Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Yswiriant
Arian bob dydd Yswiriant

Yswiriant car – beth rydych angen ei wybod

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi gael yswiriant car. Darganfyddwch y ffordd orau i brynu yswiriant car addas, gan gynnwys y gwahanol fathau o yswiriant sydd ar gael, sut i ddefnyddio safleoedd cymharu, ble i gael help a rhai o'r pethau eraill i feddwl amdanynt wrth siopa o gwmpas.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pam rydych angen yswiriant car
  • Y mathau gwahanol o yswiriant car
  • Bonws dim hawliadau - beth ydyw a sut mae'n gweithio
  • Gormodedd - beth ydyw a sut mae'n gweithio
  • 10 ffordd i leihau eich rhag a chadw costau i lawr
  • Sut i siopa o gwmpas – o safleoedd cymharu i froceriaid yswiriant
  • Rhestr wirio polisi
  • Beth sydd angen i chi ei ddweud wrth eich yswiriwr
  • Sut i ganslo yswiriant car

Pam rydych angen yswiriant car

Mae yswiriant car yn rhoi diogelwch ariannol i chi os bydd damwain. Ac mae rhai mathau hefyd yn ymdrin â cheisiadau sy'n deillio o anafiadau i bobl eraill.

Os ydych yn berchen ar gar sy'n addas ar gyfer y ffordd, yn gyfreithiol rydych angen o leiaf lefel sylfaenol o yswiriant, o'r enw yswiriant trydydd parti, hyd yn oed os nad ydych yn ei yrru.

Yr unig eithriad yw os ydych yn cofrestru'ch car yn swyddogol fel oddi ar y ffordd, gyda Hysbysiad Oddi ar y Ffordd Statudol (SORN).

Mae'r cosbau am yrru heb yswiriant yn amrywio o ddirwy ac o leiaf chwe phwynt ar eich trwydded, i gael eich gwahardd rhag gyrru. Efallai y bydd eich car yn cael ei gymryd oddi arnoch chi hefyd.

Gallwch gofrestru'ch cerbyd fel oddi ar y ffordd yn GOV.UK

Help gyda chostau byw

Poeni am arian oherwydd rhenti cynyddol, biliau ynni uchel neu ddyled? Os felly, rydym yma i helpu.

Cymerwch y camau cyntaf i ddod o hyd i'ch ffordd ymlaen gyda'n canllawiau i'ch helpu gyda chostau byw.

Nol i’r brig

Y mathau gwahanol o yswiriant car

Mae tair lefel o yswiriant car:

  • Cynhwysfawr
  • Trydydd parti
  • Trydydd parti, tân a lladrad.

Cynhwysfawr

Dyma'r lefel uchaf o yswiriant y gallwch ei chael. Mae'n eich cynnwys chi, eich car ac unrhyw rai eraill sy'n gysylltiedig â damwain.

Mae'n cynnwys holl orchudd polisi tân a lladrad trydydd parti, ond mae hefyd yn eich amddiffyn chi fel gyrrwr a gallai dalu am ddifrod i'ch car.

Gallai hefyd gynnwys iawndal am driniaeth feddygol, treuliau cyfreithiol a difrod damweiniol

Gallwch wneud cais am:

  • atgyweiriadau ar ôl damwain
  • difrod damweiniol
  • fandaliaeth – er enghraifft petai rhywun yn crafu’ch car yn fwriadol.

Gallai olygu y gallwch chi yrru ceir pobl eraill yn gyfreithlon os oes gennych eu caniatâd.

Fodd bynnag, nid yw hyn fel arfer yn rhoi mwy na sicrwydd trydydd parti i chi. Mae hyn yn golygu nad oes gennych unrhyw orchudd os ydych yn difrodi'r car rydych yn ei yrru. Gwiriwch fanylion eich polisi yn ofalus ar hyn - maen nhw i gyd yn wahanol.

Mae'n bwysig nodi, er ei fod yn cynnig y gorchudd mwyaf, nid yswiriant cynhwysfawr yw'r drutaf o reidrwydd.

Trydydd parti

Dyma'r lleiafswm y gallwch ei gael yn gyfreithiol.

Mae'n eich cwmpasu am gostau anaf neu ddifrod rydych yn ei achosi i bobl eraill neu eu heiddo. Ond nid yw'n rhoi unrhyw amddiffyniad i chi os yw'ch car eich hun wedi'i ddifrodi neu wedi ei ddwyn.

Nid yw'r ffaith ei fod y lleiafswm o yswiriant y gallwch ei gael, yn golygu mai hwn yw'r rhataf.

Felly gallai fod yn addas yn bennaf ar gyfer pobl sy'n ei chael hi'n anodd cael yswiriant cynhwysfawr fforddiadwy.

Gall hyn fod pan:

  • nad oes gennych fonws dim hawliad
  • rydych yn byw mewn ardal sydd wedi'i hystyried yn risg uchel am droseddu a risgiau eraill
  • mae eich car werth llai na, dyweder, £1,000, a gallwch fforddio prynu car arall os cewch ddamwain.

Trydydd parti, tân a lladrad

Yn yr un modd ag yswiriant trydydd parti, mae hyn yn cwmpasu pobl eraill ond nid yw'n eich amddiffyn os yw'ch car eich hun wedi'i ddifrodi.

Yr hyn sy'n wahanol yw ei fod yn cynnwys atgyweiriadau neu amnewid os yw'ch car yn cael ei ddwyn neu ei ddifrodi gan dân.

Unwaith eto, nid yw o reidrwydd yn rhatach na gorchudd cynhwysfawr - cymharwch brisiau bob amser.

Nol i’r brig

Bonws dim hawliadau - beth ydyw a sut mae'n gweithio

Dyma'r gostyngiad y mae yswirwyr yn ei gynnig pan na fyddwch yn hawlio ar eich polisi. Mae'r gostyngiad yn cynyddu bob blwyddyn na fyddwch yn gwneud cais.

Gall fod yn hael hefyd - mae'r gostyngiad fel arfer yn amrywio o 30% ar ôl blwyddyn i 65% neu fwy ar ôl pum mlynedd.

Ond os cewch ddamwain ac rydych yn hawlio amdani, yn gyffredinol rydych yn colli gwerth dwy flynedd o fonws dim hawliadau ac mae'ch premiymau'n codi.

Os cewch fwy nag un ddamwain mewn blwyddyn, efallai y byddwch yn colli'ch holl fonws dim hawliad.

Hyd yn oed os na wnewch gais, mae'n bwysig dweud wrth eich yswiriwr am unrhyw ddamweiniau rydych wedi bod yn rhan ohonynt. Os ydych yn methu â gwneud hyn, a gallai unrhyw geisiadau yn y dyfodol gael eu gwrthod.

Gallwch amddiffyn eich bonws dim hawliadau trwy dalu am ychwanegiad o’r enw ‘amddiffyniad disgownt dim hawliadau’. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud ceisiadau heb iddo effeithio ar eich bonws.

Fel rheol, caniateir i chi wneud un cais mewn blwyddyn, neu ddau gais mewn tair blynedd, heb golli'ch bonws dim hawliadau.

Nol i’r brig

Gormodedd - beth ydyw a sut mae'n gweithio

Mae hwn yn swm sefydlog y mae'n rhaid i chi ei dalu os gwnewch gais. Bydd y swm yn amrywio, yn dibynnu ar y math o gais.

Yr yswiriwr sy'n penderfynu ar lefel orfodol y gormodedd. Ond gallwch hefyd gynyddu'r gormodedd gwirfoddol i leihau cost eich premiwm.

Nol i’r brig

10 ffordd i leihau eich rhag a chadw costau i lawr

O fis Ionawr 2022 ni chaniateir i yswirwyr godi mwy ar gwsmeriaid presennol nag y byddent yn ei dalu fel cwsmer newydd

Gwnewch eich car yn fwy diogel

Mae ei gwneud mor anodd â phosibl i rywun ddwyn eich car yn lleihau'r risg ac, yn y broses, mae'n debygol o ostwng cost yswiriant hefyd. Gallwch wneud eich car yn ddiogel trwy:

  • gwirio gyda'ch yswiriwr pa ddyfeisiau diogelwch mae'n cynnig gostyngiadau ar eu cyfer
  • gosod larwm neu beiriant atal symud cymeradwy
  • parcio mewn garej neu dramwyfa os yn bosibl
  • defnyddio dyfeisiau diogelwch a gymeradwywyd gan Thatcham.
Darganfyddwch fwy ar wefan Thatcham Research

Gyrrwch wneuthuriad a model o grŵp yswiriant isel

Mae pob car yn cael ei ddyrannu i grwp yswiriant penodol. Mae hyn yn seiliedig ar ffactorau fel cost, faint o amser mae'n ei gymryd i atgyweirio, perfformiad a nodweddion diogelwch. Po isaf yw'r grŵp y mae ynddo, yr isaf yw'r premiymau.

I wirio grŵp yswiriant car gwnewchYn agor mewn ffenestr newydd ‘My Vehicle Search’ ar wefan Thatcham Research

Byddwch yn gywir gyda’r milltiroedd rydych yn eu gwneud

Po isaf yw eich milltiroedd blynyddol, yr isaf y gallai eich premiwm fod.

Ond nid yw hyn yn wir bob amser. Felly peidiwch â thanamcangyfrif eich milltiroedd, oherwydd gallai hyn annilysu eich yswiriant wrth wneud cais neu beri i chi golli allan ar fargen well.

Gyrrwch yn ddiogel

Bydd rhai yswirwyr yn rhoi gostyngiad i chi os ydych wedi dilyn cwrs Pass Plus neu gwrs gyrru uwch.

Darganfyddwch fwy am Pass Plus ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn yrrwr gofalus, efallai y byddech yn elwa o gael polisi sy’n defnyddio telemateg - technoleg ‘blwch du’ - i asesu ansawdd eich gyrru.

Byddwch yn ymwybodol y bydd unrhyw geisiadau yswiriant neu bwyntiau ar eich trwydded yn cynyddu eich premiwm.

Ymunwch â'n grŵp Facebook Costau Byw

Ymunwch â'n grŵp Facebook Costau Byw preifatYn agor mewn ffenestr newydd i drafod popeth sy'n ymwneud â chyllid y teulu, o gostau byw cynyddol, budd-daliadau, dyled neu siarad â'ch plant am arian.

Ychwanegwch ail yrrwr

Gall ychwanegu ail yrrwr risg isel ostwng y premiwm - hyd yn oed os nad ydynt yn defnyddio'r cerbyd lawer. I'r gwrthwyneb, bydd ychwanegu gyrrwr ifanc sydd newydd gymhwyso yn cynyddu'r premiwm.

Ond peidiwch â thorri'r gyfraith ac annilysu unrhyw geisiadau trwy esgus mai'r ail yrrwr yw'r prif yrrwr.

Talwch am eich yswiriant car yn flynyddol

Weithiau bydd yswirwyr yn codi llog os ydych yn talu mewn rhandaliadau misol. Os gallwch chi fforddio talu ymlaen llaw, byddwch yn arbed swm sylweddol dros y flwyddyn.

Peidiwch â thalu am beth nad ydych ei angen

Gwiriwch pa yswiriant sydd gennych chi o dan gynhyrchion ariannol eraill. Er enghraifft, mae rhai pecynnau cyfrif cyfredol yn cynnwys gorchudd os yw car yn torri lawr.

Weithiau efallai y bydd eich yswiriwr neu frocer yn ceisio gwerthu ychwanegion i chi, fel costau treuliau cyfreithiol. Efallai y gallwch gael y cynhyrchion hyn yn rhatach yn rhywle arall, neu efallai na fydd eu hangen arnoch o gwbl.

Ystyriwch brynu gorchudd car yn torri lawr ar wahân

Os yw gorchudd torri i lawr wedi'i gynnwys yn eich yswiriant car, gwiriwch y pris a lefel y gorchudd. Efallai y byddwch yn dod o hyd i well gorchudd am yr un pris neu lai mewn man arall.

Diogelwch neu cynyddwch eich bonws dim hawliadau

Rydych yn ennill bonws dim hawliadau am bob blwyddyn rydych yn gyrru heb wneud cais ar eich yswiriant.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gallu cario hyn drosodd wrth newid yswirwyr.

Os nad ydych wedi gwneud cais am bum mlynedd neu fwy, gallai fod yn werth talu premiwm ychwanegol i amddiffyn eich bonws dim hawliadau.

Ystyriwch ychwanegu gormodedd gwirfoddol i’ch yswiriant car

Trwy ychwanegu gormodedd gwirfoddol at eich gormodedd gorfodol, gallwch ostwng eich premiwm.

Byddwch yn ymwybodol y cewch lai yn ôl os gwnewch gais - ar ôl tynnu gormodedd gwirfoddol a gorfodol. Felly mae angen i chi allu ei fforddio.

Nol i’r brig

Sut i siopa o gwmpas – o safleoedd cymharu i froceriaid yswiriant

Cymerwch ychydig o amser i ymchwilio i'r farchnad a chymharu dyfynbrisiau - a dylid eich gwobrwyo â bargen well, gallai hyn olygu prisiau rhatach, neu fwy o yswiriant am eich arian.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol i:

  • gyrwyr iau
  • pobl dros 70 oed
  • unrhyw yrwyr eraill y gallai yswirwyr ystyried i fod yn risg uwch.

Gall dalu i siopa o gwmpas adeg adnewyddu'r flwyddyn gyntaf. Gallai gadael i'ch polisi gael ei drosglwyddo am flwyddyn arall olygu eich bod yn talu premiymau uwch.

Bydd eich darparwr yn cysylltu dair neu bedair wythnos cyn y dyddiad adnewyddu, gan roi cyfle i chi benderfynu a ydych am gadw ato neu ddod o hyd i opsiwn rhatach.

Safleoedd cymharu

Safleoedd cymharu fel arfer yw'r lle cyntaf i ddod o hyd i rai dyfynbrisiau.

Ond ceisiwch ddefnyddio o leiaf dau safle gwahanol, gan nad ydynt bob amser yn defnyddio'r un meini prawf neu'n cwmpasu'r un darparwyr.

Cofiwch, nid rhataf yw'r peth gorau o reidrwydd. Sicrhewch y gorchudd cywir neu ni fydd eich polisi'n talu pan fyddwch ei angen.

Cymharwch debyg am debyg - os ydych ond yn chwilio am fargeinion cynhwysfawr, gallwch ddefnyddio system gymharu Defaqto.

Cymharwch bolisïau yswiriant carYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Defaqto.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i brynu yswiriant gan ddefnyddio safleoedd cymharu

Broceriaid yswiriant

Nid safleoedd cymharu bob amser yw'r ffordd orau o ddod o hyd i'r fargen rataf neu'r yswiriant mwyaf addas.

Gall broceriaid yswiriant eich helpu i gael yr yswiriant gorau ar gyfer eich amgylchiadau, yn enwedig pe gallech gael eich ystyried yn risg uwch.

I ddod o hyd i frocer ewch i'r wefan BIBAYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pryd i ddefnyddio brocer yswiriant
Nol i’r brig

Rhestr wirio polisi

Mae rhai pethau fel arfer yn dod gydag yswiriant car cynhwysfawr - ond nid bob amser. Efallai y byddant yn bwysig i chi, felly gwiriwch brint mân eich polisi yn ofalus.

Er enghraifft, gwiriwch a ydych chi wedi'ch cynnwys ar gyfer:

  • stereo ceir, uchelseinydd neu sat-nav
  • eiddo personol sydd yn y car
  • adfer cerbydau neu gludo wedi damweiniau
  • difrod i’r ffenestr flaen, a cholli neu ddwyn allweddi.

Cwestiynau eraill i'w gofyn:

  • A fyddaf yn cael car benthyg? Efallai y byddwch chi'n ei gael dim ond os ydych yn defnyddio atgyweiriwr cymeradwy. Gwiriwch pa mor hir y gallwch gadw'r car - mae rhai yswirwyr yn cyfyngu'r gorchudd hwn i rhwng 14 a 21 diwrnod.
  • Oes rhaid i mi ddefnyddio atgyweiriwr penodol? Efallai y bydd eich gorchudd yn cael ei effeithio os na ddefnyddiwch atgyweiriwr cymeradwy. Er enghraifft, mae rhai yswirwyr yn cyfyngu'r gorchudd ffenestr blaen os na ddefnyddiwch yr atgyweiriwr cymeradwy.
  • A allaf ychwanegu gyrwyr a enwir? Mae'r rhain yn bobl ychwanegol sy'n gallu gyrru'r car o dan yr un polisi, priod neu blentyn efallai.
  • A oes polisi aml-gar ar gael? Os ydych yn byw mewn cartref gyda mwy nag un cerbyd, bydd y mwyafrif o yswirwyr yn caniatáu i chi eu hyswirio i gyd o dan un polisi, gyda gostyngiadau ar gyfer pob car yn cael eu hychwanegu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant car – sut ddylai polisi da edrych?
Nol i’r brig

Beth sydd angen i chi ei ddweud wrth eich yswiriwr

Mae angen i chi roi'r manylion diweddaraf cywir i'ch cwmni yswiriant amdanoch chi a'ch car. Gallai methu â gwneud hyn arwain i’ch polisi fod yn annilys - ac felly dim talu allan ar unrhyw gais. Hefyd, gallai fod yn anoddach ac yn ddrytach cael yswiriant yn y dyfodol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich yswiriwr os ydych yn:

  • newid cyfeiriad
  • defnyddio'ch cerbyd ar gyfer busnes
  • cael pwyntiau wedi’u ychwanegu at eich trwydded
  • newid eich galwedigaeth neu'ch masnach
  • addasu eich car - er enghraifft, rydych yn gosod olwynion aloi
  • cael damwain neu wedi gwneud cais o'r blaen
  • newid eich system larwm neu ddiogelwch arall, neu'r man lle rydych yn parcio'ch car.
Nol i’r brig

Sut i ganslo yswiriant car

Gallwch ofyn i'ch yswiriwr ganslo eich polisi ar unrhyw adeg, ond mae rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:

  • byddwch yn parhau i fod angen yswiriant dilys os ydych am gadw'ch car ar y ffordd
  • ni fyddwch yn ennill bonws dim gwneud ceisiadau am flwyddyn gyfredol os byddwch yn canslo hanner ffordd drwy’r flwyddyn
  • fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu ffi canslo, oni bai ei fod yn amser adnewyddu.

Os ydych wedi talu ymlaen llaw ac nad ydych wedi gwneud cais, byddwch yn derbyn ad-daliad am y misoedd sy'n weddill – minws unrhyw ffioedd canslo. 

Gofynnwch i'ch yswiriwr am help os ydych yn cael trafferth talu

Os ydych yn ystyried canslo oherwydd cost neu fforddiadwyedd, mae'n bwysig peidio â chanslo yswiriant rydych ei angen - neu i fethu taliad. Yn hytrach, cysylltwch â'ch yswiriwr a dywedwch wrthynt eich bod chi'n cael trafferth.

Mae'n rhaid i yswirwyr gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, felly byddant yn esbonio'ch opsiynau a'r ffyrdd y gallant helpu. Er enghraifft, gallent sefydlu cynllun ad-dalu amgen neu addasu eich yswiriant i gyd-fynd â'ch anghenion a gostwng y gost.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Yswiriant

Yswiriant car

  • Yswiriant car - sut ddylai polisi da edrych?
  • Yswiriant car – beth rydych angen ei wybod
  • Yswiriant car i yrwyr ifanc – y ffeithiau allweddol
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Yswiriant car

  • Yswiriant car - sut ddylai polisi da edrych?
  • Yswiriant car – beth rydych angen ei wybod
  • Yswiriant car i yrwyr ifanc – y ffeithiau allweddol
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau