Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Siarad am arian
Teulu a gofal Siarad am arian

Cymryd rheolaeth yn ôl ar ôl cam-drin ariannol

Cael help yw'r cam cyntaf i’ch helpu gymryd rheolaeth yn ôl o'ch arian a'ch annibyniaeth. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut i weithio gyda darparwyr gwasanaethau i wahanu eich arian, parhau i wneud taliadau hanfodol ac agor cyfrifon newydd yn eich enw eich hun.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Cydnabod cam-drin ariannol
  • Agor cyfrif cyfredol neu gynilion newydd
  • Cyfrifon ar y cyd
  • Cadwch gyfrineiriau a’ch cyfrif yn ddiogel
  • Cardiau credyd ar y cyd
  • Gwirio eich cofnod credyd
  • Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol
  • Cael rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i helpu i reoli’ch arian
  • Talu’r morgais
  • Os ydych yn byw mewn llety rhent
  • Delio â dyledion
  • Os byddwch yn penderfynu ysgaru neu wahanu’n barhaol
  • A allaf gael cymorth cyfreithiol?
  • Beth i’w wneud os na all neu na fydd eich darparwr gwasanaethau ariannol yn helpu

Cydnabod cam-drin ariannol

Gall cam-drin ariannol fod ar wahanol ffurfiau a gall ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oedran mewn unrhyw fath o berthynas. Gall camdrinwyr fod yn bartneriaid, yn aelodau o'r teulu neu eraill, fel gofalwyr. Os ydych chi'n credu eich bod yn cael eich cam-drin yn ariannol gan rywun, darllenwch ein canllaw Cam-drin ariannol: sylwi ar yr arwyddion a gadael yn ddiogel.

Nol i’r brig

Agor cyfrif cyfredol neu gynilion newydd

Efallai y byddwch am agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu newydd yn eich enw dim ond i wahanu'ch arian oddi wrth eich camdriniwr.

Os oes gennych sgôr credyd isel sy'n eich atal rhag agor cyfrif newydd, efallai y gallwch gael cyfrif banc sylfaenol heb ffi.

Os ydych yn dal i fyw yn yr un cyfeiriad â'r person rydych am wahanu eich arian oddi wrtho, bydd eich banc yn gwneud popeth o fewn ei allu i'ch cefnogi i sefydlu cyfrif gyda chyfeiriad gohebu gwahanol. Mae hyn yn golygu na fydd llythyrau neu ddatganiadau yn mynd i'ch cyfeiriad cartref. Gellir anfon llythyrau at unrhyw gangen hefyd.

Cofiwch, efallai y bydd yn rhaid i rai llythyrau, fel y rhai sy'n delio â morgeisi neu delerau ac amodau cyfreithiol, fynd i'ch cyfeiriad cartref gwreiddiol o hyd. Siaradwch â'ch banc i weld beth yw'r opsiynau.

Dogfennau y bydd eu hangen arnoch i agor cyfrif banc

Pan fyddwch yn agor cyfrif newydd, mae'n help mawr os gallwch ddarparu llun adnabod (er enghraifft, pasbort neu drwydded yrru) a chyfeiriad arall, a dyna pam y dylech geisio cadw rhai o'r dogfennau pwysig os gallwch.

Dylai banciau a chymdeithasau adeiladu restru'r dogfennau sydd eu hangen arnynt ar eu gwefannau. Os na allwch gael gafael ar unrhyw un o'r rhain, siaradwch â'ch banc i weld beth y byddant yn ei dderbyn, er enghraifft llythyrau gan loches, gweithiwr cymdeithasol neu awdurdod lleol.  

Gweler ein canllaw Cam-drin ariannol: sylwi ar yr arwyddion a gadael yn ddiogel, ar ba ddogfennau y gallwch eu defnyddio i agor cyfrif banc.

Cynlluniwr Cyllideb

I’ch helpu i reoli eich arian, defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i’w ddefnyddio, rhad ac am ddim.

Nol i’r brig

Cyfrifon ar y cyd

Os ydych yn poeni bod arian yn cael ei dynnu allan o'ch cyfrif ar y cyd heb eich caniatâd, gallwch ofyn i'ch banc neu gymdeithas adeiladu weithredu ar gyfarwyddiadau gan y ddau ohonoch yn unig. Nid oes angen i'r ddau ohonoch roi caniatâd i wneud hyn.

Cofiwch y gallai deiliad arall y cyfrif hefyd ofyn am gyfyngu eich cyfrif ar y cyd. Mae hynny'n golygu na fyddech yn gallu gwirio balans y cyfrif, defnyddio'ch cerdyn talu neu dynnu arian parod allan. Fodd bynnag, byddai taliadau tuag at filiau hanfodol yn dal i ddod allan, megis cyfleustodau, neu'ch rhent neu forgais.

Unwaith y bydd unrhyw gyfyngiadau ar waith, byddai angen i'r ddau ohonoch gytuno ar eu dileu, felly meddyliwch yn ofalus ai dyma'r opsiwn cywir i chi. Efallai y byddai'n well cau'r cyfrif ar y cyd ac agor un newydd yn eich enw yn unig.

Os ydych am gau cyfrif ar y cyd, siaradwch â'ch darparwr am y ffordd orau o wneud hyn. Gellir gwneud hyn gyda chyfarwyddiadau un deiliad cyfrif yn unig.

Os caiff eich cyfrif ar y cyd ei ordynnu, bydd y ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu'r swm sy'n ddyledus.

Mae mwy o wybodaeth yn ein canllaw Trefnu cyfrifon banc ar y cyd, dyledion, cynilion a chyllid arall gyda'ch cyn bartner
Nol i’r brig

Cadwch gyfrineiriau a’ch cyfrif yn ddiogel

Chi ddylai fod yr unig un sy'n adnabod PIN eich cyfrif a chyfrineiriau.

Peidiwch â rhannu eich manylion gydag unrhyw un, nid hyd yn oed i dynnu arian parod neu brynu rhywbeth ar eich rhan.

Os oes gan rywun PIN a chyfrineiriau eich cyfrif a'u bod yn eu defnyddio i dynnu arian allan, newidiwch nhw cyn gynted ag y bo'n bosibl neu'n ddiogel i chi wneud hynny.

Os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn, defnyddiwch y rhif ar gefn eich cerdyn credyd neu ddebyd neu ewch i gangen i roi gwybod i'ch darparwr am eich sefyllfa a'ch helpu i gadw'ch manylion yn ddiogel. Bydd hyn yn atal eich camdriniwr rhag cael mynediad i'ch cyfrifon personol.

Os oes gan bobl eraill fynediad i'ch ffôn neu gyfrifiadur, efallai y gallant ddefnyddio cyfrineiriau sydd wedi'u cadw i fewngofnodi i'ch cyfrifon.

Gallwch hefyd siarad â'ch darparwr am gael cerdyn a/neu PIN newydd wedi'i ddosbarthu'n ddiogel i gyfeiriad newydd os ydych yn poeni efallai na fydd yn ddiogel yn y cyfeiriad rydych yn byw ynddo.

Edrychwch ar ein blog Sut i ddewis cyfrinair diogel a’i gadw’n ddiogel
Nol i’r brig

Cardiau credyd ar y cyd

Os oes gennych gerdyn credyd ar y cyd, bydd un ohonoch fel arfer wedi gwneud cais amdano mewn un enw yn unig a byddwch yn brif ddeiliad y cerdyn.

Dim ond y prif ddeiliad cerdyn sy'n gyfrifol am wneud taliadau ar y cerdyn – hyd yn oed os yw'r person arall yn gwario arno neu os oes ganddo gerdyn ychwanegol fel deiliad y cerdyn eilaidd.

Os oes balans sy'n weddill ar y cerdyn, ni fydd yn rhaid i ddeiliad y cerdyn eilaidd dalu unrhyw beth yn ôl yn gyfreithiol. Os nad ydych yn siŵr pwy yw prif ddeiliad y cerdyn, bydd eich cwmni cerdyn credyd yn gallu dweud wrthych.

Os mai chi yw'r prif ddeiliad cerdyn, gallech dynnu'r person arall o'ch cyfrif i'w atal rhag gwario mwy o arian.

Os oes gan eich camdriniwr y cerdyn sylfaenol sydd yn eich enw, rhowch wybod am y cerdyn a gollwyd neu a gafodd ei ddwyn fel y gall eich darparwr ei ganslo ac anfon un newydd atoch.

Nid oes angen i'r person arall ddychwelyd y cerdyn credyd – ni fydd yn gweithio mwyach.

Nol i’r brig

Gwirio eich cofnod credyd

Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio gorddrafft neu'n cymryd credyd arall (fel cerdyn credyd, contract ffôn symudol, cyfrif catalog, benthyciad neu forgais), cofnodir hyn ar eich adroddiad credyd.

Gellir effeithio ar statws credyd os byddwch, er enghraifft, yn colli unrhyw ad-daliadau, yn mynd dros eich terfynau credyd, neu'n cymryd credyd newydd.

Gallai eich statws credyd personol newid oherwydd cam-drin ariannol, yn enwedig os yw'ch camdriniwr wedi cymryd credyd yn eich enw neu os ydych wedi cael cyfrif, benthyciad neu forgais ar y cyd – oherwydd bydd eich adroddiadau credyd yn gysylltiedig.

Gallwch wirio sut rydych wedi'ch cysylltu'n ariannol â rhywun drwy gael mynediad i'ch adroddiad credyd ar-lein am ddim. Darllenwch ein canllaw ar sut i wirio a gwella eich adroddiad credyd.

Mae'n ddefnyddiol gwybod beth yw eich sgôr oherwydd gallai statws credyd isel effeithio ar eich gallu i wneud cais am gredyd, gan gynnwys morgeisi, ac i gael mynediad at wasanaethau eraill fel contractau ffôn symudol yn eich enw eich hun.

Gallwch hefyd ddefnyddio'ch adroddiad credyd i'ch helpu i olrhain unrhyw ddyledion sydd ynghlwm wrth eich enw.

Os oes dyledion ar gyllid ar y cyd, cysylltwch â'ch credydwyr i roi gwybod iddynt am eich sefyllfa a cheisio cau unrhyw gyfrifon. Cofiwch, byddwch yn dal i fod yn atebol i dalu unrhyw symiau sy'n ddyledus, ond dylai'r symudiad hwn atal y dyledion rhag cynyddu.

Gallwch ofyn i'ch adroddiadau credyd gael eu diwygio unwaith y bydd pob cymdeithas ar y cyd ar gau. I wneud hyn, cysylltwch â'r tair prif asiantaeth gyfeirio credyd (Equifax, Experian a TransUnion) a chyflwyno'r ffurflen a ddarperir ganddynt.

Mae mwy o wybodaeth am gam-drin ariannol a'ch adroddiad credyd ar wefan Surviving Economic AbuseYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch sut i wirio a gwella eich sgôr credyd yn ein canllaw Sut i wella'ch sgôr credyd

Os credwch y gallai eich camdriniwr ddefnyddio'ch manylion eto yn y dyfodol, gallwch ofyn i asiantaethau cyfeirio credyd ychwanegu NOC cyfrinair (hysbysiad o gywiriad) i'ch cyfrif. Pan fydd hyn ar waith, bydd angen i chi ddefnyddio'r cyfrinair a ddewiswyd gennych pan fyddwch yn gwneud unrhyw geisiadau credyd newydd.

Y prif asiantaethau cyfeirio credyd yn y DU yw Experian, Equifax a TransUnion, cysylltwch â nhw i ychwanegu NOC cyfrinair at eich cyfrif. Gallwch hefyd gofrestru gyda Cifas, cymuned atal twyll y DU. Maent yn cynnig gwasanaeth Cofrestru Amddiffynnol a byddant yn cysylltu â chi i wirio unrhyw geisiadau cyfrif yn eich enw Mae'r gwasanaeth yn costio £30 am ddwy flynedd o ddiogelwch.

Byddwch yn ymwybodol, os ydych wedi cofrestru gyda Cifas, y gall arafu ceisiadau am gredyd, gan y bydd angen iddynt wirio'r cais â llaw, ond gallant fod yn werth chweil os ydych yn poeni y gallai eich camdriniwr geisio dwyn eich hunaniaeth.

Darganfyddwch fwy ar wefan Cifas am wneud cais am gofrestriad amddiffynnolYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol

Os ydych yn poeni am eich partner yn rheoli eich holl incwm budd-daliadau – a'ch gadael chi (a'ch plant os oes gennych chi) heb ddigon o arian i fyw arno – gallwch siarad â'ch anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith.

Maent wedi'u hyfforddi i adnabod arwyddion camdriniaeth a gallant eich cyfeirio at ble y gallwch ddod o hyd i gymorth lleol.

Os ydych yn dal i fod gyda'ch gilydd fel cwpl, ac mae'n ddiogel gwneud hynny, gallwch ofyn i'ch taliad Credyd Cynhwysol gael ei dalu i'ch cyfrif eich hun yn lle hynny.

Os nad yw hynny'n opsiwn, gallai eich anogwr gwaith rannu'ch taliad Credyd Cynhwysol ar y cyd rhwng dau gyfrif. Fel hynny, byddwch yn cael arian i chi'ch hun (ac unrhyw blant) a bydd eich partner yn cael taliad ar wahân.

Os ydych chi neu'ch partner wedi gadael cartref y teulu, rhowch wybod am hyn fel newid mewn amgylchiadau a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ailasesu eich cais fel un person.

Cofiwch, gallwch ofyn am help gan eich anogwr gwaith ar unrhyw adeg ac efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu cynnig cymorth ychwanegol, megis gyda chostau tai os oes angen i chi adael eich cartref.

Back to top

Cael rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i helpu i reoli’ch arian

Os yw'n ddiogel gwneud hynny a bod angen cymorth ychwanegol arnoch, gallech roi mynediad i'ch arian i berson y gellir ymddiried ynddo. Gall hyn fod o gymorth os:

  • nid ydych bob amser yn gallu mynd i gangen
  • os oes eu hangen arnoch i alw neu siarad â rhywun yn eich banc neu gymdeithas adeiladu, neu
  • dydych chi ddim yn teimlo'n hyderus i'w wneud ar eich pen eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i reoli arian bob dydd
Nol i’r brig

Talu’r morgais

Os oes gennych forgais ar y cyd â rhywun arall, bydd y ddau ohonoch yn dal i fod yr un mor gyfrifol am yr ad-daliadau morgais. Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu cadw'ch ad-daliadau i fyny, cysylltwch â'ch benthyciwr i siarad am eich opsiynau.

Os oes angen i chi wneud hynny, gallwch ofyn i'ch benthyciwr morgais anfon datganiadau gyda'r balans a'r wybodaeth am daliadau i gyfeiriad arall.

Os ydych yn gofyn am newidiadau i'ch morgais, siaradwch â'ch benthyciwr i weld beth y gallant ei wneud i'ch cefnogi. Os yw'ch morgais yn eich enwau ar y cyd, bydd angen i'r ddau ohonoch gytuno i unrhyw newidiadau. Bydd angen i'ch cwmni morgais wirio a yw'r newidiadau'n fforddiadwy a bodloni gofynion cyfreithiol eraill cyn cytuno iddynt.

Nol i’r brig

Os ydych yn byw mewn llety rhent

Yn Lloegr, mae gan gynghorau'r pŵer i derfynu unrhyw gytundeb tenantiaeth tai cymdeithasol yn enw eich camdriniwr, gan gynnwys tynnu eu henw oddi ar gytundeb tenantiaeth ar y cyd.

Mae cymorth gan awdurdodau lleol ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig yn wahanol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol neu gymdeithas dai i weld pa gymorth y gallant ei gynnig.

Mae'n anodd i'ch landlord droi eich camdriniwr allan pan fyddwch yn byw mewn tai rhent preifat. Os oes angen i chi adael eich cartref oherwydd cam-drin domestig, mae gan Shelter dudalen gyngor ar beth yw eich opsiynau Yn agor mewn ffenestr newydd Defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod a allwch hawlio unrhyw gymorth ariannol ychwanegol am gostau eich cartref os ydych nawr yn talu amdanynt ar eich pen eich hun. 

Eich hawl i aros yng nghartref y teulu

Os ydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner, i gael gwybod mwy am eich hawliau i aros yn y cartref teuluol, darllenwch ein canllaw Eich hawliau i'ch cartref rhent yn ystod ysgariad neu ddiddymiad

Nol i’r brig

Delio â dyledion

Pan fydd camdrinwyr yn cymryd benthyciadau, gorddrafftiau neu gardiau credyd yn eich enw, neu'n defnyddio'ch eiddo i gael sicrwydd am fenthyciad heb eich gwybodaeth – mae hyn yn dwyll ac yn drosedd. Os yw'ch camdriniwr wedi rhoi pwysau arnoch i fenthyca arian, gelwir hyn yn ddyled wedi'i gorfodi. 

Yn anffodus, rydych fel arfer yn atebol am unrhyw ddyledion ar y cyd a gall bod mewn dyled beri pryder i unrhyw un, yn enwedig os yw'r ddyled wedi'i hachosi gan bartner sy'n cam-drin.

Os yw hyn wedi digwydd, siaradwch â'ch credydwr (y bobl y mae arnoch arian iddynt). Bydd benthycwyr sydd wedi ymrwymo i God Ymarfer Cam-drin Ariannol Cyllid y DU yn gweithio gyda chi i ddeall eich amgylchiadau personol a thrafod pa gymorth y gallant ei ddarparu, gan gynnwys beth i'w wneud i atal dyledion pellach rhag cronni.

Gall Surviving Economic Abuse roi cyngor ymarferolYn agor mewn ffenestr newydd i'ch helpu i benderfynu ar y ffordd orau o ddechrau adennill rheolaeth dros eich cyllid.

Mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor cyn gynted â phosibl fel nad yw eich sefyllfa'n gwaethygu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn delio ag unrhyw ddyledion blaenoriaeth yn gyntaf. Er enghraifft, treth y cyngor, nwy neu drydan, morgais, rhent, Trwydded Deledu, ôl-ddyledion cynhaliaeth plant neu dreth incwm.

Efallai eich bod yn teimlo nad oes unrhyw ffordd o ddianc o'r sefyllfa anodd hon ond os na allwch ei wynebu ar eich pen eich hun, mae yna opsiynau y gall cynghorydd dyledion siarad â chi.

Dylai fod gan wasanaethau cyngor ar ddyledion bolisi diogelu y disgwylir i bob cynghorydd ei ddilyn. Os byddwch yn datgelu cam-drin domestig i'ch cynghorydd, byddant yn eich cyfeirio at unrhyw gymorth pellach y gallai fod ei angen arnoch.

Mae llawer o wasanaethau cynghori am ddim ledled y DU lle gallwch ddod o hyd i'r help gorau i chi, ar-lein, dros y ffôn neu'n agos at eich cartref.

Ydych chi wedi methu taliad?

Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.

Nol i’r brig

Os byddwch yn penderfynu ysgaru neu wahanu’n barhaol

Mae ein hadran ysgariad a gwahanu yn cynnig arweiniad pan ddaw'n fater o reoli eich cyllid yn ystod cyfnod o chwalu perthynas.

Nid oes ots beth yw eich sefyllfa. Efallai eich bod yn ysgaru neu'n gwahanu; cael plant ai peidio; bod yn berchen ar eich cartref neu'n rhentu; neu'n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Mae gennym ganllawiau a fydd yn ymdrin â'ch sefyllfa benodol.

Am fwy o wybodaeth gweler ein hadran ar Ysgariad a gwahanu
Nol i’r brig

A allaf gael cymorth cyfreithiol?

Efallai y gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim o dan y cynllun Cymorth Cyfreithiol i helpu i dalu costau cymryd camau i'ch amddiffyn os ydych wedi dioddef cam-drin domestig yn ddiweddar.

Gall hyn gynnwys cymorth cyfreithiol i ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil. I brofi eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd angen copïau o rai dogfennau pwysig arnoch. Gweler y rhestr yn ein canllaw Cam-drin ariannol: sylwi ar yr arwyddion a gadael yn ddiogel.

Darganfyddwch fwy am Gymorth Cyfreithiol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Chwiliwch am gyfreithiwr sy'n cymryd achosion cymorth cyfreithiol yng Nghymdeithas y GyfraithYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i dalu ffioedd cyfreithiol ar ysgariad neu ddiddymiad
Nol i’r brig

Beth i’w wneud os na all neu na fydd eich darparwr gwasanaethau ariannol yn helpu

Os ydych yn anfodlon â'r gwasanaeth a ddarperir gan eich banc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd, gallwch wneud cwyn yn uniongyrchol iddynt, ac os nad ydynt yn datrys eich mater gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn ein canllaw Hawlio iawndal os ydych wedi dioddef cam-werthu
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Siarad am arian

Deall cam-drin ariannol

  • Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
  • Cymryd rheolaeth yn ôl ar ôl cam-drin ariannol

Deall cam-drin ariannol

  • Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
  • Cymryd rheolaeth yn ôl ar ôl cam-drin ariannol
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau