Efallai bydd cynghorau yn rhoi dirwyon parcio, er enghraifft, os ydych wedi parcio’n beryglus neu mewn ardal waharddedig. Darganfyddwch beth i'w wneud os cewch ddirwy gan eich cyngor lleol.
Os ydych wedi derbyn rhybudd tâl cosb
Mae rhybudd tâl cosb (PCN) yn cael ei roi gan y cyngor ar dir cyhoeddus - fel maes parcio’r cyngor neu stryd fawr.
Mae’r dirwyon yn amrywio o £50 i £130. Mae’n dibynnu ar ble rydych yn y wlad a pha mor ddifrifol oedd eich trosedd parcio.
Mae’n bwysig peidio ag anwybyddu PCN. Os nad ydych wedi talu o fewn 28 diwrnod, cewch ‘dystysgrif arwystl’ – a bydd gennych 14 diwrnod i dalu’r ddirwy wreiddiol ynghyd â 50% yn fwy.
Cewch orchymyn llys yn mynnu taliad os na fyddwch yn talu tystysgrif arwystl o fewn 14 diwrnod. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
I ddeall mwy am ba gamau y gall asiant gorfodi eu cymryd, gwelwch y canllawiau i beiliaid ar wefan Cyngor ar Bopeth (Maent yn cael eu galw yn siryfion yn yr Alban).
Os ydych o fewn y terfyn 28 diwrnod ac yn credu bod y PCN yn annheg, gallwch apelio. Os gwnewch hynny cyn pen 14 diwrnod a gwrthodir eich her, efallai mai dim ond 50% o’r ddirwy y bydd yn rhaid i chi ei thalu.
Dilynwch y camau ar eich tocyn oherwydd gall rheolau apelio amrywio. Mae gan Cyngor ar Bopeth ganllaw i’ch helpu â beth i’w ddweud.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Dirwyon parcio preifat neu gan yr heddlu
Mae’n bwysig gwirio pa fath o ddirwy parcio sydd gennych. Mae hyn oherwydd bod y rheolau ar gyfer delio â thaliadau a fethwyd yn wahanol.
Cyhoeddir tâl parcio preifat gan gwmni preifat. Yn aml bydd cwmnïau preifat yn rhedeg canolfannau parcio a meysydd parcio archfarchnadoedd.
Nid yw tocynnau parcio preifat yn ddirwyon swyddogol. Os ydych yn derbyn un a’ch bod yn meddwl ei fod yn annheg, gallwch ei apelio gyda’r dyfarnwr annibynnol Apeliadau Parcio ar Dir Preifat (POPLA).
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am apeliadau parcio ar dir preifat ar POPLA
Oherwydd y pandemig COVID-19, mae POPLA wedi bod yn gohirio ystyried apeliadau am gyfnod byr oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol. Mae hyn yn golygu y gallai fod oedi cyn clywed penderfyniad am eich apêl. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan POPLA
Os ydych angen help i wneud eich apêl, ceir canllaw am ddim â llythyrau templed ar wefan MoneySavingExpert
Efallai cewch gosb parcio gan yr heddlu – a elwir weithiau’n Hysbysiad Cosb Sefydlog (FPN).
Am gyngor defnyddiol ar beth i’w wneud, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth
Ni allaf fforddio talu fy nirwy – beth ddylwn i ei wneud ?
A ydych wedi penderfynu peidio ag apelio ac na allwch ddod o hyd i ffordd i dalu’ch dirwy parcio? Mae’n well cael cyngor cyn gynted ag y gallwch, yn enwedig os oes gennych ddyledion eraill hefyd.
Gwelwch ein canllaw ar Sut i flaenoriaethu’ch dyledion i’ch helpu i weithio allan pa rai i’w talu’n gyntaf
Beth i’w wneud os ydych wedi methu taliadau am rybudd tâl cosb
Mae’r llywodraeth yn annog pob cyngor i gymryd agwedd hyblyg tuag at gosbau parcio.
Os ydych o fewn y terfyn 28 diwrnod, darganfyddwch a ydynt wedi ymestyn eu cyfnodau talu disgownt. Neu os gallant ymestyn y dyddiad y mae angen i chi ei dalu.
Os ydych wedi cael sawl dirwy parcio, efallai y bydd eich cyngor yn sefydlu cynllun talu neu talu fesyl dipyn pan fyddwch yn gwneud taliadau unigol.
Bydd yn helpu’ch achos os gallwch egluro faint y gallwch fforddio ei dalu trwy osod eich cyllideb bersonol.
Gwnewch gyllideb brys
Yn gyntaf, gwiriwch ein hyb cymorth Coronafeirws i sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Os ydych yn poeni am eich cyllid, edrychwch ar yr hyn rydych chi’n ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda'n cyfrifiannell budd-daliadau
Defnyddiwch ein teclyn Cynlluniwr Cyllideb i’ch helpu i wneud hyn .
Darganfyddwch sut i arbed arian a chynyddu’ch incwm i’ch helpu i ddal i fyny â’ch taliadau ar wefan StepChange