Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Marwolaeth a phrofedigaeth
Teulu a gofal Marwolaeth a phrofedigaeth

Canllaw i Dreth Etifeddiant

Dim ond canran fechan o ystadau sy’n ddigon mawr i orfod talu Treth Etifeddiant (IHT). Ond mae’n bwysig peidio ag anghofio rhoi ystyriaeth i’r dreth hon yn eich cynlluniau wrth i chi lunio eich ewyllys. Darganfyddwch beth yw IHT, sut i gyfrifo beth sydd angen i chi ei dalu a pha bryd, a rhai ffyrdd i chi leihau’r dreth hon.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw Treth Etifeddiant?
  • Faint yw Treth Etifeddiant?
  • Sut i roi gwerth ar yr ystad
  • Pwy sy’n talu Treth Etifeddiant?
  • Pryd fydd rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant?
  • Rhoddion a phethau sy’n rhydd o’r Dreth Etifeddiant
  • Sut gallaf leihau faint o dreth a delir?
  • Defnyddio yswiriant bywyd i dalu Treth Etifeddiant
  • Pa drethi eraill mae rhaid i fy etifeddion eu talu ar eu hetifeddiant?

Beth yw Treth Etifeddiant?

Mae Treth Etifeddiant (IHT) yn dreth ar ystâd rhywun sydd wedi marw, gan gynnwys yr holl eiddo, meddiannau ac arian. Y gyfradd Treth Etifeddiant Safonol yw 40%. Mae tâl ond yn cael ei godi ar y rhan o’ch ystâd sydd dros y trothwy di-dreth sydd ar hyn o bryd yn £325,000.

Darganfyddwch fwy am sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Beth yw Treth Etifeddiant?

Nol i’r brig

Faint yw Treth Etifeddiant?

Fel arfer nid oes angen talu treth os:

  • yw gwerth eich ystad yn llai na’r trothwy o £325,000 a elwir yn band dim cyfradd
  • rydych yn gadael bopeth dros y trothwy i’ch priod neu bartner sifil, neu
  • rydych yn gadael bopeth dros y trothwy i fuddiolwr eithriedig fel elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol, neu
  • rydych yn rhoi eich cartref i’ch plant neu wyrion gall eich trothwy cynyddu i £500,000.
Oeddech chi’n gwybod?

Dim ond 1 o bob 20 o ystadau yn y DU sy’n talu Treth Etifeddiant.

Ffynhonnell: CThEF

Os yw gwerth eich ystad yn uwch na’r trothwy o £325,000, yna gallai’r rhan o’ch ystad sydd uwchben y trothwy hwn fod yn drethadwy ar y gyfradd o 40%.

Felly, os yw gwerth eich ystad yn £525,000 a’ch trothwy IHT yn £325,000, yna codir treth ar £200,000 (£525,000 - £325,000). Byddai’r dreth yn £80,000 (40% o £200,000).

I gael syniad o faint allai Treth Etifeddiant fod, defnyddiwch y gyfrifianell ar wefan Which?Yn agor mewn ffenestr newydd

Trosglwyddo cartref

Gallwch drosglwyddo cartref i'ch priod neu'ch partner sifil pan fyddwch farw, ac nid oes Treth Etifeddiant i'w thalu.

Os byddwch yn gadael y cartref i berson arall yn eich ewyllys, mae'n cyfrif tuag at werth yr ystad.

Fodd bynnag, gall y Band cyfradd dim preswyl (RNRB) gynyddu eich trothwy di-dreth os byddwch yn gadael cartref i'ch plant neu wyrion. Mae hyn yn cynnwys llysblant, plant mabwysiedig a phlant maeth, ond nid nithoedd, nai neu frodyr a chwiorydd.

Mae'r lwfans cartref yn cael ei dynnu'n ôl yn raddol os yw gwerth eich ystad yn fwy na £2 filiwn.

Mae'r tabl hwn yn dangos yr RNRB a'r lwfans cyfun posibl:

Blwyddyn Dreth Band dim cyfradd (£) Band cyfradd dim preswyl (£) Cyfanswm i unigolion (£) Cyfanswm i gyplau (£)

2023/24

325,000

175,000

500,000

1,000,000

Cyhoeddwyd ym Mil Cyllid 2021, bydd cyfradd dim Treth Etifeddiant yn aros ar y lefelau presennol tan Ebrill 2030.

Gall parau priod a phartneriaid sifil drosglwyddo trothwy nas defnyddiwyd

Mae'r Band Cyfradd Dim (NRB) yn sefydlog ar £325,000 tan 2026, ond gallai eich NRB gael ei gynyddu os ydych yn weddw neu'n bartner sifil sy'n goroesi. Gall cyplau drosglwyddo unrhyw NRB nas defnyddiwyd pan fu farw'r person cyntaf i'r goroeswr.

Gall hyn ddyblu faint o NRB sydd ar gael hyd at £650.000. Gelwir yr elfen drosglwyddadwy ychwanegol hon yn fand cyfradd dim trosglwyddadwy (TNRB).

Efallai y gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw RNRB sydd heb ei ddefnyddio o ystad eich priod neu bartner sifil os ydych yn weddw neu’n bartner sifil sy'n goroesi. Gall hyn ddyblu faint o RNRB sydd ar gael.

Darganfyddwch fwy am drosglwyddo trothwy Treth Etifeddiaeth nas defnyddwyd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am y band preswylio cyfradd dim a throsglwyddo RNRB nas defnyddiwyd ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Sut i roi gwerth ar yr ystad

I roi gwerth ar ystad bydd angen i chi:

  • restru’r holl asedau a chyfrifo eu gwerth ar ddyddiad y farwolaeth, a
  • didynnu unrhyw ddyledion a rhwymedigaethau.

Cofiwch gadw cofnodion o sut gwnaethoch gyfrifo'r symiau, fel prisiad gan werthwr eiddo.

Gall CTHEF ofyn i gael gweld cofnodion am hyd at 20 mlynedd ar ôl talu Treth Etifeddiant (IHT).

Mae asedau’n cynnwys pethau fel arian mewn banc, eiddo a thir, gemwaith, ceir, cyfranddaliadau, taliad gan bolisi yswiriant ac asedau sydd mewn cyd-berchnogaeth. O fis Ebrill 2027, bydd y rhan fwyaf o gronfeydd pensiwn heb eu gwario a budd-daliadau marwolaeth o bensiwn yn cyfrif fel rhan o'ch ystâd pan fyddwch yn marw. Mae hyn yn golygu y bydd gwerth eich pensiwn yn cael ei gyfuno ag asedau eraill i benderfynu a oes Treth Etifeddiant ar eich ystâd yn ddyledus.

I gael mwy o wybodaeth am sut i brisio asedau ystad ar gyfer profiantYn agor mewn ffenestr newydd ewch i Lawpack neu brisio’r ystâd ar gyfer Treth EtifeddiantYn agor mewn ffenestr newydd ewch i GOV.UK.

Mae rhaid cynnwys rhoddion hefyd, fel arian parod neu asedau eraill, os cawsant eu rhoi yn ystod y saith mlynedd cyn i’r unigolyn farw. Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd angen i chi fynd yn ôl 14 blwyddynYn agor mewn ffenestr newydd

Mae rhaid i chi hefyd gynnwys unrhyw roddion a roddwyd cyn y cyfnod hwn os parhaodd yr unigolyn a fu farw i elwa o’r rhodd.

Gelwir y rhain hefyd yn ‘rhoddion â budd wedi’i gadw’. Er enghraifft, rhoddodd ei dŷ ond parhaodd i fyw ynddo.

Mae dyledion a rhwymedigaethau yn lleihau gwerth ystad taladwy’r ymadawedig. Ystyriwch bethau fel biliau’r cartref, morgeisi, dyledion cardiau credyd, ac, yn gyffredinol, costau angladd.

Fodd bynnag, ni ellir didynnu unrhyw gostau a wynebwyd ar ôl y farwolaeth, fel ffioedd cyfreithwyr a phrofiant, o werth yr ystad at ddibenion IHT.

Gall fod yn gymhleth, felly mae'n werth cael cyngor i'ch helpu i wneud y penderfyniadau cywir.

Os credwch y byddai'n ddefnyddiol cael cynghorydd ariannol, gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol
Ewch i wefan GOV.UK am fwy o wybodaeth ar gyfrifo pa ran o ystad sy’n destun Treth EtifeddiantYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Pwy sy’n talu Treth Etifeddiant?

Os oes yna ewyllys, fel arfer ysgutor yr ewyllys sy’n trefnu talu’r Dreth Etifeddiant. Os nad oes ewyllys, gweinyddwr yr ystad sy’n cwblhau’r gwaith hwn.

Gellir talu’r IHT o gronfeydd yn yr ystad, neu o arian a godwyd o werthu asedau.

Fodd bynnag, yn ymarferol, telir IHT gan amlaf drwy’r Cynllun Taliad Uniongyrchol (DPS). Mae hyn yn golygu, os oedd gan yr ymadawedig arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, gall y sawl sy’n delio â’r ystad ofyn i’r cyfan neu ran o’r IHT sy’n ddyledus gael ei dalu’n uniongyrchol o’r cyfrif drwy’r DPS.

Darganfyddwch fwy am y Cynllun Taliad Uniongyrchol (DPS) ar GOV.UK

Weithiau, bydd yr ymadawedig wedi gadael arian yn eu ystad i dalu’r IHT. Fel arfer, trefnir hyn drwy bolisi oes gyfan, sy’n parhau mewn grym hyd nes i’r deilydd polisi farw, cyn bellled ag y telir y premiymau.

Gallai taliadau o bolisi yswiriant bywyd fod yn destun IHT. Fodd bynnag, drwy ysgrifennu’r polisi mewn Ymddiriedolaeth, dylid llwyddo i osgoi’r dreth honno. Drwy wneud hynny, byddwch hefyd yn osgoi mynd drwy’r broses brofiant, sydd yn aml yn llethol.

Unwaith y bydd y dreth a’r dyledion wedi eu talu, gall yr ysgutor neu’r gweinyddwr ddosbarthu’r hyn sy’n weddill o’r ystad.

O fis Ebrill 2027, bydd IHT sy'n ddyledus o fuddion pensiwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol gan y gweinyddwr pensiwn.

Nol i’r brig

Pryd fydd rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant?

Cofiwch

Os bydd angen i chi dalu Treth Etifeddiant (IHT), bydd angen i chi gael rhif cyfeirnod IHT dair wythnos o leiaf cyn i chi wneud taliad. Gellir gwneud hyn drwy’r post neu ar-lein.

Darganfyddwch fwy am sut i dalu eich bil Treth Etifeddiant ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Mae rhaid talu Treth Etifeddiant (IHT) cyn diwedd y chweched mis wedi marwolaeth yr unigolyn. Os na thelir y dreth o fewn y cyfnod hwn, bydd CTHEF yn dechrau codi llog.

Gall yr ysgutorion ddewis talu’r dreth ar rai asedau penodol, fel eiddo, drwy randaliadau dros ddeng mlynedd, ond bydd llog yn parhau’n daladwy ar y cyfanswm o dreth sy’n weddill.

Os gwerthir yr ased cyn talu’r IHT, mae rhaid i’r ysgutorion sicrhau bod yr holl randaliadau (a’r llog) wedi eu talu ar y pwynt hwnnw.

Os yw’ch ystad yn debygol o orfod talu IHT, mae’n syniad da cael eich ysgutor i dalu rhywfaint o’r dreth o fewn y chwe mis cyntaf o’r farwolaeth, hyd yn oed cyn gorffen prisio’r ystad. Gelwir hyn yn daliad ymlaen llaw.

Bydd hyn yn helpu’r ystad i leihau’r llog a godir efallai os yw’n cymryd mwy o amser i werthuso’r asedau i dalu’r dyledion a threthi.

Os yw’r ysgutor neu’r gweinyddwr yn talu’r dreth o’i gyfrif ei hun, gall ei hawlio yn ôl gan yr ystad.

Bydd CTHEF yn ad-dalu’r ystad os yw wedi gordalu IHT ar ôl i’r profiant gael ei gwblhau. Ystyr profiant yw cael yr hawl i ddelio ag eiddo, arian a meddiannau’r ymadawedig. Gelwir hyn yn gadarnhad yn yr Alban.

Os cawsoch eich penodi fel ysgutor neu weinyddwr yr ystad bydd angen i chi gwblhau ac anfon cyfrif o’r ystad cyn pen blwyddyn ers y farwolaeth, i osgoi cosb ariannol.

Ewch i wefan GOV.UK i gael mwy o wybodaeth am Dreth Etifeddiant, gan gynnwys prisio'r ystad a thalu'r dreth a'r ymddiriedolaethauYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Rhoddion a phethau sy’n rhydd o’r Dreth Etifeddiant

Mae rhai anrhegion ac eiddo wedi eu heithrio rhag Treth Etifeddiant, fel rhai anrhegion priodas a rhoddion elusennol. Gallech gael eithriadau hefyd â mathau penodol o eiddo hefyd, fel ffermydd neu asedau busnes.

Os yw’r ymadawedig wedi rhoi rhodd yn y saith mlynedd cyn marw, mae’r rhodd honno’n cael ei chyfrif fel rhan o’r ystad, ac yn debygol o fod yn destun IHT.

Mae faint o dreth sy’n daladwy yn ddibynnol ar werth y rhodd, pryd y’i rhoddwyd ac i bwy.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhoddion ac eithriadau o Dreth Etifeddiant
Nol i’r brig

Sut gallaf leihau faint o dreth a delir?

Mae ceisio lleihau faint o Dreth Etifeddiant sy’n daladwy ar ystad yn gymhleth. Ond, yn gryno, gallwch leihau faint o dreth a delir drwy:

  • adael cymynrodd i eluseYn agor mewn ffenestr newyddn
  • rhoi asedau mewn ymddiriedolaeth ar gyfer eich etifeddionYn agor mewn ffenestr newydd
  • gadael eich ystâd i'ch priod neu bartner sifil
  • rhoi hyd at £3,000 y flwyddyn yn rheolaidd mewn rhoddion
  • talu i mewn i bensiwn yn hytrach na chyfrif cynilo. Ond o fis Ebrill 2027, ni fydd yr opsiwn hwn ar gael mwyach.
Nol i’r brig

Defnyddio yswiriant bywyd i dalu Treth Etifeddiant

Gall prynu polisi yswiriant bywyd i dalu am ran o fil Treth Etifeddiant neu’r cyfan ohono wneud pethau’n haws i’ch teulu pan ddaw’n amser i roi trefn ar eich ystad ar ôl i chi farw.

Gall helpu i ddiogelu’ch cartref ac atal asedau eraill rhag cael eu gwerthu i dalu bil IHT, mae rhaid ei dalu fel arfer cyn y cymeradwyir profiant. Yn gryno, gall roi tawelwch meddwl i chi nad ydych yn gadael bil treth sylweddol i’ch teulu a’ch ffrindiau pan fyddwch farw.

Fel arfer, mae angen talu IHT cyn medru cyhoeddi unrhyw brofiant. Fodd bynnag, ag eiddo, gallai CThEF dderbyn taliadau dros gyfnod hyd nes y gwerthir yr eiddo. Fel arall, gallai banc ryddhau arian os caiff ei dalu’n uniongyrchol i CThEF i dalu bil IHT.

Gall oedi cyn talu arwain i CThEF godi cosbau ariannol ynghyd â llog ar swm y Dreth Etifeddiant a ddylai fod wedi cael ei dalu.

Bydd y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant yn cyfrif fel rhan o’r ystad oni bai bod eich polisi wedi ei ddal ‘mewn ymddiriedolaeth’ ac mae modd gwneud hynny heb gost ychwanegol fel arfer wrth drefnu’ch polisi.

Mae hyn yn golygu y telir unrhyw arian allan i’ch buddiolwyr yn hytrach na’ch ystad gyfreithiol. Felly ni fydd unrhyw daliad yn cyfrif yn erbyn eich trothwy ac ni fydd yn destun IHT. Byddai hyn yn osgoi cyfnod hir o brofiant sy’n golygu y bydd eich buddiolwyr yn cael eu harian yn llawer iawn cynt.

Yn aml defnyddir polisi yswiriant oes gyfan ar gyfer y pwrpas hwn, sy’n parhau mewn grym hyd nes i’r deilydd polisi farw, cyn bellled ag y parhewch i dalu’r premiymau.

Ewch i wefan Which? i ddarganfod mwy am yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaethYn agor mewn ffenestr newydd

Sut mae’n gweithio

  • Rydych yn sefydlu polisi yswiriant.
  • Rydych yn nodi y dylid cadw’r polisi mewn ymddiriedolaeth. Os nad ydych yn gwneud hynny, mae’r arian o’r taliad yswiriant yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch ystad ac yn destun IHT.
  • Pan fyddwch farw, bydd y polisi’n talu allan i’r ymddiriedolaeth, a gellir ei ddefnyddio i dalu eich bil Treth Etifeddiant neu ran ohono. Efallai y bydd angen i chi nodi eich dymuniadau mewn llythyr atodol i roi canllaw i ymddiriedolwyr eich ymddiriedolaeth polisi ddefnyddio’r cronfeydd ar gyfer hyn.

Gall cynllunio ystad a threthi fod yn gymhleth, felly mae’n werth cael cyngor i’ch helpu i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eich sefyllfa.

Darganfyddwch am Ddewis ymgynghorydd ariannol

Os ydych yn ystyried defnyddio yswiriant bywyd i dalu IHT, mae dau fath o bolisi y gallwch eu cymryd:

Polisi oes gyfan

  • Mae’r math hwn o bolisi yn parhau am oes, ac yn talu dim ond pan fyddwch farw, cyn belled â’ch bod yn talu’r premiymau’n brydlon.
  • Os dymunwch gael y math hwn o yswiriant, cofiwch y gallech fod yn talu premiymau ymhell i mewn i’ch 80au a’ch 90au. Mae premiymau yn ddrytach wrth i chi fynd yn hŷn. Fodd bynnag, mae rhai cynlluniau oes gyfan yn codi premiymau sefydlog am swm penodol o yswiriant ac o ganlyniad rydych yn gwybod o’r cychwyn cyntaf yn union beth yw pris y polisi a’r swm a warentir.
  • Efallai y byddwch hefyd yn cael anhawster cael yswiriant pan fyddwch yn hŷn, neu os cawsoch broblemau iechyd.

Polisi yswiriant cyfnod

Os byddwch yn rhoi asedau i anwyliaid yn hytrach na’ch priod, mae perygl y gallent wynebu bil treth sylweddol petaech farw cyn pen 7 mlynedd. Yn aml bydd y bil hwn yn cael ei ysgwyddo gan y sawl sy’n derbyn y rhodd yn hytrach na’r ystad.

  • Ar ôl marwolaeth, gall polisi Inter Vivos, sy’n fath o bolisi yswiriant cyfnod gostyngol, gynnig cyfandaliad sy’n cyfateb i unrhyw atebolrwydd IHT ar drosglwyddiad eithriedig posibl dros y band cyfradd nil ar gyfer Treth Etifeddiant.
  • Mae’r math hwn o bolisi yn parhau am gyfnod penodol o amser, ac yn talu os byddwch farw o fewn y cyfnod hwnnw yn unig. Ar ôl y cyfnod hwn daw’r polisi i ben.
  • Mae pris y premiymau yn aros yn sefydlog o ddechrau’r polisi fel arfer.

Mae rhaid i chi barhau i dalu’r premiymau ar gyfer hyd y naill fath o bolisi, er mwyn sicrhau y bydd yn talu pan fyddwch farw.

Mae mwy o wybodaeth am Bolisiau cyfnod yswiriant ar wefan MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Pa drethi eraill mae rhaid i fy etifeddion eu talu ar eu hetifeddiant?

Dim ond ar ôl talu unrhyw ddyledion (os o gwbl) a Threth Etifeddiant y bydd eich ystad yn cael ei ddosbarthu.

Yn dibynnu ar yr hyn y maent yn ei etifeddu, efallai y bydd eich etifeddion hefyd yn wynebu:

  • Treth Incwm – os yw’r hyn y maent yn ei etifeddu yn cynhyrchu incwm rheolaidd (e.e. difidendau cyfranddaliadau neu rent o eiddo)
  • Treth Enillion Cyfalaf – os ydynt yn gwerthu eu hetifeddiaeth (fel eiddo) am fwy o arian na’i werth pan fuoch farw. Mae faint fydd rhaid iddynt ei dalu yn dibynnu a ydynt yn talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol neu uwch.
  • Nid yw’n dreth, ond gall rhywun sydd ar fudd-daliadau prawf modd sy’n etifeddu unrhyw beth sy’n codi cyfanswm eu cyfalaf dros £6,000 gweld gostyngiad yn eu budd-daliadau. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar sut mae cynilion a chyfandaliadau yn effeithio ar fudd-daliadau.

Os ydych wedi rhoi eich asedau mewn ymddiriedolaeth neu’n ystyried gwneud hyn, gall faint o dreth a pha fath o dreth y mae rhaid iddynt ei thalu fod yn gymhleth iawn.

Mae'n werth siarad â chynghorydd treth neu gyfreithiwr i gael help i gyfrifo hyn.

Ewch i wefan GOV.UK i ddarganfod mwy am ba dreth fydd rhaid i'ch etifeddion eu talu ar eu hetifeddiantYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Marwolaeth a phrofedigaeth

Cynllunio treth etifeddiaeth

  • Defnyddio ymddiriedolaeth i leihau eich Treth Etifeddiant
  • Rhoddion ac eithriadau o Dreth Etifeddiant
  • Canllaw i Dreth Etifeddiant
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Cynllunio treth etifeddiaeth

  • Defnyddio ymddiriedolaeth i leihau eich Treth Etifeddiant
  • Rhoddion ac eithriadau o Dreth Etifeddiant
  • Canllaw i Dreth Etifeddiant
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau