Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) yn cynnig ystod eang o gynhyrchion cynilo a buddsoddi a gefnogir gan Drysorlys EM. Mae rhai heb fod ar gael drwy’r amser, neu’n gynigion cyfyngedig - cadwch lygad allan am gynigion da.
Beth yw NS&I?
Mae NS&I yn un o asiantaethau’r llywodraeth sy’n cynnig cynhyrchion cynilo a buddsoddi i’r cyhoedd. Dyma’r unig fanc yn y wlad sydd â chefnogaeth adran o’r llywodraeth, Trysorlys Ei Mawrhydi.
Mae NS&I yn newid ei gynhyrchion yn aml, ac ar unrhyw adeg benodol gallai’r canlynol fod ar gael i chi:
- Bondiau Incwm
- Bondiau Premiwm
- Direct ISA (ISA Arian Parod)
- Bondiau Ecwiti Gwarantedig
- Direct Saver – cyfrif cynilo
- Cyfrif buddsoddi - cyfrif cynilo rydych yn ei reoli trwy'r post
- Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog neu Fynegai-Gysylltiedig
- Bondiau Twf Gwarantedig a Bondiau Incwm Gwarantedig
- ISAs Iau.
Darganfyddwch fwy am fuddsoddiad NS&I o opsiynau cyfrif cynilo yn ein canllawiau:
Bondiau Premiwm
Bondiau Plant
Sut maent yn gweithio
Wrth gynilo neu fuddsoddi ag NS&I, rydych yn rhoi benthyg i’r llywodraeth ac mae eich arian yn gwbl ddiogel.
Gall gwahanol gynhyrchion NS&I dalu llog, adenillion o’r farchnad stoc neu adenillion sy’n gysylltiedig â chwyddiant (incwm) neu, yn achos Bondiau Premiwm, gwobrau di-dreth.
Gall rhai cynhyrchion NS&I osod cosbau am godi’ch arian yn gynnar â rhai cynhyrchion buddsoddi, gan olygu y gallech gael llai yn ôl na’ch buddsoddiad gwreiddiol.
Yn wahanol i'r mwyafrif o fanciau'r DU, mae'r NS&I ar gyfer cynilion yn unig. Mae hyn yn golygu nad yw'n rhoi benthyg arian. Er enghraifft, ni allwch gymryd morgais neu gerdyn credyd.
Risg ac elw
Gallwch fod yn sicr y byddwch yn cael eich holl arian yn ôl ac eithrio lle gosodwyd cosb am godi’ch arian yn gynnar â rhai cynhyrchion buddsoddi. Fel ag unrhyw gynnyrch sy’n seiliedig ar arian parod neu fuddsoddiad, os bydd chwyddiant yn uchel mae’n bosibl na fydd eich arian yn cynnal ei werth mewn termau real - mewn geiriau eraill, gall ei ‘bŵer prynu’ gael ei leihau gan chwyddiant.
Darganfyddwch fwy am sut y gall chwyddiant effeithio ar eich cynilion yn ein canllaw Chwyddiant – beth sydd angen i gynilwyr ei wybod
Dim ond oherwydd bod y llywodraeth yn cefnogi NS&I, nid yw'n golygu y byddwch yn cael cyfraddau llog gwell na banciau eraill. Os yw cael cynnig da yn bwysig i chi gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud eich ymchwil cyn buddsoddi.
Mae'r elw'n amrywio gan ddibynnu ar y cynnyrch rydych yn ei ddewis - i gael mwy o wybodaeth, gwiriwch wefan NS&I
Cael gafael ar eich arian
Mae rhai cyfrifon cynilo yn caniatáu mynediad ar unwaith tra gallai fod hyd at sawl blwyddyn ar gyfer tystysgrifau bondiau a chynilion.
Os bydd angen i chi ‘gyfnewid am arian’ bond tymor penodol yn gynnar, byddwch fel arfer yn talu tâl i wneud hynny. Mae'n bwysig darllen yr holl delerau ac amodau cyn i chi agor cyfrif.
Diogel a sicr?
Mae eich cynilion neu fuddsoddiadau’n ddiogel ac fe’u cefnogir gan Drysorlys EM, faint bynnag y byddwch yn ei gynilo neu fuddsoddi, yn amodol ar unrhyw gosbau am godi arian yn gynnar ar rai cynhyrchion buddsoddi.
Ar gyfer cymdeithasau adeiladu, undebau credyd a banciau awdurdodedig eraill y DU, mae eich cynilion fel arfer yn cael eu gwarchod gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os bydd fy manc neu gymdeithas adeiladu yn mynd yn fethdalwr
Ble i gael cynhyrchion NS&I
Gallwch brynu cynnyrch NS&I yn uniongyrchol o wefan NS&I neu dros y ffôn ar 08085 007 007 (Llun i Sul, 7am i 10pm)
Treth an gyfrifon NS&I
Mae rhai cynhyrchion NS&I yn talu adenillion sy’n rhydd rhag treth incwm a threth ar enillion cyfalaf.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- ISA arian parod
- Bondiau Premiwm
- Tystysgrifau Arbedion Llog a Mynegai-Gysylltiedig
- ISAs Iau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae’n gweithio
Ymunwch â'n grŵp Facebook
Ymunwch â'n grŵp preifat i gael awgrymiadau a chefnogaeth arbed arian gan gymuned o gynilwyr. Grŵp Cyllidebu ac Arbed Facebook