Cymharu ffioedd a chostau cyfrifon banc
Gallwn eich helpu i gymharu cyfrifon cyfredol yn seiliedig ar y ffioedd a'r taliadau y byddech yn eu talu am wasanaethau a nodweddion ar bob cyfrif.
Mae cyfrifon talu yn eich caniatáu i adneuo incwm, codi arian parod, a gwneud taliadau am bethau megis biliau a rhent. Mae hyn yn cynnwys cyfrifon cyfredol safonol, cyfrifon banc sylfaenol di-dâl a rhai cyfrifon e-arian. Nid ydynt yn cynnwys cyfrifon cynilo na cherdyn credyd.
Rydym wedi casglu gwybodaeth am daliadau a ffioedd cyfrifon banc o fwyafrif y farchnad. Byddwn yn ychwanegu mwy ond byddwch yn ymwybodol nid yw’r teclyn hwn yn cynnwys pob cyfrif a allai fod ar gael.
Os bydd unrhyw ran o’r wybodaeth yn ymddangos yn anghywir neu os oes yna gyfrif y byddech yn disgwyl ei weld yma ond sydd ar goll gadewch i ni wybod.
Sylwer: bydd trefn eich canlyniadau yn cael eu cyflwyno ar hap ac felly ni ddylid ei hystyried fel argymhelliad – bydd y cyfrif mwyaf addas yn dibynnu ar eich anghenion.
Yn edrych am gyfrif penodol? Pwyswch fysell “Ctrl” a’r fysell “F” ar yr un pryd (neu “Cmd” a bysell “F” ar Mac) i ddechrau chwilio’r dudalen.