Os ydych yn gweithio i fwy nag un cyflogwr, efallai y byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig i fwy nag un cynllun pensiwn gweithle.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth fydd yn digwydd os oes gennyf fwy nag un swydd?
Os oes gennych fwy nag un swydd, bydd pob un o'ch cyflogwyr yn gwirio a ydych yn gymwys i ymuno â'u cynllun pensiwn gweithle yn awtomatig.
Os ydych yn gymwys, mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich ystyried yn ‘ddeiliad swydd cymwys’.
Yna byddwch wedi'ch cofrestru'n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle'r cyflogwr hwnnw. Ond yna gallwch benderfynu eithrio allan.
Gallwch berthyn i fwy nag un cynllun pensiwn gweithle cyflogwr.
Efallai na fyddwch yn gymwys i gael eich cofrestru'n awtomatig mewn cynllun pensiwn gweithle ag un neu fwy o'ch cyflogwyr. Mae hyn yn golygu eich bod naill ai'n ‘ddeiliad swydd nad yw'n gymwys’ neu’n ‘weithiwr cymwys’.
Fodd bynnag, gallwch ofyn am ymuno â chynllun pensiwn gweithle'r cyflogwr hwnnw ac os ydych yn ‘weithiwr nad yw'n gymwys', mae'n rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu.
Ond, os ydych yn ‘weithiwr cymwys’, nid oes rhaid i’ch cyflogwr gyfrannu at eich pensiwn (er y gallai ddewis gwneud hynny beth bynnag).
Efallai y gofynnir i chi dalu cyfraniadau, yn seiliedig ar eich cyflog o'r gyflogaeth honno, i bob un o'r cynlluniau rydych yn ymuno â nhw.
Darganfyddwch fwy am ymuno â chynllun pensiwn gweithle yn ein canllaw Cynlluniau Pensiwn Gweithle
Gall yr hyn a gewch o bob cynllun pan fyddwch yn ymddeol fod yn wahanol. Bydd hyn yn dibynnu a yw'r cynllun yn fudd diffiniedig neu'n gyfraniad diffiniedig.
Ond y peth pwysig yw y byddwch yn adeiladu pensiwn a all roi incwm i chi ar ôl ymddeol.
Os byddwch yn gadael cyflogwr, neu wrth i chi agosáu at y dyddiad y gallwch ddechrau cymryd incwm o'ch pensiynau, efallai y bydd yn bosibl dechrau dod â'ch pensiynau at ei gilydd.
Nid oes cyfyngiad ar nifer y gwahanol gynlluniau pensiwn y gallwch berthyn iddynt. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar y cyfanswm y gellir ei gyfrannu ar draws pob cynllun bob blwyddyn, os ydych am dderbyn rhyddhad treth ar gyfraniadau.