Os ydych angen cyllid i brynu’ch car, gall benthyciad personol neu fenthyciad banc gan fanc neu gymdeithas adeiladu fod yn un o’r ffyrdd rhataf o fenthyca’r arian os allwch gael cyfradd dda. Ond cofiwch ystyried manteision ac anfanteision benthyciadau personol yn gyntaf.
Pwyntiau pwysig i’w hystyried
Mae benthyciad personol a benthyciad banc yn enwau gwahanol ar gyfer yr un peth.
Gallwch ddefnyddio’r benthyciadau hyn ar gyfer car ail-law neu gar newydd – nid ydych wedi’ch cyfyngu yn eich dewis.
Chwiliwch o gwmpas am y gyfradd llog orau drwy gymharu’r cyfraddau canrannol blynyddol (APR). Mae’r APR yn cynnwys llog a holl ffioedd eraill y darparwr benthyciad. Gellir gwneud hyn cyn i chi fynd at eich deliwr fel eich bod yn gwybod faint y gallwch ei fenthyg ar ba gyfradd.
Coronafeirws a thaliadau car
Darganfyddwch fwy am wyliau talu os ydych yn cael trafferthion gyda thaliadau cyllid car
Gallai gwneud cais am fenthyciad personol effeithio ar eich sgôr credyd gan fod y cwmni sy’n rhoi benthyg yr arian i chi eisiau gwirio a all ymddiried ynoch i’w ad-dalu. Byddwch yn ofalus ynglŷn â hyn, er enghraifft, os ydych yn ystyried cymryd morgais yn fuan hefyd. Ni ddylai gwneud chwiliadau meddal trwy ddefnyddio cyfrifiannell cymhwysedd effeithio ar eich sgôr credyd.
Gallwch wirio’ch sgôr credyd am ddim trwy ddefnyddio:
Mae rhai o’r rhain hefyd yn cynnig chwiliad meddal am fenthyciadau, ond gallwch chwilio am eraill ar-lein.
Gwiriwch y swm ad-dalu misol a’r cyfanswm y byddwch yn ei dalu i’r darparwr benthyciadau. Gall hyn eich helpu i ganfod yr opsiwn mwyaf fforddiadwy a’r un a fydd yn costio’r lleiaf i chi yn gyffredinol.
Cofiwch wirio a yw’r llog ar eich benthyciad yn sefydlog neu’n amrywiol. Os yw’n sefydlog, bydd y gyfradd llog yn aros yr un peth hyd nes y bydd y benthyciad wedi’i ad-dalu.
Gall cyfradd llog amrywiol godi neu ostwng. Byddwch yn ofalus iawn gyda benthyciadau fel hyn – os gallwch ddim ond fforddio’r ad-daliadau cychwynnol gallech fynd i drafferth os bydd eich cyfraddau llog yn codi, felly meddyliwch yn ofalus cyn cymryd benthyciad.
Os ydych yn berchen ar eich cartref, efallai y cewch eich temtio i ystyried benthyciad wedi’i warantu.
Fodd bynnag, mae hwn yn ddewis llawer mwy peryglus gan fod yr arian wedi ei warantu yn erbyn eich cartref.
Mae hyn yn golygu, os nad ydych yn gallu ad-dalu’r benthyciad, gallai’r darparwr eich gorfodi i werthu eich cartref i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Darganfyddwch fwy am fenthyciadau wedi’u gwarantu a heb eu gwarantu
Nid benthyciad personol yw’r unig ffordd i brynu car.
Darganfyddwch ba opsiwn i dalu am gar yw'r un gorau i chi
Manteision benthyciadau personol
- Mae’n un o’r ffyrdd symlaf o gyllido eich car.
- Gellir trefnu dros y ffôn, ar y rhyngrwyd neu wyneb yn wyneb.
- Gallant fod ar gyfer cost lawn y car, neu ran ohoni.
- Os oes gennych sgôr credyd da dylech gael dewis o’r cyfraddau gorau sydd ar gael. Os allwch gael mynediad at y cyfraddau gorau, mae’n bosibl y bydd benthyciad personol yn rhatach na chyllid deliwr. Serch hynny, os oes cyllid 0% yn cael ei gynnig, mae’n bosibl y byddai hynny’n rhatach.
- Mae cyfraddau llog fel arfer yn sefydlog – er mae’n bosibl y byddant yn amrywiol felly cofiwch wirio.
- Byddwch yn dewis cyfnod y benthyciad (fel arfer un i saith mlynedd), ond cofiwch – yr hwyaf yw’r tymor y mwyaf y byddwch yn debygol o dalu mewn llog yn gyffredinol.
- Yn wahanol i rywun gyda ffurfiau eraill o gyllid car, byddwch yn berchen ar y car wrth ad-dalu’r benthyciad felly os byddech yn profi anawsterau ariannol gallech ei werthu.
Anfanteision benthyciadau personol
- Gallai taliadau misol fod yn uwch na ffurfiau eraill ar gyllid, ond bydd hyn yn dibynnu ar y tymor, a’r costau.
- Efallai y bydd angen i chi aros i’r arian ddod trwodd, er mae rhai darparwyr benthyciadau yn sicrhau bod arian ar gael bron ar unwaith.
- Ni fydd llawer o bobl yn gallu derbyn y cyfraddau sy’n cael eu hysbysebu. Yn aml gelwir y cyfraddau sy’n cael eu hysbysebu yn APR ‘cynrychioladol’ neu ‘arferol’. Mae hyn yn golygu mai dim ond 51% sydd angen bod yn gymwys. Bydd Cael sgôr credyd da yn helpu ond nid yw’n gwarantu y byddwch yn ei dderbyn.
- Gan eich bod yn berchen ar y car, byddwch yn gyfrifol am yr holl atgyweiriadau.
- Mae’n bosibl y byddwch yn benthyca mwy nag roeddech wedi bwriadu, gan na fydd y rhan fwyaf o fanciau yn benthyca llai na £1,000 neu am lai na 12 mis. Gallech gael eich temtio i fenthyg mwy oherwydd bod y cyfraddau llog yn gostwng y mwyaf y byddwch yn ei fenthyg
Sut y mae benthyciad banc/personol ar gyfer car yn gweithio
Gallwch ddefnyddio benthyciad banc i brynu car yn breifat ynghyd â gan ddelwriaeth, oherwydd unwaith y mae arian y benthyciad yn eich cyfrif, gallwch ei drin fel arian parod.
Os ydych yn ystyried cymryd benthyciad, defnyddiwch ein Cyfrifiannell benthyciad i gyfrifo faint y byddai’n cymryd i’w ad-dalu’n llawn a faint y byddai angen i chi ei ad-dalu bob mis.
Hefyd gallwch gymharu gwahanol gyfraddau a hyd y cyfnodau benthyca.
Os ydych yn cymharu benthyciadau ar-lein, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gwirio ar ychydig o safleoedd cymharu gwahanol. Dyma rai awgrymiadau:
Mae’n bosibl y byddwch yn cael cynnig yswiriant diogelu taliadau (PPI). Ystyriwch yn ofalus a ydych angen hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am yswiriant diogelu taliadau
Unwaith rydych wedi cytuno gyda’ch banc, bydd y benthyciad yn eich cyfrif o fewn ychydig ddyddiau. Yna gallwch fynd i’ch delwriaeth car i brynu’ch car.
Ad-delir benthyciadau personol bob mis. Bydd amserlen dalu yn cael ei threfnu gyda’ch banc, felly bydd angen i chi wybod yn union faint y byddwch yn ei ad-dalu.
Gwarchod benthyciad
Os gallwch dalu peth o’r gost ar eich cerdyn credyd gallwch elwa o ddiogelwch adran 75. Gall hyn eich helpu chi i ddatrys materion os byddwch yn profi rhai yn ddiweddarach gan y bydd y cwmni cerdyn credyd yn gyd-gyfrifol â’r ddelwriaeth ceir pe bai rhywbeth yn mynd o’i le.
Cyfnod ystyried a chanslo
Mae benthyciadau personol yn rhoi cyfnod ystyried naill ai o’r dyddiad rydych yn llofnodi cytundeb y benthyciad neu o’r dyddiad y derbyniwch gopi o’r cytundeb – pa un bynnag yw’r diweddaraf.
Mae cyfnod ystyried yn golygu bod gennych 14 diwrnod i benderfynu a yw’r benthyciad yn addas i chi, ai peidio, a gallwch ei ganslo. Mae’n caniatáu i chi dynnu yn ôl o fenthyciadau o hyd at £60,260.
Os byddwch yn canslo o fewn y cyfnod ystyried, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r cyfalaf a’r llog sydd wedi cronni dros y cyfnod hwnnw. Bydd angen i chi ei ad-dalu o fewn 30 diwrnod.
Hyd yn oed os byddwch yn canslo’r benthyciad, nid yw hyn yn canslo’ch cytundeb i brynu’r car o’r ddelwriaeth ceir, felly bydd angen i chi ganfod ffordd o dalu amdano.
Setlo neu dalu’r benthyciad yn ôl yn gynnar
Bydd angen i chi ysgrifennu at eich darparwr benthyciadau a gofyn am swm setlo – y swm y bydd angen i chi ei ad-dalu i dalu am y benthyciad yn llawn.
Unwaith y byddant yn cadarnhau hyn yna bydd gennych 28 diwrnod i ad-dalu’r swm hwnnw. Dylech hefyd dderbyn ad-daliad o unrhyw log a chostau i’r dyfodol rydych wedi’u talu.
Gallwch hefyd ofyn am setliad benthyciad rhannol. Bydd hyn yn golygu bod eich benthyciad yn llai, ac felly bydd yn effeithio ar sut rydych yn talu am weddill y benthyciad. Bydd yr ad-daliad y byddwch yn ei dderbyn ar gyfer unrhyw log neu gostau yn llai na phe byddech yn ad-dalu’r benthyciad yn llawn.
Pan fyddwch yn cysylltu â’ch darparwr benthyciad, rhaid iddo fod yn glir am sut y byddwch yn ad-dalu gweddill eich benthyciad. Gallwch negodi, a allai olygu eich bod yn talu gweddill y benthyciad mewn cyfnod llai o amser, neu’n talu symiau llai bob mis.
Cael y fargen benthyciad personol gorau
- Peidiwch â bodloni ar y gyfradd gyntaf a gynigir i chi gan eich banc neu gymdeithas adeiladu.
- Edrychwch o gwmpas i weld pa ddarparwyr sy’n cynnig y cyfraddau llog rhataf. Cymharwch APR, ond cofiwch y gallai hanes credyd gwael effeithio ar faint y gallwch ei dderbyn. Gall gwefan gymharu eich helpu i wneud hyn.
- Mynnwch ddyfynbris gan y darparwr benthyciadau cyn i chi ymgeisio. Os ydynt angen chwiliad sgôr credyd, cofiwch mai ‘chwiliad dyfynbris’ new ‘gwiriad credyd chwiliad ysgafn’ ydyw, nad yw’n gadael ôl ar eich ffeil credyd
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell benthyciad i weld faint y gallai eich benthyciad gostio.
Beth sy’n digwydd os na allwch fforddio talu
Mae’n bosibl y gallwch reoli’ch benthyciad personol yn well, a gallwch ddysgu mwy ar Sut i ostwng cost eich benthyciadau personol.
Os ydych yn cael anhawster wrth dalu biliau’r cartref yn ogystal â’ch taliadau car, gallwch gael cyngor cyfrinachol am ddim gan sefydliad neu elusen sy’n rhoi cyngor ar ddyledion.
Darganfyddwch ble i gael cyngor ar ddyledion am ddim
Gwerthwch y car
Oherwydd eich bod yn perchen ar y car, gallwch ei werthu a defnyddio’r arian i ad-dalu cymaint o’r benthyciad â phosibl. Bydd hyn yn gostwng yn sylweddol ar y swm y bydd rhaid i chi ei dalu bob mis – a sawl mis y bydd rhaid i chi barhau i dalu – er mwyn ad-dalu’r benthyciad yn llawn.
Siaradwch â’r cwmni cyllido
Efallai y byddant yn cynnig ymestyn hyd y brydles, a fyddai’n gostwng eich taliadau misol, neu ddod i drefniant arall i’ch helpu.
Ad-dalu’n gynnar
Gallech hefyd ystyried cael ffigwr setliad gan eich darparwr benthyciad, a fyddai’n un taliad mawr terfynol i derfynu’r cytundeb. Gallai hyn fod yn well i chi oherwydd mae’n bosibl y gallech drafod y pris y gallech ymdopi ag ef. Yna gallwch gadw’r car neu ei werthu.