Beth yw cost cadw ci?
22 Rhagfyr 2020
Rydym yn genedl o bobl sy’n caru cŵn, ond mae ein ffrindiau blewog yn dod gyda phris sylweddol, gyda chost gyfartalog o tua £21,000 dros eu hoes.
Ond gall rai cŵn, yn enwedig bridiau mawr, pedigri eich costio swm enfawr o £33,000.
Costgyfartalog prynu cŵn
Mae gormod o opsiynau i roi ateb diffiniol, ond os ydym yn torri costau prynu cŵn i lawr, gallwch ddechrau cael syniad o ba mor gyflym gall prisiau cynyddu.
Bydd cŵn o fridiwr cofrestredig neu ganolfan achub yn gyffredinol yn costio rhwng £50 a £150. Ond, gall bridiau bach poblogaidd, fel pug, neu hybrid fel labradoodle, costio tua £1,000.
Gall cŵn pedigri mawr a rhai bridiau prin costio sawl mil. Mae sôn mai Tibetan Mastiff yw ci drutaf yn y byd, a wnaeth costio’r perchnogwyr tua £1 miliwn.
Costgyfartalog bwyd cŵn
Rydych fwy na thebyg yn edrych ar tua £200 i £400 y flwyddyn i fwydo’ch cŵn, sy’n meddwl cost gyfartalog bwyd cŵn misol o tua £25, ond mae nifer o ffactorau i ystyried.
Gall cŵn fwy costio mwy i fwydo, tra bod cŵn llai yn costio llai.
Mae hefyd amrywiad enfawr ym mhrisiau bwyd anifeiliaid anwes. Tra bod nifer o opsiynau rhatach ar y farchnad, mae’r rhain fel arfer wedi’u swmpio allan gyda llenwyr rhatach fel ceirch.
Dylai’r opsiynau mwy drud cynnwys mwy o gig, sydd yn well i’ch cŵn, ond dylech wirio’r cynhwysion i sicrhau rydych yn cael yr hyn rydych yn talu am.
Costgyfartalog teganau a gwelyau cŵn
Gan dybio nad ydych yn prynu siacedi dylunwyr a gwely pedwar postyn am eich cŵn, mae nifer o ffyrdd i arbed yn y maes hwn.
Ond er hynny, bydd angen llawer o bethau ar eich cŵn ac mae siawns da bydd angen newid y rhain yn aml.
Os ydym yn cymryd ystod eang, rydych yn debygol yn edrych ar rhwng £200 a £400 am deganau a gwelyau, tenynnau a’r pethau amrywiol eraill byd angen ar eich cŵn.
Cost gyfartalog yswiriant cŵn
Mae yswiriant anifeiliaid anwes yn bwnc cymhleth ac mae’n rhaid i chi feddwl yn ofalus ac ystyried llawer o bethau.
Mae ymchwil o Which? yn dangos mai cost gyfartalog polisi gydol-oes ar gyfer cŵn yw £472 y flwyddyn.
Gallwch arbed arian gan gael polisi un-flwyddyn. Ond mae bagl. Tra bod hwn yn rhatach yn y blynyddoedd cynnar, bydd yn ddechrau ddod yn llawer mwy drud pan mae’ch cŵn yn cyrraedd chwech neu saith oed.
Erbyn i’ch cŵn cyrraedd wyth neu naw oed, neu hyd yn oed yn fwy ifanc am rai bridiau, ni fydd modd i chi gael yswiriant cŵn o gwbl. A hwn yw’r amser maent yn debygol o ddechrau datblygu problemau iechyd.
Ond os ydych am edrych ar gost bydd yn eich syfrdanu, edrychwch ar faint gall biliau milfeddyg costio.
Costaumeddygol a biliau milfeddyg cyfartalog am eich cŵn
Gall biliau milfeddyg fod yn ddrud iawn. Mae llawdriniaeth ar gyfer aelodau sydd wedi’u torri yn costio £1,500 ar gyfartaledd, tra bod triniaethau mwy sylweddol, fel cemotherapi yn gallu costio gymaint â £5,000.
Ond yn aml y costau meddygol parhaus am salwch hirdymor, fel diabetes, sy’n bwrw’r boced y fwyaf.
Gobeithio bydd eich ffrind blewog yn cadw ei hun i ffwrdd o’r mathau gwaethaf o sgrapiau, ond gall hyd yn oed problemau cyffredin costio cannoedd.
Gall dysplasia’r glun, problem gyffredin gyda chŵn fwy fel German Shepherd, Golden Retriever a Labrador, costio £500.
Costgyfartalog brechiadau cŵn bach a chŵn
Cost y rownd gyntaf o frechiadau bydd tua £100, ond bydd hefyd angen pigiadau atgyfnerthu blynyddol, sydd yn costio tua £50 y tro.
Os ydych am osgoi’r gost gychwynnol, bydd nifer o ganolfannau achub yn rhoi rownd gyntaf y brechiadau i’ch cŵn cyn i chi allu ei gymryd adref.
Costgyfartalog niwtro neu ddisbaddu cŵn
Yn gyfartalog, mae niwtro neu ddisbaddu cŵn yn costio rhwng £60 a £180. Ond, gall cŵn fwy costio mwy.
Costgyfartalog glanhau dannedd cŵn
Mae glanhau dannedd eich cŵn yn aml yn hanfodol i’w iechyd cyffredinol a gall arbed llawer o arian yn yr hir-dymor.
Mae tiwb o bast dannedd cŵn (peidiwch â defnyddio past dannedd i bobl. Mae’n cynnwys fflworid sydd yn wenwynig i gŵn) ond yn costio ychydig o bunnoedd.
Bydd glanhad a digennu llawn yn y milfeddyg yn debygol yn costio rhwng £100 a £200 yn dibynnu ar maint eich cŵn, gan fod angen rhoi anesthetig iddynt.
Mae’r prisiau’n cynyddu’n sylweddol os oes angen gwaith deintyddol sylweddol neu dynnu dannedd eich cŵn. Gallwch fod yn edrych ar £400 i £500 neu hyd yn oed yn fwy.
Costgyfartalog microsglodyn cŵn
Nid oes modd osgoi’r gost hwn. Mae rhoi microsglodyn i’ch cŵn yn ofyniad cyfreithiol ac os nad ydych gallwch dderbyn dirwy o hyd at £500. Yn lwcus, nid yw hwn yn ddrud iawn, gyda chost gyfartalog o rhwng £15 a £20 i ychwanegu eich ffrind blewog i’r gronfa ddata microsglodyn.
Cost gyfartalog triniaeth chwain a llyngyr am eich cŵn
Bydd hwn yn costio tua £10 y mis. Mae triniaethau lladd llyngyr yn fwy drud ar £10 i £15, ond dim ond pob tri mis sydd angen i’w wneud, tra bod triniaethau chwain yn costio tua £5 y mis.
Beth yw costcerddwr cŵn?
Os ydych yn gweithio, efallai byddwch am i rywun ddod i gerdded eich cŵn ar eich cyfer yn ystod y dydd.
Mae nifer fawr o gwmnïoedd ac unigolion yn cynnig y gwasanaeth hwn a gall prisiau cerdded cŵn amrywio yn dibynnu ar ba mor hir maent yn cymryd eich cŵn a faint o ymarfer sydd angen arnynt.
Pris cyfartalog bras yw £10 am awr o gerdded, ond n amlwg byddwch yn edrych ar fwy os ydych am wasanaeth gofal dydd.
Costgyfartalog pasbort cŵn
Bydd pasbort ar gyfer eich cŵn yn costio rhwng £150 a £250, erbyn yr amser rydych wedi talu am y brechiadau ychwanegol sydd angen. Ond mae rhagor o bethau i’w hystyried.
Yn gyntaf, bydd angen eu trin am lyngyr rhuban cyn dod â nhw yn ôl i’r DU ac nid oes modd gwneud hwn yn hwyrach na 24 awr cyn i chi deithio.
Yn ail, os ydych tramor, ni fydd eich yswiriant anifail anwes yn eich yswirio.
Costgyfartalog llety cŵn
A yw’ch cŵn wir am ddod ar wyliau gyda chi? Wel os ydych yn penderfynu ei adael adref, bydd rhaid eich bod wedi paratoi am ffioedd llety cŵn swmpus.
Ar gyfartaledd, rydych yn debygol yn edrych ar tua £17 y diwrnod, ynghyd â phethau ychwanegol am lety cŵn teilwng. Bydd gwarchodwr anifail anwes sy’n aros yn eich cartref yn fwy drud ar tua £25 y diwrnod, ond bydd eich cŵn yn ddiogel yng nghartref ei hun.
Beth yw costdifyrru cŵn?
Pan ddaw’r amser i ffarwelio’ch cath, fel arfer bydd yn costio rhwng £30 a £50 i’w rhoi i gysgu yn y milfeddyg,
Efallai bydd rhai milfeddyg yn wneud ymweliadau cartref, bydd hwn yn costio rhwng £70 a £100.
Costau amlosgicŵn
Mae amrywiad mawr yn faint mae’n costio am amlosgiad ac i raddau helaeth mae’n dod i lawr i os ydych am gael y lludw yn ôl.
Os ydych am gael y lludw yn ôl, bydd angen amlosgiad unigol arnoch, sydd yn costio mwy. Bydd hwn fel arfer yn eich costio rhwng £150 a £300.
Os nad ydych am gael y lludw yn ôl, gall ond eich costio £50.
Mae rhai milfeddyg hefyd yn cynnig gwasanaeth ewthanasia ac amlosgi cyfun, ond ni fydd hwn yn arbed llawer o arian i chi.