Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Marwolaeth a phrofedigaeth
Teulu a gofal Marwolaeth a phrofedigaeth

Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw ac yn gadael ewyllys

Hyd yn oed os bydd rhywun yn gadael ewyllys, gall fod yn anodd gweithio allan 'ystâd' (yr holl arian, buddsoddiadau, pensiynau personol, eiddo, meddiannau) o hyd. Mae rhai pobl yn defnyddio cyfreithwyr neu arbenigwyr i helpu, ond gall fod yn ddrud. Darganfyddwch sut i’w wneud eich hun, beth sydd mewn ystâd, a phryd i gael cymorth.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw
  • Beth sydd ynghlwm â threfnu ystâd?
  • Pwy ddylai roi trefn ar yr ewyllys?
  • Sut i ddarganfod i werth ystad rhywun sydd wedi marw
  • Sut i gasglu asedau yr ymadawedig
  • Cyfrifo Treth Etifeddiant
  • Ymgeisio am brofiant neu gadarnhad
  • Talu dyledion, trethi a dosbarthu’r ystad
  • Rhannu’r ystad

Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod lle i ddechrau pan fydd rhywun rydych yn ei adnabod yn marw. Y cam cyntaf, heblaw am adael i deulu a ffrindiau gwybod, yw cofrestru’r farwolaeth a rhoi gwybod i adrannau llywodraeth, credydwyr, eu landlord neu ddarparwr morgais.

Am help ar beth sydd angen i’w wneud yn ystod yr amser anodd hwn, darllenwch ein canllaw Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw
Nol i’r brig

Beth sydd ynghlwm â threfnu ystâd?

Mae dwy ran i'r broses mewn gwirionedd;

  • Yn gyntaf, gwneud cais am Grant Profiant. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol y mae angen gwneud cais amdani sy’n rhoi awdurdod i’r ysgutor roi trefn ar asedau’r person a fu farw yn unol â’r cyfarwyddiadau yn ei ewyllys.
  • Cwblhau'r broses o Weinyddu Ystadau. Unwaith y bydd gan yr ysgutor y Grant Profiant (ac yn cymryd yr atebolrwydd am wneud hynny) gallent ddechrau'r broses o adnabod holl asedau'r person a fu farw a'u dosbarthu i'r buddiolwyr.
Os nad yw’r person wedi gadael ewyllys, darllenwch ein canllaw Cael trefn ar yr ystad pan nad oes ewyllys

Beth yw profiant?

Dogfen gyfreithiol yw profiant sy’n caniatáu ysgutor yr ewyllys i roi trefn ar ystad yr unigolyn yn unol y cyfarwyddiadau yn eu hewyllys.

Os oes yna ewyllys, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd angen i chi ymgeisio am ‘Grant profiant’. Gelwir hyn hefyd yn ‘Grant cynrychiolaeth’. Gelwir hyn yn ‘confirmation’ yn yr Alban.

Gwiriwch os ydych angen gwneud cais am Brofiant

Pan nad oes angen profiant arnoch

Efallai na fydd angen profiant arnoch:

  • os oedd yr ystad yn eiddo ar y cyd rhwng priod neu bartner sifil yr ymadawedig sy’n goroesi, er enghraifft cyfrif banc ar y cyd
  • os nad yw’r ystad yn cynnwys tir, eiddo neu gyfranddaliadau
  • mae’r arian a gedwir yn y cyfrif o fewn terfynau’r banciau. Mae beth yw’r terfyn hwn a’r polisi ar gyfer cael mynediad ato yn amrywio yn ddibynnol ar y darparwr.

Yn y sefyllfaoedd uchod, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â’r banc neu’r gymdeithas adeiladu a’u hysbysu bod yr unigolyn wedi marw.

Gallent ofyn am gopi o’r dystysgrif farwolaeth fel tystiolaeth.

Gall y priod sy’n goroesi barhau i ddefnyddio’r cyfrif ar y cyd hwnnw.

Nol i’r brig

Pwy ddylai roi trefn ar yr ewyllys?

Pan fydd unigolyn yn gadael ewyllys, byddant fel arfer wedi dewis o leiaf un person i fod yn ysgutor ar gyfer yr ewyllys.

Aelod o’r teulu neu ffrind yw’r ysgutor fel arfer, neu weithiau maent yn gyfreithiwr, banc neu gwmni gweinyddu profiant ac ystâd arbenigol.

Mae’n gwbl arferol hefyd i’r ysgutor fod yn etifedd o’r ystad.

Os mai chi yw ysgutor yr ewyllys, chi sy’n gyfrifol am gael profiant.

I gael profiant, gallwch un ai:

  • ddefnyddio arbenigwr profiant a all gostio miloedd o bunnau, neu
  • wneud hyn eich hun sy’n costio cannoedd o bunnau fel arfer.

Telir y costau o’r ystad fel arfer, cyn belled bod digon o arian i wneud hynny.

Defnyddiwch arbenigwr gweinyddu profiant ac ystâd

Os teimlwch nad ydych yn ddigon hyderus i wneud y gwaith neu os yw’r ystad yn un gymhleth, mae’n syniad da defnyddio arbenigwr gweinyddu profiant ac ystâd.

Mae hefyd yn synhwyrol i ddefnyddio un os oes amheuon ynglŷn â dilysrwydd yr ewyllys.

Os penderfynwch ddefnyddio cwmni arbenigol, dylech ddisgwyl talu miloedd o bunnau am ei wasanaeth. Ond gall costau amrywio’n sylweddol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pryd i ddefnyddio arbenigwr profiant

Cael profiant eich hun

Os ydych yn barod i ysgwyddo’r baich o gael profiant, gallwch arbed cryn dipyn o arian.

Yna gallech dalu cyfreithiwr am y pethau llai, fel gwirio drwy’r ffurflenni profiant.

Os penderfynwch wneud hynny, chi sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am sicrhau bod unrhyw hawliadau ar yr ystad, fel dyledion a threthi, yn cael eu talu cyn dosbarthu’r ystad ymysg ei hetifeddion.

Gallwch nawr gael mynediad i’r Gwasanaeth Profiant ar-lein, felly nid oes angen i chi lawrlwytho’r ffurflenni. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn ysgutor ac:

  • mae gennych yr ewyllys wreiddiol
  • mae gennych y dystysgrif farwolaeth wreiddiol neu dros dro
  • rydych eisoes wedi adrodd gwerth yr ystad.

Os nad ydych wedi rhoi gwybod gwerth yr ystad, gallwch wneud hynny yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Wedi i chi gwblhau eich cais ar-lein, rhoir gwybod i chi pa ddogfennau mae angen i chi anfon i’r Gofrestrfa Profiant. Gellir anfon y rhan fwyaf o’r rhain trwy uwchlwytho ffotograff o’r ddogfen, ond bydd rhaid anfon y gwreiddiol trwy’r post.

Dechreuwch eich cais ar-lein am brofiant ar GOV.UK

Paratoi ar gyfer profiant

Mae’r cam cyntaf wrth ymgeisio am brofiant yn golygu ‘chwilio’ ac ychydig o waith papur.

Yn benodol, bydd angen i chi ddod o hyd i’r ewyllys a gwneud copïau o ddogfennau neilltuol.

Mae angen y dogfennau hyn wrth i chi fynd trwy’r broses o gael profiant.

Dewch o hyd i’r ewyllys a gwneud copïau o rai dogfennau pwysig

Dylai’r ymadawedig fod wedi dweud wrthych, neu aelod o’r teulu neu ffrind, ble cedwir yr ewyllys.

Dylech hefyd wirio am:

  • Codisil: dyma ddogfen rwym yn gyfreithiol y gallai’r ymadawedig fod wedi ei hysgrifennu er mwyn ychwanegu at eu hewyllys wreiddiol neu ei diwygio.
  • Llythyr o ddymuniadau: dyma ddogfen y gallai’r ymadawedig fod wedi ei hysgrifennu i egluro rhai pethau yn eu hewyllys, neu i egluro sut fath o angladd a ddymunant. Nid yw’r llythyr o ddymuniadau yn rhwym yn gyfreithiol.

Efallai y byddwch angen mwy nag un copi ardystiedig o’r dogfennau canlynol:

  • yr ewyllys
  • tystysgrif geni
  • tystysgrif marwolaeth
  • y codisil(iau), os oes rhai
  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil, os oedd yr unigolyn yn briod.

Os nad ydych yn ymgeisio ar-lein, bydd angen i chi atodi copïau o’r amryw ddogfennau hyn i’r ffurflenni profiant, ac i gael mynediad at gyfrifon banc, buddsoddiadau neu yswiriant bywyd yr ymadawedig.

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau chwilio am ewyllys ewch i GOV.UK
Nol i’r brig

Sut i ddarganfod i werth ystad rhywun sydd wedi marw

Cyn i chi allu ymgeisio am brofiant, (neu gadarnhad os ydych yn byw yn yr Alban), bydd angen i chi roi gwerth ar yr ystad.

Pan gwblhewch y ffurflenni profiant, bydd angen i chi nodi beth yw gwerth yr ystad.

I roi gwerth ar yr ystad, bydd angen i chi:

  1. Darganfod i werth unrhyw asedau, fel eiddo, pensiynau preifat, cynilion, cyfranddaliadau, gemwaith, neu eitemau gwerthfawr. Os credwch fod eitem yn werth £500, dylech geisio pris gan brisiwr proffesiynol.
  2. Darganfod beth yw gwerth unrhyw roddion a roddwyd gan yr unigolyn yn ystod y saith mlynedd cyn eu marwolaeth. Bydd angen i chi gynnwys y rhain wrth gyfrifo gwerth yr ystad. Gall rhai mathau o roddion a roddwyd cyn marwolaeth yr unigolyn fod yn destun Treth Etifeddiant.
  3. Darganfod faint o ddyled sydd ganddynt, os o gwbl, fel morgais, cardiau credyd neu fenthyciadau. Dylech gynnwys costau angladd fel rhan o’r ddyled os yw’r ystad yn talu am yr angladd. Os oes dyled ar y cyd, bydd angen cyfrifo beth yw cyfran yr ymadawedig o’r ddyled honno.
  4. Cyfrifo beth yw gwerth yr ystad ar ôl talu’r dyledion.

Bydd angen i chi gyfrifo os oeddent yn berchen ar unrhyw asedau ar y cyd, fel cyfrif banc neu eiddo.

Yn ddibynnol ar y math o berchnogaeth, gallech orfod ei gynnwys yng ngwerth yr ystad.

Prisio asedau sydd mewn cydberchnogaeth

Cyn y gallwch gyfrifo gwerth cyfran ased yr ymadawedig a oedd mewn cydberchnogaeth, mae rhaid i chi ganfod pa fath o berchnogaeth oedd iddi.

Mae car, tŷ, darn o dir oll yn enghreifftiau o’r math hwn o ased.

Efallai y byddant wedi bod yn berchen ar yr ased hwn un ai fel:

  • ‘cyd-denant’, neu
  • ‘tenant cydradd’.

Asedau sy’n eiddo fel ‘cyd-denant’

  • mae gan y ddau berchennog hawliau cyfartal dros yr ased cyfan.
  • mae’r ased yn trosglwyddo’n awtomatig i’r cydberchennog arall os bydd un yn marw.
  • ni all yr ymadawedig drosglwyddo ei berchnogaeth o’r ased yn eu hewyllys.
  • mae rhaid i chi brisio’r ased a’i gynnwys wrth gyfrifo’r Dreth Etifeddiaeth.

Ond efallai na fydd Treth Etifeddiant i’w thalu ar yr ased hwn os yw’r gwerth yn dod o fewn ei lwfans di-dreth neu os mai’r cydberchennog yw gŵr, gwraig neu bartner sifil yr ymadawedig.            

Cyfrifon banc ar y cyd

Mae cyfrifon banc ar y cyd bron bob tro yn cael eu cadw fel ‘tenantiaid ar y cyd’.

Felly, er bod perchnogaeth o’r cyfrif yn pasio’n awtomatig i gyd ddeiliad y cyfrif, mae rhaid i chi ei gynnwys yn rhan o werth ystad yr ymadawedig.

I roi gwerth ar gyfran yr ymadawedig o gyfrif banc ar y cyd, bydd angen i chi gael gwybod beth oedd y swm yn weddill yn y cyfrif a’i rannu â’r nifer o ddeiliaid cyfrif. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn wir os yw deiliaid y cyfrif wedi cytuno fel arall.

Er enghraifft, efallai eu bod wedi llofnodi datganiad ymddiriedolaeth yn nodi bod y cyfrif yn cael ei ddal ganddynt fel ‘tenantiaid yn gyffredin’, yn hytrach na thenantiaid ar y cyd. Felly ar farwolaeth un o ddeiliaid y cyfrif, mae eu cyfran fel y'i diffinnir yn y datganiad o ymddiriedolaeth yn pasio o dan delerau eu hewyllys neu eu diewyllysedd, yn hytrach nag i ddeiliad y cyfrif arall.

Fel arfer mae CTHEF yn craffu cyfrifon banc a gedwir gan gyplau dibriod neu gyfuniadau eraill (fel rhiant a phlentyn) yn agosach. Maent fel arfer yn trin deiliaid cyfrifon fel rhai sy'n berchen ar gyfran o'r cronfeydd sy'n gymesur â'u cyfraniadau i'r cyfrif.

Er enghraifft, pe bai un deiliad cyfrif yn darparu'r holl gronfeydd, bydd balans cyfan y cyfrif yn cael ei drin fel pe bai'n perchen iddynt pan fyddant yn marw. Mae hyn yn golygu y gallai fod yn destun Treth Etifeddiant. Mae hyn oherwydd efallai na fydd yr eithriadau arferol rhag Treth Etifeddiant yn berthnasol, a gallai'r cyd-ddeiliad sydd wedi goroesi fod yn atebol am swm penodol o dreth.

Fel rheol bydd tynnu arian allan o'r cyfrif yn cael eu gosod yn erbyn cyfraniadau'r unigolyn hwnnw cyn belled ag y bo modd. Gellir trin tynnu arian allan sy'n fwy na chyfraniadau unigolyn fel rhodd oes gan ddeiliad y cyfrif arall. Gallai hyn fod yn destun Treth Etifeddiant.

Mae rhaid i dreth etifeddiaeth sy'n ddyledus ar farwolaeth, y gellir ei phriodoli i'r cronfeydd mewn cyfrif ar y cyd, gael ei thalu gan ddeiliad y cyfrif sydd wedi goroesi ac sydd wedi etifeddu cronfeydd trwy oroesi yn hytrach nag o reidrwydd o ystad yr ymadawedig. Mae hyn oni bai bod geiriad gwahanol mewn unrhyw ewyllys a wnaed gan y person a fu farw.

O safbwynt Treth Incwm, ar gyfer cyfrifon ar y cyd sy'n trosglwyddo'n awtomatig i'r perchennog newydd trwy oroesi, mae incwm sy'n codi ar ôl marwolaeth yn eiddo i ddeiliad y cyfrif sydd wedi goroesi.

Ar gyfer cyfrifon a ddelir fel tenantiaid yn gyffredin, bydd incwm y gellir ei briodoli i gyfran yr ymadawedig yn trosglwyddo i'w hystad ac yn destun treth ynddo. Byddai'r rheolau arferol ar drethu incwm ystad ar fuddiolwyr ar unrhyw ddosbarthiad cyfalaf iddynt yn berthnasol.

Asedau sy’n eiddo fel ‘tenant cydradd’

  • gall pob perchennog fod yn berchen ar wahanol gyfrannau o’r ased
  • nid yw’r ased yn trosglwyddo i’r perchennog arall fel mater o drefn os yw un yn marw
  • gall yr ymadawedig drosglwyddo eu perchnogaeth o’r ased yn ei hewyllys
  • mae rhaid i chi brisio rhan yr ymadawedig o’r ased a’i gynnwys wrth gyfrifo’r Dreth Etifeddiant. Ond efallai na fydd Treth Etifeddiant i'w thalu ar yr ased hwn os yw'r gwerth yn dod o fewn eu lwfans di-dreth.

Onid ydych yn siŵr a yw ased dan gydberchnogaeth?

Os oedd gan yr ymadawedig unrhyw asedau eraill, megis cyfranddaliadau, bydd angen i chi gysylltu â’r cwmni:

  • i weld sut berchnogaeth oedd yn bodoli
  • i gyfrifo faint oedd cyfran yr ymadawedig o’r ased a chynnwys hynny fel rhan o’r ystad.

Ar gyfer eiddo neu dir, os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn eu papurau a chofnodion, gallwch ei gael, am ffi, gan;

  • Y Gofrestrfa Dir ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr.
  • Department of Finance and Personel ar gyfer eiddo yng Ngogledd Iwerddon.
  • Registers of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer eiddo yn yr Alban.
Nol i’r brig

Sut i gasglu asedau yr ymadawedig

Gallwch gael mynediad atasedau ariannol yr ymadawedig (megis cyfrifon banc) drwy ofyn i fanciau a sefydliadau eraill i ryddhau asedau yr ymadawedig i chi. 

Dylech agor cyfrif banc ar wahân ar gyfer yr ystad, i osgoi ei gymysgu gyda chyfrifon banc personol eich hun. 

Bydd agor cyfrif banc ar wahân yn ei wneud yn haws i chi weld gwerth asedau ariannol yr ymadawedig, ac o bosib helpu i osgoi unrhyw anghytuno rhwng cymyndderbynwyr ewyllys yr ymadawedig. 

Fe all y banciau enwi y math yma o gyfrif fel ‘cyfrif ysgutor’ neu gyfrif cleient os yw cyfreithwyr yn gweithredu ar eu rhan. 

Diogelwch arian wedi ei gadw mewn cyfrif ysgutor

Os ydych yn dewis agor cyfrif banc ar wahân, dylech hefyd ystyried ei agor gyda banc gwbl ar wahân i fanc eich hun. 

Mae hyn  er mwyn i chi fodyn sicr bor unrhyw arian sydd wedi ei ddal yn y cyfrif banc gyda diogelwch llawn gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). 

Er  bod y  FSCS yn caniatau diogelwch blaendal o £1 miliwn dros dro am gyfnod fyny at 6 mis ar gyfer ‘arian ystad yr ymadawedig wedi eu dal gan eu cynrychiolydd personol’, ni allant  warantu’r  diogelwch hwn os yw eich banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal. 

Y swm safonol o ddiogelwch yw £85,000 fesul  sefydliad ariannol (mae rhai banciau’n rhannu trwydded er enghraifft Halifax a’r Bank of Scotland), a allai fod yn is na gwerth ystad yr ymadawedig. 

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa mor ddiogel yw fy nghynilion os yw fy banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd i’r wal?
Nol i’r brig

Cyfrifo Treth Etifeddiant

Unwaith y byddwch wedi cael gwerth yr ystad a faint o ddyled oedd gan yr ymadawedig, bydd angen i chi gyfrifo faint o Dreth Etifeddiant sy’n daladwy.

Mae’r dreth yn daladwy o fewn chwe mis i’r dyddiad pan fu farw’r unigolyn. A chodir llog os nad yw’n cael ei dalu o fewn chwe mis.

Felly i helpu i osgoi talu’r llog hwn, ystyriwch dalu rhywfaint neu’r cyfan o’r Dreth Etifeddiant cyn i chi orffen rhoi gwerth ar yr ystad.

Os ydych yn talu am hyn o’ch cyfrif eich hun, gallwch ei hawlio yn ôl gan yr ystad.

Darganfyddwch fwy yn Canllaw i Dreth Etifeddiaeth
 
Darganfyddwch am dalu Treth Etifeddiant yn gynnar ar GOV.UK
Nol i’r brig

Ymgeisio am brofiant neu gadarnhad

Wedi i chi werthuso’r ystad, bydd angen i chi lenwi ambell ffurflen a’u hanfon i’r swyddfa Cofrestrfa Profiant agosaf.

Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio hefyd, a pheth neu’r cyfan o’r Dreth Etifeddiant (os o gwbl) i’r CThEF.

Bydd faint fydd angen i chi ei dalu a pha ffurflenni fydd angen i chi eu llenwi yn ddibynnol ar ble rydych yn byw.

Sgroliwch i lawr am wybodaeth ynghylch beth i’w wneud yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Fel arfer nid oes angen i chi wneud cais am brofiant os oedd yr ystad naill ai:

  • dan gydberchnogaeth ac felly’n pasio i’r priod sy’n goroesi
  • ddim yn cynnwys tir, eiddo na chyfranddaliadau.

Os ydych yn ymgeisio ar-lein, ni fydd angen i chi lawrlwytho’r ffurflenni, ond bydd angen i chi anfon yr ewyllys wreiddiol. Mae’r cyfeiriad ar gyfer anfon hyn yn amrywio hefyd yn ddibynnol ar ble ydych yn byw, a byddwch yn cael y cyfeiriad cywir wedi i chi gwblhau eich cais ar-lein.

Mae’r taliad hefyd yn cael ei wneud wedi i chi gyflwyno eich cais ar-lein.

Nid oes angen i chi dyngu llw mwyach, ond bydd rhaid i chi lofnodi datganiad o wirionedd i gadarnhau fod cynnwys y cais profiant yn wir. Gellir hefyd gwneud hyn ar-lein os ydych yn cyflwyno cais ar-lein.

Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr efallai gallwch wneud cais am brofiant ar-lein ar GOV.UK

Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr

Y ffi i wneud cais yw £300 os byddwch yn ei wneud  eich hun neu os yw ystad yn defnyddio cyfreithiwr i wneud cais am brofiant, ar bob ystad dros £5,000. Ni chodir tâl am ystadau sy'n werth llai na £5,000.

Bydd diwygiad grant profiant hefyd yn caniatáu i deuluoedd sy’n galaru wneud cais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd

Mae angen i chi lenwi:

  • Ffurflen Gais Profiant PA1
  • Ffurflen Treth Etifeddiant IHT205 os yw'r ystad yn werth llai na £325,000
  • Ffurflen Treth Etifeddiant IHT400 os yw'r ystad yn werth mwy na £325,000.

A oes angen i mi gwblhau Ffurflen Dreth Etifeddiaeth?

Mae’r ffurflenni hyn ar gael i’w lawrlwytho ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
 
Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddiant i gael help i’w cwblhau
Os bu farw’r unigolyn dramor, mae gwahanol ffurflenni i’w llenwiYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Cael cymorth gyda ffioedd os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr

Efallai y gallwch gael help i dalu’r ffi profiantYn agor mewn ffenestr newydd a ffioedd llys eraill os oes gennych incwm isel neu os ydych ar fudd-daliadau penodol.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Yn ddibynnol ar faint yr ystad, mae yna wahanol ffurflenni i’w llenwi:

  • ar gyfer ystadau bach (sy’n werth £36,000 neu lai), rydych angen ffurflen C1
  • ar gyfer ystadau mawr (sy’n werth dros £36,000), rydych angen ffurflen C1. Mae’r ffi gadarnhau yn amrywio yn ddibynnol ar faint yr ystad.

Cysylltwch â’ch clerc siryf lleol i gael gwybod faint sydd angen i chi ei dalu ac am help i gwblhau’r ffurflenni.

Darganfyddwch fwy ar wefan y Scottish Courts and Tribunals

Cael cymorth gyda ffioedd os ydych yn byw yn yr Alban

Mae nifer o amgylchiadau lle gallech fod â hawl i gael eich eithrio rhag talu ffioedd llys.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael eich eithrio rhag ffioedd ar scotcourts.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Bydd angen i chi ofyn am apwyntiad â’ch Swyddfa Profiant leol. Unwaith y bydd gennych apwyntiad, bydd y swyddfa brofiant yn eich helpu i lenwi’r ffurflenni priodol.

Bydd y Swyddfa Brofiant yn gofyn i chi ddod ag amrywiol ddogfennau fel yr ewyllys a thystysgrif marwolaeth pan fyddwch yn mynd am eich apwyntiad.

Nid oes ffi i’w thalu os yw gwerth yr ystad yn llai na £10,000.

Cael cymorth gyda ffioedd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Os ydych ar incwm isel, neu os ydych ar fudd-daliadau penodol, efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi, neu efallai y gallwch gael rhywfaint o arian oddi ar y ffi.

Darganfyddwch fwy am ymgeisio am brofiant yng Ngogledd Iwerddon ar wefan nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Talu Treth Etifeddiant

Bydd angen i chi dalu o leiaf rhywfaint os nad y cyfan o’r Dreth Etifeddiant cyn y cyhoeddir profiant.

Darganfyddwch fwy yn ein Canllaw i Dreth Etifeddiant

Os ydych yn meddwl y byddwch yn cael anhawster talu’r dreth am fod angen i chi werthu asedau o’r ystad yn gyntaf, gallech ofyn i CThEM am grant credydYn agor mewn ffenestr newydd

Mae grant credyd yn golygu y gallwch gael profiant yn gyntaf er mwyn i chi allu gwerthu’r asedau i dalu’r dreth.

Nol i’r brig

Talu dyledion, trethi a dosbarthu’r ystad

Talu dyledion a threthi

Pan fydd gennych brofiant, mae gennych yr awdurdod i gysylltu â'r sefydliadau sy'n dal asedau'r ymadawedig, fel y banc neu'r darparwr pensiwn preifat.

Yn aml, bydd llog a ffioedd yn dod i ben ar gyfer dyledion sydd yn enw'r person sydd wedi marw yn unig pan fyddwch wedi hysbysu'r credydwr.

Byddant yn gofyn am gopi o'r profiant neu'r llythyr cadarnhau cyn iddynt ryddhau'r asedau.

Yna gallwch dalu'r amrywiol ddyledion (os oes rhai) a'r trethi sy'n ddyledus.

Os yw'r asedau ar ffurf eiddo neu gyfranddaliadau, efallai y bydd angen i chi werthu hwn i dalu'r dyledion a'r trethi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
 
Delio â dyledion rhywun sydd wedi marw
 
Cyfrifo a thalu treth ar ôl i rywun farw

Gwerthu eiddo

  • Gallwch gael cyngor ar brisio eiddo a’r costau cysylltiedig yn ogystal ag awgrymiadau ar werthu ar wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Darllenwch ein Gwerthu tai’n gyflym – cwmnïau sy’n gwerthu tai’n gyflym os ydych yn meddwl defnyddio cwmni gwerthu tai yn gyflym yn lle.

Gwerthu cyfranddaliadau

Efallai yr hoffech ystyried gwneud hyn eich hun, os mai nifer fechan o gyfranddaliadau sydd.

Ar gyfer portffolio cymhleth neu os yw’r cyfranddaliadau yn werth cryn dipyn, mae’n syniad da ceisio cyngor proffesiynol.

Nol i’r brig

Rhannu’r ystad

Wedi i chi dalu’r dyledion a threthi, bydd rhaid i chi ddosbarthu’r ystad yn unol â’r hyn a nododd yr ymadawedig yn ei ewyllys.

Ysgrifennu Dogfen Ystad Terfynol

Fe allwch ei weld yn ddefnyddiol i ysgrifennu ‘dogfen ystad terfynol’ i ddangos yr holl arian sydd wedi ei dderbyn ac wedi mynd allan o’r ystad, am  fod gan gymyndderbynwyr a phobl sydd ag arian yn  ddyleddus iddynt yr  hawl i ofyn am gyfrifon. 

Dylai’r ddogfen  hon gynnwys rhestr o’r holl asedau, rhwymedigaethau (arian sy’n ddyledus gan yr ymadawedig i bobl a chwmnïau) a chostau gweinyddu. 

Dylai hefyd ddangos y swm terfynol o arian i’w rannu i bobl wedi ei henwi yn ewyllys yr ymadawedig. 

Mae’n rhaid i’r ddogfen hon gael ei gymeradwyo a’i arwyddo gan ysgutor yr ewyllwys (chi) a phrif gymyndderbynwyr yr ewyllys. 

Talu treth ar arian a dderbynnir mewn ewyllys

Os ydych yn derbyn arian mewn ewyllys, efallai fydd angen i chi dalu treth bellach ar yr incwm hwn, neu o bosib gwneud cais am ad-daliad treth.

Bydd angen i weinyddwr yr ewyllys gwblhau a darparu ffurflen R185 CThEFYn agor mewn ffenestr newydd i holl fuddiolwyr yr ewyllys.

Darganfyddwch fwy am gwblhau ffurflen R185Yn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y Grwp Diwygio Treth Incwm Isel.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Marwolaeth a phrofedigaeth

Trefnu ystâd rhywun sydd wedi marw

  • Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw ac yn gadael ewyllys
  • Cael trefn ar yr ystâd pan nad oes ewyllys
  • Pryd i ddefnyddio arbenigwr cyfreithiol ar gyfer profiant
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Trefnu ystâd rhywun sydd wedi marw

  • Beth i’w wneud pan fydd rhywun yn marw ac yn gadael ewyllys
  • Cael trefn ar yr ystâd pan nad oes ewyllys
  • Pryd i ddefnyddio arbenigwr cyfreithiol ar gyfer profiant
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau