Gall talu am gynhaliaeth i briod neu ei derbyn (periodical allowance yn yr Alban) fod yn anodd i’r naill barti. Mae’n golygu ailfeddwl cyllideb eich cartref wrth i chi ddod i delerau â’ch amgylchiadau newydd. Dysgwch sut gallai newidiadau mewn incwm, perthnasau newydd a digwyddiadau eraill effeithio ar eich taliadau cynhaliaeth.
Newidiadau i’ch taliadau cynhaliaeth i briod/periodical allowance
Os ydych yn cael anawsterau sylweddol wrth reoli’r arian sydd gennych, neu os yw incwm eich cynbartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) wedi cynyddu’n sylweddol, efallai ei bod yn bosibl cynyddu’r taliadau i chi.
Yn yr un modd, os ydych yn talu i’ch cynbartner a bod eich sefyllfa incwm yn gwaethygu, gallwch ofyn am i lefel y taliadau gael ei ostwng.
Yn y naill sefyllfa a’r llall, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym.
Dod i gytundeb
Os na allwch chi a’ch cynbartner gytuno i newid y taliadau a roddir neu a dderbynnir, ystyriwch ddefnyddio cyfryngu. Mae hynny’n golygu bod cyfryngwr hyfforddiedig yn eich helpu i gytuno ar benderfyniad ac mae’n llawer rhatach na mynd i’r llys.
Darganfyddwch fwy am gyfryngu ar wefan Cyngor ar Bopeth
Cofiwch, os ydych chi neu’ch cynbartner yn ceisio newid gorchymyn llys, dim ond y llys all wneud hynny.
Pan ddewch i gytundeb arall, trwy gyfryngu neu ddulliau eraill, mae rhaid i chi ofyn i’r llys ei gymeradwyo. Fel arall, bydd y gorchymyn gwreiddiol yn parhau i redeg a gall arwain at gymhlethdodau mawr am ôl-ddyledion.
Os na allwch gytuno, efallai mai gwneud cais yn uniongyrchol i’r llys fydd yr unig ddewis. Ond, mae’n ddrud ac nid oes gwarant y byddwch yn cael y canlyniad rydych yn ei ddymuno.
Mae’n bwysig cael cyngor cyfreithiol i weld beth yw eich opsiynau cyn gwneud hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol ar ysgariad neu ddiddymiad
Newidiadau mewn incwm neu gyfoeth
Gallai newid sylweddol i’ch sefyllfa ariannol gynnwys colli eich swydd, cychwyn swydd newydd ar gyflog llawer is, afiechyd neu anabledd.
Gallai hefyd olygu’r gwrthwyneb yn llwyr: dod o hyd i swydd newydd â chyflog llawer uwch neu etifeddu neu ennill swm mawr o arian.
Cyfalafu taliadau cynhaliaeth i gymar/periodical allowance
Os bydd sefyllfa ariannol (incwm neu gyfoeth cyfalaf) y cynbartner sy’n talu yn gwella’n sylweddol, efallai y bydd yn bosibl i ‘gyfalafu’ taliadau cynhaliaeth.
Mae hyn yn golygu y byddai’r person sy’n derbyn arian yn cael cyfandaliad ac y byddai’r taliadau yn dod i ben. Gelwir hyn yn ‘doriad llwyr’.
Bydd llysoedd bob amser am ystyried a yw ‘toriad llwyr’ yn bosibl heb achosi caledi annheg i’r naill berson.
Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban, byddai rhaid i chi a’ch cynbartner gytuno ar gyfalafu taliadau.
Newidiadau os byddwch yn dechrau perthynas newydd
Bydd y taliadau cynhaliaeth i chi yn dod i ben os byddwch yn ailbriodi neu’n dechrau ar bartneriaeth sifil newydd.
Nid yw byw gyda rhywun arall mewn perthynas, heb briodi na mynd i bartneriaeth sifil, yn golygu y bydd y taliadau gan eich cynbartner yn dod i ben yn awtomatig.
Ond gall ef neu hi ofyn i chi gytuno i leihau’r swm, neu stopio’r taliadau yn llwyr. Mae hyn ar y sail bod rhywun arall bellach yn cyfrannu at eich costau byw. Gall hyn fod yn gymhleth felly mae’n werth cael cyngor cyfreithiol.