Os yw’n well gennych deithio mewn car neu ddefnyddio trafnidiaeth cyhoeddus, fel person anabl gallech fod yn gymwys am ystod o gynlluniau i’ch helpu i brydlesu cerbyd, parcio, neu sy’n cynnig teithio am ddim neu â gostyngiad ar drenau, bysiau a choetsis.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cynllun Motability
Mae’r Cynllun Motability yn galluogi pobl anabl i brydlesu car, sgwter symudedd neu gadair olwyn fodur newydd.
Gallech fod yn gymwys i ymuno â’r Cynllun Motability os ydych yn derbyn budd-daliadau anabledd penodol.
Darganfyddwch fwy am y cynllun ar wefan Cynllun Motability
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Y Cynllun Bathodyn Glas
Mae’r Cynllun Bathodyn Glas yn darparu ystod o fuddion parcio ar gyfer pobl anabl sy’n ei chael yn anodd cerdded.
Er enghraifft, gallwch barcio am ddim mewn cilfachau talu ac arddangos a hefyd ar linellau melyn dwbl a sengl.
Mae Bathodyn Glas yn costio hyd at £10 yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a hyd at £20 yn yr Alban. Mae am ddim yng Nghymru.
I wneud cais am Fathodyn Glas:
- yng Nghymru a Lloegr, i fynd i wefan GOV.UK
- yn yr Alban, ewch i wefan mygov.scot
- yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan nidirect
Eithriad treth car
Os ydych yn derbyn budd-daliadau anabledd penodol nid oes rhaid ichi dalu Treth Car - treth car, neu treth ffordd.
Os ydych ar y Cynllun Motability nid oes angen i chi wneud dim.
Os ydych chi'n berchen ar eich car, mae'n rhaid i chi wneud cais am yr eithriad.
Darganfyddwch fwy am eithriad treth cerbyd ar wefan GOV.UK
Bysiau
Cardiau bws am ddim
Gan ddibynnu ymhle yn y DU rydych yn byw, gallech fod â’r hawl i deithio am ddim neu â gostyngiad ar fysiau.
Darganfyddwch ragor am gardiau bws a gostyngiadau teithio eraill ble rydych yn byw drwy ddilyn y dolenni isod:
- teithio am ddim ar fysiau i bobl anabl yn Lloegr, ewch i wefan GOV.UK
- teithio consesiwn yn yr Alban, ewch i wefan Transport Scotland
- teithio gostyngedig yng Nghymru, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru
- teithio am ddim ar fysiau a chonsesiynau yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan nidirect
Dysgwch fwy am y ffyrdd y gallwch arbed arian ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys y cap tocyn bws £2 yn Lloegr, prisiau tocynnau gostyngedig a chardiau rheilffordd am bobl sydd ar Gredyd Cynhwysol ar wefan Help for HouseholdsYn agor mewn ffenestr newydd
Trenau
Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl
Mae’r Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl yn rhoi gostyngiad o draean i chi oddi ar y mwyafrif o docynnau trên.
Mae’r disgownt ar gyfer dau unigolyn – felly gallwch arbed arian i ffrind neu ofalwr hefyd.
Mae’n rhaid i chi brynu’r cerdyn rheilffordd ond dim ond £20 mae'n ei gostio ac mae’n bosibl y byddwch yn adennill y swm hwn wedi un daith yn unig.
Mae llawer o gymorth ar gael wrth deithio ar y trên – gan gynnwys cymorth wrth fynd ar y trên neu wrth ymadael â’r trên a chymorth gyda bagiau – i gyd am ddim.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl
Coetsis
Nid oes cynllun gostyngiadau cenedlaethol ar gyfer teithio ar goetsis.
Fodd bynnag mae teithio gostyngedig ar gael gan ddibynnu ar y cwmni coetsis rydych yn ei ddefnyddio.
National Express
Mae National Express yn gwerthu Cerdyn Coets i’r Anabl sy’n rhoi gostyngiad o draean oddi ar eu tocynnau safonol.
Darganfyddwch fwy ar wefan National Express
City Link (Yr Alban)
Gallwch gael teithio am ddim os defnyddiwch eich Cerdyn Hawliad Cenedlaethol ar goetsis City Link.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am Gredyd Hawliad Cenedlaethol ar wefan Transport Scotland
Goldline (Gogledd Iwerddon)
Gallwch deithio am hanner y pris os defnyddiwch eich SmartPass ar goetsis Goldline.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am SmartPass ar wefan nidirect
Cludiant cymunedol
Fel arfer trefnir cludiant cymunedol gan awdurdodau lleol a gall fod yn ddewis amgen da yn lle tacsi neu gludiant cyhoeddus. Gelwir weithiau’n ‘Dial a ride’ neu ‘Ring and ride’.
Darfanfyddwch fwy eich darparwr cludiant cymunedol lleol ar wefan CTA
Teithio yn Llundain
Pas Rhyddid Pobl Anabl
Gyda Phas Rhyddid Pobl Anabl byddwch yn cael:
- teithio 24-awr am ddim ar draws rhwydweithiau Transport for London - ac eithrio rhai cychod afon sy’n hanner pris
- teithio ar y trên am ddim ar rwydwaith London Overground - fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gallu teithio cyn 9.30am.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am Bas Rhyddid Pobl Anabl ar wefan Cynghorau Llundain
Cynllun Cerdyn Tacsi Llundain
Mae’r Cynllun Cerdyn Tacsi Llundain yn darparu tacsis â chymhorthdal ar gyfer pobl anabl sy’n ei chael yn anodd teithio ar gludiant cyhoeddus.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am Gerdyn Tacsi ar wefan Cynghorau Llundain