Pan fydd rhywun yn marw, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i bob cynllun pensiwn yr oeddent yn aelod ohono cyn gynted â phosibl.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Dweud wrth gynllun pensiwn am farwolaeth
Cysylltwch â gweinyddwr y cynllun neu'r darparwr pensiwn ar gyfer pob un o'r cynlluniau i ddweud wrthynt am y farwolaeth.
Os oedd y person sydd wedi marw yn gyflogedig, efallai y byddai eu cyflogwr wedi cysylltu â'r cynllun ond mae'n well sicrhau.
Yna bydd gweinyddwr y cynllun neu'r darparwr pensiwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth sy'n digwydd nesaf.
Mae cynlluniau pensiwn yn aml yn darparu budd-daliadau marwolaeth i fuddiolwyr yr aelod. Os nad ydych yn gwybod beth yw'r budd-daliadau marwolaeth neu'r rheolau sy'n berthnasol, cysylltwch â'r darparwr pensiwn neu weinyddwr y cynllun i gael gwybod.
Gallwch hefyd ofyn a oes gennych hawl i gael unrhyw fudd-daliadau pensiwn a/neu gyfandaliad arian parod o'r cynllun pensiwn.
Os oedd y person yn tynnu pensiwn, dywedwch wrth y cynllun pensiwn cyn gynted â phosibl. Byddwch yn ymwybodol y gallai fod yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw daliadau pensiwn a dderbyniwyd ar ôl dyddiad eu marwolaeth.
Os oedd y person yn cael Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw, dywedwch wrth y Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn golygu y gallant stopio talu'r pensiwn.
Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 0453 - gofynnwch am y Gwasanaeth Profedigaeth.
Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith y llywodraeth. Mae hyn yn gadael i chi roi gwybod am farwolaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth ar yr un pryd.