Got a pension question? Our help is impartial and free to use. Get in touch online or over the phone on 0800 011 3797
Cau
Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig

    Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau

    Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Hanfodion pensiwn

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn Llywio Ariannol

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Prynu tŷ Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Rhentu cartref i fyw ynddo, rhentu cartref, a goresgyn problemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Rheolwr Arian

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Ymrestru awtomatig Cyflwyniad, sut mae’n gweithio, popeth am gyfraniadau
    Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Hanfodion pensiwn Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Credyd Cynhwysol
Budd-daliadau Credyd Cynhwysol

Egluro Credyd Cynhwysol

Os oes gennych incwm isel – p’un a ydych yn gweithio ai peidio – gall Credyd Cynhwysol roi arian ychwanegol i chi fyw arno. Darganfyddwch sut mae'n gweithio, faint allech chi ei gael a sut i wneud cais.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Ble i gael cyngor personol am Gredyd Cynhwysol
  • Beth yw Credyd Cynhwysol?
  • Pwy all hawlio Credyd Cynhwysol?
  • Faint o Gredyd Cynhwysol y gallaf ei gael?
  • Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo?
  • Faint o oriau gallaf weithio ar Gredyd Cynhwysol?
  • Pa mor hir mae’n ei gymryd i gael Credyd Cynhwysol?
  • Pa mor aml mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu?
  • Sut i dalu eich costau tai ar Gredyd Cynhwysol
  • Mae hawlio Credyd Cynhwysol yn datgloi help, gostyngiadau a thaliadau eraill
  • Sut ydw i'n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol?
  • Siaradwch âchynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am ddim

Ble i gael cyngor personol am Gredyd Cynhwysol

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall sylfeini Credyd Cynhwysol a sut i wneud y gorau o’ch arian.

I siarad â rhywun am eich sefyllfa eich hun, gan gynnwys cymorth i hawlio, rhowch gynnig ar y sefydliadau am ddim hyn:

  • Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth am help gyda chwestiynau a hawliadau Credyd Cynhwysol, hyd nes y byddwch yn derbyn eich taliad cyntaf.
  • Advicelocal am help a chefnogaeth gyda budd-daliadaYn agor mewn ffenestr newyddu, gan gynnwys cyngor cyfrinachol ynghylch a ddylech hawlio Credyd Cynhwysol.
Nol i’r brig

Beth yw Credyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal misol y gallwch ei hawlio os ydych ar incwm isel ac angen cymorth ychwanegol gyda chostau byw a thai. Gall helpu os ydych yn:

  • chwilio am waith
  • methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd, yn gweithio neu'n hunangyflogedig ar incwm isel
  • â chyfrifoldebau gofalu.

Mae Credyd Cynhwysol yn destun prawf modd. Mae hyn yn golygu bod incwm a chynilion eich cartref yn cael eu cyfrif yn eich cais. Os ydych yn ennill gormod neu os oes gennych gynilion o fwy na £16,000 ni fyddwch yn gallu hawlio.

Os oes gennych bartner ac rydych yn byw gyda’ch gilydd, bydd eu hincwm a’u cynilion yn cael eu hystyried a bydd angen i chi wneud cais gyda’ch gilydd. Os ydynt eisoes yn derbyn budd-daliadau, efallai y bydd rhai o’r rheini’n dod i ben.

Bydd ein Cyfrifiannell budd-daliadau yn rhoi amcangyfrif cyflym i chi o'r hyn y gallech ei gael. Mae’n werth gwirio hyd yn oed os nad ydych yn meddwl eich bod yn gymwys, fel nad ydych yn colli allan ar incwm hanfodol rydych yn gymwys i’w gael.

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli chwe budd-dal ‘etifeddol’

Os ydych yn gwneud cais newydd am fudd-daliadau, mae’n debygol y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae hyn oherwydd ei fod yn disodli’r chwe budd-dal ‘etifeddol’ hyn:

  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Plant
  • Cymhorthdal ​​Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau etifeddol a bod eich amgylchiadau’n aros yr un fath, byddwch yn parhau i’w cael hyd nes yr anfonir Hysbysiad Ymfudo atoch. Mae gan hwn derfyn amser o dri mis i hawlio Credyd Cynhwysol erbyn.

Gallwch weld pryd rydych yn debygol o gael eich llythyr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd neu, yng Ngogledd Iwerddon, pryd y gofynnir i chi symud i Gredyd Cynhwysol ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Gweithredwch cyn y dyddiad cau bob amser gan y bydd eich hen fudd-daliadau yn dod i ben a gallech gael eich gadael heb incwm i fyw arno. Mae’n well gwneud cais am Gredyd Cynhwysol mewn da bryd i barhau i gael taliadau.

Os bydd unrhyw un o’ch amgylchiadau’n newid – fel cael plentyn, symud i mewn neu allan gyda phartner neu gael diagnosis o anabledd – bydd angen i chi ddweud wrth y swyddfa sy’n talu eich budd-daliadau. Mae hyn yn aml yn golygu y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle.

I gael gwybodaeth a chymorth lawn, gweler ein canllaw Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill.

Nol i’r brig

Pwy all hawlio Credyd Cynhwysol?

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau am ddim i weld a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol a darganfod faint y gallech ei gael. Bydd hefyd yn dangos i chi a allwch hawlio cymorth a grantiau eraill, fel Budd-dal Plant ac arian tuag at eich biliau gwresogi.

I fod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol, fel arfer mae angen i chi:

  • fod yn 18 oed neu'n hŷn
  • bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • byw yn y DU
  • bod â llai na £16,000 mewn cynilion a buddsoddiadau
  • ennill llai na swm penodol bob mis.

Mae yna eithriadau, fel gallu hawlio o 16 oed os oes gennych anabledd, yn gadael gofal neu'n gyfrifol am blentyn.

Nol i’r brig

Mae Credyd Cynhwysol ar gael i bobl sy'n gadael y carchar

Os ydych ar fin gadael y carchar yng Nghymru a Lloegr, mae yna ychydig o bethau y gallwch eu gwneud cyn eich rhyddhad i sicrhau bod eich cais yn mynd yn esmwyth a bod eich taliad cyntaf mor gyflym â phosibl. Cyn eich rhyddhad byddwch yn cwrdd â staff o'ch tîm ailsefydlu i drafod tai, cyllid, budd-daliadau ac addysg. Yr wythnos cyn eich rhyddhad, bydd yr anogwr gwaith carchar yn eich helpu i baratoi eich cais a bydd yn trefnu eich cyfweliad yn y Ganolfan Gwaith.

Os ydych chi'n byw yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ni fydd gennych fynediad at dîm ailsefydlu. Dylech wneud eich cais cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael eich rhyddhau. Gweler ein canllawiau ar Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn yr Alban a Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yng Ngogledd Iwerddon am fwy o fanylion.

Gall pawb ymweld â Gov.uk am ganllaw manwl a fydd yn mynd â chi drwy hanfodion sut i wneud a rheoli hawliad Credyd Cynhwysol newyddYn agor mewn ffenestr newydd, a sut i ddarganfod a yw taliad ymlaen llaw yn iawn i chi.

Faint o Gredyd Cynhwysol y gallaf ei gael?

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau cyflym a hawdd i ddarganfod faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Mae hyn oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfansau ac elfennau gwahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Nol i’r brig

Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo?

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo ar sail y lwfansau rydych yn gymwys ar eu cyfer a faint sy’n cael ei ddidynnu wedyn oherwydd pethau fel eich incwm arall. Dyma sut mae'n gweithio.

Symiau ychwanegol yn seiliedig ar eich amgylchiadau

Byddwch yn cael lwfans Credyd Cynhwysol safonol (yn seiliedig ar eich oedran ac os ydych yn byw gyda phartner) ac fel arfer un neu fwy o elfennau ychwanegol os ydych yn:

  • byw gyda phlant yr ydych yn gyfrifol amdanynt
  • talu am ofal plant
  • gofalwr di-dâl am o leiaf 35 awr yr wythnos
  • rhentu eich cartref
  • â salwch neu anabledd hirdymor ac yn methu â gweithio.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol? a GOV.UK – Credyd Cynhwysol: Beth fyddwch chi’n ei gaelYn agor mewn ffenestr newydd

Didyniadau o’ch taliad Credyd Cynhwysol

Gallwch ennill arian arall wrth hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y bydd eich taliadau misol yn mynd i lawr po fwyaf a gewch. Mae hyn yn cynnwys incwm o:

  • waith
  • pensiwn
  • rhai budd-daliadau (nid yw budd-daliadau fel Budd-dal Plant a Lwfans Byw i'r Anabl yn cyfrif).

Efallai y bydd didyniadau eraill hefyd, gan gynnwys os:

  • ydych yn defnyddio’ch taliad i ad-dalu unrhyw ddyledion i’r Adran Gwaith a Phensiynau, fel taliadau ymlaen llaw neu ordaliadau credyd treth
  • oes gennych chi gynilion a buddsoddiadau gwerth dros £6,000
  • ydych wedi cael sancsiwn (cosb am beidio â bodloni'r amodau hawlio, fel colli apwyntiadau)

Os nad ydych yn siŵr am ddidyniad gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn ein canllaw Ad-dalu dyledion a gordaliadau budd-dal. 

Gall eich taliad Credyd Cynhwysol newid bob mis

Efallai y byddwch yn cael swm gwahanol o Gredyd Cynhwysol os bydd eich incwm neu’ch amgylchiadau’n newid yn y mis blaenorol.

Gelwir hyn yn eich cyfnod asesu ac mae fel arfer yn dechrau ac yn gorffen ar yr un dyddiadau bob mis. Er enghraifft, 2 Ionawr i 1 Chwefror. Y dyddiad dechrau yw’r dyddiad y gwnaethoch gais gyntaf am Gredyd Cynhwysol.

Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n cael mwy os ydych chi:

  • bellach yn gymwys ar gyfer elfen arall, fel cael babi
  • wedi ennill llai nag arfer, felly mae gan eich taliad Credyd Cynhwysol ddidyniad is.

Gallech gael llai (neu ddim byd) os ydych:

  • wedi derbyn cyfandaliad fel taliad dileu swydd neu etifeddiaeth sy'n mynd â'ch cynilion dros £16,000
  • nad ydych bellach yn gymwys ar gyfer un neu fwy o'ch elfennau ychwanegol, fel plant yn symud allan o'ch cartref
  • wedi ennill mwy nag arfer neu'n derbyn eich cyflog yn yr un cyfnod asesu, fel cael eich talu'n gynnar cyn y Nadolig
  • os oes gennych newid mewn amgylchiadau a bod eich partner yn symud i mewn i'ch cartref, felly mae eich taliad yn seiliedig ar eich incwm.

Mae ein canllaw Help i reoli'ch arian os ydych yn derbyn budd-daliadau yn cynnwys cymorth cyllidebu a ffyrdd o wneud i'ch arian fynd ymhellach. 

Nol i’r brig

Faint o oriau gallaf weithio ar Gredyd Cynhwysol?

Gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch a dal i hawlio Credyd Cynhwysol. Cynlluniwyd eich taliad i ychwanegu at eich enillion os oes gennych incwm isel.

Mae unrhyw swm a enillwch fel arfer yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol 55c am bob £1 a enillwch. Felly, wrth i’ch enillion gynyddu, bydd eich Credyd Cynhwysol yn gostwng yn raddol nes iddo gyrraedd sero.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn aros ar agor am chwe mis rhag ofn i’ch incwm ostwng a’ch bod yn gymwys eto, felly nid oes rhaid i chi ailymgeisio. Gall hyn ei gwneud yn haws derbyn gwaith dros dro neu dymhorol.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael lwfans gwaith

Gall rhai pobl ennill swm penodol cyn i’w Credyd Cynhwysol ddechrau lleihau. Gelwir hyn yn lwfans gwaith. Byddwch yn gymwys i gael lwfans gwaith os ydych chi neu’ch partner:

  • yn gyfrifol am blentyn, neu
  • methu gweithio llawer o oriau  oherwydd salwch neu anabledd.

Mae hyn yn golygu y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol ond yn gostwng 55c am bob £1 y byddwch yn ei ennill dros eich lwfans. Gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol? am fwy o wybodaeth.

Nol i’r brig

Pa mor hir mae’n ei gymryd i gael Credyd Cynhwysol?

Ar ôl i chi wneud cais, gall gymryd hyd at bum wythnos i gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfnod asesu o bedair wythnos i gyfrifo faint y byddwch yn ei gael, a
  • hyd at saith diwrnod i chi gael yr arian.

A allaf gael Credyd Cynhwysol wedi’i dalu’n gynnar?

Gallwch ofyn i gael eich talu’n gynnar (a elwir yn daliad ymlaen llaw) os byddwch yn cael trafferth wrth aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Gall hyn fod hyd at swm llawn eich lwfans Credyd Cynhwysol safonol ac efallai y cewch eich talu yr un diwrnod ag y byddwch yn gwneud cais. Mae’n fenthyciad, felly bydd eich taliadau yn y dyfodol yn is nes iddo gael ei ad-dalu’n llawn.

Meddyliwch yn ofalus cyn gofyn am daliad ymlaen llaw. Os ydych eisoes wedi methu taliad neu’n poeni y gallech, defnyddiwch ein Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gymorth dyled am ddim yn eich ardal chi, ar-lein neu dros y ffôn.

Am fwy o help a gwybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol
  • Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
  • Help os ydych yn cael trafferth gyda dyled
Nol i’r brig

Pa mor aml mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu?

Fel arfer telir Credyd Cynhwysol:

  • unwaith y mis yng Nghymru a Lloegr
  • unwaith y mis yn yr Alban, ond gallwch ofyn am ddwywaith y mis
  • ddwywaith y mis yng Ngogledd Iwerddon, ond gallwch ofyn am unwaith y mis.

Ar ôl i chi dderbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, caiff ei dalu ar yr un dyddiadau. Os yw hyn yn disgyn ar ŵyl banc, fel arfer byddwch yn cael yr arian y diwrnod gwaith cynt.

Os ydych chi (neu’ch partner os ydych yn gwpl) yn cael trafferth am arian, gallwch ofyn am fenthyciad di-log o’r enw Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw – fel arfer ar ôl i chi hawlio Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis yn olynol.

Gweler ein canllawiau am fwy o help:

  • Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau
  • Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw a benthyciadau trefnu
  • Help os ydych yn cael trafferth gyda dyled.
Nol i’r brig

Sut i dalu eich costau tai ar Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn gymwys i gael cymorth gyda’ch costau tai, mae sut y caiff ei dalu i chi yn dibynnu ar ble rydych yn byw:

  • Yng Nghymru a Lloegr mae wedi'i gynnwys yn eich taliad misol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi drefnu i dalu eich rhent neu daliadau gwasanaeth i’ch landlord eich hun. Os byddwch yn ei chael hi’n anodd gwneud hyn, gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith am drefniant talu amgen.
  • Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gallwch ddewis i’r arian gael ei dalu i chi fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol, neu ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon.

Os oes gennych forgais ac rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch gael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais, sy’n helpu i dalu’r llog ar eich morgais.

Nol i’r brig

Mae hawlio Credyd Cynhwysol yn datgloi help, gostyngiadau a thaliadau eraill

 
Yn ogystal â’r incwm ychwanegol o’ch taliad Credyd Cynhwysol, byddwch fel arfer yn dod yn gymwys i gael cymorth arall gan gynnwys:

  • gostyngiad ar eich Treth Gyngor neu'ch Ardrethi
  • help i dalu eich biliau gwresogi, gan gynnwys y Gostyngiad Cartref Cynnes
  • biliau rhatach drwy wneud cais am dariffau cymdeithasol gostyngol, gan gynnwys:
    • nwy a thrydan
    • dŵr
    • band eang a ffôn symudol
  • hawlio 85% o'ch costau gofal plant yn ôl
  • prydau ysgol am ddim
  • cymorth i dalu am wisg ysgol a thrafnidiaeth
  • mynediad i gyfrif cynilo gyda bonws am ddim gwerth hyd at £1,200.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.

Nol i’r brig

Sut ydw i'n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol?

Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Crëwch gyfrif a gwnewch gais am Gredyd Cynhwysol ar-lein ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

 

Gallwch ddechrau eich cais a dychwelyd ato yn ddiweddarach, ond rhaid ei gwblhau o fewn 28 diwrnod neu mae'n cael ei ailosod.

 

Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd neu’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon. Efallai y byddant yn trefnu i rywun eich ffonio'n ôl neu ymweld â'ch cartref.

I gael help gyda'ch cais, siaradwch â chynghorydd Cymorth i Hawlio Cyngor ar Bopeth am ddim

Os ydych yn byw gyda’ch partner, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais

Os ydych yn byw gyda’ch partner fel cwpl, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch sy’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Mae hyn oherwydd bod y swm a gewch yn seiliedig ar incwm a chynilion eich cartref, felly mae angen i'ch partner ddarparu ei fanylion hefyd.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Cynllun Gosod Ystafell – sut mae’n gweithio a’r rheolau treth.

Beth i’w wneud ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, mae pethau y gallwch eu gwneud, gan gynnwys:

  • gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer taliadau neu grantiau eraill
  • creu neu ddiwygio cyllideb.

Gweler ein canllaw Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Ar ôl i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, sicrhewch eich bod yn:

  • newid unrhyw ddyddiadau talu ar gyfer biliau neu rent i'r diwrnod ar ôl i chi gael eich talu
  • gwirio a ydych bellach yn gymwys i gael gostyngiadau neu fargeinion arbennig
  • rhoi gwybod os bydd unrhyw beth yn eich bywyd yn newid
  • ystyried agor cyfrif Cymorth i Gynilo am fonws am ddim gwerth hyd at £1,200
  • cynllunio ymlaen llaw ar gyfer misoedd drud y flwyddyn, fel penblwyddi a'r Nadolig.

Am fwy o fanylion, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau. 

Os oes angen help arnoch i wneud cais, gallwch siarad â chynghorydd Credyd Cynhwysol am ddim i gael cymorth i gwblhau’r ffurflen gais.  

Nol i’r brig

Siaradwch âchynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am ddim

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Share this article
E-bost Facebook Twitter
Share this with
WhatsApp LinkedIn
Copy this link
Anfon e-bost
Copy this link
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Logo Llywodraeth E.M

Darperir HelpwrArian gan:

Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2023 Money and Pensions Service, 120 Holborn, London EC1N 2TD. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021*
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • Cymraeg: 0800 138 0555*
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.

Blaenorol Cau