Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) bellach wedi dweud wrthych y bydd eich Cyfrif Cerdyn Swyddfa'r Post (POCA) rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer derbyn eich taliadau budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth yn cau.
Bydd eich taliadau’n parhau i gael eu talu’n llawn ac ni fydd eich dyddiadau talu yn newid ond bydd sut y byddwch yn cael eich arian. Mae'r canllaw hwn yn eich helpu i benderfynu ar y ffyrdd gorau a mwyaf diogel i gael gafael ar eich arian yn hawdd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw fy opsiynau?
- Opsiwn 1: Enwebu cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd presennol
- Opsiwn 2: Agorwch gyfrif cyfredol os nad oes gennych chi un
- Opsiwn 3: Defnyddio’r Gwasanaeth Eithrio Taliadau
- Hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau am eich manylion banc newydd
- Cau eich cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post
- Sut i ddewis ac agor cyfrif cyfredol
Beth yw fy opsiynau?
Eich tri opsiwn yw:
- defnyddio eich cyfrif cyfredol presennol ar gyfer eich taliadau budd-dal
- agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd os nad oes gennych chi un eisoes
- defnyddio'r Gwasanaeth Eithrio Taliadau os na allwch agor cyfrif cyfredol.
Opsiwn 1: Enwebu cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd presennol
Bydd angen i chi ddefnyddio cyfrif cyfredol i gael mynediad i'ch arian gan nad yw cyfrif cynilo yn addas os ydych yn tynnu arian allan yn aml.
Hefyd, nid yw rhai cyfrifon cynilo, er enghraifft “Instant Saver Accounts”, yn derbyn taliad uniongyrchol o bensiynau a budd-daliadau.
Yn lle hynny, gofynnir i chi ddarparu cyfrif cyfredol i dalu arian i mewn neu dynnu arian allan a derbyn unrhyw daliadau trydydd parti gan bobl eraill.
Os oes gennych gyfrif cyfredol y gallwch ei ddefnyddio yn barod, bydd angen i chi roi'r manylion i'r DWP. Gweler ein hadran Hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau am eich manylion banc newydd i gael mwy o wybodaeth.
Opsiwn 2: Agorwch gyfrif cyfredol os nad oes gennych chi un
Cyfrif cyfredol yw'r ffordd hawsaf o gael gafael ar eich taliadau oherwydd gallwch gymryd allan unrhyw swm o arian sydd gennych, pryd bynnag rydych ei angen.
Cynigir cyfrifon cyfredol gan fanciau, cymdeithasau adeiladu ac undebau credyd.
Gallwch agor cyfrif yn bersonol neu ar-lein neu gall perthynas, ffrind neu ofalwr dibynadwy eich helpu. Os oes gennych gynorthwyydd yn barod (a elwir yn ‘asiant parhaol’) ar gyfer eich cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post, gallwch ofyn i’r person hwn eich helpu i agor cyfrif.
Am help i ddewis cyfrif sy'n addas i'ch anghenion, darllenwch ein hadran Sut i ddewis ac agor cyfrif cyfredol
Efallai eich bod yn ansicr pa ddogfennau hunaniaeth rydych eu hangen i agor cyfrif cyfredol newydd. Darganfyddwch beth rydych ei angen yn ein hadran Pa ddogfennau fyddaf eu hangen i agor cyfrif banc?
A allaf barhau i ddefnyddio Swyddfa’r Post i reoli fy arian?
Os oes gennych gyfrif yn barod neu’n agor un newydd, gallwch barhau i ddefnyddio'ch Swyddfa’r Post leol i dynnu arian allan. Mae'r mwyafrif o gyfrifon banc eisoes yn caniatáu i chi dynnu arian allan a rheoli'ch cyfrif o ganghennau Swyddfa'r Post.
Gallwch chi neu gynorthwyydd wirio a yw'ch banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd wedi'i restru a pha wasanaethau maent yn eu cynnig ar wefan Swyddfa'r Post.
Opsiwn 3: Defnyddio’r Gwasanaeth Eithrio Taliadau
Os nad yw'n bosibl i chi gael cyfrif cyfredol, bydd DWP yn gwneud eich taliadau trwy'r Gwasanaeth Eithrio Taliadau. Gallwch dderbyn eich taliadau trwy un o'r tri dull canlynol:
- rhif cyfeirnod unigryw trwy neges destun (SMS) ar eich ffôn
- taleb PDF unigryw trwy e-bost
- Cerdyn Talu: bydd DWP yn anfon Cerdyn Talu a llythyr croeso atoch. Mae'r Cerdyn Talu wedi'i lwytho ymlaen llaw gyda thalebau y gallwch eu defnyddio i dynnu arian allan mewn unrhyw fanwerthwr PayPoint neu gangen Swyddfa'r Post. Nid ydych angen cyfrifiadur na ffôn clyfar os dewiswch yr opsiwn hwn.
I gasglu taliad budd-dal neu Bensiwn y Wladwriaeth, dangoswch eich cerdyn, taleb neu neges destun mewn Swyddfa'r Post neu allfa PayPoint. Gallwch ddod o hyd i'ch manwerthwr PayPoint agosaf ar wefan PayPoint.
Os ydych wedi dewis cael eich talu trwy dalebau e-bost neu'r Cerdyn Talu, bydd angen i chi hefyd ddangos prawf o'ch hunaniaeth i dynnu'ch arian allan. Dyma restr o'r prawf hunaniaeth y gallwch ei ddefnyddio. Dim ond un o'r rhain rydych ei angen:
- Trwydded Yrru llun neu bapur dilys yn y DU
- Pasbort (y DU, Gwyddelig neu Dramor)
- Tystysgrif Geni, Priodas neu Bartneriaeth Sifil
- Llythyr Hawl Budd-dal (llai na 3 mis oed)
- Llyfr Rhent y Cyngor/Cytundeb Tenantiaeth
- Bil Treth Gyngor neu Bil Ardrethi
- Bil Cyfleustodau (fel bil nwy neu drydan)
- Tocyn Teithio Gyda Llun (DU)
- Cerdyn Adnabod Gwasanaethau (Lluoedd Arfog)
- Cerdyn Adnabod Cenedlaethol Tramor
- Ffurflen Adran Mewnfudo a Chenedligrwydd SAL1
- Cerdyn Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon
- Trwydded Preswylio Biometrig
- Tystysgrif Naturoli/Dinesydd y DU, neu
- Ffurflen BF57a.
Faint o arian fydd ar fy nhalebau?
P'un a ydych chi'n dewis derbyn talebau e-bost, talebau trwy neges destun, neu dalebau wedi'u llwytho ar eich Cerdyn Talu, mae pob taleb wedi'i chyfyngu i gyfanswm o £100.
Mae hyn yn golygu os yw'ch taliad budd-dal neu Bensiwn y Wladwriaeth yn fwy na £100, bydd angen i chi ddefnyddio'ch Cerdyn Talu, eich talebau e-bost neu SMS fwy nag unwaith i gasglu'ch holl arian.
Er enghraifft, os yw'ch taliad budd-dal yn £240, i dynnu'ch holl arian allan, bydd angen i chi ddefnyddio'ch Cerdyn Talu (neu daleb e-bost neu neges destun) o leiaf dair gwaith.
Mae hyn oherwydd y byddwch yn cael tri thaleb o werth cyfartal. £80 + £80 + £80 = £240.
Nid oes rhaid i chi gymryd swm y daleb lawn ar unwaith. Gallwch gyfnewid cymaint o dalebau ag y dymunwch ar yr un pryd.
Fodd bynnag, os na fyddwch yn cyfnewid taleb o fewn 90 diwrnod i'w dderbyn, bydd y taliad yn dod i ben ac yn dychwelyd i'r swyddfa sy'n talu'ch budd-dal. Bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa honno i'w hadennill.
Os nad oes gan fanwerthwr ddigon o arian ar gael pan ymwelwch, efallai y bydd angen i chi fynd at fanwerthwr PayPoint arall, ymweld eto yn nes ymlaen neu ymweld â changen Swyddfa'r Post.
Bob tro y byddwch chi'n defnyddio'ch Cerdyn Talu gallwch ofyn am dderbynneb i ddangos faint o arian sydd gennych ar ôl i'w gasglu.
Pa mor ddiogel yw fy arian ar Gerdyn Talu?
Gall defnyddio cerdyn talu fod yn llai cyfleus na chyfrif. Dyma rai pethau i feddwl amdanynt:
- Ni fyddwch yn gallu defnyddio'ch talebau fel cyfrif banc. Mae hyn yn golygu na allwch drosglwyddo gwerth y talebau i unrhyw gyfrif banc arall, ac ni allwch adeiladu balans gan fod eich talebau yn dod i ben ar ôl 90 diwrnod os nad ydynt wedi cael eu cyfnewid.
- Gallai dibynnu ar daliadau arian parod olygu eich bod yn colli allan ar gynhyrchion a gwasanaethau rhatach neu ddefnyddiol ar-lein na allwch dalu amdanynt oni bai bod gennych gyfrif cyfredol. Er enghraifft, mae angen cyfrif cyfredol arnoch i dalu i gael siopa archfarchnad i'ch cartref.
Os penderfynwch nad yw'r Gwasanaeth Eithrio Taliadau ar eich cyfer chi a'ch bod yn agor cyfrif cyfredol banc, undeb credyd neu gymdeithas adeiladu, gallwch newid i gael eich talu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc newydd trwy gysylltu â'r swyddfa sy'n talu'ch budd-dal.
Beth os bydd angen rhywun arall arnaf i gasglu fy nhaliadau ar fy rhan?
Os yw rhywun arall yn casglu'ch taliadau, bydd angen i chi roi eich cerdyn talu, neu daleb e-bost gyda phrawf o'ch ID, ynghyd â phrawf o'u ID fel y gallant gasglu'ch taliad. Nid oes angen ID ar gyfer y daleb SMS (neges destun).
Gallwch wneud cais i ddod yn benodai i rywun os na allant reoli eu materion eu hunain. Byddwch yn cael cerdyn talu i'w ddefnyddio ar eu rhan a byddwch yn gyfrifol am roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau.
Darganfyddwch fwy am ddod yn benodai i rywun sy'n hawlio budd-daliadau yn GOV.UK
Hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau am eich manylion banc newydd
Pan fyddwch chi'n barod i enwebu cyfrif cyfredol ar gyfer eich taliadau, bydd angen i chi gadarnhau'r manylion hyn gyda'r DWP.
Gallwch chi (neu ofalwr cyfrifol neu weithiwr cymorth) gysylltu â chanolfan gwsmeriaid DWP ar 0800 0857 133 neu Typetalk ar 0800 0857 146.
Yna gall y DWP ddiweddaru eich trefniadau talu a dechrau gwneud taliadau yn uniongyrchol i'ch cyfrif cyfredol.
Mae'n bwysig nad ydych yn cau eich cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post nes eich bod wedi gwirio bod eich taliadau budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth yn cael eu talu i'ch cyfrif newydd.
Cau eich cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post
Arhoswch nes i chi gael eich taliad cyntaf i'ch cyfrif cyfredol newydd, cyn i chi gau eich cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post (POca).
Gwiriwch nad ydych wedi gadael unrhyw arian yn eich POca cyn i chi ei gau.
Os oes arian yn eich cyfrif o hyd a’ch bod angen help i'w dynnu allan, ffoniwch ganolfan gyswllt Swyddfa'r Post ar 0345 722 3344 neu Typetalk ar 0345 722 3355.
I gau'r cyfrif, byddwch angen casglu ffurflen cau cyfrif P6703 o'ch Swyddfa’r Post leol, neu gallwch ffonio canolfan gyswllt Swyddfa'r Post i anfon un atoch. Gallant hefyd eich helpu i'w lenwi.
Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen, ewch â hi yn ôl i'ch Swyddfa’r Post leol i rywun ei gwirio a'i hanfon ymlaen. O'r pwynt hwn, bydd yn cymryd hyd at ddeg diwrnod gwaith i'ch cyfrif gael ei gau.
Pan fydd eich cyfrif ar gau, bydd unrhyw arian sy'n weddill yn eich POca yn cael ei drosglwyddo i'r cyfrif banc rydych chi wedi'i ddewis (os ydych chi wedi darparu manylion eich cyfrif i Swyddfa'r Post).
Os oes gennych gredydau treth neu Fudd-dal Plant wedi’i dalu i’ch POca
Os ydych yn derbyn taliad CThEM (Credyd Treth, Budd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad) wedi’i dalu i mewn i POca, bydd CThEM yn ysgrifennu atoch ar wahân i ofyn am fanylion eich cyfrif cyfredol.
Ni fydd CThEM yn gwneud taliadau credyd treth, Budd-dal Plant na Lwfans Gwarcheidwad trwy gardiau talu a thalebau. Rhaid i chi roi gwybod i CThEM am eich manylion banc newydd erbyn 5 Ebrill 2022.
Os nad oes gennych gyfrif cyfredol, mae gennym wybodaeth ar sut i ddewis ac agor un yn yr adran isod.
Os nad oes gennych gyfrif cyfredol ac na allwch agor un, bydd angen i chi gysylltu â CThEM i drafod eich opsiynau.
Os ydych yn derbyn taliadau gan CThEM a’r Adran Gwaith a Phensiynau, bydd ond rhaid cysylltu efo unai yr Adran Gwaith a Phensiynau neu CThEM i drefnu i’ch taliadau gael eu newid. Yna bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EM yn cydweithio i ddiweddaru eich manylion banc.
Cysylltwch â CThEM os ydych yn hawlio:
Budd-dal Plant neu gallwch roi gwybod i CThEM am eich manylion banc newydd ar-lein (Opens in a new window) gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth
Lwfans Gwarcheidwad (Opens in a new window) neu gallwch roi gwybod i CThEM am eich manylion banc newydd ar-lein (Opens in a new window) gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth
Credydau Treth
Sut i ddewis ac agor cyfrif cyfredol
Bydd y mwyafrif o gyfrifon cyfredol neu sylfaenol gan fanciau, cymdeithasau adeiladu ac undebau credyd y DU eisoes yn derbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer eich Credyd Cynhwysol, budd-daliadau eraill neu'ch Pensiwn y Wladwriaeth. Gallai hwn fod yn gyfrif cyfredol gan fanc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd neu gyfrif banc sylfaenol di-ffi.
Darganfyddwch fwy am y cyfrifon gorau ar gyfer eich budd-daliadau neu daliadau pensiwn yn ein canllaw Dewis cyfrif banc ar gyfer eich taliadau budd-daliadau
Os nad ydych yn siŵr pa gyfrif banc sydd orau i chi, gallwch ein ffonio ar 0800 138 7777 (Saesneg) neu 0800 138 0555 (Cymraeg). Ar gyfer Typetalk ffoniwch 18001 0800 915 4622.
Os nad ydych yn gymwys i gael cyfrif cyfredol safonol, yna efallai y bydd y darparwr banc a ddewiswch yn gallu cynnig cyfrif banc sylfaenol i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw sut mae cyfrifon banc sylfaenol yn gweithio.
Agor cyfrif cyfredol
Ar ôl i chi ddewis cyfrif cyfredol, gallwch agor cyfrif yn bersonol, dros y ffôn neu ar-lein. Os ydych yn poeni am wneud hyn eich hun, gall perthynas, ffrind neu ofalwr dibynadwy eich helpu chi.
Os oes gennych gynorthwyydd eisoes (a elwir yn ‘asiant parhaol’) ar gyfer eich cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post, gallwch ofyn i’r person hwn eich helpu i agor cyfrif.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael help anffurfiol i reoli'ch arian
A allaf barhau i ddefnyddio Swyddfa’r Post i reoli fy arian gyda chyfrif cyfredol?
Hyd yn oed os ydych chi'n agor cyfrif cyfredol, gallwch barhau i ddefnyddio'ch Swyddfa’r Post leol oherwydd bod y mwyafrif o gyfrifon banc eisoes yn caniatáu i chi dynnu arian allan a rheoli'ch cyfrif o ganghennau Swyddfa'r Post.
Gallwch chi neu gynorthwyydd wirio a yw'ch banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd wedi'i restru a pha wasanaethau maent yn eu cynnig ar wefan Swyddfa'r Post.
Pa ddogfennau fyddaf eu hangen i agor cyfrif banc?
Pan fyddwch yn agor cyfrif banc mae'n rhaid i chi roi prawf o bwy ydych chi a'ch cyfeiriad. Os oes gennych basbort neu drwydded yrru gyda llun fel prawf adnabod (ID) neu ddatganiadau bil i brofi cyfeiriad, gallwch ddefnyddio'r dogfennau hyn.
Fodd bynnag, peidiwch â phoeni os nad oes gennych y dogfennau hyn neu os nad oes gennych gyfeiriad parhaol nawr.
Gallwch chi neu gynorthwyydd wirio gofynion ID ar wefan y banc, y gymdeithas adeiladu neu'r undeb credyd yr hoffech eu defnyddio fel y gallwch ddod o hyd i gyfrif banc sy'n diwallu'ch anghenion.
Neu gallwch ymweld â'ch cangen leol a gofyn iddynt ba ID y byddant yn ei dderbyn.
Sut i brofi’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad
Mae banciau, cymdeithasau adeiladu ac undebau credyd fel arfer yn gofyn am ddwy ddogfen i wirio'ch hunaniaeth a'ch cyfeiriad:
- un ddogfen i gadarnhau eich enw cyntaf a theulu llawn (er enghraifft, eich pasbort, trwydded yrru, llythyr Budd-dal y Wladwriaeth neu Bensiwn y Wladwriaeth, ac ati), ni ddylai fod â llythrennau cyntaf
- un ddogfen i gadarnhau eich cyfeiriad er enghraifft, Bil Treth Cyngor, neu fil y cartref, rhent neu ddatganiad morgais.
Gallwch ddarganfod dogfennau eraill sy'n debygol o gael eu derbyn ar y rhestr wirio Prawf Hunaniaeth ar wefan GOV.UK.
Os nad oes gennych fynediad at unrhyw un o'r rhain, efallai y byddai'n werth siarad â Banc, Undeb Credyd neu Gymdeithas Adeiladu i drafod a allant dderbyn mathau eraill o hunaniaeth.
Os nad oes gennych | Fe allech roi cynnig ar |
---|---|
Pasbort neu drwydded yrru |
Llythyrau sy'n dangos eich enw llawn:
|
Prawf o gyfeiriad |
Llythyrau gan:
|
Efallai y bydd y banc yn gallu gwirio'ch hunaniaeth yn electronig trwy ddefnyddio asiantaethau cyfeirio credyd i chwilio ffynonellau gwybodaeth sy'n ymwneud â chi (chwiliad hunaniaeth). Os ydynt yn cynnig gwneud hyn, gofynnwch a fydd y chwiliad yn effeithio ar eich statws credyd.
Efallai y bydd gennych ddogfennau eraill i brofi'ch ID a'ch cyfeiriad os ydych yn:
- myfyriwr rhyngwladol
- gweithiwr mudol
- ffoadur
- ceisiwr lloches
- carcharor
- ar brawf.
Os nad ydych yn siŵr beth y gallwch ei ddefnyddio i brofi'ch ID a'ch cyfeiriad, ewch â'r holl ddogfennau sydd gennych. Bydd hyn yn helpu'r banc neu'r gymdeithas adeiladu i benderfynu beth y byddant yn ei dderbyn.