Fel arfer byddwch yn gymwys i gael Credyd Pensiwn os oes gennych incwm wythnosol isel. Rydych yn debygol o fod yn gymwys os ydych yn byw ar eich pen eich hun a bod eich incwm wythnosol yn is na £227.10 – neu os ydych yn gwpl a bod eich incwm cyfunol o dan £346.60.
Efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn os yw eich incwm yn uwch na hyn os ydych:
- ag anabledd difrifol
- yn ofalwr
- yn gyfrifol am blentyn o dan 20 oed
- neu'n gymwys i gael cymorth gyda chostau tai.
Os oes gennych fwy na £10,000 mewn cynilion, mae’r llywodraeth yn cymryd eich bod yn “ennill” incwm o’ch cynilion ac yn lleihau swm y Credyd Pensiwn a gewch.
Mae Credyd Pensiwn ar gael i bobl sy’n hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth, a phobl nad ydynt yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth. Y ffordd hawsaf o ddarganfod beth allwch chi ei gael yw defnyddio'r gyfrifiannell Credyd PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd