Os oes gennych gyflwr meddygol, neu os ydych erioed wedi cael salwch difrifol, gall fod yn anodd cael yswiriant teithio. Darganfyddwch sut i gael yr yswiriant rydych ei angen am y pris iawn.
Yswiriant teithio os oes gennych gyflwr meddygol
Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau chwilio am yswiriant teithio os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd.
Gall y cyflyrau hyn cynnwys nifer o gyflyrau iechyd corfforol a/neu feddyliol sydd ag effaith hirdymor ar eich gallu i gwblhau gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Mae sawl darparwr yswiriant teithio sy’n cynnwys nifer o gyflyrau iechyd ac anableddau; gwelwch ein Cyfeirlyfr yswiriant teithio.
Mae’n debyg bydd yswirwyr am wybod manylion am eich cyflwr iechyd neu anabledd, sut mae’n effeithio ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd ac unrhyw drefniadau arbennig efallai bydd angen amdanoch chi neu’ch cyfarpar meddygol.
Beth sy’n cael ei ystyried yn gyflwr meddygol ar gyfer yswiriant teithio?
Dros 65 oed?
Bydd angen i chi rhoi gwybod am eich cyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes i gyd wrth brynu yswiriant teithio.
Os nad ydych yn sicr beth i roi gwybod am, mae’n bwysig peidio rhagdybio ei fod yn cael ei gynnwys. Gofynnwch eich darparwr yswiriant pob tro, neu gall unrhyw gais mae’n rhaid i chi ei wneud cael ei wrthod.
Mae gan wahanol gwmnïau yswiriant ddiffiniadau gwahanol. Ond mae’n debyg y bydd eich yswiriwr yn ystyried unrhyw un o’r canlynol fel cyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes:
- unrhyw gyflwr rydych yn aros am lawdriniaeth ar ei gyfer
- unrhyw gyflwr rydych yn aros am ganlyniadau profion amdano ar hyn o bryd
- unrhyw gyflwr, hyd yn oed un bach, rydych wedi gweld meddyg amdano yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
- unrhyw gyflwr difrifol – canser, trafferthion y galon, problemau anadlu – rydych erioed wedi’i gael.
Defnyddio brocer yswiriant teithio
Os yw siopa o gwmpas yn rhy flinedig, gallwch ofyn i frocer yswiriant teithio wneud hwn ar eich rhan. Bydd dim ond angen i chi ddarparu eich manylion unwaith, a bydd y brocer yn danfon y rhain ymlaen i sawl yswiriwr gwahanol.
Gall brocer yswiriant hefyd eich cefnogi os oes angen i chi wneud cais.
Gallwch ddod o hyd i frocer yswiriant trwy’r British Insurance Brokers’ AssociationYn agor mewn ffenestr newydd
Yswiriant teithio os ydych yn teithio yn y DU
Hyd yn oed os nad ydych yn teithio dramor, mae’n dal yn syniad da cael yswiriant teithio.
Mae’r mwyafrif o bolisïau’n cynnwys yswiriant ar gyfer:
- bagiau yn cael eu colli neu eu dwyn
- costau meddygol brys
- costau canslo, gohirio neu dorri’ch taith yn fyr (bydd rhai polisïau’n talu os yw’n gysylltiedig â choronafeirws)
- atebolrwydd personol, rhag ofn eich bod wedi cael eich siwio am niweidio eiddo neu achosi anaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am Yswiriant teithio – sut mae polisi da yn edrych?
A yw yswiriant teithio yn werth chweil?
Gallai teithio heb yswiriant, yn enwedig os oes gennych gyflwr meddygol difrifol, fod yn llawer mwy costus na chost polisi.
Gallai olygu peidio â chael y driniaeth rydych ei hangen yn gyflym neu wynebu biliau meddygol enfawr neu gostau uchel i’ch cael adref.
Felly, mae’n bwysig peidio â mentro teithio heb yswiriant.
Beth dylwn ei wneud os na allaf gael yswiriant teithio?
Efallai na fydd yn bosibl cael yswiriant ar gyfer y daith roeddech wir wedi edrych ymlaen iddi, naill ai oherwydd oedran neu resymau meddygol.
Fodd bynnag, efallai y bydd gennych fwy o siawns os byddwch yn newid i:
- lleoliad arall – yn agosach i gartref efallai, neu
- o bolisi aml-daith i un daith.
Mae’n werth dyfalbarhau gan nad yw’r risgiau o deithio heb yswiriant – yn enwedig os oes gennych gyflwr meddygol – yn werth chweil.
Mae gan ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio fanylion cyswllt darparwyr sy’n arbenigo mewn darparu yswiriant teithio i bobl â chyflyrau meddygol difrifol.
Yswiriant teithio a choronafeirws
Mae’r pandemig presennol wedi newid polisïau yswiriant teithio a’r hyn a fydd ac na fydd yn cael ei yswirio.
Bydd gan y mwyafrif o bolisïau yswiriant teithio sy’n cael eu cyhoeddi nawr ryw fath o yswiriant coronafeirws ond, fel bob amser, darllenwch delerau’r polisi yn ofalus iawn.
Er enghraifft, os yw yswiriant rhag canslo oherwydd coronafeirws wedi’i gynnwys yn y polisi, fel arfer dim ond os yw’r deiliad polisi’n profi’n bositif am y feirws y bydd hyn yn berthnasol. Os oes rhaid i chi ganslo oherwydd bod rhaid i chi hunan-ynysu neu fod mewn cwarantin, yna ni fydd y rhan fwyaf o bolisïau’n talu allan.
Os oes gennych bolisi yswiriant teithio yn barod, gwiriwch y telerau’n ofalus i weld a oes gennych yswiriant os:
- rydych yn profi’n bositif am goronafeirws cyn i chi deithio,
- neu tra’ch bod ar eich taith.