Llinell amser ariannol babi
Rydych yn disgwyl neu'n cynllunio ar gyfer cael babi, sy'n wych! Mae'n wych eich bod chi'n cynllunio hefyd - bydd yn gwneud i bopeth fynd yn llawer mwy esmwyth. Ac o ran cynllunio'ch cyllid, gall ein llinell amser ariannol babi helpu.
Dywedwch wrthym eich dyddiad disgwyliedig, a byddwn yn dweud wrthych pryd y dylech:
- feddwl am geisiadau mamolaeth a thadolaeth
- hawlio'ch presgripsiynau GIG a'ch gofal deintyddol am ddim
- gallu cymryd amser i ffwrdd â thâl
- dechrau hawlio lwfansau a grantiau.
A'r holl gerrig milltir ariannol pwysig eraill y byddwch am fod yn barod amdanynt o ran eich babi newydd.
Gallwch hyd yn oed ychwanegu'r dyddiadau i'ch calendr eich hun.