Eich hawl i Gais Unigolyn am Wybodaeth
Mae gennych hawl i gael gwybod a yw'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn dal unrhyw wybodaeth amdanoch ac os felly, i gael copi o'r wybodaeth honno. Gelwir hyn yn ‘hawl unigolyn am wybodaeth’. Mae'r hawliau hyn yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth Diogelu Data.
Sylwch fod gwybodaeth yn ddarostyngedig i bolisi cadw data Gwasanaeth Arian a Phensiynau a dim ond os ydym yn dal i gadw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi ac nad oes eithriadau yn berthnasol y gellir ei darparu.
Mae ceisiadau cais unigolyn am wybdoaeth am ddim; fodd bynnag, rydym yn cadw'r hawl i godi ffi resymol os yw cais yn arbennig o ormodol neu ailadroddus.
I gael mwy o wybodaeth am yr hawl i gael cais unigolyn am wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Gwneud cais unigolyn am wybodaeth i Wasanaeth Arian a Phensiynau
I gael mynedidad at y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data (DPO) (Opens in a new window) (PDF/A, 182KB) yn uniongyrchol trwy e-bost, neu cwblhewch ffurflen Cais Unigolyn am Wybodaeth (SAR) a’i ddychwelyd atom.
E-bostiwch dpo@maps.org.uk neu drwy post i: Data Protection Officer, The Money and Pensions Service, Holborn Centre, 120 Holborn, London, EC1N 2TD.
Os byddwch yn gwneud cais dilys am gais unigolyn am wybodaeth byddwn yn:
- dweud wrthych a ydym yn cadw unrhyw ddata arnoch; a
- rhoi copi o'r data hwn i chi.
Byddwn yn anelu i gyflawni eich cais o fewn mis i dderbyn y canlynol:
cais dilys unigolyn am wybodaeth;
digon o ddogfennaeth i wirio'ch hunaniaeth.
Gwybodaeth sydd gennym
Mae gwybodaeth a allai fod gennym yn debygol o fod yn ddibynnol ar p'un a ydych;
- wedi cysylltu â Gwasanaeth Arian a Phensiynau trwy ein gwefan a'n gwasanaeth ffôn; a/neu
- wedi derbyn Cyngor Dyled trwy wasanaeth a ariennir gan Wasanaeth Arian a Phensiynau
Yn ogystal â chopi o'ch data, byddwch hefyd yn derbyn arweiniad gan Wasanaeth Arian a Phensiynau, yn eich cynghori beth i'w wneud os credwch fod unrhyw wybodaeth yn anghywir.
Dilysu eich hunaniaeth
Cyn y gallwn ryddhau unrhyw ran o'ch data, mae rhaid i ni fod yn sicr o'ch hunaniaeth.
Mae rhaid i chi anfon o leiaf dau ddarn gwreiddiol o ddogfennaeth hunaniaeth swyddogol â'ch cais sydd rhyngddynt yn darparu digon o wybodaeth i brofi'ch enw, eich dyddiad geni, eich cyfeiriad cyfredol a'ch llofnod.
Enghreifftiau o hyn yw:
Dogfen 1
trwydded yrru â cherdyn llun ddilys gyfredol *
Tystysgrif geni/mabwysiadu
pasbort.
* nodwch nad ydym yn gallu derbyn trwyddedau gyrru cymheiriaid papur a gyhoeddwyd ar ôl 1998 yn unol â newidiadau a gyflwynwyd gan y DVLA o 8 Mehefin 2015 gan nad oes ganddynt unrhyw statws cyfreithiol mwyach. Ni allwn hefyd dderbyn trwyddedau gyrru â cherdyn llun sydd wedi dod i ben.
Dogfen 2
bil cyfleustodau h.y. bil nwy/trydan/ffôn
dogfen swyddogol h.y. gohebiaeth gan fanc/cymdeithas adeiladu.
Ni ddylai'r uchod fod yn fwy na 3 mis oed. Mae rhaid i bob dogfen fod yn wreiddiol. Ni fyddwn yn derbyn llungopïau. Rydym yn cynghori eich bod yn anfon eich dogfennau hunaniaeth trwy ddulliau diogel. Bydd eich dogfennau'n cael eu dal yn ddiogel gan MaPS a'u hanfon yn ôl atoch trwy eu hanfon yn ddiogel cyn gynted ag y byddwn wedi gwirio'ch hunaniaeth
Manylion cyswllt
Data Protection Officer
Money and Pensions Service
Holborn Centre
120 Holborn
London
EC1N 2TD
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cyfeiriwch y rhain i contact@maps.org.uk
Pryderon ceisiadau unigolyn am wybodaeth
Os ydych yn anfodlon â'r ffordd y mae'ch cais Unigolyn am Wybodaeth wedi'i brosesu a/neu'n dymuno herio'r canlyniadau, gallwch godi pryder â'r Swyddog Diogelu Data MaPs drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Os ydych yn teimlo nad ydym wedi mynd i'r afael â'ch pryderon yn foddhaol, gallwch wedyn eu trosglwyddo i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth trwy eu gwefan www.ico.org.uk neu’n ysgrifenedig i:
Customer Contact
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
Nodwch - rydym yn cadw gwybodaeth cais unigolyn am wybodaeth am uchafswm o 6 mis rhag ofn y bydd unrhyw bryderon yn cael eu codi. Ar ôl 6 mis mae'r copi o'r wybodaeth cais unigolyn am wybodaeth yn cael ei ddinistrio'n ddiogel.