Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Gofal tymor hir
Teulu a gofal Gofal tymor hir

Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal

Os oes angen i chi ariannu’ch gofal hirdymor a’ch bod eisoes wedi talu eich morgais i gyd, neu ar fin gwneud hynny, mae cynllun rhyddhau ecwiti yn ddewis i chi ei ystyried. Ond, nid yw rhyddhau ecwiti yn addas i bawb, felly defnyddiwch y canllaw hwn i'ch helpu penderfynu.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw rhyddhau ecwiti?
  • Sut mae cynlluniau rhyddhau ecwiti yn gweithio?
  • Mesurau diogelu pwysig
  • Allai cynllun rhyddhau ecwiti fod yn addas ar eich cyfer chi?
  • Camau nesaf
  • Ceisiwch gyngor annibynnol

Beth yw rhyddhau ecwiti?

Mae rhyddhau ecwiti yn ffordd o elwa o werth eich cartref a chael ychydig o’r arian hwnnw heb orfod symud allan.

Nid yw cynlluniau rhyddhau ecwiti yn cael eu defnyddio i ariannu gofal hirdymor yn unig.

Ond gan eu bod wedi eu datblygu i greu incwm ychwanegol neu gyfandaliad, mae’n bosib eu bod yn addas i’r pwrpas hwn.

Mae yna dau brif fath o gynllun:

  • trefniadau morgais gydol oes
  • cynlluniau ôl-feddiannu cartref (ble mae rhan neu’r cyfan o’r eiddo yn cael ei werthu).
Nol i’r brig

Sut mae cynlluniau rhyddhau ecwiti yn gweithio?

Morgeisi gydol oes

Gyda morgais gydol oes, rydych yn cymryd benthyciad a ddiogelir ar eich cartref, nad oes angen ei ad-dalu hyd nes diwedd tymor y morgais (pan fydd y benthyciwr yn gwerthu’r eiddo, yn marw neu’n symud yn barhaol i gartref gofal).

Mae dau brif fath o forgais gydol oes.

  • Morgais cronni llog. Byddwch yn cael cyfandaliad neu bydd swm rheolaidd o arian yn cael ei dalu i chi, a chodir llog sy’n cael ei ychwanegu at y benthyciad. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi wneud unrhyw daliadau rheolaidd. Mae’r swm yr ydych chi wedi’i fenthyca, gan gynnwys y llog wedi’i gronni, yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd cyfnod eich morgais pan fydd eich cartref yn cael ei werthu.
  • Morgais gyda thâl llog. Byddwch yn cael cyfandaliad a naill ai’n gwneud taliadau misol neu ar hap. Mae hyn yn lleihau, neu’n stopio, effaith cronni llog. Mae rhai cynlluniau hefyd yn caniatáu i chi dalu’r cyfalaf i ffwrdd, pe dymunwch. Bydd y swm y gwnaethoch ei fenthyg yn cael ei ad-dalu pan fydd eich cartref yn cael ei werthu ar ddiwedd tymor eich morgais.

Cynlluniau ôl-feddiannu cartref

Gyda chynllun ôl-feddiannu cartref, rydych yn gwerthu’r cyfan neu ran o’ch cartref am lai na’i werth farchnad a’i gyfnewid am swm o arian.

Yna rydych yn aros yn eich cartref fel tenant, heb dalu rhent.

Yn aml gallwch werthu rhannau neu’r cyfan o’ch cartref gydag amser. Er enghraifft, 25% yn awr gyda 25% arall i ddilyn ymhen rhai blynyddoedd.

Nid oes ymyrraeth o ddydd i ddydd a dim cyfyngiadau o ran trin y tŷ yn union fel o’r blaen - fel cartref preifat i fyw ynddo fel y mynnwch.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Defnyddio cynllun ôl-feddiannu cartref i dalu am eich gofal

Cynlluniau gwerthu-a-rhentu’n-ôl

Mewn cynllun gwerthu-a-rhentu’n-ôl, rydych chi’n gwerthu’ch cartref am bris rhatach na’i werth. Yn gyfnewid am hynny, cewch aros yn eich cartref fel tenant sy’n talu rhent am gyfnod penodol o amser.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau gwerthu-a-rhentu’n-ôl

Y Cyngor Rhyddhau Ecwiti

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr rhyddhau ecwiti yn aelodau o’r Cyngor Rhyddhau Ecwiti (elwid gynt yn Safe Home Income Plans SHIP) ac yn darparu’r hyn a elwir yn sicrwydd o ddim ecwiti negyddol – ynghyd ag ystod o safonau eraill.

Gyda morgais gydol oes felly, golyga hyn na fydd eich cyfanswm dyled fyth yn uwch na gwerth eich eiddo ac ni fydd yn cael ei basio ymlaen i’ch teulu.

Mae holl ddarparwyr y Cyngor Rhyddhau Ecwiti wedi'u rhwymo gan god ymarfer llym, a ddylai gynnig y gwarantau hyn i chi.

  • Gall pob cwsmer aros yn ei eiddo tan ddiwedd tymor y morgais (pan fydd y benthyciwr sy’n goroesi yn marw neu’n symud i gartref gofal tymor hir). Rhaid mai dyma yw eu prif fan preswylio a rhaid iddynt gydymffurfio ag amodau a thelerau’r contract.
  • Rhaid i fuddion, amrywiaethau, cyfyngiadau a goblygiadau’r cynllun gael eu hegluro’n glir.
  • Rhaid i bob benthyciwr gael cyfreithiwr annibynnol y maent yn ei weld wyneb yn wyneb. Yna bydd y cyfreithiwr yn arwyddo tystysgrif sydd yn cadarnhau bod y cynllun wedi ei egluro’n glir i’r cwsmer ac wedi ei ddeall.
  • Rhaid i dystysgrif y cyfreithiwr fanylu ar effaith y benthyciad ar yr eiddo, er enghraifft, beth fydd yn digwydd wedi i’r eiddo gael ei werthu.
  • Ar gyfer morgeisi gydol oes (yn benodol morgeisi cronni llogau), rhaid bod cyfraddau llog yn sefydlog. Os ydynt yn amrywiol, rhaid cael 'cap' (terfyn uchaf) sy’n sefydlog ar gyfer cyfnod llawn y benthyciad.
  • Rhaid bod gan y cynnyrch 'warant dim ecwiti negyddol' . Mae hyn yn golygu pan fydd eich eiddo’n cael ei werthu, ac wedi talu ffioedd asiantau a chyfreithwyr, hyd yn oed os nad yw’r swm sy’n weddill yn ddigon i ad-dalu’r benthyciad sy’n weddill, ni fydd y cwsmer na’r ystâd yn atebol i dalu’r gwahaniaeth.
  • Mae gennych yr hawl i symud eich cynllun i eiddo addas arall heb gael eich cosbi’n ariannol. Mae hyn yn amodol i’r eiddo newydd fod yn dderbyniol i ddarparwr y cynnyrch fel sicrwydd parhaus ar gyfer y benthyciad rhyddhau ecwiti.
Nol i’r brig

Mesurau diogelu pwysig

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), rheoleiddiwr gwasanaethau ariannol y DU, yn rheoleiddio cynlluniau rhyddhau ecwiti. 

Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau sydd yn cynghori ar y cynnyrch yma neu’n eu gwerthu yn gorfod cwrdd â safonau penodol a darparu gweithdrefnau cwyno ac iawndal eglur.

Mae'n bwysig bob amser cael cyngor ariannol annibynnol cyn ymrwymo i gynllun rhyddhau ecwiti. Mae angen asesu eich amgylchiadau unigol a dyma pam mae cyngor ariannol yn hanfodol yn y broses ac yn ofyniad rheoliadol. Bydd cynghorydd yn egluro beth sydd dan sylw, yn trafod yr opsiynau a'r dewisiadau amgen sydd ar gael i chi ac unrhyw oblygiadau o ran budd-daliadau’r wladwriaeth, cefnogaeth gan  awdurdod lleol a rhwymedigaethau treth.

Nol i’r brig

Allai cynllun rhyddhau ecwiti fod yn addas ar eich cyfer chi?

Pan edrychwn ar gynllunio ar gyfer gofal hirdymor, gall cynlluniau rhyddhau ecwiti fod yn ddefnyddiol, ond dim ond os ydych yn bwriadu ariannu gofal yn eich cartref eich hun ac nad ydych yn gymwys i gael cymorth gan yr awdurdod lleol.

Fodd bynnag, os ydych yn meddwl y bydd yn rhaid i chi symud allan a chael gofal preswyl yn fuan, mae’n debyg na fydd y cynllun rhyddhau ecwiti yn addas.

Y rheswm am hyn yw bod trefniadau rhyddhau ecwiti yn gofyn i chi werthu’r eiddo ac ad-dalu’r benthyciad yn llawn os ydych yn symud i mewn i gartref gofal yn barhaol.

Faint o ecwiti allwch chi ei ryddhau?

Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel beth yw gwerth eich eiddo, eich oed a’r cynnyrch yr ydych yn ei ddewis.

Yn ogystal, efallai y bydd rhai darparwyr yn gallu cynnig symiau mwy o arian i’r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol, neu hyd yn oed ‘ffactorau ffordd o fyw’ fel ysmygu.

Faint mae’n ei gostio?

Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o’r holl gostau cyn symud ymlaen.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu:

  • ffioedd cyfreithiol
  • ffi brisio
  • yswiriant adeiladau
  • taliadau ad-dalu cynnar, os ydych chi am ad-dalu'r morgais yn gynnar
  • ffi trefniant i’r benthyciwr morgais, a elwir yn ffi ‘gweinyddu’ neu ‘cais’
  • ffi i'ch ymgynghorydd am ei gyngor ynghylch eich opsiynau ac argymell y cynllun mwyaf addas o'r ystod sydd ar gael
  • ffi gwblhau. Gellir talu hwn ar adeg ei gwblhau neu ei ychwanegu at y benthyciad.

Pethau eraill i’w hystyried

Bydd angen i chi wirio a fydd rhyddhau ecwiti o’ch cartref yn cael effaith ar eich sefyllfa treth ac unrhyw fudd-daliadau’r wladwriaeth neu gymorth gan awdurdod lleol.

Mae cynlluniau rhyddhau ecwiti yn ymrwymiad gydol oes, felly os hoffech symud tŷ rhywbryd efallai na fydd llawer o opsiynau ar gael i chi.

Nol i’r brig

Camau nesaf

Awgrym da

Gall trafod eich cynlluniau gyda’ch teulu helpu chi reoli eu disgwyliadau ynglŷn ag etifeddiaeth ac osgoi unrhyw anghydweld yn ddiweddarach. Mae’n bosib y byddant  hefyd yn gallu cynnig dewisiadau eraill i chi.

Dim ond un o’r ffyrdd posib o hunangyllido gofal hirdymor yw cynlluniau rhyddhau ecwiti.

Sicrhewch eich bod wedi ystyried pob dewis arall, fel gwerthu’ch eiddo a chael cartref rhatach neu drwy ddefnyddio cynilion i brynu blwydd-dal fydd yn cwrdd â’ch costau gofal. Ystyriwch grantiau neu fenthyciadau â chymhorthdal os oes angen cyfandaliad arnoch i wneud gwelliannau neu addasiadau i’ch cartref.

Darganfyddwch ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau
Nol i’r brig

Ceisiwch gyngor annibynnol

Os penderfynwch fwrw ymlaen gyda chynllun rhyddhau ecwiti, mae’n hanfodol eich bod yn siarad gyda chynghorydd ariannol annibynnol, gorau oll un sydd gan gymhwyster arbenigol CF8 ar gynghori ar ariannu gofal hirdymor.

Cysylltwch â Step Change elusen sy’n cynnig cyngor am ddim am faterion ariannol ac am ryddhau ecwiti
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Gofal tymor hir

Defnyddio'r gwerth yn eich cartref i dalu am ofal

  • Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal
  • Beth yw cytundeb taliad gohiriedig?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Defnyddio'r gwerth yn eich cartref i dalu am ofal

  • Defnyddio cynllun rhyddhau ecwiti i gyllido eich gofal
  • Beth yw cytundeb taliad gohiriedig?
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau