Cael cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys yw’r dull drytaf gan amlaf. Ond gall gwybod ei fod wedi cael ei wneud yn iawn osgoi llawer o boendod i’r rhai fydd yma wedi i chi fynd, yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl i chi.
Faint yw cost gwneud ewyllys?
Mae’r ateb yn amrywio yn ddibynnol ar ba mor gymhleth yw’ch materion ac os yw’r cwmni wedi ei leoli mewn dinas.
Dyma amcan o gostau llunio ewyllys gan gyfreithiwr:
- Gall ewyllys syml gostio rhwng £144 a £240. Felly, gallai chwilio am y cynnig gorau a dod hyd i rywun gyda phris is arbed bron £100 i chi.
- Gall ewyllys cymhleth gostio rhwng £150 a £300. Efallai y bydd yn fwy cymhleth os ydych wedi ysgaru ac mae gennych blant.
- Am ewyllys arbenigol sy’n cynnwys ymddiriedolaethau neu eiddo tramor, neu os ydych eisiau cyngor ar gynllunio treth, disgwyliwch dalu isafswm o £500 i £600.
- Fel arfer bydd ewyllys drych fel arfer yn costio llai na’u gwneud yn unigol. Maent yn werth eu hystyried os ydych chi a chymar neu bartner eisiau ewyllysiau sydd fwy neu lai’r un fath (drych).
Gwnewch yn siŵr bod y gost a ddyfynnir i chi yn cynnwys TAW. Mae’r prisiau uchod yn cynnwys TAW.
Ceir tystiolaeth gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol i awgrymu arbedion mawr posibl o chwilio am y fargen orau ar gyfer gwasanaethau ewyllys. Unwaith y byddwch wedi cael un pris, cysylltwch ag ambell un arall i weld a allant ei wella.
Gallai chwilio am y cynnig gorau arbed £100 i chi ar gyfer ewyllys syml a £150 ar gyfer ewyllys fwy cymhleth.
Ceisiwch ddod o hyd i wasanaeth y credwch fydd yn cynnig gwasanaeth o safon am bris da. (Mae'r ffigyrau uchod gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol.)
Pam defnyddio cyfreithiwr?
Ystyriwch o ddifrif defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
- Mae gennych asedau tramor megis tŷ haf.
- Rydych yn rhedeg busnes gan ddisgwyl iddo ffurfio rhan o’ch ystâd.
- Bydd angen i chi dalu Treth Etifeddiaeth – telir hyn ar ystadau gwerth mwy na £325,000 ar gyfer unigolyn neu hyd at £650,000 ar gyfer pâr priod.
- Mae eich sefyllfa deuluol yn un cymhleth - efallai bod gennych blant gyda chyn bartner, neu eich bod am wneud trefniadau arbennig ar gyfer plant neu oedolyn anabl yn eich teulu.
Manteision defnyddio cyfreithiwr
Byddwch yn barod
Meddyliwch beth rydych yn dymuno ei adael yn eich ewyllys a phwy ddylai ei gael cyn i chi ymweld â’ch cyfreithiwr. Bydd yn arbed amser ac arian i chi.
Mae’r manteision o ddefnyddio cyfreithiwr yn cynnwys:
- Rydych wedi’ch diogelu os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mae cyfreithwyr wedi eu rheoleiddio. Os oes gennych unrhyw broblem gallwch wneud cwyn, i’r cwmni cyfreithwyr. Os nad yw'r cwmni cyfreithwyr yn delio â cwyn yn foddhaol, gallwch fynd at yr Ombwdsmon Cyfreithiol.
- Gallwch fod yn fwy hyderus na fydd unrhyw gamgymeriadau. Gallai problemau cyffredin gydag ewyllysiau, megis defnyddio’r tystion anghywir neu anghofio arwyddo’r ewyllys, olygu bod yr ewyllys yn ddiwerth pan fyddwch yn marw. Dylai defnyddio cyfreithiwr leihau’r risg i’r math yma o beth ddigwydd.
- Mae’r pethau cymhleth wedi eu gwneud ar eich cyfer chi. Mae’r gyfraith ynglŷn ag etifeddiaeth (gan gynnwys Treth Etifeddiaeth ac ymddiriedolaethau) yn gymhleth. Bydd cyfreithwyr yn gyfarwydd â’r gyfraith ac yn medru rhoi cymorth i chi wneud y dewisiadau mwyaf effeithiol.
- Bydd eich ewyllys yn cael ei storio yn ddiogel. Os bydd cyfreithiwr yn rhoi cymorth i chi ysgrifennu eich ewyllys, byddant yn cadw’r un wreiddiol i chi mewn storfa sydd yn ddiogel rhag tân ac yn rhad ac am ddim.
Beth i’w ddisgwyl gan eich cyfreithiwr
Dylai eich cyfreithiwr:
- egluro eich dewisiadau i roi cymorth i chi wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch ewyllys
- roi cyngor sydd yn gyfrinachol a rhoi’r flaenoriaeth i’ch buddiannau chi
- ysgrifennu a gwirio eich ewyllys yn unol â’ch cyfarwyddiadau.
Sicrhau eu bod hefyd yn rhoi amlinelliad clir yn fuan iawn yn y broses o’r costau a’r dull o’u cyfrifo.
Cyfreithwyr fel ysgutorion
Gallwch ddewis penodi’r cyfreithiwr neu gwmni cyfreithiol sy’n llunio’ch ewyllys fel eich ysgutor. Golyga hyn y byddant yn delio â threfniadau’ch ystâd wedi i chi farw.
Gofynnwch bob amser sut y byddwch yn gorfod talu - mae rhai cyfreithwyr yn cymryd canran o’ch ystâd i gwrdd â’r biliau. Bydd eraill yn codi ffi am eu hamser.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ysgutor eich ewyllys
Defnyddio cyfreithwyr am ddim trwy elusennau
Mae yna nifer o elusennau sy’n cynnig gwasanaethau ysgrifennu ewyllys yn rhad ac am ddim. Byddwch yn ymwybodol, gall yr elusen ddisgwyl neu annog rhodd gennych.
Mae yna nifer o fentrau hefyd sydd yn eich galluogi i gael cyfreithiwr i baratoi ewyllys yn rhad ac am ddim neu am gyfraniad a gynigir.
Y mwyaf o’r cynlluniau ysgrifennu hyn yw:
- ’Free Wills Month’ (yng Nghymru a Lloegr). Cynhelir hyn ddwywaith y flwyddyn, ym mis Mawrth a Hydref, mewn rhannau penodol o Gymru a Lloegr. Darganfyddwch fwy ar wefan Free Wills Month
- ’Will Aid’. Cynhelir hwn ym mis Tachwedd, gyda thua 1,000 o gyfreithwyr yn cymryd rhan. Mae’n rhaid i chi fwcio ymlaen llaw fel arfer, gan fod cyfyngiad ar y nifer o leoedd ar y cynllun ac mae’n brysur. Argymhellir isafswm rhodd hefyd. Darganfyddwch fwy ar wefan Will Aid
- Os yw eich sefyllfa yn syml, yna mae nifer o elusennau ac undebau llafur yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim, yn y gobaith y byddwch yn gadael rhywfaint o arian iddynt. Enghraifft o ewyllys syml fyddai eich bod am adael popeth i'ch partner neu os bydd yn marw cyn chi, eich bod am adael popeth i’ch plant. Os yw’n fwy cymhleth, mae’n debygol y byddant yn eich atgyfeirio i wasanaeth sy’n costio.
- Mae rhai cynhyrchion yswiriant yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllys am ddim fel rhan o’r yswiriant rydych wedi’i brynu. Os oes gennych yswiriant cartref neu yswiriant bywyd, edrychwch i weld os oes gwasanaeth ysgrifennu ewyllys wedi’i gynnwys am ddim.
Cyn i chi weld cyfreithiwr
Arbedwch amser ac arian trwy feddwl beth yr hoffech ei gynnwys yn eich ewyllys cyn i chi ymweld â’ch cyfreithiwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllunio beth i'w adael yn eich ewyllys
Dod o hyd i gyfreithiwr
Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr cymwys yn eich ardal trwy chwilio yn y cyfeirlyfrau a ddarperir gan gymdeithasau cyfraith y DU:
- Yng Nghymru a Lloegr: Cymdeithas y Gyfraith
- Yn yr Alban: Cymdeithas y Gyfraith yn yr Alban
- Yng Ngogledd Iwerddon: Cymdeithas y Gyfraith yng Ngogledd Iwerddon
Eich opsiynau os nad ydych yn dymuno defnyddio cyfreithiwr
Nid yw’n ofynnol i chi ddefnyddio cyfreithiwr os nad ydych yn dymuno gwneud hynny – mae yna ddulliau eraill o baratoi eich ewyllys.
Gallech arbed arian trwy ddefnyddio gwasanaeth ysgrifennu ewyllys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwasanaeth ysgrifennu ewyllys - manteision ac anfanteision
Neu os yw eich ewyllys yn mynd i fod yn syml, efallai y gallwch ei hysgrifennu eich hun.