Mae llawer o ddewisiadau gwahanol i ariannu gofal hirdymor ac maen nhw’n aml yn gallu bod yn gymhleth. Felly, os oes angen i chi neu anwylyd dalu am ofal gartref neu mewn cartref gofal, mae’n bwysig gwybod y ffeithiau.
Faint fyddwch angen ei dalu am ofal hirdymor?
Awgrym da
Yn aml, rhaid i bobl wneud penderfyniadau cyflym ac anodd am eu hanghenion gofal eu hunain neu am anghenion anwylyd. Bydd yn haws yn y pen draw os byddwch wedi meddwl am y dewisiadau ymlaen llaw.
Mae faint fydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar:
- eich iechyd a’ch symudedd
- pa lefel o gymorth a chefnogaeth rydych ei angen
- gwerth eich cynilion, eich asedau a’ch incwm
- pa gyllid y gallech chi fod yn gymwys i’w gael gan eich awdurdod lleol neu’r GIG.
Yn y pen draw, gallech dalu am y cyfan ohono, am rywfaint ohono neu ddim o gwbl.
Gofal iechyd parhaus y GIG
Os oes gennych anabledd neu broblem feddygol gymhleth, efallai byddwch yn gymwys am ofal iechyd parhaus y GIG am ddim (CHC) os ydych yn oedolyn, neu ofal parhaus y GIG am ddim (CC) os ydych yn o dan 18 oed. Yn yr Alban, gelwir hyn yn Gofal Clinigol Cymhleth Mewn Ysbyty.
Nid oes llawer o bobl yn gwybod amdano, felly mae’n bwysig eich bod yn holi a ydych yn gymwys a chael asesiad.
Mae hwn yn becyn o ofal iechyd sy’n cael ei drefnu a’i ariannu gan y GIG yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Caiff ei ddarparu i chi yn eich cartref, mewn cartref gofal, cartref nyrsio neu hosbis. Yn yr Alban, bydd Gofal Clinigol Cymhleth Mewn Ysbyty yn ei ariannu'n llawn ond mewn ysbyty yn unig.
Rydych chi’n fwy tebygol fod yn gymwys os mai anghenion gofal iechyd sydd gennych yn bennaf, yn hytrach nag anghenion gofal cymdeithasol. Mewn geiriau eraill, bod angen nyrs neu sylw meddygol arnoch yn hytrach na dim ond gofalwr.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darperir Gofal Iechyd Parhaus gan eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol.
Os nad ydych yn gymwys am Gofal Iechyd Parhau, efallai y byddwch yn gymwys am Gofal Nyrsio a Ariennir gan y GIG, ond dim ond os ydych mewn cartref gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ydw i'n gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
Cyllid awdurdod lleol am ofal hirdymor
Eich opsiynau
Os ydych am wybod mwy am eich opsiynau yn Lloegr, gallwch gael gwybodaeth wedi’i bersonoli gan y teclyn 'Care Confidence'Yn agor mewn ffenestr newydd . Gall y teclyn eich helpu i deimlo eich bod wedi paratoi’n well i wneud y penderfyniad gorau i chi a'ch anwyliaid. Mae am ddim, yn ddienw ac ond yn cymryd ychydig o funudau i’w gwblhau.
Efallai bydd eich cyngor lleol (neu’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon) yn gallu’ch helpu gyda chostau cartref gofal.
Neu, os yw’n well gennych a bod hynny’n briodol, gallant eich helpu i aros yn eich cartref eich hun drwy ddarparu gofalwyr, cymorth i ofalwyr, cyfarpar a gwasanaethau arbenigol.
Bydd union swm y cyllid a gewch yn dibynnu ar:
- eich anghenion unigol - yn seiliedig ar asesiad o anghenion gofal, a
- faint allwch chi fforddio ei dalu tuag at gostau’r gofal - yn seiliedig ar asesiad ariannol.
Gall eich awdurdod lleol neu’ch ymddiriedolaeth leol drefnu gwasanaethau gofal i chi neu gallwch ddewis cael taliadau uniongyrchol a threfnu pethau drosoch eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau uniongyrchol - trefnu a thalu am eich gofal
Hunangyllido’ch gofal hirdymor
Yr ofn mwyaf am gyllido gofal hirdymor yw y bydd rhaid i chi werthu’ch cartref os ydych chi’n symud i mewn i gartref gofal.
Wrth lwc, os mai yn eich cartref eich hun y byddwch angen gofal, ni fydd gwerth eich cartref yn cael ei gyfrif. Mae hyn yn wir hefyd os byddwch yn symud i gartref gofal, ond mae'ch partner neu berthynas ddibynnol, oedrannus neu eiddil arall yn parhau i fyw yn eich cartref chi.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai na fyddwch yn gymwys am gyllid gan y GIG neu’ch awdurdod lleol. Hyd yn oed os byddwch yn gymwys, efallai na fydd y swm a gewch yn ddigon i dalu’ch costau gofal i gyd naill ai yn y cartref neu mewn cartref gofal.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi ystyried sut rydych yn mynd i dalu unrhyw gostau dros-ben neu dalu am y cyfan eich hun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau
Hawliwch yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
Hyd yn oed os bydd rhaid i chi dalu am ofal efallai y byddwch yn gymwys serch hynny i hawlio rhai budd-daliadau.
Nid yw’r budd-daliadau hyn yn destun prawf modd, felly gallech eu cael os yw eich anghenion iechyd yn ddigon sylweddol, waeth faint o incwm a chynilion sydd gennych:
- Lwfans Gweini, os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- Taliad Annibyniaeth Personol (sy’n disodli Lwfans Byw i’r Anabl), os ydych yn 16 oed neu drosodd ond o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Byw i’r Anabl, i berson o dan 16 oed (neu rydych yn hŷn ond bod eich cais wedi dechrau peth amser yn ôl).
Mae budd-daliadau eraill allech eu hawlio o bosib yn ddibynnol ar eich amgylchiadau.