Datganiad Gwanwyn 2022 – yr hyn sydd angen i chi ei wybod
23 Mawrth 2022
Os ydych yn pendroni sut fydd eich cyllid cartref yn cael ei effeithio dros y misoedd nesaf, darganfyddwch beth mae’r llywodraeth wedi’i gyhoeddi yn Natganiad Gwanwyn 2022.
Trothwy Yswiriant Gwladol wedi cynyddu
Er y bydd y cynnydd a gyhoeddwyd yn flaenorol mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) yn dal i fynd yn ei flaen ym mis Ebrill 2022, bydd y trothwy ar gyfer dechrau talu CYG yn cynyddu o fis Gorffennaf eleni.
Ar hyn o bryd, os ydych yn weithiwr, gallwch ennill hyd at £9,570 (£184 yr wythnos) cyn eich bod yn dechrau talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.
O 6 Ebrill 2022 bydd y trothwy hwn yn cynyddu i £9,880 (£190 yr wythnos).
Yna o fis Gorffennaf 2022, bydd y trothwy hwn yn cynyddu i £12,570 (£242 yr wythnos) i gyfateb i’r lwfans personol safonol am Dreth Incwm (£12,570 y flwyddyn ar hyn o bryd).
Cyfradd sylfaenol Treth Incwm wedi'i gostwng
O fis Ebrill 2024 bydd cyfradd sylfaenol Treth Incwm yn gostwng o 20% i 19% yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Nid yw llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi eto a fydd yn torri ei chyfradd sylfaenol o Dreth Incwm.
Darganfyddwch fwy am yr help sydd ar gael Os ydych yn byw ar incwm gwasgedig
Costau ynni cynyddol
Ni chyhoeddwyd unrhyw gefnogaeth uniongyrchol pellach ar gyfer cost gynyddol biliau ynni.
Cadarnhaodd y llywodraeth y byddai’n parhau i roi arian i gynghorau lleol yn Lloegr am y Gronfa Cymorth Cartrefi sy’n darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd ar incwm isel neu sy’n agored i niwed ac y gellir ei ddefnyddio os ydych yn cael trafferth talu am fwyd, biliau cartref neu gostau hanfodol eraill.
Os ydych yn byw yn Lloegr, cysylltwch â'ch cyngor i weld a oes ganddynt gynllun cymorth lles. Dewch o hyd i help sydd ar gael yn eich ardal chi ar End Furniture PovertyYn agor mewn ffenestr newydd
Mae cynlluniau ar wahân ar gael os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
- Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am Gronfa Les yr Alban ar Llywodraeth yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy o wybodaeth am y Gronfa Cymorth Dewisol ar Llywodraeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am newidiadau i'r Gronfa Gymdeithasol ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am y cymorth presennol sydd ar gael yn ein canllaw Os ydych chi'n poeni am eich biliau ynni yn codi
O fis Ebrill 2022, am bum mlynedd, bydd y TAW a godir ar welliannau arbed ynni i gartrefi fel paneli solar neu bympiau gwres yn cael ei ostwng o 5% i 0%.
Dyarganfyddwch fwy am welliannau arbed ynni yn ein canllaw Sut i dalu am welliannau cartref
Gostwng treth tanwydd
O 6pm ar 23 Mawrth 2022 tan fis Mawrth 2023, bydd treth tanwydd yn cael ei ostwng 5c y litr, ar draws y DU gyfan.