Os na allwch chi gael Tâl Mamolaeth Statudol, efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-dal arall o’r enw Lwfans Mamolaeth.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Lwfans Mamolaeth?
- Faint yw Lwfans Mamolaeth?
- Effaith ar fudd-daliadau eraill
- Pwy sy’n cael Lwfans Mamolaeth?
- Lwfans Mamolaeth os nad ydych yn gweithio
- Pa mor hir y gallaf gael Lwfans Mamolaeth?
- Lwfans Mamolaeth os ydych yn hunangyflogedig
- Beth os na allwch gael Lwfans Mamolaeth?
- Cael mwy o help gyda budd-daliadau mamolaeth
- Rhif cyswllt Lwfans Mamolaeth a ffurflen gais
Beth yw Lwfans Mamolaeth?
Budd-dal yw Lwfans Mamolaeth sy’n cael ei dalu gan y llywodraeth i ferched beichiog sydd ddim yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol.
Darganfyddwch fwy am Dâl Mamolaeth Statudol yn ein canllaw Absenoldeb a thâl mamolaeth
I ddarganfod a ydych yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth, defnyddiwch y gyfrifiannell ar wefan GOV.UK
Faint yw Lwfans Mamolaeth?
Mae Lwfans Mamolaeth yn ddi-dreth a chewch un ai:
- 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (cyn treth) hyd at uchafswm o £156.66 yr wythnos am 39 wythnos.
- £27 yr wythnos am 39 wythnos, neu
- £27 yr wythnos am 14 wythnos.
(Ffigurau 2022/23)
Byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn awtomatig tra rydych yn cael Lwfans Mamolaeth. Mae’r credydau hyn yn bwysig oherwydd maent yn cyfrif tuag at eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth.
Effaith ar fudd-daliadau eraill
Gallai Lwfans Mamolaeth effeithio ar faint rydych chi’n ei gael ar gyfer:
- Credyd Cynhwysol
- Gostyngiad Treth Gyngor
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) - bydd hyn yn stopio os cewch Lwfans Mamolaeth
- budd-daliadau profedigaeth
- Lwfans Gofalwr.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Y cap ar fudd-daliadau
Mae’r cap ar fudd-daliadau yn cyfyngu cyfanswm y budd-daliadau y gallwch eu cael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed a throsodd sydd heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy am y cap ar fudd-daliadau ar wefan GOV.UK
A gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK
Nid yw rhai budd-daliadau unigol yn cael eu heffeithio, ond gall effeithio cyfanswm y budd-dal a gewch.
Pwy sy’n cael Lwfans Mamolaeth?
Efallai y gallwch ei gael am 39 wythnos os:
- rydych yn gyflogedig ond ni allwch wneud cais am Dâl Mamolaeth Statudol
- rydych yn hunangyflogedig ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 - yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
- rydych wedi stopio gweithio’n ddiweddar.
Yn y 66 wythnos cyn mae disgwyl i’ch babi gael ei eni:
- mae’n rhaid eich bod wedi bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig am o leiaf 26 wythnos, ac
- mae’n rhaid i chi fod wedi ennill £30 neu fwy am o leiaf 13 o’r wythnosau hynny - nid oes yn rhaid i’r wythnosau fod gyda’i gilydd.
Lwfans Mamolaeth os nad ydych yn gweithio
Os nad ydych yn gyflogedig nac yn hunangyflogedig ond rydych wedi bod yn helpu’ch priod neu bartner sifil hunangyflogedig gyda’u busnes yn ddi-dâl, efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth ar gyfradd o £27 yr wythnos am 14 wythnos.
Pa mor hir y gallaf gael Lwfans Mamolaeth?
Telir Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos.
Gallwch ddechrau hawlio o’r 26ain wythnos o’ch beichiogrwydd.
Y cynharaf y gallwch gael eich taliad cyntaf yw 11 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi.
Lwfans Mamolaeth os ydych yn hunangyflogedig
Gall Lwfans Mamolaeth fod yn hwb gwerthfawr i’ch incwm os ydych yn hunangyflogedig a gorfod cymryd amser i ffwrdd o’ch gwaith i gael babi.
I gael y swm llawn o Lwfans Mamolaeth, rhaid i chi fod wedi bod yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 am o leiaf 13 o’r 66 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi.
Pan fyddwch wedi gwneud eich cais, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gwirio eich bod wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.
Neu gallwch eu gwirio eich hun ar wefan GOV.UK
Os nad ydych wedi talu digon i gael y gyfradd lawn (£156.66 yr wythnos), cewch £27 yr wythnos am 39 wythnos os bodlonwch y meini prawf cymhwyso ar gyfer Lwfans Mamolaeth.
Mae’n bosibl i chi wneud taliadau Yswiriant Gwladol ychwanegol i sicrhau y cewch y swm llawn o Lwfans Mamolaeth. Bydd CThEM yn dweud wrthych sut i wneud hyn pan fyddwch yn gwneud eich cais. Neu cysylltwch â llinell gymorth Yswiriant Gwladol hunangyflogedig CThEM.
Ffôn: 0300 200 1900
Ffôn testun: 0300 200 3519
Y tu allan i’r DU: +44 19 1203 7010
Mae’r llinellau ar agor: 8am i 8pm Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 4pm dydd Sadwrn. Ar gau ar ddydd Sul a gwyliau banc.
Darganfyddwch am gostau galwadau ar wefan GOV.UK
Beth os na allwch gael Lwfans Mamolaeth?
Os nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth, mae’n syniad da i geisio gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Cael mwy o help gyda budd-daliadau mamolaeth
Ydych chi'n feichiog neu newydd gael babi a dim yn meddwl eich bod yn gymwys am Dâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth? Yna mae'n bwysig i siarad ag ymgynghorydd profiadol - er enghraifft, yn swyddfa Cyngor Ar Bopeth neu’r Ganolfan Byd Gwaith.
Dewch o hyd i’ch cangen agosaf ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, dewch o hyd i'ch Canolfan Byd Gwaith agosaf ar wefan GOV.UK Neu ffoniwch 0800 012 1888.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch NI Direct ar 02890 823 318.
Darganfyddwch fwy am fudd-daliadau a hawliau eraill yn ein canllaw
Budd-daliadau y gallwch eu hawlio tra byddwch yn feichiog neu wedi cael babi?
Rhif cyswllt Lwfans Mamolaeth a ffurflen gais
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
Llenwch y ffurflen gais Lwfans Mamolaeth (MA1) ar wefan GOV.UK
Neu ffoniwch 0800 012 1888
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon
Ffoniwch NI Direct ar 02890 823 318