Yn ogystal â'n canllawiau diduedd a'n herthyglau gwybodaeth, gellir rhoi llawer o theclynnau a chyfrifianellau HelpwrArian ar eich gwefan neu fewnrwyd i'ch cynulleidfa eu defnyddio, am ddim.
Categorïau teclynnau
Mae ein teclynnau’n cwmpasu'r ystod lawn o bynciau ar ein gwefan.
Wedi'i gynllunio ar gyfer pawb, mae ein teclynnau’n helpu pobl i glirio eu dyledion, gwario llai, a gwneud y gorau o'u hincwm. Gallant helpu i gefnogi anwyliaid, cynllunio ymlaen llaw ar gyfer pryniannau mawr a helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth am hawliau. Maent yno i helpu i gronni cynilion a phensiynau, a helpu pobl i wybod eu hopsiynau.
Sut gallaf gael teclyn neu gyfrifiannell ar fy safle?
Byddwn yn rhoi cod gosod arbennig i chi y gallwch ei roi yn eich gwefan. Bydd yn rhoi fersiwn cwbl weithredol o'r teclyn neu'r gyfrifiannell i chi - felly nid oes rhaid i chi greu ddolen i ni.
Byddwn yn cadw'r teclyn yn gyfredol, felly gallwch bob amser fod yn siŵr bod y ffigurau a'r arweiniad yn gywir.
I gael mwy o wybodaeth ac i gael codau gosod ar gyfer unrhyw un o'r teclynnau hyn, e-bostiwch ein tîm Partneriaethau.
Pa declyn a chyfrifianellau y gallaf eu defnyddio?
Isod mae rhestr o'r holl teclynnau a chyfrifianellau sydd ar gael â disgrifiad byr a dolen i'r teclyn ar safle HelpwrArian, fel y gallwch roi cynnig arnynt drosoch eich hun.