Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Credyd Cynhwysol
Budd-daliadau Credyd Cynhwysol

Sut fydd symud i Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnaf?

Mae rhai budd-daliadau a chredydau treth y gallech fod yn eu derbyn nawr yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol. Mae beth bydd hyn yn ei olygu i chi yn ddibynnol ar sut a phryd byddwch yn symud o fudd-daliadau presennol. Darganfyddwch y gwahanol ffyrdd y gallwch newid i Gredyd Cynhwysol ac effaith bosibl hyn ar eich taliadau.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pa fudd-daliadau sy’n cael eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol?
  • Symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau
  • Os ydych yn cael budd-daliadau etifeddol a nad yw eich amgylchiadau’n newid
  • Credydau Treth a Symud i Gredyd Cynhwysol
  • Sut fyddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol
  • Os yw’r DWP yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol o Gredydau Treth
  • Symud i Gredyd Cynhwysol o Gymhorthdal Incwm
  • Symud i Gredyd Cynhwysol o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ESA
  • Symud i Gredyd Cynhwysol o Fudd-dal Tai
  • Pobl ifanc a Chredyd Cynhwysol
  • Os ydych ar Gredyd Pensiwn
  • Ymdopi yn ariannol nes cewch eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Pa fudd-daliadau sy’n cael eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau hyn:

  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag incwm
  • Budd-dal Tai.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn eu galw’n fudd-daliadau etifeddol.

Ni all y rhan fwyaf o bobl wneud cais newydd am fudd-daliadau etifeddol mwyach.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau etifeddol ar hyn o bryd, mae sut a phryd rydych yn symud i Gredyd Cynhwysol yn dibynnu ar:

  • a oes  rhaid i chi wneud cais newydd oherwydd newid mewn amgylchiadau
  • a oes dim byd yn newid ac mae’r DWP yn gofyn i chi ddechrau gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio, a sut i wneud cais newydd, yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol

Help gyda chostau byw

Poeni am arian oherwydd rhenti cynyddol, biliau ynni uchel neu ddyled? Os felly, rydym yma i helpu.

Cymerwch y camau cyntaf i ddod o hyd i'ch ffordd ymlaen gyda'n canllawiau i'ch helpu gyda chostau byw.

Nol i’r brig

Symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau

Os bydd rhai pethau’n newid yn eich bywyd, efallai y gofynnir i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Er enghraifft, efallai cewch newid yn eich:

  • statws cyflogaeth, fel dechrau swydd newydd, neu gynyddu neu leihau eich oriau
  • amgylchiadau teuluol, fel babi newydd, plentyn yn dechrau’r ysgol, neu bartner yn symud i mewn neu allan
  • cartref, fel symud i ardal awdurdod lleol newydd.

Efallai y bydd eich amgylchiadau hefyd yn newid os byddwch yn dechrau neu’n stopio:

  • bod yn ofalwr
  • cais yn seiliedig ar anabledd.

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, os ydych yn cael credydau treth, bydd y taliadau'n dod i ben ar unwaith.

Fodd bynnag, os ydych yn cael Budd-dal Tai, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm bydd yn cael ei dalu am bythefnos yn ychwanegol wedi i chi wneud eich cais. Mae hyn er mwyn eich helpu i ymdopi tra'n aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Mae’n bwysig deall y gallech gael naill ai mwy neu lai o arian nag yr ydych yn ei gael nawr wrth symud o fudd-daliadau presennol i Gredydau Cynhwysol.

Am y rheswm hwn, mae’n well gwirio ymlaen llaw sut yr effeithir ar eich incwm. Mewn rhai amgylchiadau gallai gohirio’ch cais am Gredyd Cynhwysol wneud synnwyr.

Darganfyddwch fwy am newidiadau a allai olygu i chi gychwyn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar entitledtoYn agor mewn ffenestr newydd

Gwiriwch a fyddech chi’n well neu’n waeth eich byd yn newid i Gredyd Cynhwysol gan ddefnyddio ein cyfrifiannell.

Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, mae’r gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol ac am ddim. Gallant eich helpu i:

  • wirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
  • cael eich gwaith papur a’ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu’ch cais
  • llenwi eich cais ar-lein.

Cymru a Lloegr

Am fwy o fanylion, ac i ddod o hyd i'ch cangen agosaf ewch i Cyngor ar Bopeth

 

Neu yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220 a Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444

 

Yr Alban

Ymwelwch â Citizens Advice Scotland neu ffoniwch 0800 023 2581

 

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio yn wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirect

Nol i’r brig

Os ydych yn cael budd-daliadau etifeddol a nad yw eich amgylchiadau’n newid

Os ydych yn hawlio’r budd-daliadau sy’n cael eu disodli gan y Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gofyn i chi ar ryw bwynt i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Oni bai bod yna newid yn eich amgylchiadau, does dim angen i chi wneud dim nes bydd y DWP yn cysylltu â chi.

Nol i’r brig

Byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban?

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Darganfyddwch fwy ar wefan nidirect

 

Yn yr Alban, efallai y byddwch yn cael cynnig rhai dewisiadau o ran sut y telir eich Credyd Cynhwysol. Darllenwch ein canllaw ar Gredyd Cynhwysol yn yr Alban

Symud o Gredyd Treth Plant i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau

Os oes newid arwyddocaol yn eich amgylchiadau, fe ofynnir i chi symud o Gredyd Treth Plant i Gredyd Cynhwysol.

Efallai y bydd hyn yn digwydd os ydych:

  • yn dechrau gwaith
  • yn cael plentyn
  • yn symud i mewn gyda’ch partner.

Gallech gael mwy neu lai o arian ar Gredyd Cynhwysol nag ydych yn ei gael ar hyn o bryd mewn Credyd Treth Plant a budd-daliadau eraill.

Mae’r ffordd y mae cynilion yn cael eu cyfrif yn wahanol i’r rheolau ar gyfer credydau treth. Os oes gennych fwy na £16,000 o gynilion ac mae’n rhaid i chi symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau, ni fyddwch yn gymwys. Ac os oes gennych gynilion o dros £6,000, gallai'r swm a gewch gael ei effeithio. Mae'n bwysig cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn credu y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.

Os oes gennych un neu ddau o blant, gallwch hawlio ar gyfer plant hyd nes y byddant yn cyrraedd 19 – neu 20 mewn rhai achosion – os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy llawn amser, ond nid yn y brifysgol.

Os ganwyd eich plant i gyd cyn 6 Ebrill 2017, byddwch yn gallu hawlio ar gyfer pob un.

Os ganwyd un neu ragor o’ch plant ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, dim ond ar gyfer y ddau gyntaf byddwch yn gallu hawlio oni bai eich bod wedi cael genedigaeth luosog neu wedi mabwysiadu.

Ni fydd y premiwm plentyn cyntaf bellach yn cael ei dalu dan Gredyd Cynhwysol.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol misol yn cynnwys yr elfennau ac ychwanegiadau canlynol a fydd yn disodli’r cymorth a gewch ar hyn o bryd trwy gredydau treth:

  • Elfen plentyn – yn helpu gyda chostau magu plentyn.
  • Ychwanegiad plentyn anabl – yn helpu gyda chostau ychwanegol magu plentyn anabl. Bydd yn cael ei dalu ar naill ai gyfradd is neu uwch gan ddibynnu ar anghenion eich plentyn.
  • Elfen gofal plant – yn caniatáu i chi hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant cofrestredig misol hyd at derfyn sydd wedi ei gapio ar £1,014.63 i un plentyn a £1,739.37 i ddau neu fwy o blant (ar gyfer 2024/25) tra byddwch yn gweithio.

Os ydych ar Gredyd Cynhwysol, mae rheolau gwahanol am beth sy’n rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am gael eich taliad.

Eich cyfrifoldeb rhiant a derbyn Credyd Cynhwysol
Oedran y plentyn Beth sydd rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am gael taliad Credyd Cynhwysol

O dan 1

Ni ofynnir i weithio yn gyfnewid am eich Credyd Cynhwysol.

Rhwng 1 a 2

Gofynnir i chi fynd i gyfweliadau ag anogwr gwaith i drafod cynlluniau ar gyfer symud i waith yn y dyfodol.

Rhwng 3 a 4

Bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 16 awr yr wythnos (neu i dreulio 16 awr yn chwilio am waith). Efallai bydd hyn yn cynnwys peth hyfforddiant a cyfweliadau yn canolbwyntio ar waith.

Rhwng 5 a 12

Bydd disgwyl i chi chwilio am waith sy’n cyd-fynd â’ch cyfrifoldebau – er enghraifft, yn ystod oriau’r ysgol.

13 oed ac yn hŷn

Fel arfer bydd disgwyl i chi chwilio am waith amser llawn.

Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol a theuluoedd ar GOV.UK
Nol i’r brig

Credydau Treth a Symud i Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn cael credydau treth yn unig, efallai y bydd DWP yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol fel rhan o’u rhaglen Symud i Gredyd Cynhwysol i symud pawb sydd ar fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol.

Os gofynnir i chi symud, ni ddylech fod yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol i ddechrau. Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo yn llai ar Gredyd Cynhywsol nag yw ar eich hen fudd-daliadau, byddwch yn cael ychwanegiad at eich taliad  o dan Warchodaeth Drosiannol i sicrhau nad ydych ar golled.

Bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhywsol hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credydau treth yn ddiweddar.

Cymorth i Gynilo

Os ydych yn gweithio ac yn cael Credyd Cynhwysol, efallai byddwch yn gymwys i gael cyfrif Cymorth i Gynilo sy’n rhoi hyd at 50% o fonws i chi ar eich cynilion gan y llywodraeth.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw esbonio Cymorth i Gynilo

Nol i’r brig

Sut fyddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol

Ni fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig.

Byddwch yn derbyn Hysbysiad Ymfudo yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis o’r dyddiad sydd ar y llythyr. Os byddwch yn symud drosodd i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, ni fydd unrhyw gynilion dros £16,000 yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).

Os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth trwy’r rhaglen Symud i Gredyd Cynhwysol, ni fydd unrhyw gynilion dros £16,000 yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).

Ar ôl hynny, bydd y rheolau cynilion Credyd Cynhwysol arferol yn berthnasol.

Os yw eich amgylchiadau’n newid, efallai y byddgofyn i chi newid i Gredyd Cynhwysol o Gredydau Treth Gwaith. Er enghraifft, os:

  • ydych yn dechrau gweithio llai na 16 awr yr wythnos
  • roeddech ar Gredydau Treth Gwaith ac yn mynd yn sâl
  • mae gennych blentyn
  • rydych yn dechrau rhentu eiddo, yn enwedig os yw mewn ardal awdurdod lleol newydd.

Gall y swm o Gredyd Cynhwysol sy’n cael ei dalu i chi fod yn fwy neu’n llai na’r budd-daliadau rydych yn ei gael nawr.

Mae'r ffordd y mae cynilion yn cael eu cyfrif yn wahanol i'r rheolau ar gyfer credydau treth.

Os oes gennych gynilion o fwy na £16,000 ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Ac os oes gennych gynilion o dros £6,000, gallai'r swm a gewch gael ei effeithio.

Mae'n bwysig cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn credu y bydd hyn yn effeithio arnoch chi.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol hefyd yn addasu o fis i fis os bydd y swm rydych yn ei ennill yn cynyddu neu’n gostwng.

Dylai hyn ei gwneud hi’n haws i chi dderbyn gwaith am gyfnod byr neu gymryd rhagor o oriau.

Os byddwch yn ennill llai yn ystod un mis dylai eich Credyd Cynhwysol godi i gau’r bwlch yn eich enillion.

Hefyd, nid oes cyfyngiad ar y nifer o oriau y mae’n rhaid i chi eu gweithio fel y mae gyda’r Credyd Treth Gwaith.

Os nad yw’ch oriau gwaith yr un peth o fis i fis, gall olygu y bydd angen i chi gyllidebu’n fwy gofalus nawr.

Er mwyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau allu cyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol y dylech ei gael, byddant angen gwybod faint rydych wedi ei ennill yn ystod y mis diwethaf.

Bydd angen i chi neu eich cyflogwr ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau faint rydych wedi ei ennill fel na fyddwch yn cael gormod na rhy ychydig o Gredyd Cynhwysol.

Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo

Nol i’r brig

Os yw’r DWP yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol o Gredydau Treth

Os ydych yn cael credydau treth yn unig, efallai y bydd DWP yn eich gofyn i symud i Gredyd Cynhwysol fel rhan o’u rhaglen 'Symud i Gredyd Cynhwysol' i symud pawb sydd ar fudd-daliadau etifeddol i Gredyd Cynhwysol.

Os gofynnir i chi symud, ni ddylech fod yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol i ddechrau. Os yw’r swm y mae gennych hawl iddo yn llai ar Gredyd Cynhwysol nag yw ar eich hen fudd-daliadau, byddwch yn cael ychwanegiad at eich taliad o dan Warchodaeth Drosiannol i sicrhau nad ydych ar eich colled.

Bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credydau treth yn ddiweddar.

Sut y byddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol

Ni fyddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig.

Byddwch yn derbyn Hysbysiad Ymfudo yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis o’r dyddiad sydd ar y llythyr.

Bydd angen i chi wneud y cais hwn ar-lein (ond mae llawer o gefnogaeth ar gael os ydych yn cael trafferth wrth wneud hyn).

Os oes gennych fwy na £16,000 o gynilion

Mae’r rheolau cynilion yn wahanol ar gyfer Credyd Cynhwysol ac fel arfer ni fyddwch yn gymwys i’w gael os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion neu gyfalaf.

Fodd bynnag, os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau oherwydd rydych wedi derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, ni fydd eich cynilion yn effeithio ar eich cymhwysedd i Gredyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).

Ar ôl hynny, os oes gennych £16,000 neu fwy o gyniliono hyd, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn dod i ben.

Os oes gennych rhwng £6,000 a £16,000 o hyd, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu gostwng gan £4.35 am bob £250 o gynilion sydd gennych.

Sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am symud i Gredyd Cynhwysol, ffoniwch rif y llinell gymorth yn eich Hysbysiad Ymfudo.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban gallwch gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth ar:

Lloegr, 0800 144 8 444

Yr Alban, 0800 023 2581

Cymru, 08000 241 220

Eich statws cyflogaeth a'ch gallu i dderbyn Credyd Cynhwysol
Eich amgylchiadau Beth sydd rhaid i chi ei wneud yn gyfnewid am eich taliad Credyd Cynhwysol

Rydych yn gweithio’n llawn amser

Os nad ydych yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i 35 awr ar yr isafswm cyflog yr awr, bydd disgwyl i chi chwilio am waith â chyflog gwell. Mae hyn yn dibynnu ar eich gallu i weithio ac unrhyw ymrwymiadau gofal sydd gennych.

Rydych yn gweithio’n rhan-amser

Fel arfer bydd disgwyl i chi chwilio am fwy o waith nes eich bod yn ennill o leiaf yr hyn sy’n gyfateb i 35 awr ar yr isafswm cyflog yr awr bob wythnos. Mae hyn yn dibynnu ar eich gallu i weithio ac unrhyw ymrwymiadau gofal sydd gennych.

Rydych yn hunangyflogedig

Mae’n debyg y bydd eich taliadau’n cael eu cyfrif fel petaech yn ennill o leiaf yr hyn sy’n cyfateb i 35 awr ar yr isafswm cyflog bob wythnos. Mae hyn yn dibynnu ar eich gallu i weithio ac unrhyw ymrwymiadau gofal sydd gennych. Gelwir hyn yn llawr isafswm incwm. 

Os ydych wedi bod yn rhedeg eich busnes am 12 mis neu fwy pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo’ch taliad yn seiliedig ar y llawr isafswm incwm.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig

Lawrlwythwch daflen am ‘Credyd Cynhwysol a gwaith’ ar GOV.UK (Opens in a new window)

Lawrlwythwch daflen am ‘Credyd Cynhwysol a hunangyflogaeth ar GOV.UK (Opens in a new window)

Lawrlwythwch daflen am ‘Credyd Cynhwysol a chredydau treth’ ar GOV.UK (Opens in a new window)

Rhoi gwybod am eich enillion os ydych yn gyflogedig

Efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu rhoi gwybod am eich enillion yn awtomatig trwy system Gwybodaeth Amser Real (RTI) y llywodraeth.

Bydd rhaid i chi gael gwybod a oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI.

Os oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI

Gofynnwch am rif cynllun PAYE eich cyflogwr a dyw edwchwrth eich anogwr gwaith. Gallwch wneud hyn drwy eich cyfrif ar-lein neu drwy ffonio linell gymorth Credyd Cynhwysol.

Ffôn: 0800 328 1744

Saesneg: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Darganfyddwch fanylion cyswllt ar GOV.UK (Opens in a new window)

Os oes gennych fwy nag un cyflogwr, bydd angen i chi gael rhif PAYE ar gyfer pob swydd.

Ar ôl i’ch rhif cynllun PAYE gael ei gofnodi ar eich cais, dylai gwybodaeth am eich enillion gael ei hanfon yn awtomatig yn fisol i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac ni fydd yn rhaid i chi anfon manylion.

Os nad oes gan eich cyflogwr fynediad i’r system RTI

Beth yw fy nghyfnod asesu?

Telir Credyd Cynhwysol fel ôl-ddyled. Cyfrifir taliad pob mis trwy edrych ar faint yr ydych wedi ei ennill yn y mis blaenorol. Gelwir hyn yn gyfnod asesu. Dyddiad dechrau eich cyfnod asesu fydd y dyddiad o’r mis pan wnaeth eich cais ddechrau.

Bydd rhaid i chi roi gwybod faint rydych wedi ei ennill yn fisol erbyn diwrnod olaf y cyfnod asesu. Mae rhaid i chi ddweud hyn wrth eich anogwr gwaith drwy eich cyfrif ar-lein neu linell gymorth Credyd Cynhwysol.

Bydd rhaid i chi ddarparu:

  • eich cyfeirnod PAYE
  • eich cyflog trethadwy gros
  • enw eich cyflogwr
  • y dyddiad cawsoch eich talu
  • faint o dreth a dalwyd gennych
  • faint o Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych
  • manylion unrhyw gyfraniadau i gynllun pensiwn – ac a ydynt yn cael eu talu o’ch cyflog gros neu net neu i bensiwn personol.
  • Bydd rhaid i chi roi adroddiad am unrhyw enillion na fydd eich cyflogwr yn gwybod amdanynt.
Darganfyddwch fwy am hawlio Credyd Cynhwysol a chofnodi eich enillion ar entitledtoYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Symud i Gredyd Cynhwysol o Gymhorthdal Incwm

Os byddwch yn symud o Gymhorthdal Incwm i Gredyd Cynhwysol ni fyddwch yn cael eich cyfyngu i weithio uchafswm o 16 awr yr wythnos. Felly efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich oriau gwaith a dal i gael Credyd Cynhwysol.

Os oes gennych blant a’ch bod yn symud i Gredyd Cynhwysol, disgwylir i chi drafod eich cynlluniau at y dyfodol pan fydd eich plentyn ieuengaf wedi cyrraedd un oed. Mae rhaid i chi baratoi i weithio pan fyddant yn dair oed, gyda chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd eich Cymhorthdal Incwm yn cael ei dalu am ddwy wythnos pellach, wedi i chi wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol, cyn iddo ddod i ben. Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu'r arian yma.

Os bydd eich amgylchiadau yn newid

Efallai y gofynnir i chi symud o Gymhorthdal Incwm i Gredyd Cynhwysol os byddwch:

  • yn stopio addysg amser llawn
  • yn dechrau rhentu eiddo newydd, yn sicr os byddwch yn symud i ardal awdurdod lleol newydd
  • yn stopio bod yn ofalwr
  • yn rhiant sengl ac mae’r plentyn ieuengaf yn troi’n bump oed
  • yn dechrau gweithio digon o oriau i fodloni amodau Credyd Treth Gwaith.
Nol i’r brig

Symud i Gredyd Cynhwysol o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ESA

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ar hyn o bryd darllenwch ein canllaw Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
Nol i’r brig

Symud i Gredyd Cynhwysol o Fudd-dal Tai

Oeddech chi’n gwybod?

A ydych yn symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol? Byddwch yn parhau i gael Budd-dal Tai am bythefnos wedi i’ch hawliad Credyd Cynhwysol gychwyn. Mae hyn er mwyn lleihau’r perygl o lithro ar eich taliadau rhent.

Os bydd eich amgylchiadau yn newid

Efallai y bydd rhaid i chi symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol os ydych:

  • dod o hyd i waith neu’n colli eich swydd
  • yn cael eich plentyn cyntaf
  • yn symud cartref, yn sicr os byddwch yn symud i ardal awdurdod lleol newydd.

Gallech gael mwy neu lai o Gredyd Cynhwysol nag yr ydych yn ei gael nawr.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol misol yn cynnwys elfen costau tai a fydd yn disodli’r help rydych yn ei gael ar hyn o bryd trwy Fudd-dal Tai.

Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei dalu am bythefnos arall ar ôl i chi wneud eich cais am Gredyd Cynhwysol cyn iddo ddod i ben. Dylai hyn olygu na fyddwch yn colli taliad rhent wrth i chi aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Taliadau rhent yng Nghymru a Lloegr

Os yw eich rhent yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’ch landlord ar hyn o bryd, bydd hyn yn newid dan Gredyd Cynhwysol.

Bydd yr arian ar gyfer eich rhent yn cael ei dalu i chi fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol misol.

Chi fydd yn gyfrifol am ddefnyddio’r arian hwn i dalu i’ch landlord.

Fodd bynnag, os oes gennych anghenion cymorth sylweddol – er enghraifft, gyda chyllidebu – gallwch chi neu eich landlord ofyn am Drefniant Talu Amgen nes byddwch wedi cael trefn ar bethau.

Mae hyn yn golygu y gall eich rhent:

  • gael ei dalu yn uniongyrchol i’ch landlord
  • gael ei dalu i chi yn wythnosol neu bob pythefnos.

Yng Ngogledd Iwerddon

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon, telir eich costau tai yn awtomatig i’ch landlord. Gallwch ddewis talu’ch landlord eich hunan.

Yn yr Alban

Bydd yn rhaid i chi dalu’ch landlord yn uniongyrchol, ond gallwch ddewis talu’ch costau tai yn uniongyrchol i’ch landlord.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol a thalu rhent
Nol i’r brig

Pobl ifanc a Chredyd Cynhwysol

Os ydych rhwng 18 a 21 oed, i gael eich budd-dal, bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y Cynnig Ieuenctid.

Bydd hyn yn cynnwys cymorth dwys i chi fedru meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael gwaith.

Ar ôl chwe mis, disgwylir i chi:

  • ymgeisio am brentisiaeth neu hyfforddeiaeth
  • cael sgiliau’n seiliedig ar waith, neu
  • fynd ar leoliad gwaith gorfodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro prentisiaethau

Cymorth tai i bobl ifanc

Os ydych chi rhwng 18 a 21 oed ac allan o waith, bydd gennych hawl yn awtomatig i gael cymorth tai os gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol.

Nol i’r brig

Os ydych ar Gredyd Pensiwn

Os ydych yn gwpl a bod naill ai chi neu’ch partner yn cyrraedd oed Credyd Pensiwn, bydd rhaid nawr i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol os bydd gennych newid mewn amgylchiadau. Efallai y bydd hyn yn golygu y byddwch yn cael llai o arian.

Darganfyddwch faint o Gredyd Cynhwysol y gallech gael trwy ddefnyddio’r gyfrifiannell Budd-dal a Chyllido ar Policy in PracticeYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch faint o Gredyd Cynhwysol gallwch ei gael gan ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau
Nol i’r brig

Ymdopi yn ariannol nes cewch eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Bydd yn rhaid i chi aros hyd at bum wythnos o ddyddiad eich cais am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Pan fyddwch wedi gwneud eich cais am Gredyd Cynhwysol a'ch bod yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau hyn:

  • Budd-dal Tai 
  • Cymorth Incwm 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm 
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. 

Byddant yn parhau i gael eu talu am bythefnos ychwanegol cyn iddynt stopio. Ni fydd yn rhaid i chi dalu'r arian hwn yn ôl.

Bydd credydau treth yn dod i ben ar unwaith ar ôl i chi wneud eich cais.

Mae'n bwysig meddwl sut y byddwch yn ymdopi wrth aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, yn enwedig os yw'ch cyllidebu yn seiliedig ar y dyddiadau y daw'ch hen daliadau budd-dal i'ch cyfrif banc.

Os credwch y byddwch yn cael anhawster i gael dau ben llinyn ynghyd, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw. Ond byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi ei ad-dalu cyn pen 12 mis.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau ymlaen llaw Credyd Cynhwysol a chymorth arall
Dewch o hyd i gyngor cyfrinachol am ddim nawr gan ddefnyddio ein Teclyn lleoli cyngor dyled
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Credyd Cynhwysol

Credyd Cynhwysol

  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd ar gyfer cyplau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon
  • Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill
  • Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
  • Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau
  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Credyd Cynhwysol

  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd ar gyfer cyplau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon
  • Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill
  • Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
  • Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau
  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau