Os gwerthwyd cynnyrch nad oedd yn addas i chi ond bod y cwmni sy'n gyfrifol wedi mynd i’r wal, ni chollir y cyfan. Efallai y gallwch gael rhywbeth yn ôl trwy'r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol.
Yn y canllaw hwn, rydym yn esbonio sut mae'n gweithio, beth yw eich hawliau o ran morgeisi, cynhyrchion yswiriant a buddsoddi wedi'u cam-werthu a sut i fynd ati i wneud cais.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut ydych yn gwybod eich bod wedi brofi cam-werthu?
- Sut mae’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol yn gweithio
- Cam-werthu yswiriant cyffredinol a’r cynllun
- Cam-werthu morgais a’r cynllun
- Cyngor buddsoddi neu reolaeth buddsoddiad gwael
- Sut i hawlio
- Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol
Sut ydych yn gwybod eich bod wedi brofi cam-werthu?
Mae cam-werthu yn golygu eich bod wedi cael cyngor anaddas, ni esboniwyd y risgiau i chi neu ni roddwyd y wybodaeth yr oedd ei hangen arnoch ac yn y diwedd cawsoch gynnyrch nad oedd yn iawn i chi.
O dan y rheolau a nodwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), mae rhaid gwerthu gwasanaethau ariannol i chi mewn modd sy'n “deg, yn glir ac nad yw'n gamarweiniol”.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-werthu ariannol - beth i'w wneud os ydych wedi'ch effeithio
Sut mae’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol yn gweithio
Mae’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol yn anelu at helpu diogelu pobl sydd wedi dioddef colledion ariannol pan aeth cwmni i’r wal.
Gall y cynllun dalu digollediad hyd ar derfynau penodol os byddwch yn colli arian pan fydd un o’r canlynol:
- banc
- cymdeithas adeiladu
- undeb credyd
- cynghorydd ariannol
- cwmni yswiriant
- cwmni buddsoddi
Mae hefyd yn edrych ar achosion ble gwerthwyd y math anghywir o gynnyrch i chi a’ch bod wedi colli arian, ac i’r unigolyn neu’r cwmni a roddodd y cyngor hwnnw i chi fynd allan o fusnes.
Yma rydym yn esbonio beth i’w wneud os ydych ar eich colled oherwydd:
- cam-werthu morgeisi
- cam-werthu yswiriant
- cyngor buddsoddi neu reolaeth buddsoddiad gwael.
Beth na fydd y cynllun yn eich diogelu rhagddi
Ni fyddwch wedi’ch diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol os:
- yw’r cwmni sy’n gyfrifol yn dal mewn busnes – mae rhaid i chi gwyno iddynt yn gyntaf ac yna fynd â’ch achos at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os nad ydych yn fodlon.
- nad oedd y cwmni wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus neu’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) – gwelwch yr isadran nesaf ar gyfer sut i wirio hyn
- roedd y cwmni wedi ei leoli dramor – er bod rhai cwmnïau gwasanaethau ariannol wedi eu cynnwys.
- ni wnaeth y buddsoddiad berfformio’n dda, oni bai y cafodd ei gam-werthu neu os rhoddwyd cyngor camarweiniol i chi am sut fyddai’n perfformio.
Gwiriwch fod eich cynghorydd wedi ei awdurdodi gan yr FCA neu'r PRA
Er mwyn cael eich diogelu gan y cynllun ar gyfer cam-werthu, rhaid bod y cynghorydd wedi ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) neu’r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA).
Mae’n hawdd iawn gwneud hyn ar gofrestr ar-lein yr FCA – dim ond fod angen i chi wybod beth yw enw’r cwmni neu gynghorydd.
Buddsoddiadau heb eu awdurdodi
Os yw cwmni wedi ei awdurdodi, nid yw hynny'n golygu eich bod wedi’ch diogelu’n awtomatig gan yr FSCS neu FOS. Hyd yn oed os ydych yn defnyddio cwmni sydd wedi ei awdurdodi, yn gyffredinol dim ond i gynnyrch prif ffrwd mae rheolau’r FCA yn berthnasol, yn hytrach na buddsoddiadau ‘arbenigol’, a allai fod yn gyfan gwbl heb eu rheoleiddio.
Gwiriwch Gofrestr y Gwasanaethau Ariannol
Cam-werthu yswiriant cyffredinol a’r cynllun
Gallwch hawlio digollediad gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol os cam-werthwyd polisi yswiriant cyffredinol i chi a bod y cwmni a’i gwerthodd i chi wedi mynd i’r wal. Mae yswiriant cyffredinol yn golygu cynhyrchion gan gynnwys yswiriant teithio, cartref, modur, anifail anwes ac iechyd.
Cam-werthu yw pan werthir polisi sy’n anaddas i chi.
Gallai cwmni yswiriant neu gynghorydd fod yn euog o gam-werthu os ydynt:
- yn gwerthu yswiriant diogelu taliadau i chi sy’n cynnwys sicrwydd ar gyfer diweithdra er eich bod yn ddi-waith wedi ymddeol neu’n hunangyflogedig – byddai hyn yn golygu y byddai unrhyw hawliad yn debygol o gael ei wrthod.
- yn gwerthu polisi i chi, fel yswiriant teithio, nad oeddech yn gymmwys ar ei gyfer oherwydd rhesymau fel eich oedran neu le rydych yn byw.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio gan y cynllun os:
- oedd gan eich cynghorydd ariannol neu frocer yswiriant ddyled i chi o hawliad a setlwyd gan y cwmni yswiriant, ond na wnaeth y cynghorydd neu frocer basio’r arian ymlaen i chi a’u bod wedi mynd i’r wal ers hynny.
- gwnaethoch roi arian i’ch cynghorydd am eich premiwm yswiriant ac iddynt fynd allan o fusnes cyn ei dalu i’w cwmni yswiriant.
- roeddech yn dioddef achos o dwyll – er enghraifft, os dywedodd y cynghorydd wrthych fod y premiymau yn fwy nag roeddynt mewn gwirionedd ac iddynt gadw’r gwahaniaeth.
Beth sydd heb ei gynnwys
Nid yw rhai mathau o yswiriant wedi eu diogelu gan y cynllun.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- ailyswirio
- yswiriant credyd
- yswiriant morol
- yswiriant hedfan
- yswiriant busnes cludiant.
Nid yw’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol yn cynnwys hawliadau yn erbyn cynghorwyr neu froceriaid wedi eu lleoli yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.
Faint gallech ei gael?
Mae hyn yn dibynnu ar y math o yswiriant rydych yn hawlio ar ei gyfer.
Ar gyfer yswiriant gorfodol fel yswiriant car trydydd parti, dylech gael swm llawn gwerth yr hawliad yn ôl. Mae gwahanol fathau o yswiriant lle gallwch dderbyn 100% o’ch cais wedi’i dalu i chi gan gynnwys blwydd-daliadau, sicrwydd bywyd cyfan ac yswiriant amddiffyn incwm. Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar wefan yr FSCSYn agor mewn ffenestr newydd
Ar gyfer mathau eraill o yswiriant fel yswiriant cynnwys tŷ, gall y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol dalu 90% o werth yr hawliad
Er enghraifft, os ydych wedi colli £200 uchafswm y digollediad y gallai’r cynllun dalu fyddai £180.
Nid oes terfyn ar faint gellir ei dalu allan ond dim ond 90% o unrhyw hawliad gymwys gallwch ei gael.
Cam-werthu morgais a’r cynllun
Os rhoddwyd cyngor gwael i chi am forgais ac i’r cwmni a roddodd y cyngor i chi fynd allan o fusnes, efallai y bydd y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol yn gallu talu digollediad i chi am unrhyw golled a ddioddefwyd o ganlyniad i’r cyngor drwg. Nid yw forgeisiau a benthyciadau prynu i osod yn cael eu cynnwys gan yr FSCS.
Efallai y gallech hawlio os, er enghraifft:
- i chi dderbyn cyngor i ‘hunandystio’ eich incwm a chymryd morgais drytach nag oedd ei angen arnoch.
- y gwerthwyd morgais i chi nad oedd yn addas ar eich cyfer ar y pryd oherwydd na chawsoch eich cynghori’n iawn am beth oedd ar gael.
- y gwerthwyd morgais i chi y byddech yn dal i’w dalu wedi i chi ymddeol, ac na wnaeth y cynghorydd wirio y byddech yn dal i allu gwneud y taliadau.
- i chi dderbyn cyngor i newid morgais, ond na roddwyd esboniad digonol i chi o pam ddylech newid ac i’r cyngor i newid arwain at golli arian i chi.
Faint gallech ei gael?
Dim ond ar gyfer colled ariannol all y cynllun dalu, ac mae’r uchafswm y gallwch gael yn ddibynnol ar pryd yr aeth y cwmni dan sylw i’r wal a’i ‘ddatgan yn fethdalwr’ gan y cynllun.
- Datganwyd yn fethdalwr ar neu wedi 1 Ebrill 2019 – gall y cynllun dalu uchafswm o £85,000 am bob person gymwys o’ch hawliad cam-werthu morgais yn erbyn un cwmni.
- Datganwyd yn fethdalwr rhwng 1 Ionawr 2010 a 31 Mawrth 2019 – gall y cynllun dalu uchafswm o £50,000 o’ch hawliad cam-werthu morgais yn erbyn un cwmni.
- Datganwyd yn fethdalwr cyn 1 Ionawr 2010 – gall y cynllun dalu’r £30,000 cyntaf a 90% o’r £20,000 nesaf, hyd at uchafswm o £48,000 o’ch hawliad cam-werthu morgais yn erbyn un cwmni.Er enghraifft, os ydych wedi colli £30,000 gallech gael y cyfan yn ôl, ond os ydych wedi colli £45,000 efallai dim ond £43,500 fyddech yn gallu ei gael yn ôl.
Cyngor buddsoddi neu reolaeth buddsoddiad gwael
Gallwch hawlio gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol os ydych wedi colli arian oherwydd buddsoddiad gwael neu gyngor buddsoddiad gwael am:
- cronfeydd a reolir
- stociau a chyfranddaliadau
- cynlluniau pensiwn personol
- buddsoddiadau hirdymor fel gwaddolion morgais.
Dim ond os yw’r cwmni a roddodd y cyngor i chi wedi mynd allan o fusnes y gallech wneud cais i’r cynllun.
Os nad yw hwn yn wir, dylech siarad â’r cwmni ei hun yn gyntaf.
Nid oes gennych hawl i ddigollediad dim ond am nad yw’ch buddsoddiad wedi perfformio’n dda neu os ydych yn colli arian.
Mae rhaid bod eich colled oherwydd unrhyw un o’r canlynol:
- cyngor drwg neu gamarweiniol
- rheolaeth esgeulus o fuddsoddiadau
- twyll neu gamgyflead (er enghraifft, ble dywedwyd wrthych fod y buddsoddiad yn fath penodol o fuddsoddiad a’i fod yn rhywbeth arall, ac yna i chi ddibynnu ar yr hyn a ddywedwyd wrthych wrth brynu’r buddsoddiad).
Os gwnaethoch ofyn am fuddsoddiad â risg isel iawn o golli’ch arian ac i’ch cynghorydd argymell buddsoddiad risg uchel, efallai y gallech hawlio digollediad os gwnaethoch golli arian o ganlyniad.
Ond os gwnaethoch gymryd buddsoddiad risg uchel ar bwrpas ac yna i chi golli rhywfaint o’ch arian, ni fyddai gennych hawliad.
Faint gallech ei gael?
Dim ond ar gyfer colled ariannol fydd y cynllun yn talu, ac mae’r uchafswm y gallwch gael yn ddibynnol ar pryd yr aeth y cwmni dan sylw i’r wal a’i ‘ddatgan yn fethdalwr’ gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol.
- Datganwyd yn fethdalwr ar neu wedi 1 Ebrill 2019 – gall y cynllun dalu uchafswm o £85,000 am hawliadau cam-werthu fesul person gymwys fesul cwmni.
- Datganwyd yn fethdalwr rhwng 1 Ionawr 2010 a 31 Mawrth 2019 – gall y cynllun dalu uchafswm o £50,000 am hawliadau cam-werthu yn erbyn un cwmni.
- Datganwyd yn fethdalwr cyn 1 Ionawr 2010 – gall y cynllun dalu’r £30,000 cyntaf a 90% o’r £20,000 nesaf, hyd at uchafswm o £48,000 am hawliad cam-werthu yn erbyn un cwmni. Er enghraifft, os ydych wedi colli £30,000 byddech yn cael y cyfan yn ôl, ond os ydych wedi colli £45,000 efallai dim ond £43,500 fyddech yn ei gael yn ôl.
Sut i hawlio
Cyn hawlio, bydd yn syniad da i:
- weld a oes gennych hawl i unrhyw arian gan ddiddymwyr y cwmni
- wirio fod y cwmni neu gynghorydd wedi ei awdurdodi gan yr FCA
Mae’n bwysig i ceisio hawlio’ch arian yn ôl gan y diddymwr yn gyntaf. Os nad yw hynny’n gweithio, yna gallwch hawlio gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol.
Gallwch wneud hawliad ar-lein ar eu gwefan neu argraffu’r dogfennau a’u postio yn ôl.
Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol
Gallwch hefyd hawlio digollediad os byddai’ch banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn mynd i’w wal – neu pe byddai’ch darparwr yswiriant neu bensiwn yn mynd i’r wal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os yw fy banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal?
Byddwch yn wyliadwrus o gwmnïau yn cynnig gwasanaeth rheoli hawliadau
Mae gwneud cais gyda’r Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol yn rhad ac am ddim. Ond bydd rhai cwmnïau yn cynnig help i wneud eich cais ac yn codi ffi. Gall hwn fod cymaint â chwarter eich digolledu a TAW. Er enghraifft, os ydych yn derbyn £2,000 yn ôl, fe allech chi orfod talu'r cwmni hyd at £600.