Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Adeiladu eich cronfa bensiwn
Pensiynau ac ymddeoliad Adeiladu eich cronfa bensiwn

Trosglwyddo eich pensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio

Gelwir symud eich pensiwn yn ‘drosglwyddo’. Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio lle rydych wedi cronni pot o arian, fel rheol gallwch drosglwyddo hwn i ddarparwr pensiwn arall. Gallai hyn fod yn bensiwn gweithle cyflogwr newydd neu'n bensiwn personol rydych wedi'i sefydlu'ch hun fel pensiwn personol hunan-fuddsoddedig (SIPP).

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pryd gallaf drosglwyddo fy ngronfa pensiwn?
  • A yw trosglwyddo fy mhensiwn yn syniad da?
  • Cwestiynau i’w gofyn cyn i chi drosglwyddo
  • A oes angen cyngor ariannol arnoch?
  • Sut i symud eich pensiwn
  • Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau pensiwn

Pryd gallaf drosglwyddo fy ngronfa pensiwn?

Fel rheol, gallwch symud pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio ar unrhyw adeg hyd at flwyddyn cyn i chi ddechrau cymryd arian ohono. Gallwch wirio â'ch darparwr os oes unrhyw gyfyngiadau ar eich achos penodol.

Mewn llawer o achosion, gallwch hefyd drosglwyddo hyd yn oed ar ôl i chi ddechrau cymryd arian o'r pensiwn. Ond mewn rhai achosion efallai na fydd y cynllun yn caniatáu hyn. Mae'n syniad da gwirio hyn cyn i chi ddechrau cymryd arian os ydych yn credu eich bod eisiau trosglwyddo nes ymlaen.

Os ydych yn ystyried symud pensiwn buddion wedi’u diffinio, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Trosglwyddo’ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
Nol i’r brig

A yw trosglwyddo fy mhensiwn yn syniad da?

Mae'n gwestiwn pwysig ac mae'n bwysig gwirio a ydych yn debygol o fod yn well neu'n waeth eich byd ar ôl trosglwyddo.

Bydd p'un a yw trosglwyddiad yn addas yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch amcanion unigol. Ni all y wybodaeth hon gwmpasu popeth y bydd angen i chi ystyried, ond gall eich helpu i ddechrau.

Nol i’r brig

Cwestiynau i’w gofyn cyn i chi drosglwyddo

A fydd y pensiwn newydd yn ddrytach na’r pensiwn sydd gennyf eisoes?

Cyn symud eich pensiwn o un lle i'r llall dylech bob amser geisio deall beth yw'r costau ar gyfer pob un. Nid yw pob pensiwn yn codi'r un peth felly bydd angen i chi wirio'r hyn y gallai fod rhaid i chi godi amdano yn y pensiwn rydych yn ystyried ei symud. Dyma rai o'r prif daliadau i wirio amdanynt:

  • unrhyw ffioedd sefydlu cychwynnol
  • taliadau rheoli blynyddol am y buddsoddiadau y gallech eu dewis
  • taliadau gwasanaeth/gweinyddiaeth, a elwir weithiau'n ffioedd ‘platfform’
  • taliadau am drafodion penodol fel tynnu arian o'ch pensiwn
  • ffioedd masnachu a godir am brynu a gwerthu rhai buddsoddiadau.

A yw’n syniad da dod â’m holl gronfeydd pensiwn at ei gilydd?

Nid oes ateb cywir nac anghywir i’r cwestiwn hwn – mae’n dibynnu pam eich bod am wneud hyn.

Mae’n well gan rai pobl gael eu holl gronfeydd pensiwn mewn un lle fel ei fod yn haws cadw golwg arnynt. 

Serch hynny, mae’r costau’n bwysig iawn. Meddyliwch yn ofalus am drosglwyddo allan o gynllun sydd â ffioedd isel i gynllun sy’n codi ffioedd uwch dim ond er mwyn cadw pethau’n syml.

Wedi dweud hynny, os ydych yn nesau at eich ymddeoliad ac nid yw eich cynllun presennol yn cynnig yr opsiwn incwm ymddeol o’ch dewis, yna byddai cyfuno eich cronfeydd pensiwn i un cynllun hyblyg yn syniad da.

Os oes gennych gronfeydd pensiwn bach sy'n werth llai na £10,000, efallai y byddai'n well eu cadw lle y maent. Mae hyn oherwydd gallwch ddewis cymryd y pensiwn fel cyfandaliad cronfa bach, sydd ddim yn effeithio ar unrhyw gyfraniadau pensiwn yn y dyfodol.

Fel arfer gallwch wneud hyn hyd at deirgwaith gyda phensiynau personol ac am nifer diderfyn o bensiynau gweithle/galwedigaethol.

Os byddwch yn cymryd fwy na'ch arian parod di-dreth o'ch pensiwn trwy incwm ymddeol hyblyg neu fel cyfandaliad, dim ond hyd at £10,000 y flwyddyn y gallwch dderbyn rhyddhad treth ar gyfraniadau i'ch cronfeydd pensiwn yn lle'r lwfans blynyddol arferol o £60,000. Gelwir hyn yn lwfans blynyddol prynu arian (MPAA).

Felly, os ydych am allu tynnu rhywfaint o arian allan ond hefyd barhau i gynilo, efallai y byddai'n well cadw pensiynau llai lle y maent gan nad yw cymryd y gronfa gyfan fel 'lwmp swm cronfa fach' yn cychwyn yr MPAA.

Os ydych wedi cronni llawer o werth mewn pensiynau neu'n meddwl y byddwch, efallai yr hoffech gadw pensiynau llai lle y maent. Mae hyn oherwydd gellir tynnu allan cronfeydd bach (llai na £10,000) o dan reolau 'cyfandaliad fach' heb ddefnyddio'ch lwfans cyfandaliad o £268,275.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Lwfansau cyfandaliad pensiwn di-dreth
  • Y lwfans blynyddol prynu arian (MPAA) ar gyfer cynilion pensiwn

A fyddaf yn colli unrhyw fuddion pensiwn?

Efallai y bydd eich darparwr pensiwn presennol yn cynnig buddion a nodweddion y byddwch yn eu colli os byddwch yn trosglwyddo i ddarparwr newydd. Er enghraifft, efallai y byddech yn colli:

  • buddion ychwanegol yn dilyn marwolaeth
  • cyfandaliad di-dreth uwch
  • cyfradd incwm gwarantedig uwch na'r farchnad agored – a elwir yn opsiwn cyfradd blwydd-dal gwarantedig.

Efallai y bydd angen i chi aros yn hirach hefyd i gael mynediad at eich pensiwn os yw eich cynllun presennol:

  • ag isafswm oedran pensiwn arferol gwarchodedig (NMPA) o dan 55 oed
  • yn dal i adael i chi gael mynediad at eich pensiwn o 55 oed ar ôl Ebrill 2028, pan fydd yr NMPA yn cynyddu i 57 oed.

Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn bob amser pa fuddion y byddech yn eu colli cyn penderfynu trosglwyddo’ch pensiwn.

Gallwch gysylltu â ni i gael arweiniad am ddim ar bensiynau. Gall ein harbenigwyr hyfforddedig  eich helpu i benderfynu beth sy’n iawn ar eich cyfer.

Os yw gwerth eich buddion presennol yn fwy na £30,000, efallai y bydd yn rhaid i chi gael cyngor ariannol rheoledig cyn y gallwch symud eich pensiwn i gynllun arall.

A oes unrhyw gostau os byddaf yn symud fy mhensiwn?

Efallai y bydd rhai cynlluniau yn codi ffi, gan gynnwys tâl ymadael,  pan fyddwch yn trosglwyddo allan. Dylech hefyd gymryd i ystyriaeth unrhyw ffioedd sefydlu a ffioedd parhaus ar y cynllun pensiwn newydd rydych yn bwriadu trosglwyddo iddo.

Os yw'ch cynllun yn cynnwys tâl ymadael yn gynnar, ni all y tâl fod yn fwy nag 1% os gofynnwch am drosglwyddo i ffwrdd ar ôl 55 oed ond cyn eich oedran ymddeol arferol o dan y cynllun.

Os gwnaethoch ymuno â phensiwn personol newydd (gan gynnwys pensiwn personol gweithle) ar ôl 31 Mawrth 2017 neu bensiwn gweithle yn seiliedig ar ymddiriedolaeth ar ôl 1 Hydref 2017, ni chaniateir i'r cynllun godi tâl arnoch am symud eich pensiwn os ydych dros oed o 55.

Mae'n bwysig gwirio â'ch darparwr cyfredol pa daliadau y gallech eu talu cyn trosglwyddo'ch pensiwn.

Pa ddewisiadau buddsoddi sydd ar gael os symudaf fy mhensiwn?

Mae pensiynau'n cynnig llawer o wahanol opsiynau buddsoddi. Mae rhai yn cynnig nifer fach o opsiynau buddsoddi, tra bod eraill yn cynnig nifer fawr. A bydd rhai yn cynnig opsiynau buddsoddi mwy arbenigol, fel yr opsiwn i fuddsoddi'n uniongyrchol mewn cyfranddaliadau neu eiddo.

Meddyliwch a oes angen mwy o ddewis buddsoddi arnoch neu a ydych yn chwilio am rywfaint o gefnogaeth gyda dewis buddsoddiadau.

Gall cael llawer o ddewis buddsoddi fod yn wych, ond gall hefyd wneud y cynnyrch yn ddrytach ac yn fwy anodd i wneud y dewisiadau hynny.

Os ydych mewn pensiwn gweithle neu bensiwn rhanddeiliaid, bydd rhaid i hyn gynnig un neu nifer o gronfeydd buddsoddiadau y bydd eich arian yn cael eu buddsoddi ynddynt os nad ydych yn gyffyrddus yn gwneud dewis i chi'ch hun.

Os ydych am sefydlu pensiwn newydd, gallwch wirio a ydynt yn cynnig unrhyw opsiynau neu gefnogaeth barod i leihau'ch dewisiadau.

Nol i’r brig

A oes angen cyngor ariannol arnoch?

Peidiwch ag anghofio

Pan fyddwch wedi trosglwyddo'ch pensiwn, ni allwch newid eich meddwl fel rheol, heblaw am o bosib trosglwyddo eto. Felly mae'n bwysig gwneud y penderfyniad iawn.

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn gallu symud eich pensiwn i gynllun pensiwn arall heb fod angen i chi gael cyngor.

Ond gall rhai o'r penderfyniadau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud fod yn gymhleth a byddem yn argymell eich bod yn ystyried cael cyngor rheoledig.

Os oes gennych yr hyn a elwir yn ‘fuddion diogel’, yn enwedig os oes gennych gyfradd blwydd-dal gwarantedig a bod gwerth y buddion hyn yn fwy na £30,000, bydd rhaid i chi gael cyngor ariannol rheoledig cyn y gallwch drosglwyddo.

Mae'r rheol hon i'ch ddiogelu i sicrhau bod rhoi'r gorau i'r buddion hyn er eich budd gorau. Mae hyn oherwydd y byddent yn cael eu colli pe byddech yn symud eich pensiwn.

Bydd ymgynghorydd yn adolygu buddion ac anfanteision trosglwyddo, yn seiliedig ar eich amgylchiadau a'ch cynlluniau ariannol cyffredinol. Byddant yn gwneud argymhelliad ynghylch yr hyn y maent yn ei ystyried er eich budd gorau.

Os ydynt yn argymell trosglwyddo'ch pensiwn, byddant yn ystyried yr opsiynau i chi drosglwyddo iddynt, gan gynnwys adolygu unrhyw bensiynau gweithle sydd gennych eisoes.

Gallent argymell trosglwyddo i bensiwn sy'n bodoli eisoes os yw hyn yn diwallu'ch anghenion neu'n argymell cynnyrch newydd.

Os cewch gyngor ariannol rheoledig, bydd yr ymgynghorydd ariannol yn cymryd cyfrifoldeb am y cyngor. Felly os dilynwch yr argymhelliad a wnânt a bod hyn yn anghywir i chi, efallai y gallwch gwyno a chael iawndal.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol

Dod o hyd i ymgynghorydd ymddeoliad

Am help i ddod o hyd i ymgynghorydd ymddeoliad, chwiliwch yn ein cyfeirlyfr ar ein tudalen Dod o hyd i ymgynghorydd ymddeoliad

Gofynnwch i'ch hun a oes gennych chi ddigon o wybodaeth a phrofiad o fuddsoddi i wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio ar faint o incwm sydd gennych ar ôl ymddeol, heb yr angen am gynghorydd.

Nol i’r brig

Sut i symud eich pensiwn

Y cam cyntaf yw darganfod eich gwerth trosglwyddo, sef y swm sydd gennych yn eich gronfa bensiwn.

Gallwch gael hyn trwy ofyn i weinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn.

Yna bydd gweinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn yn darparu:

  • dogfen sy'n nodi'ch gwerth trosglwyddiad
  • manylion unrhyw fuddion ychwanegol rydych wedi'u cronni o dan y cynllun
  • unrhyw daliadau ymadael a allai fod yn berthnasol
  • gwybodaeth y bydd ei hangen ar eich cynllun newydd os penderfynwch fwrw ymlaen â'r trosglwyddiad.

Efallai y bydd ffurflenni ychwanegol hefyd wedi'u cynnwys i ddechrau'r broses drosglwyddo.

Byddwch yn ymwybodol bod y gwerth trosglwyddo fel arfer yn newid gan y bydd gwerth y buddsoddiadau a ddelir yn eich pensiwn yn newid yn rheolaidd.

I ddechrau'r broses drosglwyddo, bydd angen i chi wneud cais i'r cynllun pensiwn rydych am drosglwyddo iddo. Mae gan rai darparwyr broses drosglwyddo ar-lein, ond efallai y bydd eraill angen i chi lenwi a dychwelyd ffurflen gais o hyd.

Pan fyddwch wedi cyflwyno'r cais i'r darparwr, byddant fel arfer yn cysylltu â'ch darparwr pensiwn neu weinyddwr cynllun presennol i drefnu'r trosglwyddiad.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd eich darparwr neu weinyddwr cynllun presennol angen i chi anfon ffurflenni atynt hefyd. Felly gall helpu i wirio â hwy yr hyn y gallai fod ei angen arnynt cyn i chi ddechrau'r trosglwyddiad. Bydd hyn yn helpu i osgoi oedi diangen.

Os penderfynwch drosglwyddo i gynllun pensiwn newydd, bydd rhaid i weinyddwr eich cynllun neu'ch darparwr pensiwn symud eich pensiwn i'r cynllun newydd cyn pen chwe mis o ddechrau'r broses drosglwyddo, gan dybio bod yr holl gamau angenrheidiol wedi'u cymryd a bod y ddogfennaeth mewn lle.

Pan fyddwch wedi trosglwyddo i gynllun pensiwn newydd, fel arfer byddwch wedi ildio popeth o dan yr hen gynllun. Bydd rhai cynlluniau yn caniatáu i chi drosglwyddo dim ond rhan o'ch pensiwn. Bydd angen i chi wirio gyda'ch darparwr i weld a ydynt yn cynnig yr opsiwn hwn.

Os cewch gyngor ariannol, bydd eich ymgynghorydd fel arfer yn gofalu am hyn i gyd i chi. Er y gallai fod rhaid i chi lenwi rhai ffurflenni o hyd.

Nol i’r brig

Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau pensiwn

Efallai y bydd eich pensiwn yn un o'ch asedau mwyaf gwerthfawr. Ac i lawer mae'n cynnig sicrwydd ariannol trwy gydol eich ymddeoliad ac am weddill eich oes.

Ond, fel unrhyw beth gwerthfawr, gall eich pensiwn ddod yn darged ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, sgamiau neu fuddsoddiadau amhriodol a risg uchel.

Gall sgamiau pensiwn fod ar sawl ffurf ac fel rheol mae'n ymddangos bod y mwyafrif yn gyfle buddsoddi dilys. Ond mae sgamwyr pensiwn yn glyfar ac yn gwybod yr holl driciau i'ch cael i drosglwyddo'ch cynilion.

Maent yn targedu unrhyw un, gan bwyso arnoch i drosglwyddo'ch cynilion pensiwn, yn aml i un buddsoddiad.

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi'n annisgwyl ac yn dweud y gallant eich helpu i gael mynediad i'ch pot cyn 55 oed, mae'n debygol o fod yn sgam pensiwn.

Gallech golli'ch holl arian ac wynebu tâl treth o hyd at 55% o'r swm a gymerwyd neu a drosglwyddwyd, ynghyd â thaliadau pellach gan eich darparwr.

Efallai y bydd y buddsoddiadau dramor, lle nad oes gennych unrhyw ddiogelwch i ddefnyddwyr. Ac efallai y byddant yn addo cyfradd enillion warantedig uchel i chi (7-8% neu'n uwch yn nodweddiadol).

Mae'r rhain yn aml yn fuddsoddiadau ffug mewn cynhyrchion moethus, eiddo, datblygiadau gwestai, datrysiadau amgylcheddol neu storio a pharcio, nad ydynt yn aml yn bodoli neu sydd â risg uchel iawn gydag enillion isel.

Cofiwch, pan fyddwch wedi trosglwyddo'ch pensiwn i sgam, mae'n aml yn rhy hwyr. Efallai y byddwch hefyd yn wynebu tâl treth gan CThEF.

Mae'r llywodraeth bellach wedi gwahardd galw diwahoddiad am bensiynau. Mae'n bwysig anwybyddu unrhyw un sy'n dod atoch yn ddirybudd ynghylch eich hawliau pensiwn neu faterion pensiwn. Mae'n fwyaf tebygol o fod yn sgam.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i adnabod twyll pensiwn 

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Ffoniwch ni am ddim ar 0800 756 1012 neu defnyddiwch ein gwe-sgwrsYn agor mewn ffenestr newydd. Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau.

 

Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, p’un ai yw hynny ar-lein neu dros y ffôn.

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Adeiladu eich cronfa bensiwn

Trosglwyddo ac uno pensiynau

  • Trosglwyddo pensiwn ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
  • Symud eich pensiwn o’r DU dramor
  • Trosglwyddiadau pensiwn y DU
  • Beth i'w wneud os caiff eich trosglwyddiad pensiwn ei atal neu ei oedi
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Trosglwyddo ac uno pensiynau

  • Trosglwyddo pensiwn ar gyfer pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Trosglwyddo'ch pensiwn buddion wedi'u diffinio
  • Symud eich pensiwn o’r DU dramor
  • Trosglwyddiadau pensiwn y DU
  • Beth i'w wneud os caiff eich trosglwyddiad pensiwn ei atal neu ei oedi
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau