Os yw'ch amgylchiadau'n gymhleth neu allan o'r cyffredin neu os ydych yn yswirio rhywbeth anarferol, efallai yr hoffech ystyried defnyddio brocer yswiriant. Maent yn arbenigwyr yn y farchnad yswiriant ac yn aml gallant ddod o hyd i well yswiriant i chi am bris gwych. Gallant hefyd eich helpu ag unrhyw hawliadau y mae rhaid i chi eu gwneud.
Beth yw brocer yswiriant?
Mae brocer yswiriant yn gynghorydd ariannol rheoledig sy'n arbenigo mewn yswiriant cyffredinol. Maent yn arbenigwyr a fydd yn eich helpu i benderfynu pa fath o yswiriant a lefel yr yswiriant rydych ei angen ac yn argymell polisi addas am bris y gallwch ei fforddio. Fe'u telir trwy gomisiwn, a gall eu barn broffesiynol fod yn werthfawr os yw'ch anghenion yswiriant yn gymhleth.
Nid safleoedd cymharu yw’r ffordd orau bob amser i brynu yswiriant
Pan ydych yn chwilio am bolisi yswiriant cyffredinol - fel yswiriant teithio, cartref neu gerbyd - gallai eich man galw cyntaf fod yn wefan gymharu.
Er eu bod yn lle da i sganio'r farchnad yn gyflym, nid hwy yw'r ffordd orau bob amser i ddod o hyd i'r polisi yswiriant gorau i chi.
Bydd y polisïau a gynigir i chi ar wefan gymhariaeth yn weddol generig, felly os ydych eisiau yswiriant sy'n diwallu eich anghenion unigol efallai y byddai'n well defnyddio brocer.
Manteision defnyddio brocer yswiriant
Mae sawl rheswm pam gallai mynd at frocer am yswiriant fod y dewis gorau.
Nid yw cael arweiniad arbenigol yn costio mwy i chi
Fel gwefannau cymharu, telir comisiwn iddynt gan y darparwr yswiriant am werthu eu cynnyrch. Mae hyn yn golygu nad ydych yn talu ffi iddynt am chwilio am y cynnig gorau i chi.
Yn wahanol i wefannau cymharu mae ganddynt arbenigwyr a gallant roi arweiniad i chi am y cynnyrch mwyaf addas ar eich cyfer.
Adnabod eich dewisiadau
Nid yw yswirwyr bob amser yn cynnig pob math o yswiriant i chi pan ewch yn uniongyrchol atynt, ac weithiau gall gwefannau cymharu fod yn gyfyngedig yn yr ystod o bolisïau a restrir.
Gall broceriaid siarad â chi trwy'r mathau o orchudd sydd ar gael ar gyfer yr yswirwyr maent yn eu cynnwys a'ch helpu i weithio allan yr hyn sydd ei angen arnoch.
Canfod y cynnyrch iawn i chi
Bydd brocer yn gofyn i chi am eich amgylchiadau personol er mwyn dod o hyd i’r polisi cywir i chi. Gallant hefyd ddweud wrthych a ydych eisoes wedi eich yswirio gan eich polisïau presennol, ac yn aml byddant yn cael y cynnig gorau i chi drwy gymharu prisiau a nodweddion cynnyrch. Gallant hefyd fod yn fwy hyblyg ar bris na’r safleoedd cymharu.
Canfod darparwr arbenigol
Ar safleoedd cymharu mae’n bosibl y gwelwch na fydd yswiriant ar gyfer rhai pethau sydd angen eu teilwra i gwrdd â’ch anghenion.
Ymhellach ni fydd yswiriant arbennig neu benodol bersonol yno. Felly os ydych eisiau yswirio rhywbeth unigryw fel hynafolyn neu gasgliad gwerthfawr neu ddod o hyd i yswiriant teithio a fydd yn eich diogelu rhag cyflwr sy'n bodoli eisoes, bydd brocer yn gwybod ble i fynd.
Delir â’ch hawliadau
Os bydd angen i chi wneud cais, gallai’ch brocer siarad ag aseswyr colledion ac adrannau hawliadau. Byddant yn gwneud cymaint â phosib drosoch fel eich bod yn rhydd o unrhyw drafferthion neu bryderon. Byddant hefyd yn lleihau'r siawns o'ch cais gael ei wrthod.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pam y gallai darparwyr wrthod eich hawliad yswiriant - a beth i’w wneud os bydd hyn yn digwydd
Ble i ddod o hyd i frocer yswiriant
Gallwch chwilio am frocer yswiriant rheoledig awdurdodedig, trwy wasanaeth Find a Broker BIBA Ffoniwch hwy ar 0370 950 1790 neu darganfyddwch fwy ar y wefan BIBA
Mae defnyddio brocer rheoledig yn golygu y gallwch fynd i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os oes gennych gŵyn, a'ch bod wedi'ch amddiffyn gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol