Teclyn Rheolwr Arian ar gyfer Credyd Cynhwysol
Gwnewch y mwyaf o’ch taliad Credyd Cynhwysol gyda help wedi ei bersonoli gan ein teclyn Rheolwr Arian
27 Hydref 2021
Os ydych yn meddwl am sut bydd cyllidd eich cartref yn cael eu heffeithio dros y misoedd nesaf, darganfyddwch beth mae’r Llywodraeth wedi ei gyhoeddi yn eu Cyllideb Hydref 2021.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ac yn gweithio, byddwch yn cael cadw 8c yn ychwanegol am bob £1 yr ydych yn ennill ar ôl treth, Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn gael eu cymryd ffwrdd gan fod y gyfradd y mae eich Credyd Cynhwysol yn gostwng yn disgyn o 63c i 55c. Gelwir hyn y gyfradd tapr.
Byddwch yn gallu ennill £500 yn ychwanegol bob blwyddyn cyn fydd y gyfradd tapr yn cael ei weithredu os ydych yn gymwys i gael lwfans gwaith.
Disgwylir i’r newidiadau hyn fod mewn lle ddim hwyrach na 1 Rhagfyr 2021 felly, gallwch ddisgwyl gweld newid yn eich incwm yn eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf ar ôl y dyddiad hwn.
Darganfyddwch fwy am lwfansau gwaith a chyfraddau tapr yn GOV.UK (Opens in a new window)
O 1 Ebrill 2022, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer oedolion 23 oed a throsodd yn cynyddu o £8.91 yr awr i £9.50 yr awr.
Bydd yr Isafwm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer gweithwyr o dan 23 mlwydd oedd hefyd yn cynyddu o 1 Ebrill 2022 ymlaen gan y symiau isod:
Mae’r ffordd mae treth yn cael ei godi ar werthiant alcohol hefyd yn newid felly fod diodydd sydd yn cynnwys mwy o alcohol gyda treth alcohol uwch na diodydd yn cynnwys llai o alcohol.
Bydd y gyfradd ar gwrw, gwin, seidr a gwirodydd yn cael eu rhewi ar gyfer 2022-23.
Bydd cymhelliant i fynd allan unwaith eto i yfed mewn tafarndai a bars gyda 3c oddi ar peint draft.
Treth ar danwydd (fel petrol i geir) yn parhau i fod wedi ei rewi yn 2022-23.
O Ebrill 2023, bydd y gyfradd o Dreth Teithwyr Awyr (APD) a delir gan ddefnyddwyr ar hediadau domestig (hediadau rhwng Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn cael ei dorri 50%.
Ar gyfer hediadau rhygnwladol, bydd cyfradd newydd o Dreth Teithwyr Awyr (APD) yn cael ei gyflwyno ar gyfer hediadau mwy na 5,500 milltir (er enghraifft, i Awstralia).
Mae hyn yn golygu gall gost hediadau domestig ddod yn rhatach, tra bydd cost hediadau rhyngwladol yn fwy drud.