Mae templedi ar gyfer ewyllysiau y gallwch eu gwneud eich hun yn rhad ac yn hawdd dod o hyd iddynt – gallwch eu gael ar lein neu o siopau gwerthu nwyddau ysgrifennu. Ond nid yw’n syniad da bob amser i ysgrifennu’r ewyllys eich hun. Gallwn roi cymorth i chi benderfynu.
Eich dewisiadau ar gyfer ysgrifennu eich ewyllys eich hun
Mewn egwyddor, gallech ysgrifennu eich ewyllys ar sgrap o bapur.
Cyn belled â bod y ddogfen wedi ei llofnodi a’i thystio’n gywir gan ddau dyst annibynnol sy’n oedolion, sydd yn bresennol ar yr adeg y byddwch yn llofnodi'ch ewyllys, dylai fod yn ddogfen sy'n rhwymo mewn cyfraith. Ond nid yw hynny’n golygu ei fod yn syniad da.
Ers 31 Ionawr 2020, mae wedi bod yn gyfreithiol i fod yn dyst o bell i ewyllys yng Nghymru a Lloegr. Gallai hyn gynnwys Zoom neu FaceTime, er enghraifft. Mae’r newid mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws - a’r angen i rai pobl i gysgodi.
Darganfyddwch fwy, gan gynnwys y geiriad i’w ddefnyddio a sut i sicrhau ei fod yn gyfreithiol ddilys, ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pan mae’n dod at greu ewyllys, mae sawl gwahaniaeth rhwng y rheolau yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon a’r rheini yng Nghymru a Lloegr ac mae’r rheolau wedi’u hymlacio yn ystod coronafeirws.
Os ydych yn byw yn Yr Alban, am fwy o wybodaeth ewch i’r Law Society of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i’r Law Society of Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r rhan fwyaf o ewyllysiau yn dilyn rheolau cyffredinol ynglŷn â beth i’w ddweud a sut i’w ddweud hynny.
Mae’r dulliau safonol hyn o ysgrifennu pethau wedi cael eu harfer ers amser maith ac maent yn cael gwared o unrhyw ddryswch ynglŷn ag ystyr eich geiriau – hyd yn oed os yw’r iaith yn ymddangos yn anarferol i ddechrau.
Gall defnyddio’r geiriad anghywir olygu na fydd eich cyfarwyddiadau yn cael eu dilyn, neu hyd yn oed annilysu eich ewyllys.
Felly mae’n syniad da ddefnyddio templed sy’n cynnwys rhannau safonol a thermau cyfreithiol sydd eisoes wedi eu cynnwys.
Gallwch gael templed neu becyn ewyllys o siopau nwyddau ysgrifennu a gwasanaethau ar-lein – maent fel arfer yn costio hyd at £30.
Pan fydd yn syniad da ysgrifennu eich ewyllys eich hun
Yn gyffredinol, dim ond os yw’ch dymuniadau yn syml iawn y dylech ysgrifennu eich ewyllys eich hun. Er enghraifft, os ydych yn briod ac:
- rydych yn dymuno gadael popeth i’ch gŵr neu wraig, neu
- bydd farw o’ch blaen, a’ch bod yn dymuno gadael popeth i’ch plant.
Os oes unrhyw beth mwy cymhleth na hynny, mae’n debyg dylech ddefnyddio cyfreithiwr neu wasanaeth ysgrifennu ewyllys. Er enghraifft, os oes gennych lysblant neu nad ydych yn briod neu mewn bartneriaeth sifil.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Defnyddio cyfreithiwr i ysgrifennu eich ewyllys
Gwasanaethau ysgrifennu ewyllys - manteision ac anfanteision
Pan na ddylech ysgrifennu eich ewyllys eich hun
Dylech bendant ddefnyddio cymorth proffesiynol i ysgrifennu eich ewyllys os:
- ydych yn berchen ar eiddo dramor
- ydych yn ceisio lleihau eich bil Treth Etifeddiaeth
- oes gennych fuddsoddiadau neu gyfrifon banc tramor
- ydych yn berchen ar eich busnes eich hun ac yn gadael y busnes hwnnw i rywun yn eich ewyllys
- oes gennych bobl sy’n dibynnu arnoch yn ariannol, ar wahân i’ch teulu agosaf
- yw eich ewyllys yn cynnwys unrhyw ddymuniadau all gael eu camddeall neu braidd yn gymhleth.
Beth yw’r risgiau o ysgrifennu eich ewyllys eich hun?
Y neges gyffredinol yw – gwnewch ewyllys eich hun dim ond os yw eich dymuniadau yn rhai syml ac os nad yw eich sefyllfa ariannol yn gymhleth.
Gallech arbed arian yn y cychwyn cyntaf o’i gymharu â defnyddio gwasanaeth proffesiynol. Ond os wnewch gamgymeriad gallech greu problemau i’ch teulu a ffrindiau pan ddaw i’r adeg o weinyddu eich arian wedi i chi farw.
Cofiwch, os defnyddiwch dempled, ni fydd y cwmni â’i darparodd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb dros gwblhau’r ewyllys yn gywir.
Os ydych yn gwneud unrhyw gamgymeriadau sy’n achosi problemau pan ddarllenir eich ewyllys, ni fydd unrhyw gyfaddawd cyfreithiol o’ch plaid o gwbl.
Os ydych yn gwneud llanast o bethau, gall olygu bod eich ewyllys yn annilys hyd yn oed a bydd y gyfraith yn penderfynu pwy fydd yn cael eich arian a’ch eiddo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael trefn ar yr ystâd pan nad oes ewyllys
Os ydych yn penderfynu ysgrifennu eich ewyllys eich hun
Os ydych yn hapus i ysgrifennu eich ewyllys eich hun, gwnewch yn hollol siŵr eich bod wedi ymdrin â’r pwyntiau allweddol hyn:
- Gwnewch yn siŵr bod yr ewyllys wedi ei harwyddo, ei dyddio a’i thystio’n gywir. Dylai’r templed ddangos i chi beth sydd angen i chi ei wneud.
- Gwiriwch y sillafu yn ofalus – byddwch yn hynod o ofalus wrth sillafu enwau pobl.
- Byddwch yn benodol. Er enghraifft, peidiwch â gadael popeth ‘i fy ngwraig’ – rhowch ei henw’n llawn.
- Dinistriwch unrhyw hen ewyllysiau – os oes gennych ewyllys yn barod, gwnewch yn siŵr eich bod yn dinistrio’r hen un a gwneud yn siŵr bod yr un newydd yn datgan yn glir ei bod yn disodli’r hen un. Dylai’r templed rydych yn ei ddefnyddio roi cyfarwyddiadau i chi ynglŷn â sut i wneud hyn yn gywir.
- Dywedwch wrth eich ysgutor ymhle y dylid cadw’r ewyllys - byddant angen gwybod pan fyddwch farw.