Os ydych wedi cael budd-daliadau neu gredydau treth wedi’u gordalu, bydd yn rhaid i chi dalu’r arian hwn yn ôl. Darganfyddwch pam efallai eich bod wedi cael eich gordalu, sut i wneud ad-daliadau a beth i’w wneud os na allwch fforddio gwneud eich ad-daliadau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich gordalu
- Pam efallai eich bod wedi cael eich gordalu
- Gordaliadau credydau treth pan fyddwch yn dechrau hawlio Credyd Cynhwysol
- A fydd yn rhaid i chi dalu gordaliad yn ôl?
- Faint yw’r ad-daliadau?
- Sut i herio penderfyniad gordaliad
- Pa daliadau eraill sy’n rhaid eu talu’n ôl?
- Ad-dalu dyled budd-dal
- Methu fforddio’r ad-daliadau?
Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich gordalu
Credyd Cynhwysol
Rhoi gwybod am ordaliad o Gredyd Cynhwysol trwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
(8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Neu mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ar wefan Gov.uk ac ychwanegu nodyn i’ch dyddlyfr.
Credydau Treth
Mae Credydau Treth yn amcangyfrif, sy’n cael eu terfynu ar ôl i chi adnewyddu eich cais bob blwyddyn.
Y swm y gall eich incwm newid cyn i chi orfod dweud wrth y Swyddfa Credydau Treth yw £2,500. Gelwir hwn yn incwm a ddiystyrir.
Darganfyddwch fwy am newidiadau sy’n effeithio ar eich credydau treth ar wefan Gov.uk
Ffoniwch linell gymorth Credydau Treth os ydych yn meddwl eich bod wedi cael gordaliad:
Ffôn: 0300 200 1900
Ffôn testun: 0345 300 3900
(8am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Neu Gwesgwrs
(Dydd Llun i ddydd Sadwrn, 8am i 8pm, dydd Sul, 9am i 10pm)
Mae fwy o fanylion cyswllt, ewch i wefan GOV.UK
Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor
Rhoi gwybod am ordaliad Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor i’ch awdurdod lleol.
Darganfyddwch eich awdurdod lleol ar wefan GOV.UK
Budd-daliadau eraill
Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal cyn gynted â phosibl a dywedwch wrthynt eich bod yn meddwl eich bod wedi cael eich gordalu.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Pam efallai eich bod wedi cael eich gordalu
Efallai digwyddodd y gordaliad oherwydd:
- camgymeriad wrth gyfrifo’ch budd-daliadau neu gredydau treth
- y wybodaeth anghywir, neu dim digon o wybodaeth, pan wnaethoch eich cais
- newid mewn amgylchiadau
- methu ag adolygu eich credydau treth ar amser.
Gordaliadau credydau treth pan fyddwch yn dechrau hawlio Credyd Cynhwysol
Mae gordaliadau credydau treth yn gyffredin. Os ydych wedi symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol efallai eich bod wedi cael llythyr gan Gyllid a Thollau EM yn dweud wrthych eich bod wedi cael gordaliad o gredydau treth.
Bydd y gordaliad hwn yn cael ei didynnu o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.
Eich opsiynau yw:
- Gwneud dim ac aros i’r ad-daliadau cael eu didynnu o’ch taliadau Credyd Cynhwysol.
- Cysylltu â Rheoli Dyled yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os na allwch fforddio’r ad-daliadau. Dewch o hyd i fwy ar wefan GOV.UK
- Ad-dalu’r gordaliad credydau treth yn uniongyrchol - dewch o hyd i fwy ar wefan GOV.UK
- Cwestiynu’r gordaliad os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir.
Darganfyddwch sut i herio penderfyniad credydau treth ar wefan Cyngor ar Bopeth
A fydd yn rhaid i chi dalu gordaliad yn ôl?
Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd
Hyd yn oed os nad eich bai chi oedd y gordaliad, gofynnir i chi ad-dalu gordaliad o Gredyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd.
Os nad bai chi oedd y gordaliad, er enghraifft camgymeriad gweinyddol, fel arfer fe ofynnir i chi ei ad-dalu hefyd.
Serch hynny, os ydych yn credu bod y swm a gawsoch yn gywir, mae gennych yr hawl i ddadlau nad ydych wedi cael eich gordalu a herio’r penderfyniad. Gweler ein hadran isod ar – ‘Sut i herio penderfyniad gordaliad’.
Credydau treth
Ni ddylai fod yn rhaid i chi dalu’r gordaliad yn ôl os gwnaeth y Swyddfa Credydau Treth y camgymeriad a’ch bod wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod eich dyfarniad yn gywir. Mewn geiriau eraill:
- gwnaethoch roi gwybod am bob newid mewn amgylchiadau ar amser
- gwnaethoch wirio’ch hysbysiadau dyfarniad a rhoi gwybod am unrhyw wallau o fewn mis.
Darganfyddwch fwy am ordaliadau credydau treth ar wefan Cyngor ar Bopeth
Budd-dal Tai
Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu gordaliad Budd-dal Tai os nad eich bai chi ydoedd ac ni ellid bod wedi disgwyl i chi wybod eich bod yn cael eich gordalu.
Darganfyddwch fwy am ordaliadau Budd-dal Tai ar wefan Cyngor ar Bopeth
Gostyngiad Treth Cyngor
Mae gordaliadau Gostyngiad Treth Gyngor yn cael eu trin fel ôl-ddyledion Treth Gyngor. Mae’r rheolau ar gyfer sut mae angen eu had-dalu yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Darganfyddwch fwy am ordaliadau Gostyngiad Treth Cyngor ar wefan Turn2Us
Budd-daliadau eraill
Ar gyfer yr holl fudd-daliadau eraill, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r gordaliad os gwnaethoch roi’r wybodaeth anghywir, neu wybodaeth anghyflawn pan wnaethoch eich cais.
Mae gennych hawl i ddadlau nad ydych wedi cael eich gordalu a herio’r penderfyniad. Gweler ein hadran isod ar - ‘Sut i herio penderfyniad gordaliad’.
Faint yw’r ad-daliadau?
Fe gewch lythyr - neu neges yn eich cyfrif ar-lein - am eich gordaliad. Bydd hyn yn egluro faint y cawsoch eich gordalu ac am ba hyd.
Os ydych yn ad-dalu'r swm sy'n ddyledus gennych drwy gymryd arian allan o'ch budd-daliadau presennol, mae’r ffordd y mae’ch ad-daliadau yn cael eu cyfrifo yn wahanol yn dibynnu ar ba fudd-dal sydd wedi’i ordalu.
- Am Gredyd Cynhwysol, ni all fod yn fwy na 25% o’ch lwfans safonol.
- Am gredydau treth, mae’n amrywio rhwng 10% a 100% o’ch dyfarniad. Mae’n dibynnu ar faint o gredydau treth rydych yn ei gael ar hyn o bryd ac incwm eich cartref.
- Am Fudd-dal Tai - os yw'n cael ei dalu i chi, mae’r ad-daliadau fel arfer yn £11.55 yr wythnos. Os yw’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord, fel arfer mae’n rhaid iddynt dalu’r cyfan yn ôl ar yr un pryd a bydd yn rhaid i chi gytuno ar gynllun ad-dalu gyda’ch landlord.
- Am fudd-daliadau eraill, fel Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn, mae’r ad-daliadau fel arfer yn £11.55 yr wythnos.
Cosbau
Os mai chi sydd ar fai am y gordaliad, neu os na wnaethoch geisio cywiro camgymeriad, efallai y codir cosb o £50 arnoch ar ben yr arian y mae’n rhaid i chi ei dalu’n ôl. Mae hwn yn berthnasol i fudd-daliadau’n unig, nid credydau treth.
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad i godi cosb arnoch. Gweler ein hadran isod ar - ‘Sut i herio penderfyniad gordaliad’.
Sut i herio penderfyniad gordaliad
Gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto ac apelio yn ei erbyn, os:
- nid ydych yn cytuno eich bod wedi cael eich gordalu
- nid ydych yn cytuno â’r swm
- nid ydych yn credu y dylid fod wedi codi cosb arnoch.
Darganfyddwch sut i herio penderfyniad budd-daliadau ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os yw’r gordaliad wedi digwydd oherwydd eich bod wedi gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth os oes angen help arnoch i herio’r penderfyniad.
Y Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf, mae gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth am ddim ac yn gyfrinachol. Gallant eich helpu:
- gwirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
- cael gwaith papur a dogfennau pwysig at ei gilydd er mwyn cyflymu eich cais
- llenwi eich cais ar-lein.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, darganfyddwch fwy o fanylion ar wefan Cyngor Ar Bopeth
Neu yng Nghymru ffoniwch 0800 024 1220. Yn Lloegr, ffoniwch 0800 144 844
Os ydych yn byw yn yr Alban, ewch i wefan Citizens Advice Scotland neu ffoniwch 0800 023 2581
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Darganfyddwch fwy ar wefan nidirect
Pa daliadau eraill sy’n rhaid eu talu’n ôl?
Taliadau ymlaen llaw Credyd Cynhwysol
Efallai eich bod wedi derbyn taliad ymlaen llaw tra roeddech yn aros i’ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf ddod drwyddo.
Mae’n debyg y bydd eich ad-daliadau wedi dechrau ar unwaith, er y gellir eu gohirio hyd at dri mis os ydych mewn argyfwng ariannol.
Rydych yn gwneud yr ad-daliadau o’ch Credyd Cynhwysol dros 12 mis a gallant fod hyd at 25% o’ch lwfans sylfaenol Credyd Cynhwysol.
Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw Credyd Cynhwysol
Efallai eich bod wedi cael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu gyda chostau cartref brys neu i dalu tuag at angladd.
Bydd eich ad-daliadau wedi dechrau ar unwaith ar ôl cael y taliad ymlaen llaw. Fe’u tynnir o’ch taliadau Credyd Cynhwysol.
Maent fel arfer yn cael eu lledaenu dros 12 mis, ond gellir ymestyn hyn tri mis ychwanegol os oes angen.
Benthyciadau Trefnu o’r Gronfa Gymdeithasol
Efallai eich bod wedi derbyn Benthyciad Trefnu er mwyn helpu talu am nwyddau cartref neu i helpu gyda chost symud cartref.
Cafodd ad-daliadau Benthyciadau Trefnu eu hatal yn ystod argyfwng coronafeirws ond maent bellach yn ailddechrau. Maent fel arfer yn cael eu lledaenu dros ddwy flynedd ac yn cael eu cymryd yn awtomatig o’ch budd-daliadau. Mae’r swm ad-dalu yn seiliedig ar eich incwm a’r hyn y gallwch ei fforddio.
Taliadau Caledi os ydych ar Gredyd Cynhwysol
Efallai eich bod wedi cael Taliad Caledi i helpu â diffyg arian os gostyngwyd eich taliadau budd-dal oherwydd sancsiwn.
Dim ond os ydych ar Gredyd Cynhwysol (nid budd-daliadau eraill) y mae’n rhaid i chi ad-dalu Taliad Caledi. Fe’u had-delir o’ch taliadau yn y dyfodol a gallant fod hyd at 30% o’ch lwfans sylfaenol Credyd Cynhwysol.
Ad-dalu dyled budd-dal
Gallwch ad-dalu dyled budd-dal trwy:
- didyniadau o’ch taliadau budd-dal
- gwneud taliadau trwy fancio ar-lein, Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog
Os nad oes yr un o’r rhain yn bosibl, gellir adennill y ddyled o’ch cyflog neu ei throsglwyddo i asiantaeth casglu dyledion.
Os ydych am wneud ad-daliad, cysylltwch â chanolfan gyswllt Rheoli Dyled yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Canolfan Gyswllt Rheoli Dyled DWP
Ffoniwch nhw am ddim ar:
Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
(9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, byddwch angen cysylltu â’r Department for Communities Debt Management Service
Methu fforddio’r ad-daliadau?
Os ydych yn cael trafferth - neu os ydych yn meddwl eich bod yn mynd i gael trafferth - i ad-dalu dyled budd-dal neu gredyd treth, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym.
Os mai dyma’ch unig ddyled
Os nad oes gennych ddigon o arian i fyw arno oherwydd yr ad-daliadau y gofynnir i chi eu gwneud, gallwch ofyn iddynt gael eu lleihau.
Os ydych yn ad-dalu taliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol neu fewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ac ychwanegwch nodyn i’ch dyddlyfr yn gofyn am ostwng eich ad-daliadau.
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, ffoniwch linell gymorth am ddim Credyd Cynhwysol ar:
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau’r banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim.
Ar hyn o bryd, mae’r llinell gymorth yn brysur iawn oherwydd yr argyfwng coronafeirws. Felly, efallai y byddwch am ddefnyddio eich cyfrif ar-lein, os gallwch. Mewngofnodwch ar wefan GOV.UK
Canolfan Gyswllt Rheoli Dyled DWP
Ffoniwch nhw am ddim ar:
Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, byddwch angen cysylltu â’r Department for Communities Debt Management Service
Os oes gennych ddyledion eraill
Mae dyled budd-dal yn cael ei drin fel dyled â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu bod effaith o beidio â’i ad-dalu yn fwy difrifol.
Dyledion â blaenoriaeth eraill yw pethau fel ôl-ddyledion rhent, biliau ynni hwyr a Threth Cyngor sydd heb eu talu.
Os oes gennych fwy nag un ddyled â blaenoriaeth, dylech gael cyngor cyn gynted â phosibl.