Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Dod yn rhiant
Teulu a gofal Dod yn rhiant

Dewisiadau gofal plant

Fel rhiant newydd, gall dewis gofal plant fod yn dasg sy’n codi ofn. Dyma grynodeb o’r gwahanol ddewisiadau sydd ar gael i’ch helpu i benderfynu pa rai sy’n addas i anghenion eich teulu a’ch cyllideb.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig
  • Dewis meithrinfa ddydd
  • Cyflogi nani
  • Au pair
  • Defnyddio cylch chwarae neu gyn-ysgol
  • Canolfan Blant Cychwyn Cadarn
  • Ysgol feithrin
  • Dibynnu ar deulu neu ffrindiau
  • Help gyda chostau gofal plant
  • Dewis y gofal plant cywir

Defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig

Costau gofal plant

Bydd costau gofal plant yn dibynnu ar y dewis a wnewch a ble rydych yn byw. Er mwyn cymharu costau’n gyflym, gweler ein canllaw, Costau gofal plant cyfartalog.

Rhywun sy’n gofalu am blant yn ei gartref ei hun ac sydd wedi cofrestru gydag un o’r canlynol:

  • yng Nghymru: Arolygiaeth Gofal CymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • yn Lloegr: Ofsted
  • yn Yr Alban: Care Inspectorate
  • yng Ngogledd Iwerddon: Health and Social Care Trust
Manteision
  • Maent yn hunangyflogedig, felly nid oes rhaid i chi boeni am dalu eu treth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI).

  • Cyn belled â’u bod wedi cofrestru, gallech fod yn gymwys am help i dalu am eich gofal plant drwy ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol, efallai gallwch hawlio hyd at 85% yn ôl o’r gofal plant misol. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Dysgwch ragor yn ein canllaw Credyd Treth Gwaith.

  • Mae llawer o ofalwyr plant yn gweithio oriau hyblyg ac yn casglu/gollwng plant yn yr ysgol neu gylch chwarae. Bydd rhai gwarchodwyr plant yn aros ar agor yn ystod gwyliau ysgol ac efallai gallant gymryd plant ifanc nad ydynt eto mewn addysg ffurfiol ar ôl ysgol. 

  • Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os ydych yn gymwys.

Anfanteision
  • Bydd angen i chi wneud trefniadau eraill os yw'r gofalwr plant yn sâl neu ar wyliau.

Darganfyddwch ofalwr plant cofrestredig yn GOV.UK
Nol i’r brig

Dewis meithrinfa ddydd

Mae meithrinfeydd yn cynnig gofal ac addysg i blant rhwng chwe wythnos a phum mlwydd oed.

Gallant gael eu rhedeg yn breifat neu gan sefydliadau cymunedol, awdurdodau lleol neu gyflogwyr.

Manteision
  • Fel arfer maent ar agor ar ddyddiau’r wythnos o 8am i 6pm, sy’n gweddu i’r rhan fwyaf o oriau gwaith.

  • Weithiau bydd awdurdodau lleol neu gyflogwyr yn talu cymhorthdal ffioedd meithrinfa.

  • Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn gymwys. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant.

  • Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Treth Gwaith.

Anfanteision
  • Fel arfer maent yn ddrytach na gofalwyr plant – gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.

  • Fel rheol mae rhaid i chi dalu’r ffioedd hyd yn oed os ydych ar wyliau.

Darganfyddwch fwy am feithrinfeydd dydd ar wefan y Gymdeithas Meithrinfeydd Dydd Genedlaethol (NDNA)
Nol i’r brig

Cyflogi nani

Rhywun sy’n gofalu am blentyn yng nghartref y plentyn. Fel arfer mae’n rôl lle bydd yr unigolyn yn byw yn y cartref neu’n dod i mewn yn ddyddiol, ond mae nanis rhan-amser ar gael hefyd.

Mae nanis yn gallu cofrestru’n wirfoddol gydag Ofsted.

Manteision
  • Mae eich plentyn yn cael gofal gartref.

Anfanteision
  • Chi fydd y cyflogwr, ac yn gyfrifol am dalu’r Dreth Incwm a chyfraniadau YG.

  • Fel cyflogwr, mae ymrestru awtomatig yn golygu y bydd raid i chi dalu i bensiwn dros eich nani os bydd yn ennill mwy na £192 yr wythnos (£833 y mis) cyn treth (fel ar Ebrill 2024). Darganfyddwch fwy o wybodaeth am ddyletswyddau cyflogwyr gan y Rheoleiddiwr Pensiynau

  • Bydd angen i chi wneud trefniadau eraill os byddant yn sâl neu ar wyliau.

  • Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth.

Darganfyddwch fwy am gyflogi nani ar GOV.UK
Darganfyddwch fwy am ymrestru awtomatig yn Nanny Tax
Nol i’r brig

Au pair

Beth ydyw?

Rhywun sy’n byw gyda chi ac yn dysgu’r iaith a diwylliant lleol gan roi gofal plant am tua 30 awr a helpu o gwmpas y tŷ.

Manteision
  • ‘Arian poced’ y maent yn ei gael felly mae’r costau yn llawer llai na dewisiadau gofal plant eraill. Gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.

  • Fel arfer maent yn cael eu trin fel aelod o’r teulu yn hytrach na gweithiwr felly ni fydd rhaid i chi ymdrin â’u treth nag Yswiriant Gwladol.

Anfanteision
  • Ni allwch hawlio'r elfen gofal plant o'r Credyd Treth Gweithio – darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Treth Gwaith.

  • Bydd rhaid i chi gyfrif cost ystafell a bwyd ar ben yr hyn y byddwch yn eu talu.

Darganfyddwch fwy am gyflogi au pair yn GOV.UK
Nol i’r brig

Defnyddio cylch chwarae neu gyn-ysgol

Beth ydyw?

Gofal ac addysg gymunedol a gwirfoddol ar gyfer plant rhwng tair a phump oed.

Fel arfer maent yn cynnig sesiynau tair-awr yn y bore neu’r prynhawn yn ystod y tymor ysgol.

Manteision
  • Dewis rhad – gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.

  • Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn gymwys.

  • Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gredyd Treth Gwaith.

Anfanteision
  • Bydd angen i chi chwilio am ddarpariaeth gofal plant arall ar gyfer gwyliau ysgol ac/neu weddill y diwrnod.

Er mwyn helpu rhieni a gofalwyr sy'n gweithio (neu eisiau gweithio), bydd y llywodraeth yn ariannu ysgolion ac awdurdodau lleol i gynyddu'r gofal y gallant ei ddarparu, fel y gall pob rhiant a gofalwr i blant oed ysgol ollwng eu plant yn yr ysgol o 8am a'u casglu o gwmpas 6pm.

Darganfyddwch cylch chwarae neu gyn-ysgol lleol yn GOV.UK
Nol i’r brig

Canolfan Blant Cychwyn Cadarn

Manteision
  • Dewis rhad - mae llawer o’r gwasanaethau am ddim. Gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.

  • Gan eu bod yn ‘siop un stop’, gallwch gael cyngor ar bethau eraill – er enghraifft, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.

  • Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn dair neu bedair blwydd oed.

  • Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gredyd Treth Gwaith.

Anfanteision
  • Nid yw pob canolfan yn caniatáu i chi adael eich plentyn yno trwy’r dydd.

Darganfyddwch Ganolfan Blant Cychwyn Cadarn yn GOV.UK
Nol i’r brig

Ysgol feithrin

Cyflwyniad i addysg gynradd ar gyfer plant tair i bump oed. Yn aml maent wedi eu cysylltu â chylch cyn-ysgol neu ysgol gynradd. Ar agor yn ystod oriau ysgol yn ystod y tymor.

Manteision
  • Maent am ddim fel arfer os byddant yn gysylltiedig ag ysgol gynradd.

  • Bydd eich plentyn yn cael ei addysgu gan athrawon cymwysedig.

  • Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15–30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn gymwys.

  • Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl. Neu efallai y byddwch yn gallu hawlio elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gredyd Treth Gwaith.

Anfanteision
  • Bydd angen i chi chwilio am ddarpariaeth gofal plant arall ar gyfer gwyliau ysgol.

Darganfyddwch leoliad mewn ysgol feithrin yn GOV.UK
Nol i’r brig

Dibynnu ar deulu neu ffrindiau

Mae opsiwn o gael aelod o’ch teulu neu ffrind i ofalu am eich plentyn. Gall hyn fod am ddim, am daliad neu trwy drefniant lle byddwch yn gofalu am blant eich gilydd – gelwir hyn yn ‘ofal plant dwyochrog’.

Gall hyn ymddangos yn ddewis cyfleus a fforddiadwy - ond gall y rheolau am y math hwn o drefniant fod yn gymhleth.

Manteision
  • Nid oes rhaid i aelod o’r teulu gofrestru gydag Ofsted os yw’n darparu gofal plant am ddim.

  • Gallai pobl sy’n gofalu am eu hwyrion i alluogi rhieni (neu ofalwyr) y plant i fynd i weithio fod yn gymwys i gredydau Specified Adult Childcare – budd-dal i gynyddu eu pensiwn y wladwriaeth yn y dyfodol. 

Anfanteision
  • Yn ôl y gyfraith, ni allwch ddefnyddio ffrind i ofalu am blentyn yn rheolaidd am fwy na dwy awr y dydd yn ystod oriau gwaith arferol os yw’r plentyn dan wyth oed, oni bai eu bod yn ofalwr plant cofrestredig. Mae hyn yn rhywbeth i’w ystyried os oes gennych drefniant gofal plant dwyochrog.

Darganfyddwch fwy am y rheolau am ofal plant anffurfiol yn Netmums

Credydau Gofal plant Dynodedig i Oedolion

Mae’r cynllun hwn ar gyfer aelodau o’r teulu – neiniau a theidiau fel arfer – sy’n rhoi’r gorau i weithio er mwyn helpu i ofalu am blentyn.

Gallant elwa ohono os nad ydynt wedi cronni digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI) i fod yn gymwys am bensiwn y wladwriaeth yn llawn.

Gall y gofalwr fod yn gymwys:

  • os ydynt dros 16 oed ond heb gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth
  • os ydynt yn perthyn i’r plentyn. Neiniau a theidiau yw’r gofalwyr mwyaf cyffredin, ond gall unrhyw aelod o’r teulu hawlio.

I fod yn gymwys, mae rhaid i’r plentyn fod dan 12 oed a:

  • bod y rhiant (neu’r prif ofalwr) yn gymwys am Fudd-dal Plant
  • bod gan y rhiant flwyddyn gymwys o gyfraniadau NI y mae’n fodlon ei throsglwyddo i’r gofalwr
  • bod y rhiant (neu’r prif ofalwr) yn cytuno i’r cais. Efallai na fyddwch yn cytuno er enghraifft, os nad ydych yn dychwelyd i’r gwaith a bod angen y cyfraniadau NI arnoch.
Darganfyddwch fwy am eich cymhwyster a sut i wneud cais yn GOV.UK

Ni ellir cyflwyno cais am flwyddyn dreth neilltuol tan y mis Hydref canlynol. Mae hyn oherwydd bod hyn yn caniatáu i gofnodion NI gael eu diweddaru ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.

I wneud cais lawrlwythwch furflenni gais yn GOV.UK
Nol i’r brig

Help gyda chostau gofal plant

Cofiwch, nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio am gost gofal plant.

Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i gael help gyda chostau gofal plant. Mae llawer o leoedd i gael help.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant
Nol i’r brig

Dewis y gofal plant cywir

Mae’r galw am lefydd gofal plant yn uchel, felly nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau ymchwilio i’ch dewisiadau.

Mae costau gofal plant yn amrywio cryn dipyn gan ddibynnu ar ble rydych yn byw, felly mae’n syniad da cael gwybod beth gallwch ddisgwyl ei dalu yn eich ardal.

Ar gyfer cyfartaledd yn y DU ac yn Llundain, gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.

Gallwch gyfrifo a yw’r gofal plant rydych ei eisiau yn fforddiadwy trwy gymharu’r costau gyda’ch incwm dros ben ar ôl taliadau hanfodol.

Cynlluniwr Cyllideb

I’ch helpu i reoli eich arian, defnyddiwch ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i’w ddefnyddio, rhad ac am ddim.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Dod yn rhiant

Cymorth a chostau gofal plant

  • Costau gofal plant cyfartalog
  • Dewisiadau gofal plant
  • Help gyda chostau gofal plant
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Cymorth a chostau gofal plant

  • Costau gofal plant cyfartalog
  • Dewisiadau gofal plant
  • Help gyda chostau gofal plant
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau