Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Gwaith
  3. Hunangyflogaeth
Gwaith Hunangyflogaeth

Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Mae mwy na 4.5 miliwn o bobl yn hunangyflogedig yn y DU. Os ydych yn ystyried mynd amdani, mae’n rhaid i chi ystyried strwythur eich busnes, cyllidebu a thalu eich treth eich hun.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth i’w ystyried wrth ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
  • Pa help sydd ar gael os byddwch yn mynd yn hunangyflogedig
  • Gwahanol fathau o fusnesau hunangyflogedig
  • Ydych chi’n ystyried prynu masnachfraint?
  • Beth sydd angen i chi ei wneud wrth gychwyn busnes a mynd yn hunangyflogedig
  • Darganfyddwch fwy

Beth i’w ystyried wrth ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig

Gall gweithio i chi eich hun roi llawer o foddhad i chi. Mae’n golygu gallwch:

  • gwneud rywbeth sydd o ddiddordeb i chi, neu eich bod yn angerddol amdano
  • dewis eich oriau gweithio
  • gweithio o gwmpas ymrwymiadau eraill, fel eich plant
  • cael mwy o reolaeth dros eich incwm.

Ond mae rhai anfanteision hefyd:

  • gweithio oriau hir ac ar benwythnosau
  • delio ag incwm afreolaidd
  • gorfod gwneud eich gwaith cyfrifo a’ch ffurflenni treth eich hun
  • prin neu ddim buddion cyflogaeth, fel gwyliau â thâl.
 I unrhyw un sy’n dymuno cychwyn busnes newydd yn y DU, mae HMRC wedi creu canllaw rhyngweithiol hawdd ei ddefnyddioYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am sefydlu’ch busnes eich hun a mynd yn hunangyflogedig ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Pa help sydd ar gael os byddwch yn mynd yn hunangyflogedig

n ffodus, pan fyddwch yn dechrau’ch busnes eich hun, mae digon o gymorth a chyngor ar gael.

Bydd gwasanaethau cynghori sy’n cael cymorth y llywodraeth ledled y DU yn eich helpu gydag unrhyw beth o greu cynllun busnes ac ymchwilio i’r farchnad, i ddod o hyd i gyllid a recriwtio staff.

Felly, gan ddibynnu ble rydych yn byw, dylai’r rheiny fod eich man cychwyn.

  • Lloegr – GOV.UK
  • Cymru – Busnes Cymru
  • Yr Alban – Business Gateway
  • Gogledd Iwerddon – Invest Northern Ireland
Nol i’r brig

Gwahanol fathau o fusnesau hunangyflogedig

A ydych yn ystyried cychwyn eich busnes eich hun neu fynd yn hunangyflogedig? Un o’r pethau cyntaf y bydd angen i chi ei ystyried fydd strwythur eich busnes.

Unig fasnachwr

Dyma’r strwythur busnes symlaf. Byddwch yn rhedeg eich busnes eich hun ac yn cadw unrhyw elw ar ôl talu treth.

Fodd bynnag, ni ystyrir bod eich asedau personol ac asedau busnes yn cael eu cadw ar wahân. Golyga hyn eich bod yn gyfrifol yn bersonol am unrhyw ddyledion sy’n gysylltiedig â’ch busnes. Gallwch leddfu’r broblem hon drwy yswiriant, neu drwy ddewis un o’r strwythurau busnes eraill a drafodir isod.

Ond, peidiwch â chilio oddi wrth y syniad o fod yn fusnes. Unig fasnachwr yw hynny’n union – un person, sef chi, yn gweithio iddo’i hun. Nid oes angen i chi fod yn berchennog siop. Gallech fod yn yrrwr tacsi neu’n rhywun sy’n trin gwallt. Mae bod yn fusnes dim ond y term swyddogol.

I ddod yn unig fasnachwr, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru fel rhywun hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Darganfyddwch fwy am sefydlu eich hun fel unig fasnachwr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Partneriaeth

Mae partneriaeth pan ewch i mewn i fusnes gydag un neu ragor o bobl yn rhannu’r cyfrifoldeb am y busnes rhyngoch.

Mae’n bwysig i chi lunio cytundeb partneriaeth, er mwyn i bawb sydd ynghlwm wybod sut y rhennir yr elw.

Ymdrinnir â dyledion busnes dan yr hyn a elwir yn Atebolrwydd Cyd ac Unigol. Golyga hyn bod pob aelod o’r bartneriaeth yn gyfrifol am y dyledion. Mae hyn ar y cyd, neu fel unigolion, yn ddibynnol ar faint all bob un ohonynt ei fforddio dalu’n ôl.

Bydd pob partner yn gorfod cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer eu cyfran bersonol nhw o’r elw. A bydd partner enwebedig yn gorfod cyflwyno ffurflen dreth Hunanasesiad partneriaeth ar ran y busnes.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am sefydlu partneriaeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Cwmni cyfyngedig preifat (Cyf)

Mae cwmni cyfyngedig preifat (Cyf), yn endid cyfreithiol unigol ac yn bodoli hollol ar wahân i’r bobl sydd yn berchen arno ac yn ei redeg. Bydd rhaid cofrestru’r cwmni (neu ei ymgorffori) gyda Thŷ’r Cwmnïau, a bydd rhaid bod ag enw addas a chyfeiriad.

Bydd gan y cwmni gyfarwyddwr (fel arfer y person a sefydlodd y busnes), sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol am redeg y cwmni. Ac o leiaf un cyfranddaliwr (a elwir hefyd yn aelod).

Bydd cwmni Cyf yn gorfod talu treth gorfforaeth ar unrhyw elw. A rhennir unrhyw elw ar ôl treth rhwng y cyfranddeiliaid.

Bydd angen i’r cwmni gyflwyno ei gyfrifon blynyddol i Dŷ’r Cwmnïau a ffurflen dreth i HMRC.

Bydd y cyfarwyddwr angen cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad hefyd, ond bydd yn talu treth ar yr arian a enillodd drwy redeg y busnes yn unig, nid ar yr elw.

Darganfyddwch fwy am sefydlu cwmni cyfyngedig preifat ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Er mai’r rhain yw’r hawsaf i’w sefydlu a’u deall, mae opsiynau eraill ar gael hefyd.

Partneriaeth gyfyngedig

Mae rhaid i bartneriaeth gyfyngedig gael o leiaf un partner cyffredinol ac un partner cyfyngedig.

Y partner cyffredinol sy’n gyfrifol am redeg y busnes ynghyd â dyledion y bartneriaeth. Mae’r partner cyfyngedig yn atebol dim ond am y swm a fuddsoddodd ef neu hi yn y busnes yn wreiddiol.

Darganfyddwch fwy am bartneriaethau cyfyngedig ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Partneriaethau ag atebolrwydd cyfyngedig (LLP)

Mae LLPs yn gyfuniad o bartneriaeth a chwmni cyfyngedig.

Fel partneriaeth, gall un neu ragor o bobl ei sefydlu. Ond fel Cyf, mae rhaid:

  • ei hymgorffori gyda Thŷ’r Cwmnïau
  • rhoi enw addas a chyfeiriad iddi
  • iddi fod yn endid cyfreithiol ar wahân o’r unigolion sy’n ei rhedeg.

Mae rhaid iddi hefyd gael o leiaf dau gyfranddaliwr (neu aelodau) – ac mae pob cyfranddaliwr yn talu treth ar ei gyfran o’r elw.

Cyfyngir atebolrwydd y partneriaid dros ddyledion y busnes i’r swm a fuddsoddwyd ganddynt.

Darganfyddwch fwy am bartneriaethau ag atebolrwydd cyfyngedig ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Ydych chi’n ystyried prynu masnachfraint?

A oes gennych ddiddordeb mewn mynd yn hunangyflogedig neu gychwyn eich busnes eich hun, ond ddim eisiau cychwyn o’r gwaelod? Gallai masnachfraint fod yn rhywbeth i’w ystyried.

Masnachfreinio yw prynu trwydded gan berchennog busnes i ddefnyddio syniad busnes ac enw brand sy’n bodoli eisoes.

Mae rhai masnachfreintiau adnabyddus yn cynnwys allfeydd bwyd cadwyn McDonalds, Burger King a KFC. Ond mae miloedd o gyfleoedd masnachfraint eraill ar gael, gan enwau sy’n adnabyddus yn fyd-eang a gan sefydliadau lleol.

Gall y costau sefydlu fod braidd yn ddrud. Ond byddwch yn prynu i mewn i frand sefydledig a dylai’r trefniant gynnwys:

  • hyfforddiant a chanllawiau i sefydlu, a
  • cynnal a thyfu eich masnachfraint.

Ond gwyliwch rhag sgamiau. Sicrhewch fod y brand yn un sefydledig a bod y masnachfreiniwr wrthi’n marchnata’r brand yn bwrpasol.

I ddarganfod mwy am fasnachfraint, ewch i wefan Cymdeithas Masnachfraint Prydain
 
Yng Ngogledd Iwerddon, mae rhagor o wybodaeth am brynu masnachfraint ar wefan NI Business Info
Nol i’r brig

Beth sydd angen i chi ei wneud wrth gychwyn busnes a mynd yn hunangyflogedig

Pan fyddwch yn ystyried mynd yn hunangyflogedig neu sefydlu busnes, bydd llawer o bethau y bydd angen i chi eu hystyried.

Nid rhestr gyflawn yw hon, ond mae’n cynnwys rhai o’r prif elfennau y dylech eu hystyried.

Darganfyddwch fwy am sefydlu eich busnes eich hunan ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Lluniwch gyllideb

Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll mae’n debyg, mae angen llunio cyllideb.

Bydd angen i chi feddwl am yr holl gostau fydd eu hangen i sefydlu’ch busnes ac i gychwyn arni. Gallai’r costau hynny gynnwys:

  • rhentu adeilad busnes neu flaen siop, a’r costau ynghlwm â hynny - gan gynnwys trydan a chysylltiad i’r rhyngrwyd.
  • prynu neu hurio cerbyd(au) a chost tanwydd a chynnal a chadw
  • offer gan gynnwys celfi, cyfrifiaduron a ffonau
  • sefydlu a chynnal gwefan
  • hysbysebu and deunyddiau marchnata
  • staff.

Yn amlwg, efallai na fydd angen y cyfan o’r rhain arnoch:

  • nid oes angen adeilad pwrpasol ar lawer o fusnesau llwyddiannus
  • efallai bod llawer o’r offer angenrheidiol gennych yn barod
  • efallai na fydd angen staff arnoch hyd nes i’r busnes sefydlu rhyw gymaint

Fodd bynnag, bydd angen i chi hefyd ystyried eich costau personol fel rhent, morgais, biliau cyfleustodau, gofal plant a bwyd.

Yna bydd angen i chi ystyried faint o’ch arian eich hun allwch fforddio ei fuddsoddi. Bydd hyn yn eich helpu i ganfod a fydd angen i chi chwilio am fuddsoddiad neu fenthyciad busnes.

Efallai y gallwch wneud cais am Fenthyciad Dechrau Busnes a gefnogir gan y llywodraethYn agor mewn ffenestr newydd o £500 i £25,000 i ddechrau busnes. Darganfyddwch fwy ar GOV.UK
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd

Cynllun busnes

Mae dau brif reswm dros ysgrifennu cynllun busnes:

  1. Am resymau busnes – fel gallwch amlinellu’ch amcanion, datblygu syniadau a chynllunio ar gyfer y tymor byr a’r tymor canol.
  2. I’w gyflwyno i bobl y tu hwnt i’ch busnes – fel arfer i fanciau a buddsoddwyr arfaethedig, os ydych yn dymuno codi arian.

Waeth pwy yw eich cynulleidfa wrth gyflwyno’r cynllun, mae’n bwysig bod yn realistig ynglŷn â’ch costau a’ch gobeithion o ran incwm.

Os caiff ei ddarllen gan bobl y tu hwnt i’ch busnes, gwnewch yn siŵr ei fod:

  • yn edrych yn broffesiynol,
  • wedi ei strwythuro’n dda
  • yn cynnwys yr holl wybodaeth y byddai pobl yn disgwyl ei gweld.
Darganfyddwch fwy am gynllunio busnes, gan gynnwys sut i ysgrifennu cynllun busnes ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Talu trethi

Cyllidebu ar gyfer eich Bil Treth Hunanasesiad

Os ydych yn ystyried sefydlu’ch busnes eich hun, bydd angen i chi hefyd gofrestru ar gyfer Hunanasesiad i dalu’ch trethi eich hunan.

Byddwch yn talu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich enillion hunangyflogaeth fel ôl-daliadau. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych ar arian a enillwyd yn y flwyddyn dreth 2023/24 yn daladwy tan fis Ionawr 2025.

Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gynllunio sut fyddwch yn talu bil a allai fod yn swm sylweddol.

Y newyddion da yw y bydd gennych syniad da faint o dreth fydd yn ddyledus gennych ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol. Mae hynny’n rhoi naw mis i chi baratoi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad
  • Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig

Os ydych yn sefydlu cwmni preifat cyfyngedig (Cyf) neu bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, bydd angen i chi dalu Treth Gorfforaeth hefyd ar elw eich busnes.

Darganfyddwch fwy am gofrestru ar gyfer, a thalu,Treth Gorfforaeth ar wefan GOV.UK

Cofrestru ar gyfer TAW

Oeddech chi’n gwybod?

Os oes gennych drosiant o dros £85,000 yn y flwyddyn dreth 2023/24 (£90,000 o fis Ebrill, felly ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25), bydd angen i chi gadw cofnodion treth digidol a chyflwyno cofnodion TAW gan ddefnyddio system HMRC Making Tax Digital. 

Darganfyddwch fwy am wneud treth yn ddigidol ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os oes gan eich busnes drosiant trethadwy o £85,000 neu fwy am flwyddyn dreth 2023/24, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer TAW. Ers mis Ebrill 2024 -felly ar gyfer y flwyddyn dreth 2024/25 -mae'r trothwy cofrestru TAW ar gyfer busnesau yn £90,000. Ond gallai fod o fudd i rai busnesau gofrestru hyd yn oed os yw eu trosiant yn is na hyn.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, bydd angen i chi godi TAW ar y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir gennych.

Fodd bynnag, gallwch hawlio’r TAW a dalwch am nwyddau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’ch busnes, yn ôl.

Darganfyddwch fwy am gofrestru ar gyfer TAW ar wefan GOV.UK

Cadw cofnodion

Oeddech chi’n gwybod?

Os yw’ch trosiant blynyddol cyfunol yn llai na £150,000 y flwyddyn, gallwch ddefnyddio fersiwn symlach o dreuliau, sef ar sail arian parod. Mae sail arian parod yn ffordd i gyfrifo'ch incwm a'ch treuliau ar gyfer eich ffurflen dreth Hunan-asesiad, os ydych chi'n unig fasnachwr neu'n bartn.

Os na fuoch erioed yn hunangyflogedig o’r blaen, un peth y bydd rhaid i chi ddysgu ei wneud yn fuan iawn yw cadw cofnodion.

Bydd angen i chi gadw cofnod o’r hyn a godwch ar eich cleientiaid am nwyddau a gwasanaethau, yn ogystal ag unrhyw dreuliau sy’n gysylltiedig â’r busnes.

Mae’r math o gofnodion sy’n dderbyniol yn cynnwys derbynebau, cyfriflenni banc, anfonebau a rholiau til.

Ni fydd angen i chi anfon eich cofnodion wrth gyflwyno ffurflen dreth, ond bydd angen i chi eu cadw am bum mlynedd ar ôl dyddiad cau dychwelyd y ffurflen dreth berthnasol.

Er enghraifft, ar gyfer eich ffurflen dreth 2023/24, bydd angen i chi gadw’ch cofnodion tan 31 Ionawr 2029.

Darganfyddwch fwy am gadw cofnodion pan ydych yn hunangyflogedig ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
 
Darganfyddwch fwy am dreuliau derbyniol pan ydych yn hunangyflogedig ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Cyfrifo traddodiadol vs arian parod

A oes gennych drosiant blynyddol cyfunol o lai na £150,000 a’ch bod yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth? Gallwch ddefnyddio cyfrifo ar sail arian parod yn hytrach na chyfrifo traddodiadol.

Gyda chyfrifo traddodiadol rydych yn talu treth a hawlio treuliau’n seiliedig ar yr anfoneb neu’r dyddiad bilio.

Os dewiswch gyfrifo ar sail arian parod, rydych yn talu treth a hawlio treuliau yn unol â pha bryd mae’r arian yn gadael neu’n mynd i mewn i’ch cyfrif.

Pam fod hyn o bwys? Wel, os ydych yn cael eich talu am waith yn fisol, yna mae’n debyg nad yw’n gwneud llawer o wahaniaeth. Ond, os cytunwch i anfonebu rhywun am waith rai misoedd cyn i chi gael eich talu yna gall hynny newid y flwyddyn y talwch dreth ar yr incwm hwnnw.

Er enghraifft, os defnyddiwch gyfrifo traddodiadol ac anfonebu rhywun ym mis Mawrth 2024, ond ni chewch eich talu tan fis Gorffennaf 2024, rhaid i chi ddatgan yr incwm hwn ar eich ffurflen dreth 2023/24 a thalu treth arno erbyn mis Ionawr 2025.

Os defnyddiwch y dull ar sail arian parod, byddai rhaid i chi ddatgan yr incwm hwn yn y flwyddyn dreth y cawsoch eich talu, sef 2024/25. Mae hyn yn golygu na fyddai rhaid i chi dalu treth arno tan fis Ionawr 2026.

Fodd bynnag, mae rhai anfanteision i gyfrifo ar sail arian parod. Er enghraifft, ni allwch wrthbwyso colledion yn erbyn eich incwm trethadwy, na hawlio mwy na £500 mewn costau llog. Felly efallai y byddai’n syniad da i chi gael cyngor ynglŷn â beth fyddai orau i chi a’ch busnes.

Darganfyddwch fwy am gyfrifo ar sail arian parod ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

A oes angen cyfrifydd arnoch chi?

Mae hwn yn gwestiwn anodd ac nid oes ateb pendant. Os yw’ch busnes yn gwbl newydd ac mae eich sefyllfa ariannol yn un syml, gallech roi cynnig ar reoli’r cyfan eich hunan, am y tro beth bynnag.

Fodd bynnag, gall talu cyfrifydd fod yn gam da gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn medru rhoi cyngor ar gynllunio ar gyfer treth a gwrthbwyso treuliau yn erbyn incwm. Hefyd nid yw o reidrwydd yn gostus.

Os ydych yn bwriadu llogi cyfrifydd, sicrhewch eu bod yn aelod o gorff masnach perthnasol, fel:

  • Sefydliad y Cyfrifwyr Ariannol (IFA)
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yn Lloegr a Chymru (ICAEW)

Gallai cyfrifwyr hefyd fod wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Fodd bynnag, mae rhai cyfrifwyr wedi’u heithrio ac nid yw’n ofynnol iddynt gael eu hawdurdodi gan y FCA wrth gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau rheoledig.

Darganfyddwch fwy ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol yn yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd

Oes angen cyfrif banc busnes arnaf?

Os ydych yn unig fasnachwr neu mewn partneriaeth, nid oes raid i chi gael cyfrif banc busnes. Ond, gallai fod o fudd i chi gadw’ch arian busnes a phersonol ar wahan, yn enwedig os ydych mewn partneriaeth.

Os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig, mae’n rhaid i chi gael cyfrif banc busnes.

Fel gyda chyfrifon personol, mae gan gyfrifon banc busnes lawer o nodweddion gwahanol. Gallwch gymharu gwahanol gyfrifon banc busnes yn:

  • MoneySupermarket
  • Go Compare
  • Business Comparison

Meddalwedd cadw cyfrifon

Mae rhai darparwyr yn gallu cyflwyno rhannau o'ch ffurflen dreth yn awtomatig. Os ydych chi eisiau rhywfaint o help gyda’ch cofnodion a chadw llyfrau, efallai y byddwch eisiau edrych ar rai o’r cyflenwyr meddalwedd masnachol a restrir ar adran CThEF ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Yswiriant personol a busnes

Os ydych yn rhedeg eich busnes eich hun, mae’n bwysig sicrhau bod gennych yswiriant.

Byddwch yn sicr angen rhyw fath o yswiriant busnes, fel atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant offer. Ond mae ystod eang o gynnyrch ar gael.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig

Gan nad oes gennych gyflogwr i ddibynnu arno os ewch yn sâl, nac yswiriant iechyd, efallai hoffech ystyried polisi yswiriant personol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant personol pan fyddwch yn hunangyflogedig

Budd-daliadau a hunangyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig ac ar incwm isel, efallai gallwch wneud cais am fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig
Nol i’r brig

Darganfyddwch fwy

Yn Ymddiriedolaeth y Tywysog, darganfyddwch am gymorth ymarferol ac ariannol i bobl ifanc (hyd at 30 oed)Yn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Hunangyflogaeth

Bod yn hunangyflogedig

  • Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
  • Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig
  • Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
  • Cymryd yswiriant personol pan ewch yn hunangyflogedig
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Bod yn hunangyflogedig

  • Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
  • Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig
  • Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
  • Cymryd yswiriant personol pan ewch yn hunangyflogedig
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau