Hyd yn oed os nad yw eich ymddeoliad yn bell i ffwrdd, mae yna ffyrdd i gynyddu’ch incwm ymddeoliad. Mae hyn yn berthnasol i’ch hawl Pensiwn y Wladwriaeth yn ogystal ag unrhyw gronfeydd pensiwn personol neu weithle sydd gennych. Darganfyddwch beth allwch ei wneud.
Y ddau ddewis allweddol – talu mwy i mewn neu ohirio
Efallai fod gennych amser o hyd i roi hwb i'ch pensiwn. Mae gennych ddau brif ddewis:
- gohirio’r dyddiad y byddwch yn dechrau cymryd eich incwm ymddeoliad
- ychwanegu at eich cronfa bensiwn, un ai drwy ychwanegu at gynllun presennol neu ddechrau un ychwanegol
Mae’n risg fawr ceisio rhoi hwb i’ch cronfa bensiwn drwy fuddsoddi mewn buddsoddiadau â thwf uwch yn y cyfnod cyn ymddeol.
Os bydd gwerth y buddsoddiadau’n gostwng, efallai na fydd amser iddo gynyddu eto cyn i chi fod eisiau dechrau tynnu arian o’ch cronfa.
Cynyddu eich cynilion pensiwn
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, naill ai trwy'ch gweithle neu un rydych wedi'i sefydlu i chi'ch hun, dylech allu gwneud cyfraniadau ychwanegol iddo. Bydd hyn yn eich helpu i adeiladu pot mwy, y gallwch wedyn ei ddefnyddio i ddarparu incwm ar ôl ymddeol
Mae gwneud cyfraniadau pensiwn ychwanegol yn y blynyddoedd cyn ymddeol yn dod â hwb ar unwaith ar ffurf rhyddhad treth.
Gallwch chi feddwl am hyn fel ‘ychwanegu at’ eich pensiwn. Er mwyn cynyddu eich cyfraniadau pensiwn, cysylltwch â'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn. Bydd un ohonynt yn gallu diweddaru eich cyfraniadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a’ch pensiwn
Byddwch yn ymwybodol bod yna derfyn ar faint y gallwch chi ei gyfrannu bob blwyddyn wrth elwa ar ryddhad treth.
Gosodwyd hyn gan y llywodraeth ac fe’i adnabyddir fel y lwfans blynyddol. Mae ar hyn o bryd yn £40,000 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.
Fodd bynnag, gallwch hefyd dderbyn rhyddhad treth hyd at 100% o’ch enillion. Felly os yw eich enillion yn is na £40,000, byddwch â hawl i ryddhad treth dim ond hyd at y swm rydych yn ei ennill.
I rai sy'n ennill cyflog uchel (gydag incwm uwch na £200,000) a'r rhai sydd wedi cymryd arian o'u pensiwn yn hyblyg, gallai'r lwfans fod yn is.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y Lwfans Blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn
Efallai y bydd yn bosibl cyfrannu mwy na'ch lwfans blynyddol a dal i elwa o ryddhad treth trwy ddefnyddio lwfans nas defnyddiwyd o hyd at y tair blynedd dreth flaenorol.
Darganfyddwch fwy yn ein callaw Cario Ymlaen
Mae yna hefyd derfyn cyffredinol i faint y gallwch chi ei gronni mewn buddion pensiwn heb gael taliadau treth ychwanegol. Gelwir hyn yn lwfans oes (£1,073,100 am y flwyddyn dreth gyfredol).
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans oes ar gyfer cynilion pensiwn
Gohirio cymryd incwm o’ch pensiwn gweithle neu bersonol
Gallai gohirio’r dyddiad y byddwch yn dechrau cymryd eich incwm ymddeol roi hwb i’ch pensiwn mewn nifer o ffyrdd.
- Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio mae’n caniatáu mwy o amser i chi gyfrannu at eich cronfa bensiwn, a mwy o amser iddi dyfu o bosibl, felly mae’n bosibl y byddwch wedi cronni mwy o gynilion erbyn i chi ymddeol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi feddwl am newid y modd y caiff ei buddsoddi er mwyn unioni’r ffordd rydych yn bwriadu defnyddio’ch cronfa bensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
- Mae cyfraddau ar gyfer cynnyrch sydd ag incwm gwarantedig (blwydd-daliadau) hefyd yn cynyddu wrth i chi fynd yn hŷn. Felly, os ydych yn ystyried defnyddio’ch cronfa bensiwn i brynu incwm gwarantedig, fe allech gael incwm uwch os penderfynwch chi oedi, ond dim ond os na fydd y cyfraddau blwydd-dal cyffredinol yn gostwng.
- Os ydych chi'n ystyried cymryd incwm ymddeol hyblyg o unrhyw gronfeydd pensiwn sydd gennych chi, gall dechrau cymryd yr arian roi gwell siawns i chi wneud iddo bara cyhyd ag y mae angen. Ac fe allai o bosib ganiatáu ichi gymryd incwm uwch ar y dechrau.
- Os oes gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio, gallai dechrau cymryd eich incwm yn ddiweddarach olygu y cewch incwm uwch pan ddechreuwch gymryd yr arian. Efallai y bydd hefyd yn arbed talu treth ar yr incwm ichi, er enghraifft, os ydych chi'n dal i weithio. Bydd angen i chi feddwl faint yn ychwanegol y byddwch chi'n ei gael a pha mor hir y gallai ei gymryd i adennill yr incwm rydych chi wedi'i golli.
Os ydych yn ystyried gohirio cymryd eich pensiwn, siaradwch â’ch darparwr i ddeall eich opsiynau. Ac i wirio a fydd unrhyw gostau am newid eich dyddiad ymddeol.
Darganfyddwch fwy, yn cynnwys y buddion a’r risgiau posib o ohirio’ch pensiwn, yn ein canllaw Ymddeol yn hwyrach neu oedi cyn cymryd eich cronfa bensiwn
Gwneud y gorau o’ch Pensiwn y Wladwriaeth
Os byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny, yna bydd angen 35 o flynyddoedd o leiaf o gyfraniadau Yswiriant Gwladol arnoch i gael Pensiwn Newydd y Wladwriaeth yn llawn, sef £185.15 yr wythnos.
Gall y cyfraniadau hyn fod yn gymysgedd o'r rhai rydych wedi'u talu mewn gwirionedd ac eraill rydych yn cael eich trin fel eich bod wedi'u talu.
Er enghraifft, yn ystod cyfnodau pan oeddech yn magu plant ifanc neu’n methu â gweithio oherwydd problemau iechyd.
Os oes gennych lai o flynyddoedd cymwys, bydd eich hawl i bensiwn yn llai mewn cyfrannedd â’r blynyddoedd.
Er enghraifft, pe bai gennych 23 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, byddai gennych hawl i gael tua dwy ran o dair o’r pensiwn llawn.
Gan fod bywyd gwaith yn tueddu i bara rhyw 40 mlynedd, bydd y rhan fwyaf o bobl yn bodloni’r amod 35 mlynedd.
Ond os nad ydych chi, efallai y gallwch lenwi rhai bylchau yn eich hanes Yswiriant Gwladol drwy wneud cyfraniadau gwirfoddol nawr.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Coll
Os nad ydych yn siŵr a ydych ar y trywydd iawn i fod wedi gwneud y cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd eu hangen i gael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn, gallwch ofyn am ddatganiad Pensiwn y Wladwriaeth a allai eich helpu i benderfynu.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol
Os ydych chi eisiau llenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, fel arfer rhaid i chi wneud y taliad ychwanegol o fewn chwe blynedd ar ôl methu’r taliad gwreiddiol. Rydych chi'n gwneud hyn trwy dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Mae rhai eithriadau pan allwch brynu blynyddoedd ymhellach yn ôl.
Bydd y gost ar gyfer pob ‘blwyddyn goll’ yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol a Phensiwn y Wladwriaeth
Gohirio cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth
Gall gohirio’r dyddiad y byddwch yn dechrau cymryd Pensiwn y Wladwriaeth wneud gwahaniaeth mawr i lefel y pensiwn a gewch.
I’r rhai sy’n cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth wedi 6 Ebrill 2016, bydd y rheolau Pensiwn y Wladwriaeth newydd yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnyddu o 1% am bob naw wythnos y byddwch yn gohirio.
Mae hyn yn cyfateb i bron i 5.8% am bob blwyddyn lawn.
Telir y swm ychwanegol gyda’ch taliad Pensiwn y Wladwriaeth rheolaidd.
Gallai hyn fod yn opsiwn da os ydych chi'n debygol o barhau i weithio ar ôl eich oed Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi'n ystyried yr opsiwn hwn, meddyliwch pa mor hir y gallai ei gymryd i adennill yr incwm a gollwyd.