Efallai y cewch gyfandaliad fel rhan o'ch setliad ariannol. Os nad ydych eisoes wedi penderfynu ar gyfer beth y byddwch yn ei ddefnyddio, meddyliwch am eich opsiynau yn ofalus.
Cymryd gofal o’ch cyfandaliad yn y tymor byr
Oni bai eich bod eisoes yn gwybod yn union beth rydych am ei wneud, mae'n werth rhoi'r cyfandaliad mewn cyfrif cynilo wrth i chi bwyso a mesur eich opsiynau.
Mae’n bwysig cadw ‘byffer’ yn eich cyfrif cyfredol neu mewn cyfrif cynilo mynediad hawdd i dalu am gostau annisgwyl.
Cadw’ch cyfandaliad yn ddiogel
Caiff arian parod a roddwch mewn banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (a awdurdodir gan Awdurdod Rheoleiddio Prudential) ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS).
Terfyn diogelwch cynilion yr FSCS yw £85,000 (neu £170,000 ar gyfer cyfrifon ar y cyd) fesul cwmni awdurdodedig.
Mae’n werth nodi bod rhai banciau yn rhan o’r un cwmni awdurdodedig. Os oes gennych fwy na’r terfyn o fewn yr un banc, neu gwmni awdurdodedig, mae’n syniad da symud y gormodedd i sicrhau bod eich arian wedi’i ddiogelu.
Darganfyddwch pa fanciau sy’n rhan o ba gwmnïau awdurdodedig ar wefan Banc Lloegr
Mae arian mewn Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol wedi’u gwarantu gan y llywodraeth, waeth faint o arian sydd gennych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw A ddylwn gynilo neu fuddsoddi fy arian?
Sicrhau eich dyfodol
Nid oes unrhyw un ffordd ‘sy’n siwtio pawb’ o fynd ati i ddiogelu’ch dyfodol ariannol. Bydd eich dull o fynd ati’n dibynnu ar:
- faint o arian sydd gennych i’w gynilo neu i’w fuddsoddi.
- a oes gennych ddyledion i’w talu’n gyntaf.
- am ba hyd y cewch adael eich arian mewn cyfrif cynilo neu wedi ei fuddsoddi.
- faint o risg yr ydych yn fodlon i’w chymryd ac a gewch adael eich arian wedi ei fuddsoddi am yr hirdymor. Er enghraifft, a fyddech yn pryderu petaech wedi buddsoddi £10,000 a bod ei werth wedi gostwng i £9,000 chwe mis yn ddiweddarach? Cofiwch y gall eich agwedd at risg newid yn ddibynnol ar eich rheswm dros fuddsoddi.
Pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi
Pethau i’w gwneud
-
Treuliwch amser i benderfynu beth yw eich blaenoriaethau ariannol ar hyn o bryd yn ogystal â’ch nodau hirdymor.
-
Gwnewch yn siŵr fod gennych werth chwe mis o dreuliau wedi eu cynilo cyn i chi ystyried buddsoddi.
-
Ceisiwch gyngor ariannol annibynnol oni bai eich bod yn ddigon hyderus i ddewis eich buddsoddiadau eich hun.
-
Meddyliwch am eich agwedd tuag at risg. Mae nifer o bobl sy’n colli arian wrth fuddsoddi yn gwneud hynny gan eu bod yn cyfnewid eu buddsoddiadau am arian parod pan fydd y prisiau wedi gostwng.
Pethau i’w hosgoi
-
Peidiwch â gwneud penderfyniadau ariannol hirdymor os teimlwch dan bwysau, oherwydd efallai na fyddwch yn gwneud y penderfyniadau gorau.
-
Peidiwch â buddsoddi hyd nes i chi glirio unrhyw ddyledion fel cardiau siop, cardiau credyd neu fenthyciadau banc.
-
Peidiwch â buddsoddi mewn unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.
-
Peidiwch â meddwl bod rhaid i chi fuddsoddi popeth neu ddim byd o gwbl: gallwch fuddsoddi symiau bach a phwyso a mesur y sefyllfa ymhen rhyw chwe mis.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw dechreuwyr i fuddsoddi
Prynu eiddo newydd
Os mai dim ond digon ar gyfer blaendal bach sydd gennych - er enghraifft, 5% neu 10% - efallai y gallwch fenthyca trwy'r cynllun Cymorth i Brynu.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cymorth i Brynu y llywodraeth.
Peidiwch ag anghofio y bydd gennych nifer o gostau sefydlog i’w talu, fel:
- Treth Stamp
- ffioedd arolygu, a
- costau cyfreithiol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y gost o brynu tŷ a symud
Buddsoddi mewn pensiwn
Peidiwch ag anghofio’ch pensiwn. Efallai y byddwch o’r farn bod blaenoriaethau ariannol eraill – pwysicach – ar hyn o bryd.
Ond peidiwch ag oedi’n rhy hir cyn talu i mewn i’ch pensiwn neu gychwyn un newydd.
Efallai y bydd gennych gyfandaliad o bensiwn eich cyn partner sydd angen ei fuddsoddi gennych. Os felly, efallai y byddwch angen cyngor ynglŷn â beth i’w wneud ag ef.
Mae’n syniad da i ddechrau casglu gwybodaeth ar y pensiynau sydd gennych eisoes
Cyfrifwch beth fydd swm tebygol eich Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan GOV.UK a faint, a dybiwch, byddwch ei angen i fyw arno wedi i chi ymddeol.
Os ydych yn gyflogedig, bydd gan eich cyflogwr gynllun pensiwn eisoes y gallwch ymuno ag ef neu bydd yn cynnig un i chi.
Mae hyn yn debygol o fod yn ddewis gwell na sefydlu’ch pensiwn eich hun, oherwydd bydd eich cyflogwr yn cyfrannu ato hefyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cofrestru awtomatig - cyflwyniad
Diogelu dyfodol eich plant
Efallai y byddwch am fuddsoddi rhan o’ch cyfandaliad i dalu am gostau addysg eich plant neu’r gost o’u magu.
Ystyriwch ddefnyddio cyfrif di-dreth, fel ISA Iau (neu Gronfa Ymddiriedolaeth Plant os oes gan eich plentyn un yn barod).
Mae terfynau ar faint gallwch ei roi i mewn ynddynt bob blwyddyn.
Gallwch ddewis ISA arian parod neu stociau a chyfranddaliadau, neu gallwch rannu’r arian rhyngddynt.