Os ydych wedi cael eich dal allan gan filiau uchel ac rydych yn poeni am fethu taliad, rhoi gwybod i’ch credydwr (unrhyw gwmni mae arian yn ddyledus gennych rydych yn ddyledus iddynt, er enghraifft, tai, cyfleustodau neu gyngor) a chael trafodaethau cynnar gyda â nhw yw’r cam cyntaf orau i ddatrys eich problemau arian ac osgoi cwympo i ddyled sy’n broblem.
Siarad â’ch credydwr
Buddion siarad â’ch credydwr
Er nad yw gofyn am help yn rhywbeth rydych eisiau ei gwneud, mae buddion i/o estyn allan i’ch credydwr yn gyntaf am eich trafferthion arian.
Eich hawl chi yw hi
Mae gan gredydwyr cyfrifoldeb i’ch cefnogi a’ch trin yn deg gan gynnig opsiynau fforddiadwy i’ch helpu i dalu'r hyn sy’n ddyledus.
Dylech byth teimlo o dan bwysau i dalu beth na allwch ei fforddio, felly mae’r hawl gennych i roi gwybod i’ch credydwr beth y gallwch gynnig iddynt fel y gallent weithio o gwmpas hwn a chreu trefniant teg sy’n gweithio i’r ddau ohonoch.
Mae’n rhwystro pethau rhag mynd yn wael
Os ydych yn gwybod nid oes modd i chi dalu eich taliad nesaf, mae rhoi digon o rybudd i’ch credydwr yn golygu efallai y gallent roi cynllun mewn lle i’ch helpu cyn i bethau mynd yn waeth.
Gall parhau i anwybyddu’r broblem golygu y byddech yn wynebu llog a ffi taliad hwyr ac yn y pendraw colli’r gwasanaeth, y nwyddau neu roi eich cartref o dan risg. beryglu eich cartref.
Mae’n rhaid i’ch credydwr eich helpu
Bydd rhoi gwybod i’ch credydwr eich bod yn cael trafferth yn ei helpu nhw i’ch helpu chi. Dylen nhw gynnig ystod o opsiynau cefnogaeth bydd yn gweithio i’r ddau ohonoch felly mae’n werth cael gwybod beth allent ei wneud.
Os oes gennych anabledd corfforol, rydych yn profi problemau iechyd meddwl neu rydych yn agored i niwed, efallai bydd hefyd ganddynt dîm arbenigol i’ch cynrychioli a’ch cefnogi ar y ffordd.
Osgoi benthyg arian
Gall credydwyr gweithio gyda chi i gytuno ar gynlluniau talu mwy hyblyg. Trwy wneud hwn, gallwch hefyd osgoi benthyg mwy o arian er mwyn eu talu nhw, sydd yn y diwedd yn costio llai i chi.
Byddwch yn ymwybodol, bydd rhai datrysiadau sy’n cael eu cynnig yn effeithio ar eich sgôr credyd, felly mae’n werth darganfod mwy cyn cytuno i gynllun.
Cael mynediad at grantiau elusennol
Gall credydwyr eich rhoi mewn cysylltiad ag elusennau neu gymorth gwahanol sydd yn cynnig grantiau nad oes rhaid i chi dalu yn ôl i’ch helpu talu eich biliau.
Er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth Cymorth Egni Nwy Prydain yn cynnig grantiau i bobl sy’n cael trafferth â chostau tanwydd, ac nid oes rhaid i chi fod yn gwsmer Nwy Prydain er mwyn gwneud cais.
Arbed arian gyda thariff gwell
Gall rhai credydwyr cynnig tariff gwell i chi neu fargenion sy’n fwy addas i’ch anghenion a’ch cyllid.
Er enghraifft, os ydych ar incwm isel neu yn agored i niwed, mae cwmnïoedd dŵr, ynni a rhyngrwyd yn cynnig tariff sy’n gwarantu eich bod ar y fargen ratach neu sy’n rhoi cap ar eich biliau.
Chwalu mythau – siarad â’ch credydwyr
Yn meddwl nad yw’n werth ei gwneud? Rydym yn trefnu’r gwir o’r ffug am siarad â’ch credydwr os ydych yn cael trafferthion arian.
Myth: Maent ond eisiau arian
Ffaith: Tra bod ganddynt ddiddordeb yn yr arian sy’n ddyledus iddynt, mae’n fwy costus iddynt gymryd camau drastig, fel rhwystro’ch gwasanaeth neu eich cymryd i’r llys. Maent am ddatrys pethau’n gynnar gan ei fod yn well i’r ddau ohonoch.
Mae nifer o gwmnïoedd gyda chefnogaeth ychwanegol mewn lle ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn, a dylent weithio gyda chi i ddod i gytundeb teg a fforddiadwy sy’n gweithio iddyn nhw ac eich sefyllfa ariannol.
Myth: Beth os ydynt yn rhwystro fy ngwasanaeth?
Ffaith: Mae hynny’n ddewis olaf nad oes unrhyw un eisiau.
Yn y diwedd, mae gan gredydwr eich darparwr y pŵer i derfynu’r gwasanaeth mae’n darparu i chi, ond dim ond os ydych yn parhau i beidio ymgysylltu â nhw ac yn methu a gwneud unrhyw daliad tua’ch bil yn barhaus.
Mae eithriadau i’r hawl i derfynu gwasanaethau. Er enghraifft, nid oes hawl gan gwmnïau dŵr i ddatgysylltu na rhwystro eich cyflenwad dŵr hyd yn oed os ydych yn ddyledus iddynt.
Myth: Beth os ydynt yn gwrthod siarad â mi?
Ffaith: Gyda chostau byw cynyddol ac adladd y pandemig, mae credydwyr yn disgwyl i nifer o bobl cael trafferth ar hyn o bryd. Maent wastad eisiau siarad â chi ac am glywed beth sydd gennych i ddweud.
I sicrhau eu bod yn nhw’n gwrando, byddwch yn onest am eich sefyllfa, peidiwch ag addo pethau i’ch credydwyr na allwch eu cadw.
Sicrhewch eich bod yn darparu tystiolaeth, fel llythyrau meddyg os oes angen. Bydd hwn yn ei helpu i gael y cymorth cywir mewn lle.
Myth: Does dim arian gen i i’w gynnig
Ffaith: Ni all ddarparwyr rydych yn ddyledus iddynt nhw eich gorfodi i dalu rhywbeth nad oes gennych, felly siaradwch â nhw cyn i chi fethu taliad. Mae dweud wrthynt am eich sefyllfa a dangos nad oes gennych yr arian yn golygu bod yn rhaid iddynt weithio o gwmpas hwn.
Efallai y byddent yn eich galluogi i gymryd seibiant o wneud taliadau am dymor byr neu gynnig taliadau llai dros gyfnod ad-dalu hirach. Os ydych wir yn cael trafferth, gallwch wneud cais i ddileu rhan neu’r cyfan o’r ddyled mewn achosion difrifol.
Gwybod lle i ddechrau
Cyn cysylltu â’ch darparwr, y cam cyntaf yw cymryd amser i gael popeth mewn trefn. Dyma beth sydd eu hangen arnoch i ddechrau.
Creu rhestr o’ch holl filiau a thaliadau
Dewch o hyd i’ch gwaith papur i gyd sy’n ymwneud â’ch biliau.
Yna, ewch drwyddo gan nodi pob rhif cyfrif a balans, dyddiadau y mae’r taliadau’n ddyledus, taliadau misol, faint sy’n ddyledus a manylion cyswllt y credydwyr.
Ystyriwch ddefnyddio taenlen i drefnu’ch rhestr o filiau fel eich bod yn gallu olrhain taliadau yn hawdd, a gweld faint sy’n ddyledus gennych ac yn talu pob mis.
Delio gyda’ch biliau yn y drefn gywir
Mae rhai biliau yn bwysicach nag eraill, felly mae’n bwysig i fynd i’r afael â nhw yn y drefn gywir.
Unwaith mae gennych restr mewn lle, gallwch ddefnyddio ein Blaenoriaethwr Biliau i’ch helpu i drefnu pa filiau i ddelio â’n gyntaf a darganfod sut i osgoi methu taliadau.
Mae hefyd awgrymiadau defnyddiol a chymorth ychwanegol gall fod ar gael sy’n golygu y gallwch ddelio â phethau ar eich pen eich hun.
Trefnwch eich taliadau gyda’n Blaenoriaethwr Biliau
Cysylltu mwy nag un credydwr
Os oes gennych ddyled i sawl cwmni na allwch dalu yn ôl, canolbwyntiwch ar y taliadau blaenoriaeth yn gyntaf, fel eich rhent neu’ch morgais, treth neu daliadau cyngor, biliau nwy ac ynni, gan fod ganddynt ganlyniadau mwy difrifol os nad ydych yn talu unrhyw beth tuag atynt.
Os ydych wedi methu taliadau, gall siarad â sawl credydwr teimlo’n ormod, felly gallwch siarad â chynghorydd dyled yn gyntaf. Gallant nhw hyd yn oed siarad â’ch credydwyr ar eich rhan. Maent yn cynnig cyngor ar-lein, dros y ffôn neu yn agos at le rydych yn byw.
Siaradwch â rhywun heddiw gan ddefnyddio ein Teclyn canfyddwr cyngor ar ddyledion
Paratoi i siarad â’ch credydwr
Gall ddod yn drefnus, meddwl am beth gall eich credydwr gofyn a sut y byddwch yn cysylltu â nhw gwneud sgyrsiau yn haws.
Sicrhewch fod eich gwaith papur yn barod
Gall cael y wybodaeth i gyd a’r manylion cyfrif bydd angen arnoch wrth law, gan gynnwys rhifau cyfeirnod eich helpu i chi ffocysu ar y ffeithiau a’ch gwneud i chi deimlo mewn rheolaeth o’r sgwrs gan fydd modd i chi ateb cwestiynau’n haws.
Os ydych yn gofyn am gymorth oherwydd bod rhywbeth wedi digwydd, er enghraifft rydych wedi colli’ch swydd neu rydych yn cael trafferth o ganlyniad i salwch neu ddamwain, profedigaeth neu chwalu perthynas mae’n ddefnyddiol cael llythyr meddyg neu gyfriflen banc sy’n dangos gostyngiad yn eich incwm yn agos.
Os oes dogfennau ar goll gennych, gallwch ofyn i’ch credydwyr am gopïau neu fynediad iddynt drwy eich cyfrif ar-lein os oes un gennych.
Os bydd dod o hyd i ddogfennau yn cymryd gormod o amser neu nad ydych yn teimlo fel chwilio amdanynt, peidiwch â gadael i’r dogfennau coll eich rhwystro rhag siarad â’ch credydwr.
Mae hwn yn arbennig o wir os ydych yn agored i niwed neu’n dioddef o iechyd meddwl isel ac mae hwn yn teimlo’n ormod i chi. Byddai’n well gan eich credydwr eich bod yn cysylltu â nhw a gallech weithio allan pa ddogfennau sydd angen arnoch gyda’ch gilydd.
Edrychwch ar eich cyllideb
Cyn i chi gysylltu â’ch credydwr, mae’n syniad da i gymryd yr amser i edrych ar eich incwm ac alldaliadau hanfodol i weithio allan faint y gallwch fforddio talu.
Os ydych am greu cyllideb fanwl, gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Cyllideb i’ch helpu. Mae ond yn cymryd 20 munud i’w lenwi.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio taenlennu ffansi neu gynllunydd, mae rhai pobl yn defnyddio llyfrau ymarfer neu gallwch ddefnyddio ap ar-lein.
Fodd bynnag, peidiwch â phoeni os na fedrwch wneud hwn, gall eich credydwr mynd trwy bopeth gyda chi a’i gweithio allan.
Cofiwch, mae sefyllfa pawb yn wahanol, a dylai credydwyr eich cefnogi a’ch trin yn deg.
Gall ein Cynlluniwr Cyllideb eich helpu i ddeall faint gallwch gynnig i’ch credydwr
Dewis sut byddwch yn cysylltu â’ch credydwr
Gobeithio y byddwch yn teimlo llai o straen os ydych yn dewis ffordd i gysylltu â’ch credydwr sy’n teimlo yn gyfforddus i chi. Dyma rhai pethau i feddwl am:
Dros y ffôn
Dewiswch ddiwrnod ac amser sy’n addas i chi, fel na fydd yn rhaid i chi adael y sgwrs i ddelio ag ymrwymiadau eraill.
Cofiwch, yn aml mae gan ganolfannau cyswllt amseroedd prysur, felly, os gallwch, yr amser orau i ffonio yw canol y bore neu ganol y prynhawn neu’n gynnar yn y noswaith yn lle amser cinio neu peth cyntaf yn y bore.
Gwesgwrs neu WhatsApp
Ystyriwch ddefnyddio gwesgwrs neu WhatsApp os nad ydych yn barod. Mae’n rhoi rheolaeth y sgwrs i chi a gallwch ymateb yn amser eich hun.
E-bost neu lythyr
Os byddai’n well gennych i ddanfon e-bost neu lythyr mae gan Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd a StepChangeYn agor mewn ffenestr newydd llythyrau sampl y gallwch eu defnyddio, er enghraifft, os na allwch fforddio cadw lan â thaliadau neu i ofyn am gytundeb talu dros-dro.
Cofiwch, gall gymryd mwy o amser i dderbyn ymateb, felly’n well eu defnyddio os nad yw’ch ymholiad ar frys.
Edrychwch ar gefn eich bil neu ddatganiad am ffyrdd o gysylltu â’ch credydwr
Gofynnwch i ffrind neu aelod o'r teulu eich helpu
Gall ddelio â phroblemau arian achosi straen. Mae’n helpu i gael rhywun rydych yn ymddiried ynddynt i helpu a chefnogi chi trwy’r broses, p’un ai ydynt yn eich helpu i ysgrifennu a phrawf ddarllen eich gohebiaeth neu eich helpu i ymarfer beth rydych am ddweud.
Gall aelod o’r teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddynt hyd yn oed gweithredu fel eich cynrychiolydd os bydd cyfathrebu â’ch darparwr yn anodd i chi.
Esbonio eich sefyllfa
Mae’n bwysig i fod yn onest am eich sefyllfa a byddwch mor agored ag ydych yn gyfforddus gydag am unrhyw beth y gall helpu esbonio pam rydych yn cael trafferth. Dilynwch y strwythur isod i helpu eich sgwrs:
- Dywedwch wrthynt eich bod methu fforddio’ch taliad arferol
- Esboniwch pam na allwch dalu, er enghraifft, os ydych wedi colli’ch swydd, neu fod gennych salwch neu anabledd, neu eich bod wedi profi rhywbeth sydd wedi cael effaith negyddol ar eich bywyd fel profedigaeth.
- Gofynnwch iddynt a yw’n bosib newid telerau eich ad-daliad.
- Yn dibynnu ar y credydwr a beth allant gynnig, darganfyddwch os neu sut y gallai effeithio ar eich sgôr credyd.
- Os ydych yn dod i gytundeb newydd, sicrhewch eich bod yn ei gael yn ysgrifenedig.
Gwneud y cyswllt cyntaf
Gall cysylltu â’ch credydwr fod yn frawychus, yn arbennig enwedig os nad ydych wedi’i wneud o’r blaen. Dyma restr wirio i’ch helpu trwy’r sgyrsiau hyn.
Gweithredwch nawr
Yn aml y peth anoddach yw ffeindio’r amser a chodi’r dewrder i gysylltu â’ch credydwr i ofyn am help.
Ond gall gweithredu nawr arbed arian a straen yn yr hirdymor.
Bydd cael sgwrs yn rhoi’r cyfle i chi i ddod i ddatrysiad gyda’ch credydwr cyn i chi fethu taliad a gallech gael eich synnu gan faint yn well mae’n teimlo i gymryd rheolaeth yn ôl dros y sefyllfa.
Byddwch yn barod gyda phapur a phen
Ysgrifennwch y prif bwyntiau rydych am eu trafod i lawr a beth rydych yn cael trafferth gyda.
Cymerwch nodiadau yn ystod eich sgwrs, gan gynnwys dyddiad ac amser y galwad, enw’r person rydych yn siarad â ac yr opsiynau maent yn cynnig.
Os ydych yn anfon e-bost, copïwch eich hun i mewn i’r neges fel y gallwch ddod o hyd iddo yn y dyfodol.
Cadwch eich nodiadau mewn lle diogel – maen nhw’n gofnod o bopeth gwnaethoch drafod.
Ymarferwch beth rydych am ei dweud
Ystyriwch ofyn i aelod o’ch teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddynt os bydden nhw’n gwneud galwad ymarferol â chi.
Os ydych yn bwriadu e-bostio’ch credydwr, gofynnwch i rywun gwirio’ch neges cyn ei anfon.
Gallwch hefyd ofyn i ffrind neu aelod o’r teulu i siarad ar eich rhan os ydych yn poeni am y sgwrs. Bydd rhaid i chi roi caniatâd.
Gofynnwch am gymorth ychwanegol os oes ei angen arnoch
Rhowch wybod i’ch credydwr eich bod yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, anabledd meddyliol neu gorfforol neu eich bod yn agored i niwed, er enghraifft, rydych yn rhiant sengl, gofalwr neu berson hŷn. Mae gan y rhan fwyaf o gredydwyr timau a all gynnig cymorth ychwanegol.
Os ydych yn meddwl byddwch yn cael trafferth cyfathrebu â’ch darparwr, gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt i weithredu fel eich cynrychiolydd. Gallwch hefyd ofyn i’ch credydwr i weld os oes ganddynt wasanaeth cynrychiolydd neu benodai neu wasanaethau dehongli ar gyfer pobl gydag anghenion ychwanegol.
Rhowch wybod iddynt hefyd os bydd hi’n cymryd amser i chi ymateb, er enghraifft os ydych yn dibynnu ar rywun arall i’ch helpu i gyfathrebu.
Sicrhewch eich bod yn cael popeth yn ysgrifenedig
Pan mae’n dod i greu cytundeb newydd, gofynnwch i’ch credydwr e-bostio neu ddanfon llythyr yn cadarnhau'r newidiadau. Mae hwn fel bod gennych dystiolaeth o’ch cytundeb newydd.
Efallai bydd hefyd angen i chi ddilyn y sgwrs gyda rhagor o wybodaeth, gan gynnwys unrhyw ddogfen y bydd angen i chi ddarparu, er enghraifft, tystiolaeth o ddiweithdra.
Opsiynau gall eich credydwr eu cynnig i chi
Dyma rhai o’r datrysiadau gall eich credydwr cynnig i chi. Cyn cytuno i gynllun, sicrhewch eich bod yn deall yr effaith y gall ei gael ar eich sgôr credyd.
Cynllun ad-daliad hyblyg
Ar ôl i’ch credydwr mynd trwy eich incwm ac alldaliadau â chi i weld faint y gallwch fforddio i’w ad-dalu, efallai y byddent yn eich caniatau i:
- gwasgaru taliadau dros gyfnod hirach, yn golygu byddech yn gwneud taliadau llai bob mis
- talu swm llai dros-dro os ydych yn gwybod bydd eich cyllid yn gwella yn y tymor byr
- talu llai na’r swm misol contractiol am gyfnod penodol
- ail-gyllidebu benthyciad ar raddfa llog llai
- hepgor cyfraddau llog am gyfnod cyfyngedig
- lleihau neu ostwng ffi taliad hwyr
Gwyliau talu
Efallai bydd eich credydwr yn eich caniatau galluogi i gymryd gwyliau talu (a elwir hefyd yn gohirio). Mae hwn fel arfer yn golygu y gallwch naill ai:
- cymryd seibiant o wneud taliadau nes bod eich sefyllfa yn ôl dan reolaeth, neu
- gohirio taliadau am amser byr os ydych yn disgwyl i’ch incwm cynyddu cyn bo hir
Byddwch yn ymwybodol gall llog parhau i gronni yn y cefndir gyda chynhyrchion ariannol, felly mae’n bosibl y byddwch yn talu mwy yn y tymor hir. Gofynnwch faint mae hwn yn debygol o fod pob tro.
Mae gwyliau talu yn debygol o ychwanegu at eich ffeil credyd a gall cael effaith ar eich sgôr credyd. Fodd bynnag, caiff hwn effaith llai na cholli taliadau, cyn belled rydych yn cadw at y cytundeb newydd.
Newid tariff neu gynnyrch
Yn ogystal â chynnig cytundebau taliad mwy hyblyg, dylai eich credydwr hefyd gwirio os ydych ar y tariff gorau ar gyfer eich anghenion.
Efallai y byddent yn eich helpu i symud i dariff rhatach sydd yn fwy addas i’ch cyllideb a’ch defnydd.
Mae’r tariffau orau (a elwir hefyd yn dariffau cymdeithasol) yn aml ar gyfer pobl sydd yn derbyn budd-daliadau penodol neu sydd ag anghenion eraill.
Os ydych yn cael trafferth â thaliadau, efallai gall eich darparwr gwirio os ydych yn hawlio’r budd-daliadau rydych yn gymwys iddynt, fel eich bod yn gymwys am y tariffau a’r cynhyrchion gorau i leihau eich biliau.
Mae tariffau cymdeithasol ar gael ar gyfer eich biliau dŵr, tra bod rhai credydwyr yn cynnig tariffau cymdeithasol i’ch helpu gwneud galwadau ffôn symudol a dod ar-lein os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol.
Opsiynau eraill
Yn dibynnu ar eich darparwr a’ch sefyllfa, efallai byddent yn eich caniatáu i:
- talu llog y benthyciad yn unig hyd nes bod y gallu gennych i ddechrau taliadau misol eto
- ildio’n wirfoddol neu roi eitem a brynwyd ar gredyd yn ôl, neu
- gwerthu’r eitem a defnyddio’r arian parod i dalu'r balans sy’n weddill neu ran ohono
- gwerthu eich cartref yn wirfoddol os na fedrwch fforddio byw yna rhagor
- cael mynediad at dariffau gostyngol neu gynlluniau rhyddhad os ydych yn cwrdd â chymhwysedd penodol, neu
- eich helpu i gael mynediad at gynlluniau cymwynasgar os ydych yn cwrdd â chymhwysedd penodol.
Cofiwch, byddwch ond yn gallu gwerthu neu roi eitemau yn ôl os yw’ch cytundeb yn eich caniatau i wneud hyn.tract allows you to.
Dileu dyled yn rhannol neu’n llawn
Fel arfer mae credydwyr ond yn dileu dyled lle mae cyfle bach iawn y bydden nhw’n cael ei arian yn ôl yn llawn. Er enghraifft, os ydych yn dioddef neu’n wynebu salwch meddwl neu gorfforol hirdymor neu eich bod methu â gweithio’n barhaol. Bydd angen i chi darparu tystiolaeth o’r amgylchiadau hon cyn i ddarparwr ystyried dileu dyled.
Os ydych yn gwynebu trafferthion ariannol o ganlyniad i newid dros-dro mewn amgylchiadau, mae’n annhebygol y byddent yn cytuno i ddileu eich dyledion.
Ar ôl siarad â’ch credydwr
Os ydych wedi dod i gytundeb newydd gyda’ch credydwr, gofynnwch am gadarnhad ysgrifenedig. Bydd ein rhestr wirio yn eich helpu gyda’ch camau nesaf.
Gwirio telerau’r cytundeb newydd
Pan fyddwch wedi dod i gytundeb newydd, sicrhewch eich bod yn ei gael yn ysgrifenedig. Gofynnwch i’ch darparwr anfon llythyr sy’n amlinellu amodau a thelerau’r cytundeb newydd.
Pan fyddwch yn cael y llythyr, adolygwch y ddogfen yn ofalus i sicrhau bod y cytundeb yn gywir ac nid oes telerau coll neu ychwanegol sydd heb gael eu cytuno.
Os oes camgymeriad, sicrhewch eich bod yn cysylltu â’ch credydwr i drafod eich cytundeb eto a chael copi o’r cytundeb newydd cyn gwneud taliadau.
Os yw popeth yn gywir, dechreuwch wneud taliadau a chadwch at y cynllun.
Cadwch mewn cysylltiad
Mae’n bwysig i roi gwybod i’ch credydwyr am unrhyw newidiadau i’ch sefyllfa ariannol.
Gwnewch nodyn o bwy rydych yn siarad â os oes angen galw yn ôl. Os ydych wedi cytuno i bwyntiau gwirio, yna rhowch nhw yn eich calendr, fel na fyddwch yn anghofio.
Os yw eich credydwr am eich ffonio chi, dywedwch sut byddwch am iddynt gysylltu â chi a rhowch yr amserau orau i’ch cyrraedd chi.
Os ydych yn ffeindio eich bod tu ôl ar daliadau, siaradwch â’ch credydwyr mor fuan â phosib er mwyn dod o hyd i ddatrysiad taliadau newydd sy’n gweithio i chi a’ch cael yn ôl mewn rheolaeth.
Cael help i dorri’n ôl ar gostau
Os oes le i chi dorri yn ôl fel eich bod yn gallu gwneud eich ad-daliadau, gall hwn fod yn rhywbeth i ystyried.
Dysgwch sut i dorri’n ôl ar gostau a dod o hyd i ffyrdd i wneud i’ch incwm fynd yn bellach ymhellach yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Beth i wneud os yw eich credydwr yn eich cyfeirio at gyngor ar ddyledion
Mae’n rhaid i’ch credydwr gweithio â chi i geisio dod o hyd i ddatrysiad ond weithiau ni fydd hwn yn bosibl. Efallai y byddent yn awgrymu eich cyfeirio at gyngor ar ddyledion. Gall hwn fod yn syniad da iawn, yn enwedig os ydych yn cael trafferth gyda thaliadau eraill hefyd.
Gall rhai credydwyr eich trosglwyddo yn syth i gyngor ar ddyledion ar yr un alwad ond os oes angen amser i feddwl arnoch neu rydych am benderfynu ar gynghorydd eich hunan, defnyddiwch ein teclyn canfyddwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i wasanaethau ffôn, ar-lein a wyneb-i-wyneb yn eich ardal leol.
Beth os na allwch gael canlyniad positif
Darganfyddwch beth i’w wneud os nad ydych yn mynd unrhyw le neu sut i wneud cwyn.
Byddwch yn barhaus
Os ydych yn ffeindio’ch hun mewn sefyllfa lle nad ydych yn gallu cael gafael ar eich credydwr, ceisiwch eto.
Ystyriwch gysylltu â nhw trwy ddefnyddio dull gwahanol, er enghraifft, os na fedrwch gael gafael dros y ffôn, anfonwch e-bost neu lythyr yn lle neu geisiwch ddefnyddio’r gwesgwrs neu WhatsApp.
Mae cael popeth yn ysgrifenedig yn syniad da fel bod gennych gofnod eich bod wedi ceisio cysylltu â nhw, yn enwedig os ydych yn agos i fethu taliad.
Gallwch hefyd ofyn i aelod o’ch teulu neu ffrind rydych yn ymddiried ynddynt i’ch helpu gwneud cysylltiad.
Os ydych yn cael trafferth gyda methu taliadau, yn aml gall cynghorydd dyled cysylltu â’ch credydwyr ar eich rhan a gall bod ganddynt gysylltiadau a all cyflymu pethau.
Gwneud cwyn
Gallwch fynd a’ch cwyn ymhellach os nad ydych yn teimlo bod eich credydwr wedi datrys pethau trwy gysylltu â’r cwmnïoedd isod:
- Gwasanaeth Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer cwynion am fenthyciadau personol, benthyciadau diwrnod cyflog, cardiau credyd a siopau, gorddrafftau, morgeisiau, a pholisïau yswiriant
- CISASYn agor mewn ffenestr newydd neu Wasanaethau Ombwdsmon: CyfathrebuYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer cwynion am ddarparwyr ffôn neu ryngrwyd
- Gwasanaeth Ombwdsmon: YnniYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer cwynion am gwmnïoedd nwy ac ynni yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â The Consumer CouncilYn agor mewn ffenestr newydd
- Cymdeithas OmbwdsmonYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer cwynion am wasanaeth cyhoeddus, awdurdod lleol neu adran o’r llywodraeth.
Siaradwch â ni
Angen mwy o help? Cysylltwch â ni am gyngor ariannol diduedd ac am ddim os ydych angen help gyda chyllidebu neu wneud i’ch arian mynd ymhellach, pe bai ar-lein neu dros y ffôn.
Beth bynnag yw’ch ymholiad, rydym yma i helpu. Os nad ydym yn gwybod yr ateb byddwn yn gallu rhoi chi ar y trywydd iawn i gysylltu â rhywun sydd â’r ateb.
Gallwch gysylltu â ni trwy Gwesgwrs, WhatsApp, dros y ffôn, trwy ddefnyddio’n ffurflen ar-lein, neu trwy gyfryngau cymdeithasol
Ydych chi wedi methu taliad?
Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion
-
Mae am ddim ac yn gyfrinachol
-
Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian
-
Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir