Gallai gwahanu oddi wrth eich partner, os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, olygu bod angen i chi gael yswiriant bywyd ychwanegol, newid neu wneud ewyllys newydd. Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud i sicrhau eich bod yn diogelu eich plant yn ariannol, neu unrhyw ddibynyddion eraill.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Trefnwch yswiriant bywyd
Ystyriwch a ydych angen neu a oes gennych ddigon o yswiriant bywyd.
Pan fyddwch yn gwahanu, ni allwch rannu polisi yswiriant bywyd - mae'n rhaid i un ohonoch chi ei gymryd drosodd neu ei ganslo.
Mae hynny'n golygu y gallai'r partner arall fod heb yswiriant bywyd.
Ar ôl i chi wahanu, a oes gennych chi blant neu unrhyw un arall sy'n dibynnu arnoch chi'n ariannol? Neu a oes gennych forgais ar y cyd gyda phartner newydd nawr? Os felly, mae'n werth ystyried cymryd yswiriant bywyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw swiriant bywyd?
Diogelu taliadau cynhaliaeth plant
Os ydych yn derbyn cynhaliaeth plant gan eich cyn-bartner, ystyriwch gymryd yswiriant bywyd i gwmpasu eu bywyd.
Gallech chi a’ch cyn bartner gymryd polisi sy’n talu cyfandaliad, neu un sy’n talu incwm am gyfnod penodol o amser - o bosibl tan y disgwylir y bydd y taliadau cynhaliaeth plant yn dod i ben.
Gelwir yswiriant bywyd sy’n talu incwm yn lle cyfandaliad yn yswiriant ‘budd incwm teuluol’.
Adolygwch fuddion marwolaeth mewn gwasanaeth
Efallai y bydd eich gweithle yn talu cyfandaliad pe byddech yn marw tra’ch bod yn gyflogedig yno.
Fel arfer rhaid i chi ddweud pwy yr hoffech dderbyn y cyfandaliad hwn, er na fydd rhai cynlluniau yn cydnabod partneriaid sy’n cydfyw i fod yn fuddiolwyr (rhywun sy’n gallu derbyn y cyfandaliad wedi i chi farw).
Er hynny, dylech wirio pwy ydych wedi enwebu fel buddiolwr wedi i chi wahanu.
Adolygwch eich ewyllys
Adolygwch eich ewyllys bresennol, neu ysgrifennwch un newydd, ar ôl i chi a'ch cyn-bartner wahanu.
Os na wnaethoch adael unrhyw beth i'ch cyn-bartner, nid oes angen i chi wneud ewyllys newydd. Ond mae'n bwysig ei adolygu i sicrhau ei fod yn gyfredol.
Newid eich ewyllys
Does dim rhaid i chi ailysgrifennu eich ewyllys cyfan os mai dim ond mân newidiadau fyddwch yn eu gwneud. Yn hytrach, gallwch ychwanegu’r hyn a elwir yn ‘codisil’.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Newid eich ewyllys
Os ydych eisiau gwneud newidiadau mawr i’ch ewyllys – fel gadael arian neu feddiannau i rywun arall – mae’n debygol y byddwch yn well eich byd yn llunio un newydd
Wrth ysgrifennu ewyllys newydd, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud eich dymuniadau yn glir a'i bod yn ddilys.
Am awgrymiadau ar wneud hyn, gweler yr adran ‘Ysgrifennu ewyllys newydd’ yn ein canllaw Newid eich ewyllys
Pam fod angen ewyllys arnoch chi
Os nad oes gennych ewyllys o gwbl, mae'n werth meddwl am gael un.
Os nad oes gennych ewyllys pan fyddwch chi’n marw, bydd eich arian a’ch meddiannau yn cael eu pasio ymlaen yn unol â’r gyfraith.
Gall hyn arwain at rai trefniadau cymhleth - er enghraifft rhwng teuluoedd cyntaf ac ail deuluoedd. Ac efallai nad dyna fyddwch chi ei eisiau.
Er enghraifft:
- Gallai unrhyw blant sydd gennych etifeddu popeth os nad ydych yn priodi neu fynd i bartneriaeth sifil
- Os ydych chi’n ailbriodi neu’n mynd i bartneriaeth sifil newydd, gallai’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil newydd dderbyn rhywfaint neu’r cyfan o’ch arian ac eiddo
- Os ydych chi’n byw gyda phartner newydd heb briodi neu fynd i bartneriaeth sifil, ni fyddai ganddynt hawl awtomatig i etifeddu os nad oes gennych ewyllys.