Mae plant yn dechrau datblygu agweddau am arian mor gynnar â phum mlwydd oed. Gyda’ch help chi, gall y rhain fod yn gadarnhaol ac yn iach.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut mae siarad am arian yn helpu?
- Beth mae plant pump a chwech oed yn ei ddeall am arian
- Cadw arian yn ddiogel
- Annog nhw i gynilo
- Rhoi cyfleoedd iddynt gynilo
- Mae plant yn dysgu trwy wylio a gwrando
- Datblygu grym ewyllys a dysgu aros
- Mwy o weithgareddau rheoli arian
- Darganfyddwch beth fydd eich plentyn yn ei ddysgu yn yr ysgol
Sut mae siarad am arian yn helpu?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae ein hymchwil yn dangos mai dim ond pedwar o bob deg plentyn a ddysgodd am arian yn yr ysgol.
Siarad am arian yw’r cam cyntaf wrth adeiladu sgiliau ariannol a hyder plant.
Mae ein hymchwil yn dangos bod oedolion sy’n gwneud yn well gydag arian:
- wedi cael sgyrsiau am arian pan yn blant
- wedi cael arian yn rheolaidd, fel arian poced neu daliad am wneud tasgau
- wedi cael cyfrifoldeb am wario a chynilo o oedran cynnar.
Beth mae plant pump a chwech oed yn ei ddeall am arian
Erbyn tua phump a chwech oed, mae plant yn dechrau deall a chwestiynu pethau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag arian.
Byddant yn gallu deall:
- bod gan wahanol ddarnau arian werthoedd gwahanol
- bod ceiniogau yn arwain at bunnoedd
- bod angen cadw arian yn ddiogel, fel nad ydynt yn ei golli na eraill ddim yn ei gymryd
- bod colli arian yn gallu peri gofid
- bod cynilo arian yn eu helpu i brynu eitemau maent eu heisiau
- na ellir gweld arian weithiau, fel arian yn y banc
- gallant wneud pethau i ‘ennill’ arian, fel bod yn dda neu helpu o amgylch y tŷ
- mae gwahaniaeth rhwng 'anghenion' a 'bod eisiau'.
Mae nawr yn amser da i wneud y gorau o’u gwell dealltwriaeth o arian.
Cadw arian yn ddiogel
Mae rhoi cadw mi gei neu fanc piggy i blentyn yn rhoi lle diogel iddynt gadw, a chynilo, eu harian.
Mae'n syniad da sicrhau bod gan blant le diogel i gadw arian. Ac i siarad am pam ei bod yn bwysig cadw arian yn ddiogel a sut rydych yn ei wneud.
Annog nhw i gynilo
Mae llawer o blant pump a chwech oed yn dechrau deall bod yn rhaid i chi gynilo arian weithiau ar gyfer y pethau rydych chi eu heisiau.
Efallai y byddant yn dal i deimlo’n rhwystredig am aros am yr hyn maent ei eisiau. Ond mae dysgu cynilo arian nawr yn eu helpu i ddysgu bod yn amyneddgar.
Rhowch gynnig ar y gweithgaredd cynilo hwn:
- Dewis – gofynnwch iddynt a oes rhywbeth yr hoffent gynilo amdano y gall y teulu cyfan ei fwynhau (gêm neu fynd i’r sinema efallai).
- Gweld y nod – gofynnwch iddynt dynnu llun o beth sy’n cael ei gynilo ar ei gyfer. Dyma’r nod a bydd yn helpu i’w cymell a’u cadw ar y trywydd iawn.
- Datrys problem – gyda’ch gilydd, dod i fyny gyda syniadau i arbed arian. Er enghraifft, diffodd goleuadau neu brynu llai o eitemau.
- Gweld arbedion – gofynnwch iddynt lunio’r syniadau arbed hyn o amgylch eu llun blaenorol o’r nod.
- Gweithredu – gadewch i’ch plentyn edrych ar ôl y cynilion yn eu cadw mi gei neu fanc piggy eu hunan. Os yw’r nod yn ddrud, ewch ag ef i’r banc gyda hwy. Yna gwyliwch y cyfanswm yn tyfu ar-lein neu drwy ddatganiadau.
- Mwynhewch – pan rydych wedi cynilo digon, mwynhewch eich trît teuluol.
- Rhowch glod – diolchwch i’ch plentyn am helpu i wneud hyn ddigwydd!
Rhoi cyfleoedd iddynt gynilo
Mae yna lawer o ffyrdd hwyliog y gallwch helpu plant i fwynhau cynilo:
- Maent yn barod i ddeall y cysyniad o helpu o amgylch y tŷ am arian.
- Cyfnewidiwch sêr neu wobrau sticer am geiniogau
- Cael helfeydd ceiniogau - yn union fel helfeydd wyau Pasg, ond yn iachach!
Mae plant yn dysgu trwy wylio a gwrando
Mae plant pump a chwech oed yn dysgu llawer o wylio a gwrando. Siaradwch am arian a dangoswch iddynt sut mae’n cael ei ddefnyddio - gartref ac yn y siopau.
Yn y cartref
Mae yna lawer o weithgareddau bob dydd yn y cartref y gallwch eu gwneud i’w helpu i ddysgu am arian:
- Defnyddiwch gemau chwarae rôl i helpu’ch plentyn i arbrofi gyda gwneud penderfyniadau am arian mewn ffordd hwyliog a diogel. Ymhlith y gemau sy’n ddefnyddiol ar gyfer dysgu am arian mae:
- Gofyn iddynt chwarae rôl, gan gynnwys perchennog siop, cwsmer a rhiant.
- Gofyn iddynt esgus bod yn chi, talu am siopa, biliau, a phethau maent yn gofyn amdanynt.
- Cynllunydd parti - rhowch swm o arian iddynt, ychwanegwch labeli prisiau at fwyd a diod (neu argraffwch rai lluniau o’r cyfrifiadur), a gofynnwch iddynt drefnu parti gyda’r arian sydd ganddynt. Byddant angen sicrhau bod gan bawb bopeth sydd ei angen arnynt, gan gynnwys plant, oedolion a gwahanol anghenion dietegol.
- Os yw’ch plentyn yn eich clywed chi’n siarad am arian â rhywun arall, gofynnwch a oes ganddynt unrhyw gwestiynau am yr hyn a glywsant.
- Os yw rhywun yn gwario neu’n cynilo arian ar y teledu neu mewn ffilm, gofynnwch gwestiynau amdano.
- Eglurwch sut nad yw popeth yn costio arian, fel chwarae yn y parc neu fynd i’r llyfrgell neu dŷ ffrind. Gofynnwch iddynt pa weithgareddau am ddim maent yn eu mwynhau.
- Os yw’ch plentyn yn gofyn am bethau gyda lluniau o gymeriadau teledu, brandiau neu enwogion arnynt, siaradwch am pam. Dangoswch ddewisiadau rhatach eraill iddynt i weld a allant egluro beth sy’n gwneud eu dewis cyntaf yn well. Gan ddefnyddio arian go iawn, dangoswch iddynt yr hyn y gallent ei arbed trwy brynu’r dewis arall rhatach a gofynnwch beth y gallent ei wneud gyda’r arbediad hwnnw.
Yn y siopau
Mae mynd i siopa yn helpu i ddangos iddynt gwario a chynilo.
Cyn i chi fynd i siopa, rhowch gynnig ar y syniadau hyn er mwyn cynnwys eich plant:
- Mae plant wrth eu bodd â her—a allant roi help i chi arbed arian? Gwnewch restr gyda hwy a’u cael i wneud yn siŵr eich bod yn cadw ati.
- Siaradwch am anghenion (fel bwyd ar gyfer swper) yn erbyn dymuniadau (fel pethau moethus).
- Siaradwch am werth arian—beth allwch chi brynu am £1? £5? £100?
- Gosodwch gyllideb ar gyfer elfen o’ch siopa bwyd y mae gan eich plentyn ddiddordeb ynddi. Er enghraifft, eitemau ar gyfer eu pecyn bwyd, neu fwyd maent yn eu mwynhau.
Wrth i chi siopa, helpwch hwy i ddod i’r arfer wrth wneud penderfyniadau am beth i wario arian arno:
- Dangoswch iddynt fod rhai pecynnau yn llachar ac yn lliwgar ac yn costio mwy, tra gall eraill fod yn llai lliwgar ac yn llai o hwyl. Ond mae’r hyn sydd y tu mewn yr un fath a gall gostio llai.
- Dangoswch grwpiau o eitemau iddynt sydd yn costio’r un faint fel cyfanswm a chynigiwch un yn erbyn y llall rhwng gwahanol gynnyrch. Er enghraifft: pot bach o lus a 5 banana neu bot mawr o rawnwin a 3 banana.
- Gadewch iddynt ddewis gwahanol elfennau o picnic gyda therfyn pris.
Datblygu grym ewyllys a dysgu aros
Mae’n arferol i blant pump a chwech oed fod eisiau pethau maent yn eu gweld. Maent yn dechrau dysgu’r gwahaniaeth rhwng anghenion a dymuniadau, ond nid ydynt yn ei ddeall yn llawn o hyd.
Mewn gwirionedd, gall llawer o blant swnian mwy yn yr oedran hwn. Gallwch ddefnyddio’r ‘eisiau’ hyn i ddysgu sgiliau cynilo, trafod a na, weithiau, ni allant gael yr hyn y maent ei eisiau.
Dyma rai awgrymiadau:
- Cynlluniwch - os ydych yn mynd i siop deganau, cynlluniwch ymlaen llaw. Eglurwch ymlaen llaw beth rydych yn ei brynu a pham.
- Gwrandewch - gadewch iddynt hwy deimlo eu bod yn cael eu clywed trwy roi rhestr iddynt o’r pethau na allant eu cael nawr ond y gallent fod eu heisiau ar gyfer penblwyddi neu wyliau.
- Eglurwch - yn lle dim ond dweud na; eglurwch pam. Mae egluro bod gennym arian ar gyfer yr hyn rydym eu hangen (fel bwyd a gwres) ond dim dymuniadau neu ddanteithion yn eu helpu i ddeall y dewisiadau y mae’n rhaid i oedolion eu gwneud am arian.
- Cadwch at eich gair - mae dweud na a glynu wrtho yn eu helpu i ddysgu hunanreolaeth, deall y gwahaniaeth rhwng anghenion ac eisiau, a chynilo am yr hyn maent ei eisiau.
Mwy o weithgareddau rheoli arian
Mae pob plentyn yn datblygu ar wahanol adegau. Er enghraifft, byddai rhai plant pump a chwech oed yn ymateb yn well i rai o’r gweithgareddau rydym yn eu hargymell yn ein canllawiau Sut i siarad â phlant tair a phedair oed am arian neu Sut i siarad â phlant saith ac wyth oed am arian.
Am fwy o syniadau ar gyfer pob grwp oedran, lawrlwythwch ein canllaw Siarad, Dysgu, Gwneud)Yn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 3.5MB)
Darganfyddwch beth fydd eich plentyn yn ei ddysgu yn yr ysgol
Addysgir addysg ariannol fel rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol uwchradd yn Lloegr, a'r cwricwlwm cynradd ac uwchradd cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.