm penodol, ym mhob blwyddyn dreth. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall ai cymryd ISA Gydol Oes yw’r opsiwn gorau i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut mae ISA Gydol Oes yn gweithio
- Sut caiff fy monws ei dalu?
- Pwy all gael ISA Gydol Oes?
- Defnyddio’ch ISA Gydol Oes i brynu’ch cartref cyntaf
- Defnyddio ISA Gydol Oes ar gyfer ymddeoliad
- Tynnu arian allan o’ch ISA Gydol Oes
- Beth sy’n digwydd os byddwch farw
- Risg prawf modd a phrawf cyfalaf
- Beth bydd yn digwydd os bydd rhywbeth yn mynd o’i le?
Sut mae ISA Gydol Oes yn gweithio
- Gallwch roi uchafswm o £4,000 i mewn i ISA Gydol Oes pob blwyddyn dreth.
- Cewch fonws o 25% gan y llywodraeth. Telir y bonws i mewn yn fisol.
- Yr uchafswm o fonws y gallwch ei ennill mewn blwyddyn dreth yw £1,000.
- Mae’r swm a dalwch i mewn yn gysylltiedig â’ch lwfans ISA blynyddol (£20,000 ar gyfer 2022/23). Er enghraifft, os talwch £1,000 i mewn i’ch ISA Gydol Oes, gallwch dalu £19,000 hyd yn oed wedyn i mewn i gynnyrch ISA eraill.
- Nid yw unrhyw fonws a enillwch yn cyfri tuag at eich lwfans ISA.
- Gallwch agor ISA Gydol Oes, ISA arian parod ac ISA stociau a chyfranddaliadau ac ISA cyllid arloesol ym mhob blwyddyn dreth.
Oeddech chi’n gwybod?
Os ydych yn prynu cartref â rhywun arall, gallech chi'ch dau fanteisio ar ISAs Gydol Oes ar wahân.
Enghraifft
Os byddwch yn rhoi £1,000 yn eich ISA Gydol Oes, bydd y Llywodraeth yn ychwanegu £250 ato. Byddai hyn yn rhoi £1,250 i chi ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Os byddwch yn rhoi £200 yn eich ISA Gydol Oes, bydd y Llywodraeth yn ychwanegu £50 ato. Byddai hyn yn rhoi £250 i chi ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Sut caiff fy monws ei dalu?
Bellach mae HMRC yn cyfrifo taliadau bonws ar sail fisol. Cyfrifir pob bonws yn seiliedig ar daliadau a wnewch i mewn i’ch cyfrif o’r 6ed o’r mis tan y 5ed o’r mis canlynol.
Fodd bynnag, mae’n syniad da i wirio â’ch darparwr gan y gallai rhai drin taliadau bonws yn wahanol. Bydd rhai yn ail-fuddsoddi’r taliadau bonws yn awtomatig gan fanteisio ar unrhyw dwf a chynnydd mewn gwerth posibl. Efallai y bydd rhai yn rhoi eich arian mewn cyfrifon arian parod nad ydynt yn ennill llog. Mae hyn yn golygu y gallech golli allan ar log neu dwf posibl yn y dyfodol ar eich cronfa a fuddsoddwyd.
Pwy all gael ISA Gydol Oes?
Gallwch agor ISA Gydol Oes ag unrhyw fanc, cymdeithas adeiladu neu reolwr buddsoddi sy’n cynnig y cynnyrch.
I agor ISA Gydol Oes, mae rhaid i chi fod:
- rhwng 18 a 40 mlwydd oed
- yn byw yn y DU neu yn was i’r Goron (er enghraifft, yn aelod o’r lluoedd arfog yn gwasanaethu dramor).
Gallwch barhau i dalu i mewn i ISA Gydol Oes hyd nes i chi gyrraedd 50 mlwydd oed.
Defnyddio’ch ISA Gydol Oes i brynu’ch cartref cyntaf
Os ydych yn dymuno defnyddio ISA Gydol Oes i brynu cartref, mae rhai cyfyngiadau y bydd angen i chi eu hystyried.
- Prynwyr tro cyntaf yn unig all ddefnyddio ISA Gydol Oes i brynu cartref. Mae hynny'n golygu na allwch fod yn berchen, neu fod wedi bod yn berchen ar gartref yn y DU neu unrhyw le arall yn y byd
- Bydd angen i chi fod yn prynu cartref am ddim mwy na £450,000
- Mae rhaid eich bod yn prynu cartref y bwriadwch fyw ynddo. Nid yw’r cynllun ar gyfer prynu cartref y dymunwch ei rentu allan, neu fel cartref gwyliau
- Mae rhaid i chi ddefnyddio morgais ad-daliad traddodiadol.
Gallwch gyfuno’ch ISA Gydol Oes â chynlluniau eraill fel Cymorth i Brynu. Darganfyddwch fwy ar wefan y Llywodraeth Own Your Home
Prynu eiddo â’ch gilydd
Os dymunwch brynu cartref â’ch partner a'ch bod chi'ch dau yn bodloni’r meini prawf o ran cymhwyso, gallwch gyfuno’ch ISA Gydol Oes er mwyn prynu eiddo â’ch gilydd.
Os mai dim ond un ohonoch sy’n gymwys – er enghraift os yw un partner yn berchen ar gartref eisoes – yna dim ond yr unigolyn cymwys all ddefnyddio ISA Gydol Oes.
ISA Cymorth i Brynu
Os oes gennych ISA Cymorth i Brynu, cofiwch mai dim ond i brynu cartrefi sy’n werth llai na £250,000 y tu allan i Lundain y gallwch ei ddefnyddio (y pris uchaf yw £450,000 yn Llundain).
(Gellir defnyddio ISAs Gydol Oes i brynu cartrefi sy’n werth hyd at £450,000 yn Llundain a thu allan i’r ddinas honno.)
Mae ISAs Cymorth i Brynu ar gau i gwsmeriaid newydd. Os oes gennych ISA Cymorth i Brynu yn barod, gallwch barhau i gynilo i’ch cyfrif hyd at Dachwedd 2029. Mae’n rhaid i chi hawlio’ch bonws cyn Tachwedd 2030.
I gymharu’r ddau gynllun, gwelwch ein canllaw Cynilo i ISA Cymorth i Brynu neu ISA Gydol Oes?
Defnyddio ISA Gydol Oes ar gyfer ymddeoliad
Oeddech chi’n gwybod?
Os ydych yn hunangyflogedig, gall ISA Gydol Oes fod yn gyfwerth da i Gynllun Pensiwn Gweithle.
Gallwch dynnu rhan neu’r cyfan o’ch arian ISA Gydol Oes allan, heb dalu ffi, pan gyrhaeddwch 60 mlwydd oed.
Os bydd darparwr yr ISA Gydol Oes yn ei ganiatáu, gall y gronfa aros fel buddsoddiad ac unrhyw log neu dwf buddsoddiad parhau i fod yn ddi-dreth.
Darganfyddwch fwy am Bensiynau Gweithle yn ein canllaw Ymrestru awtomatig – cyflwyniad
Pa bryd gewch ddefnyddio’ch arian?
Gallwch ddefnyddio arian sydd yn eich ISA Gydol Oes, gan gynnwys bonws y llywodraeth a heb orfod talu unrhyw dreth os:
- ydych yn cyrraedd 60 mlwydd oed
- cewch ddiagnosis bod gennych salwch terfynol
- ydych yn prynu’ch cartref cyntaf a bu’ch cyfrif ar agor ers 12 mis.
Os caewch eich cyfrif yn ystod y cyfnod ystyried, ni chewch y bonws 25%.
Tynnu arian allan o’ch ISA Gydol Oes
Byddwch yn gorfod talu tâl am dynnu arian allan os cymerwch yr arian am unrhyw reswm ac eithrio’r tri a nodir uchod.
Y gost yw 25% o’r swm a dynnir allan.
Bydd hyn yn cael ei gyfrifo ar ôl i’ch bonws gael ei dalu – ond cofiwch, ni fyddwch yn cael y bonws oni bai eich bod yn tynnu arian allan 12 mis ar ôl eich taliad cyntaf i’r cyfrif.
Felly, os byddwch yn cael bonws, a bod gennych £1,000, byddai gennych gyfanswm o £1,250 i’w dynnu allan. Mae’r tâl cosb 25% yn £312.50, felly dim ond £937.50 fyddech yn ei gael yn eich poced. Mae hyn yn golygu y byddech yn colli rhywfaint o’ch cynilion ac yn cael llai yn ôl nag y byddech wedi ei fuddsoddi.
Dyna pam mai prif ddiben ISA Gydol Oes yw i’ch helpu i brynu’ch cartref cyntaf neu i gynilo ar gyfer ymddeoliad.
Beth sy’n digwydd os byddwch farw
Os byddwch farw, bydd unrhyw arian ISA Gydol Oes, gan gynnwys llog a bonysau, yn cael eu trosglwyddo i’ch buddiolwyr heb gosb. Ond collir y gorchudd treth ISA a bydd yn ffurfio rhan o’r ystad er dibenion treth etifeddiant.
Risg prawf modd a phrawf cyfalaf
Caiff arian a gedwir mewn ISA Gydol Oes ei drin fel arian a gedwir mewn mathau eraill o ISAs.
Cymerir y bonws 25% i ystyriaeth fel arfer wrth gyfrifo unrhyw werth ildio.
O ganlyniad gallai hynny effeithio ar eich cymhwysedd i gael rhai budd-daliadau neilltuol. Er enghraifft, gallai unrhyw fudd-daliadau sydd â phrawf modd gael eu heffeithio wrth i arian mewn ISA Gydol Oes gael ei drin fel cynilion.
Yn ogystal, byddai arian mewn ISA Gydol Oes yn cael ei ystyried fel ased ar gyfer dibenion adennill dyledion.