Am ffi fisol, mae cyfrifon banc pecyn yn cynnig manteision fel yswiriant teithio, cyfradd ffafriol ar orddrafft a mwy i chi. Ond cyn i chi benderfynnu, cofiwch nid yw’r manteision ychwanegol hyn yn werth y ffi bob amser.
Beth yw cyfrifon banc pecyn?
Mae cyfrifon banc pecyn yn cynnig ystod o bethau ychwanegol yn gyfnewid am ffi fisol.
Mae’r manteision yn amrywio o gyfrif i gyfrif ond yn aml gallwch gael y canlynol:
- yswiriant teithio
- yswiriant rhag twyll hunaniaeth
- yswiriant rhag i’ch car dorri i lawr
- yswiriant ffôn symudol
- arian tramor di-gomisiwn
- gorddrafft â gostyngiad – neu orddrafft di-log
- cyfraddau ffafriol ar gynnyrch ariannol arall
- cynigion a gostyngiadau, fel mynediad i lolfa maes awyr
Ai cyfrif banc pecyn yw'r gwerth gorau i mi?
Gallai'r cyfrifon hyn fod yn werth da i rai pobl. Ond i eraill, gallai cost y cyfrif fod yn uwch na chost prynu'r buddion ar wahân.
Mae'n bwysig bob amser adio gwerth y buddion at ei gilydd i weld a allwch eu cael yn unigol rhywle arall yn rhatach.
Dyma rai pethau eraill i wylio amdanynt:
- Efallai y bydd yr yswiriant a gewch yn eithaf sylfaenol. Efallai na fydd yn rhoi lefel yr yswiriant sydd ei angen arnoch ac efallai bod gennych yswiriant eisoes trwy gynnyrch arall. Er enghraifft, eich polisi yswiriant cartref.
- Efallai y bydd gan yswiriant teithio a bywyd derfynau oedran neu waharddiadau sy'n golygu efallai na fyddwch yn gymwys i'w ddefnyddio. Er enghraifft, os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes, efallai y cewch eich eithrio o'r polisi yswiriant teithio.
- Efallai na fydd angen yr holl fuddion sydd ynghlwm i’r cyfrif. Os na ddefnyddiwch yr holl fuddion, mae'n llai tebygol o arbed arian i chi.
- Gyda rhai banciau neu gymdeithasau adeiladu, mae rhaid i chi actifadu pob un o'r gwasanaethau cyn y gallwch eu defnyddio. Gwiriwch a oes angen i chi wneud hyn pan fyddwch yn agor y cyfrif. Os na, efallai y gwelwch fod eich yswiriant yn annilys a'ch bod wedi bod yn talu am rywbeth na allwch ei ddefnyddio.
Gorddrafftiau
Os yw cyfrif pecyn yn cynnig gorddrafft di-log, gwiriwch a ydych yn talu ffioedd a thaliadau gorddrafft ar gyfrif cyfredol sy'n uwch na chost y cyfrif pecyn ar hyn o bryd.
A ydych yn ystyried newid i gyfrif banc pecyn dim ond oherwydd bod angen gorddrafft arnoch? Yna gofynnwch i'ch banc yn gyntaf a allant ychwanegu un at eich cyfrif cyfredol presennol.
Os na ddefnyddiwch ef yn aml, mae'n debyg mai aros â chyfrif cyfredol am ddim yw'r opsiwn rhatach.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro gorddrafftiau
Chwiliwch o gwmpas a chymharu cyfrifon pecyn â chyfrifon eraill
Mae gwefannau cymharu yn lle da i ddechrau i unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrifon cyfredol sydd wedi teilwra i’w hanghenion.
Darganfyddwch fwy am ddefnyddio gwefannau cymharu i ddod o hyd i gyfrif banc yn ein canllaw Sut i ddewis y cyfrif banc cywir
Mae'r gwefannau hyn yn lle da i ddechrau wrth edrych am gyfrif banc pecyn:
Ond byddwch yn ymwybodol nad yw’r gwefannau cymharu i gyd yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un safle cyn penderfynu.
Mae’n bwysig hefyd i wneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch cyn prynu neu newid cyflenwr.
Am help i ddewis, darganfyddwch fwy ein canllaw Cyfrifon cyfredol
Sut i gwyno am gyfrif banc pecyn a gam-werthwyd i chi
Ni ddylai eich banc neu gymdeithas adeiladu eich symud o gyfrif am ddim i gyfrif pecyn heb eich caniatâd.
Os yw'ch banc yn symud eich cyfrif heb eich caniatâd, darganfyddwch sut i gwyno yn ein canllaw Cael trefn ar broblem ariannol neu wneud cwyn.
Os credwch fod eich cyfrif pecyn wedi cael ei gam-werthu i chi, efallai y gallwch gwyno a chael eich arian yn ôl. Er enghraifft, os methodd eich banc neu gymdeithas adeiladu â dweud wrthych nad oeddech yn gymwys i gael unrhyw un o'r buddion.
Darganfyddwch a gam-werthwyd i chi, a sut i gwyno, ar wefan Which?